Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: ApoloCafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Morgan, Y.H.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatrganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Cynghorydd L. Winnett – Eitem Rhif 24 Dyfodol Silent Valley Waste Services Cyf yn dilyn trosglwyddo gwasanaethau (a chyflogeion) yn ôl i’r Cyngor.
Cynghorydd T. Smith - Eitem Rhif 24 Dyfodol Silent Valley Waste Services Cyf yn dilyn trosglwyddo gwasanaethau (a chyflogeion) yn ôl i’r Cyngor.
Cynghorydd H. Cunningham – Eitem Rhif 25 Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu Baban Newyddanedig, Rhieni a Mabwysiadu Aelodau Etholedig (Polisi Absenoldeb Teuluol).
|
|
Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol Derbyn y cyhoeddiadau.
Cofnodion: Llongyfarchiadau
Estynnwyd llongyfarchiadau i Charlie Caswell o Tredegar a enillodd ei gap 16 oed Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru.
Cydymdeimlad
Adroddwyd gyda thristwch y bu farw Brian Thomas, a fu’n Gynghorydd am gyfnod maith ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mynegodd aelodau eu cydymdeimlad a dangos eu parch gyda munud o dawelwch.
|
|
Llyfr Penderfyniadau – Hydref-Rhagfyr 2023 Cafodd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Hydref-Rhagfyr 2023 ar gyfer ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penderfyniadau a chadarnhawyd eu bod yn gofnod gywir o drafodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 108 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 88 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 69 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Cyfarfod Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2024.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 60 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 84 KB Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Partneriaethau PDF 83 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 57 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Cynnig y Cyngor – Trais yn y Gwaith PDF 64 KB Ystyried y Cynnig a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r cynnig a gyflwynwyd ar drais yn y gwaith.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gefnogi’r Cynnig a chytunodd y Cyngor i: · Ailgadarnhau ei ymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol ac ymgynghori a chydweithio gydag undebau llafur · Mabwysiadu Siarter Trais yn y Gwaith Unsain · Annog pob ysgol i fabwysiadu’r Siarter · Annog Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i fabwysiadu’r Siarter.
|
|
Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Panel Ymgynghori Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol
Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 17 Ionawr 2024 i benodi mewn egwyddor:
Cymuned Ddysgu Abertyleri – Michael Lyn Davies Cymuned Ddysgu 3-16 Canolfan yr Afon – Julie Sambrook
I gadarnhau’r penodiad dilynol a wnaed gan gyfarfod y panel ar 15 Tachwedd 2023:
Ysgol Gynradd Glyncoed – Ms. Vikki Curtis
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.
Pwyllgor Craffu Pobl – Cynrychiolydd Cyfetholedig y Fforwm Ieuenctid
PENDERFYNWYD cadarnhau penodiad Miss Chloe Lines fel Cynrychiolydd Cyfetholedig y Fforwm Ieuenctid ar y Pwyllgor Craffu Pobl (dechreuodd y penodiad ar 21 Medi 2023).
|
|
Adroddiad Diweddaru Chwarterol Rheoli Trysorlys – Mehefin 2023 PDF 130 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn derbyn y gweithgaredd rheoli trysorlys yn ystod 3 mis cyntaf 2023/24 heb wneud unrhyw ddiwygiadau i’r strategaethau Trysorlys a dangosyddion perfformiad a gytunwyd yn flaenorol.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2022/2023 y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 136 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant a gyflwynwyd ar ran y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant a gyflwynwyd ar ran y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad a roddwyd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fel sicrwydd fod trosolwg a monitro priodol yn digwydd a derbyn unrhyw ddiffygion fod mesurau rheoli yn eu lle i wneud y gwelliannau angenrheidiol.
|
|
Polisi Recriwtio a Dethol PDF 149 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Polisi Recriwtio a Dethol ar gyfer ei weithredu.
