Agenda and minutes

Pwyllgor Archwilio - Dydd Mawrth, 17eg Tachwedd, 2020 9.30 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  7788

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Cross.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Derbyn datganiadau buddiant a goddefebau.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau o fuddiant dilynol:

 

Cynghorydd B. Summers – Eitem 6 Datganiad Cyfrifon 2016/17, 2017/18 a 2018/19

Cynghorydd J. Hill – Eitem 6 Datganiad Cyfrifon 2016/17, 2017/18 a 2018/19

Eitem 7 Archwiliad Allanol Datganiad Cyfrifon 2016/17 -

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Eitem 8 Archwiliad Allanol Datganiad Cyfrifon 2017/18 –

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Eitem 9 Archwiliad Allanol Datganiad Cyfrifon 2018/19 –

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

 

4.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 472 KB

Derbyn cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.

 

(Dylid nodi y cyflwynir cofnodion er cywirdeb yn unig).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.

 

5.

Dalen Weithredu pdf icon PDF 13 KB

Derbyn y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o gyfarfod y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020, yn cynnwys:-

 

Dadgomisiynu’r Ganolfan Adnoddau Busnes

 

Ymddiheurodd y Rheolwr Gyfarwyddwr wrth Aelodau am yr oedi wrth i’r mater ddod yn ôl i’r Pwyllgor, oedd oherwydd meysydd eraill o waith fel canlyniad i’r pandemig. Fodd bynnag, sicrhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y cyflwynir adroddiad i’r cyfarfod nesaf i amlinellu gwersi a ddysgwyd o adroddiad y Ganolfan Adnoddau Busnes a sut i ymwneud â dadgomisiynu adeiladau yn y dyfodol.

 

O ran y cwestiwn a godwyd yn y cyfarfod blaenorol am y cais cynllunio, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cymeradwywyd cais am newid defnydd ac y cafodd y safle ei werthu i Dragon Recycling a’u bod yn ailwampio’r safle ar hyn o bryd i ddechrau eu gweithgareddau ailgylchu.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i nodi’r Ddalen Weithredu.

 

 

6.

Datganiad Cyfrifon 2016/17, 2017/18 & 2018/19 pdf icon PDF 419 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad a dywedodd fod eitemau 6, 7, 8 a 9 ar yr agenda yn cyfeirio at gyfrifon y Cyngor ar gyfer 2016/17, 2017/18 a 2018/19. Mae eitem 6 yn rhoi adroddiad ar ddatganiad cyfrifon y Cyngor ar gyfer pob un o’r tair blynedd, gydag eitemau 7, 8 a 9 yn adroddiadau Archwilio Cymru, sy’n cynnwys eu barn ar bob set o gyfrifon. Awgrymodd y Prif Swyddog Adnoddau y dylid ystyried eitemau rhif 6, 7, 8 a 9 ar yr agenda gyda’i gilydd.

 

Dywedodd y byddai Aelodau yn cofio i Archwilio Cymru dderbyn gohebiaeth yn ystod mis Medi 2017 yn codi pryderon am berthynas y Cyngor gyda Silent Valley Waste Services. Cynhaliwyd ymchwiliad Archwilio Cymru ac fel canlyniad mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi methu rhoi barn ar gyfrifon y Cyngor am y tair blynedd y cyfeirir atynt. Er bod Archwilio Cymru yn parhau i archwilio nifer o faterion yn ymwneud â pherthynas hanesyddol y Cyngor gyda Silent Valley, y bwriadant adrodd arni maes o law, nid ydynt yn awr yn ystyried fod dim o’r materion parhaus yn berthnasol i farn yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddatganiadau Ariannol y Cyngor. Felly rhoddwyd barn archwilio a chyflwynwyd y Datganiad Cyfrifon am y tair blynedd (2016/17, 2017/18 a 2018/19) i’r Pwyllgor ar gyfer cymeradwyaeth.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi ystyried y cyfraniadau pensiwn a dalwyd ar ran y Prif Swyddog Cyllid a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Amgylchedd ac Adfywio ar gyfer 2016/17 a 2017/18 am eu rolau fel Cyfarwyddwyr Silent Valley Waste Services yn groes i’r gyfraith, ac ystyriai y dylai’r Cyngor fod wedi datgelu natur ac effaith y cyfraniadau pensiwn ychwanegol ond wedi methu gwneud hynny. Rhoddir manylion pellach am y farn hon yn adroddiadau Archwilio Cymru yn eitemau 7 ac 8, ac esboniodd er bod gwerth y trafodiadau a ddynodwyd yn y Cyfrifon yn gymharol fach, gallai’r asesiad o berthnasedd hefyd gael ei effeithio gan faterion ansawdd neilltuol, megis gofynion cyfreithiol a rheoleiddiol yn ogystal â sensitifrwydd gwleidyddol. Roedd hyn yn wir am Nodyn Cydnabyddiaeth Ariannol Uwch Swyddogion yn cael ei ystyried o sylwedd i’w natur yn hytrach na’u gwerth, ac fel canlyniad gweithredwyd lefel sylwedd o £1. Oherwydd y lefel isel yma o sylwedd, mae Archwilio Cymru yn disgwyl i’r lefel yma o ddatgeliad fod yn gywir gan ei fod yn cyhoeddi cydnabyddiaeth ariannol unigolion ac yn gwneud yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd. Fel canlyniad i hyn, mae’n fwriad gan yr Archwilydd Cyffredinol i gyhoeddi barn wedi ei haddasu neu gydag amodau ar ddatganiadau ariannol ar gyfer 2016/17 a 2018, ac barn 2018/19 yn ddiamod.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y Cyngor wedi gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol ar y mater hwn, ac er y derbyniwyd bod camgymeriadau gweithdrefnol yn y ffordd y cafodd cyfraniadau pensiwn cyflogwr eu gweinyddu, ystyrid nad oedd ganddynt yr effaith o wneud y taliadau yn rhai croes i’r gyfraith.

