Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Chaplin, H. Cunningham, R. Leadbeater, J. Morgan, Y.H., H. Trollope, J. Wilkins, D. Woods, Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Addysg, Mara Moruz – Maer Ieuenctid sy’n Gadael y Swydd ac Ellie Colwell, Dirprwy Faer Ieuenctid.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant canlynol:-
Eitem Rhif 27 : Datganiad Polisi Tâl 2024/2025 - Damien McCann – Prif Weithredwr Interim - Ellie Fry – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol - Tanya Evans – Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol - Bernadette Elias – Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid - Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau - Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Corfforaethol a Chyfreithiol/Swyddog Monitro - Sarah King – Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau - Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol - Andrew Parker – Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau - Kate James – Arweinydd Proffesiynol Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg - Leigh Vella – Arweinydd Tîm - Perfformiad - Louise Bishop – Swyddog y Wasg a Chyhoeddusrwydd - Lissa Friel - Swyddog Polisi – Ymgysylltu a Chydraddoldeb - Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd
Cynghorodd y Swyddog Monitro y gallai swyddogion aros yn y cyfarfod tra ystyriwyd yr eitem hon o fusnes.
Eitem Rhif 30: Swyddog Canlyniadau a Swyddog Cofrestru Etholiadol
- Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro
Cynghorydd Aelodau y gallai’r swyddog a enwir uchod aros yn y cyfarfod tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei hystyried.
|
|
Mara Moruz – Maer Ieuenctid ar Adael y Swydd Derbyn trosolwg gan Mara Moruz, ar adael y swydd Maer Ieuenctid ar ei taith ddemocrataidd.
Cofnodion: Yn absenoldeb Mara, rhoddodd y Swyddog Polisi – Ymgysylltu a Chydraddoldeb drosolwg byr o daith ddemocrataidd y Maer Ifanc sy’n gadael y swydd a dangoswyd ffilm fer ar brif flaenoriaeth Mara yn ystod ei chyfnod yn y swyddfa, sef newid hinsawdd.
Cafodd Mara ei chanmol gan Aelodau ar ei thaith wirioneddol ysbrydoledig a mynegwyd eu dymuniadau gorau iddi ar gyfer y dyfodol.
Croesawyd Chloe Simmonds, y Maer Ieuenctid newydd ac Ellie Colwell, y Dirprwy Faer hefyd a chawsant eu llongyfarch ar eu hetholiad lwyddiannus a mynegwyd y dymuniadau gorau i’r ddwy yn eu blwyddyn yn y swydd.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Mynegwyd llongyfarchiadau i:
Ø Iris Fry o Cwm (sy’n awr yn byw yng Nglynebwy) oedd wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar 8 Chwefror.
Anfonwyd llythyr llongyfarch ar ran y Cyngor.
Ø Clwb Pêl-droed Bluebirds Abertyleri – cafodd y clwb ei restru fel 40fed yn y 50 uchaf o feysydd pêl-droed ym Mhrydain ar wefan SPORTbible.
|
|
LLYFR PENDERFYNIADAU - GORFFENNAF 2023 – MAWRTH 2024 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Gorffennaf 2023 – Mawrth 2024 i’w ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo a chadarnhau’r penderfyniadau fel cofnod gywir o drafodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 132 KB Ystyried ac, os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 136 KB Ystyried ac, os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 105 KB Ystyried ac, os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 59 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 54 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 63 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 66 KB Cadarnhau penderfyniadau y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 74 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrastaidd a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 87 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 65 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 73 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2014 (10.00 am).
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 79 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2024 (12.15pm).
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 79 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Partneriaethau PDF 72 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 60 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod arbennig y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys – Diweddariad Medi 2023 a Chwarter 3 PDF 137 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwywyd Opsiwn 1, sef nodi’r gweithgaredd rheoli trysorlys yn ystod naw mis cyntaf 2023/24 ac nad oedd unrhyw ddiwygiadau i gael eu gwneud i’ strategaethau’r Trysorlys a dangosyddion perfformiad a gytunwyd yn flaenorol.
Gadawodd y Cynghorydd P. Baldwin y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo’r Datganiad Blynyddol ar Strategaeth y Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol a’r Datganiad Polisi MRP ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/2025 ynghyd â Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir yn Atodiad A.
|
|
Strategaeth Cyfalaf 2024/2025 PDF 126 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau ar gyfer ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwywyd Opsiwn 1, sef cytuno ar y Strategaeth Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25.
|
|
Datganiad Polisi Tâl 2024/25 PDF 127 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y swyddogion canlynol fuddiant yn yr eitem hon ond ar gyngor y Swyddog Monitro fe wnaethant aros yn y cyfarfod tra’i fod yn cael ei ystyried: - Damien McCann – Prif Weithredwr Interim - Ellie Fry – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol - Tanya Evans – Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol - Bernadette Elias – Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid - Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau - Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro - Sarah King – Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau - Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol - Andrew Parker – Rheolwr Gwasanaeth – Polisi a Phartneriaethau - Kate James – Arweinydd Proffesiynol Ymgysylltu, Cydraddoldeb a’r Gymraeg - Leigh Vella – Arweinydd Tîm - Perfformiad - Louise Bishop – Swyddog y Wasg a Chyhoeddusrwydd - Lissa Friel - Swyddog Polisi – Ymgysylltu a Chydraddoldeb - Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd
Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2024/2025.
|
|
Polisi Ystyriol i Faethu PDF 159 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef mabwysiadu’r Polisi Ystyriol i Faethu.
|
|
Adolygiad o Weithio Ystwyth, Polisïau Gweithio Ystwyth a Gweithio Hyblyg PDF 162 KB Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ganlynol fel mater o frys, cadarnhaodd yr Aelod Llywyddol y gall y mater canlynol gael ei ystyried dan Ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Rheswm am y Brys
Ceisio cymeradwyaeth i’r Polisïau Gweithio Ystwyth a Gweithio Hyblyg fel y gellir gweithredu’r ddau bolisi yn gorfforaethol.
Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd y Swyddog Llywyddol y gellid ystyried ymateb dilynol dan Ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y diwygiad dilynol i’r Polisi Gweithio Hyblyg.
Gan gydnabod mai oriau gweithredu gwasanaeth craidd y Cyngor oedd 9.00am i 5.00pm, peidio cymeradwyo’r cynnig i gynyddu cyfnod gweithio hyblyg i 6.00am – 7.00pm a chadw’r cyfnod presennol o 7.00am – 7.00pm. PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol, yn amodol ar y diwygiad uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi canlyniad yr adolygiad gweithio hyblyg, argymhellion, cynnydd/gwelliant a chymeradwyo’r polisïau a adolygwyd ar gyfer Gweithio Ystwyth a Gweithio Hyblyg.
|
|
Swyddog Canlyniadau a Swyddog Cofrestru Etholiadol PDF 137 KB Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
Cofnodion: Datganodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro fuddiant yn yr eitem hon ond aros yn y cyfarfod tra’i fod yn cael ei ystyried.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Weithredwr Interim.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cadarnhau penodi’r Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol i weithredu fel y Swyddog Canlyniadau a Swyddog Cofrestru Etholiadol ar gyfer Blaenau Gwent, nes cafodd y dynodiad ei adolygu.
Gadawodd y Cynghorydd S. Behr y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Moeseg a Safonau PDF 131 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Pwyllgor Moeseg a Safonau wedi gofyn am roi ystyriaeth i’r argymhellion dilynol
- Gwneud datganiad ar ddechrau pob cyfarfod o’r Cyngor yn mynegi ymrwymiad i Egwyddorion Ymddygiad Da Marmot. - Bod Aelodau yn cymryd rhan yn y broses Adolygu Datblygiad Personol (mae cymryd rhan yn y cynllun yn wirfoddol ar hyn o bryd). - Bod Aelodau yn cwblhau Adroddiadau Blynyddol (mae cwblhau’r adroddiadau hyn yn wirfoddol).
Er mwyn medru rhoi ystyriaeth i’r ceisiadau hyn, cynigiodd yr Arweinydd bod adroddiad yn cael ei baratoi i’w ystyried gan Aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi manylion yr opsiynau ar gyfer hyrwyddo/gweithredu pob un o’r argymhellion.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cadarnhawyd y cafodd y ddyletswydd statudol a osodwyd gan y Ddeddf ei chyflawni.
|
|
Adolygu Cynllun Corfforaethol 2022/27 y Cyngor PDF 156 KB Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Interim a Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr Interim a’r Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y diwygiadau a wnaed i’r Cynllun Corfforaethol.
Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad gan y cyd gan y Prif Weithredwr Interim a’r Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y diwygiadau a wnaed i’r Cynllun Corfforaethol.
|
|
Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28 PDF 156 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024 i 2028 yn unol gyda disgwyliadau dyletswyddau penodol Deddf Cydraddoldeb 2010.
|
|
Polisi Cyfarfod Aml-leoliad ac Opsiynau ar gyfer Siambr y Cyngor wrth Symud Ymlaen PDF 241 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Opsiynau canlynol, sef:
- Opsiwn 1a – cymeradwyo’r Polisi Cyfarfod Aml-leoliad a’i ddefnyddio i gefnogi pob cyfarfod democrataidd a sesiynau aelodau yn y dyfodol.
- Opsiwn 2a – Opsiynau’r Dyfodol ar gyfer Siambr Cyngor – sefydlu Gweithgor Aelodau i edrych ar ofynion, costau ac opsiynau eraill posibl ar gyfer darparu Siambr y Cyngor ac adrodd y canfyddiadau yn ôl i’r Cyngor i gael eu hystyried.
Nodwyd y caiff cyfansoddiad y Gweithgor ei gytuno maes o law.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd PDF 155 KB Ystyried adroddiad Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd.
Cofnodion: Ystyriodd y Cyngor adroddiad y Pennaeth Statudol Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn fodlon fod lefel ddigonol o gefnogaeth ar gyfer Aelodau etholedig.
|
|
Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol yr Aelod Llywyddol: Ebrill 2023 – Mawrth 2024 PDF 76 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol yr Aelod Llywyddol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r gweithgareddau a’r digwyddiadau a fynychwyd gan yr Aelod Llywyddol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2023 – Mawrth 2024.
|
|
Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Panel Ymgynghori Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol
Gwnaeth y Panel yr argymhellion dilynol ar 14 Mawrth 2024 i benodi mewn egwyddor:
Ysgol Gynradd Cwm – Cynghorydd Derrick Bevan Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm – Natasha Tepielow Canolfan yr Afon – Cynghorydd Jennifer Morgan Cymuned Ddysgu 3-16 Abertyleri – Darryl Tovey
Wedyn,
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r apwyntiadau uchod.
PWYLLGOR CYNLLUNIO
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Jonathan Millard yn cynrychioli Ward De Glynebwy i’r Pwyllgor uchod.
GWEITHGOR GRANTIAU
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Jonathan Millard yn cynrychioli Ward De Glynebwy i’r Pwyllgor uchod.
GR?P PROSIECT GRANTIAU
Nodwyd fod y Gr?p Prosiect a enwir uchod wedi dod i ben. |