|
|
Cronfa’r Aelod Llywyddol – Cynigion ar gyfer Defnydd PDF 149 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Llywyddol i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a dyrannu cyfanswm o £6,594.23 o’r Gronfa fel sy’n dilyn:
£1,200 ar gyfer Prosiect Murlun Celf ar y Blaen/Gorsaf Bwmpio Llanhiledd
£540.84 i Eglwys San Siôr Tredegar / cefnogi ymweliad i Uganda i helpu addysg plant
£1,200.00 i Ysgol Gynradd Deighton / Prosiect Rhandir
£75.00 Prosiect Mannau Lleol ar gyfer Natur (Cwmcelyn) / i ategu gwaith Bioamrywiaeth sy’n mynd rhagddo
£283.39 Sefydliad newydd Cwm / Cynnal a Chadw yr Adeilad
£500.00 Gr?p Cofeb Glowyr Tredegar / cyfraniad ar gyfer y Clwydi Coffa
£2,160.00 Cwmni Budd Cymunedol Nantyglo* / sefydlu gardd/gofod tyfu o amgylch Heol Attlee
£75.00 Cangen Abertyleri Catrawd Frenhinol Cymru – digwyddiad Coffa Dydd G?yl Dewi
£75.00 Clwb Bowls Llanhiledd – cynllun ehangu cyfranogiad
£100.00 Capel Glowyr Seion – prosiect Gardd Blodau Gwyllt
£75.00 Canolfan Gymunedol Aberbîg – prosiect Happi Cafe
£75.00 Canolfan Gymunedol Swffryd – cymorth costau byw
£75.00 Canolfan Gymunedol Brynithel – cymorth costau byw
£160.00 Rhandiroedd Rhiw Briery / cynnal a chadw cyffredinol
*Nid yw’r Cwmni Budd Cymunedol wedi ei sefydlu’n ffurfiol ar hyn o bryd, caiff y cyfraniad ei wneud yn dilyn ymgorfforiad ffurfiol.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr L. Winnett a T. Smith fuddiant yn yr eitem hon.
Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 1, sef diddymu Silent Valley Waste Services Cyf. Byddai hyn yn arwain at i’r cwmni gael ei dynnu o’r Gofrestr Cwmnïau.
|
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd H. Cunningham fuddiant yn yr eitem hon.
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democratiaeth i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo a chyhoeddi’r Polisi Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu Babanod Newyddanedig, Rhieni a Mabwysiadu ar gyfer Aelodau (Polisi Absenoldeb Teulu a nodir yn Atodiad 1.
|
|
Cais i Brydlesu Clwb a Safle ym Mharc Eugene Cross, Glynebwy PDF 144 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Stadau ac Asedau Strategol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Tîm Stadau a Rheoli Asedau i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor fel ymddiriedolwyr elusennol yn penderfynu eu bod yn fodlon, ar ôl ystyried adroddiad y syrfëwr y mae copi ohono yn Atodiad 1, fod telerau’r gwarediad y gorau y gellir eu cael yn rhesymol ar gyfer yr elusen ac yn cytuno ar egwyddor y brydles arfaethedig ar gyfer yr ardal o dir ac adeiladau a ddangosir gydag ymyl goch ar y cynllun ynghlwm yn Atodiad 1 am dymor o 35 mlynedd yn amodol ar:
i. ECPSL yn talu premiwm unwaith yn unig o £1.00.
ii. Cael caniatâd y Comisiwn Elusennol i’r brydles, sy’n rhaid ei gael cyn i’r les gael ei chwblhau’n gyfreithlon.
|
|
Eitemau Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniadau ar gyfer yr eithriad ar gael ar restr a gaiff ei chadw gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus a bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael mewn rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Llys Einion, Abertyleri Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.
Cynigiodd Aelod Opsiwn 3 amgen, fel y’i manylir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024.
Eiliwyd y cynnig.
Opsiwn 3- Hysbysu’r Landlord am fwriad y Cyngor i ddod â’r brydles i ben ar ddiwedd y brydles ar 16 Rhagfyr 2025.
Mewn pleidlais a gymerwyd,
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth am faterion ariannol/busnes heblaw’r Awdurdod a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef dechrau gadael Llys Einion o 1 Ebrill 2024 ac iddo gael ei adael yn wag nes daw’r brydles i ben ar 16 Rhagfyr 2025; a hysbysu’r Landlord am fwriad y Cyngor i ddod â’r brydles i ben ar ddiwedd y brydles erbyn 16 Rhagfyr 2025.
|
|
Llunio Rhestr Fer – JNC CE Prif Weithredwr Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd|).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad oedd yn ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.
|