 

Yn ychwanegol at y mater uchod, mae adroddiadau Archwilio Cymru  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Archwiliad Allanol Datganiad Cyfrifon 2016/17 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 446 KB

Ystyried adroddiad Archwilio Cymru

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Hill fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

8.

Archwiliad Allanol Datganiad Cyfrifon 2017/18 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 446 KB

Ystyried adroddiad Archwilio Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Hill fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

9.

Archwiliad Allanol Datganiad Cyfrifon 2018/19 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 446 KB

Ystyried adroddiad Archwilio Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. Hill fuddiant yn yr eitem hon.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Archwilio Cymru.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

10.

Datganiad Llywodraethiant Blynyddol pdf icon PDF 496 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Archwilio a Risg y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol ar gyfer 2019/20 sy’n rhoi asesiad o effeithlonrwydd trefniadau llywodraethiant yr Awdurdod.

 

Siaradodd y Swyddog am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo a mabwysiadu’r Datganiad Llywodraethiant Blynyddol (Opsiwn 1).

 

11.

Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019/2020 pdf icon PDF 417 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Cyflwynodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol yr adroddiad sy’n hysbysu Aelodau am berfformiad y Cyngor yng nghyswllt cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nododd y Pwyllgor Archwilio fod y broses yn gadarn ar gyfer monitro cwynion a bod yr wybodaeth perfformiad yn adlewyrchu’r arferion hynny (Opsiwn 1).

 

12.

Diweddariad Cynllun Gweithredu Swyddfa Archwilio Cymru pdf icon PDF 445 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yr adroddiad sy’n diweddaru Aelodau ar ffurfio’r gr?p Arweinwyr Diogelu Corfforaethol a’r datblygiadau yng nghyswllt argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru yn dilyn eu hadolygiad o’r trefniadau corfforaethol ar gyfer diogelu plant.

 

Casgliad adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru oedd mai cynnydd cyfyngedig a wnaeth y Cyngor wrth fynd i’r afael ag argymhellion a chynigion blaenorol ar gyfer gwella, ac nad oedd y trefniadau diogelu yn ddigon cyson i roi sicrwydd ar draws pob maes.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol, fel canlyniad uniongyrchol i bandemig COVID 19, fod y Cynllun Gweithredu mewn ymateb i argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru i ganiatáu ar gyfer yr amserlenni i’r camau gweithredu gael eu hymestyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r amserlen ar gyfer Cynllun Gweithredu diwygiedig Swyddfa Archwilio Cymru (Opsiwn 1).

 

13.

Tystysgrif Cydymffurfiaeth Archwilio Cymru ar gyfer Archwilio Asesiad Perfformiad 2019-10 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 475 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Dystysgrif Cydymffurfiaeth Archwilio Cymru yn dilyn yr archwiliad Asesiad Perfformiad 2019-10 y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Archwilio yn nodi’r dystysgrif cydymffurfiaeth dyddiedig Hydref 2020.