Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd S. Edmunds a Chyfarwyddwr Corfforaethol Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.
Cofnodion: Ni roddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Mynegwyd llongyfarchiadau i:
Ø Alfie Skinner oedd wedi cynrychioli Tîm Golff Iau Prydain yn San Diego, California ac a ddaeth yn 18fed ac yn 10fed mewn dau ddigwyddiad.
PENDERFYNWYD anfon llythyr addas.
|
|
Llyfr Cofnodion – Tachwedd 2021-Ebrill 2022 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Tachwedd 202 – Ebrill 2022 i’w ystyried, ar hynny:
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor – Rhan 2 – 10 Mehefin 2022 Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Er cywirdeb, dywedwyd fod y Cynghorydd Julie Holt wedi gwrthod swydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel y gwnaeth holl Aelodau eraill y Gr?p Annibynnol ar y pryd hwnnw.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol i’r uchod, i gymeradwyo’r cofnodion a’u cadarnhau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor – Rhan 1 PDF 323 KB Cadarnhau, ac os gwelir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor – Rhan 2 PDF 459 KB Cadarnhau, ac os gwelir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2022.
Cofnodion:
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor – Rhan 2 – 10 Mehefin 2022 Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
Er cywirdeb, dywedwyd fod y Cynghorydd Julie Holt wedi gwrthod swydd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel y gwnaeth holl Aelodau eraill y Gr?p Annibynnol ar y pryd hwnnw.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol i’r uchod, i gymeradwyo’r cofnodion a’u cadarnhau fel cofnod gywir o’r trafodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 699 KB Cadarnhau, ac os gwelir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 330 KB Cadarnhau, ac os gwelir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) PDF 266 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) PDF 220 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 184 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gweithrediaeth PDF 312 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithrediaeth PDF 264 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 209 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 248 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 306 KB Cadarnhau cofnodion y Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 263 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbening o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus PDF 207 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 225 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 234 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 224 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 287 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2022. Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) PDF 244 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 241 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 414 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Cynnig – Costau Byw PDF 250 KB Ystyried y cynnig a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r Cynnig a gyflwynwyd yn ymwneud â chostau byw.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gefnogi’r Cynnig a:
Ø Cefnogi’r hawliad cyflog a gyflwynwyd gan UNSAIN, GMB ac Unite ar ran gweithwyr cyngor ac ysgol, ar gyfer cynnydd o £2,000 neu RPI (p’un bynnag sydd uchaf)
Ø Galw ar Gymdeithas Llywodraeth Leol i roi tystiolaeth ar frys i Lywodraeth San Steffan i gyllido hawliad cyflog yr NJC
Ø Ysgrifennu at y Canghellor a’r Ysgrifennydd Gwladol yn galw am gynnydd cyflog ar gyfer gweithwyr llywodraeth i’w ariannu gydag arian newydd gan Lywodraeth San Steffan
Ø Cynnull cyfarfod gyda chynrychiolwyr lleol undeb NJC i gyfleu cefnogaeth i’r hawliad cyflog ac ystyried ffyrdd ymarferol y gallai’r cyngor gefnogi’r ymgyrch.
Ø Annog holl weithwyr llywodraeth leol i ymuno ag undeb.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2021/22 Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd PDF 709 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn fodlon fod lefel ddigonol o gefnogaeth ar gyfer Aelodau Etholedig.
|
|
Adroddiad Craffu Blynyddol 2021/22 PDF 408 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r ‘gweithgaredd craffu’ a wnaeth pob Pwyllgor Craffu yn ystod 2021/22 a chyhoeddi’r adroddiad ar wefan Blaenau Gwent.
|
|
Trefniadau Cymorth ar gyfer Aelodau ar Gyrff Allanol PDF 581 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i ohirio’r adroddiad a’i ail-ystyried yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Medi.
|
|
Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2022/23 PDF 674 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i’w ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno a chyhoeddi Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2022/23.
|
|
Datganiad o Daliadau a Wnaed i Aelodau Etholedig PDF 680 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i’w ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1 h.y. cyhoeddi’r Datganiad o Daliadau a Wnaed i Aelodau yn ystod 2021/22 er mwyn cydymffurfio gyda deddfwriaeth berthnasol.
|
|
Cyfres y Cyngor o Bolisïau a Gweithdrefnau Disgyblaeth a Gallu PDF 513 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r gyfres o Bolisïau Gweithdrefnau Disgyblaeth a Galluedd ar gyfer eu gweithredu. Byddai hyn yn sicrhau bod y polisïau yn adlewyrchu arfer gorau, gofynion statudol ac yn cryfhau arfer cyfredol.
|
|
Polisi Gwirfoddoli a Gefnogir gan y Cyflogwr PDF 400 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Gofynnodd Aelod am i’r ddogfen gael ei diwygio i adlewyrchu mai dim ond i wirfoddoli o fewn cymuned Blaenau Gwent y byddai’r polisi yn weithredol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cefnogi’r Polisi Gwirfoddoli ar gyfer ei weithredu.
|
|
Asesiad Anghenion Poblogaeth Rhanbarthol PDF 423 KB Ystyried adroddiad ar y cyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd yr adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarhtol ar gyfer ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Asesiad Anghenion Poblogaeth.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem ddilynol fel mater o frys, cadarnhaodd yr Aelod Llywyddol y gellid ystyried y mater dilynol dan ddarpariaethau Paragraff 4(b) Adran 100 (b) Deddf Llywodraeth Leolk 1972.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Archwilio.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef datblygu ymateb argyfwng ar unwaith i’r argyfwng staffio cyfredol mewn gofal cymdeithasol a chynyddu’r gyfradd awr a gomisiynwyd ar hyn o bryd ar gyfer darparwyr gan £1 yr awr.
Byddai hyn am gyfnod cyfyngedig o 6 mis hyd fis Rhagfyr 2022.
|
|
Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 610 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i: CYNGOR IECHYD CYMUNED ANEURIN BEVAN
- Penodi un cynrychiolydd ar yr uchod.
PENDERFYNWYD penodi’r cynghorydd E. Jones i Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan.
CYDBWYLLGOR ARCHIF GWENT
- Penodi un cynrychiolydd ar yr uchod.
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd H. Trollope i Gydbwyllgor Archif Gwent..
PANEL YMGYNGHOROL LLYWODRAETHWYR YR AWDURDOD LLEOL Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y panel ar 30 Mehefin 2022 i benodi mewn egwyddor::
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr – Jon Mower Ysgol Gynradd Trehelyg – Jordan Colcombe Ysgol Gynradd Sant Illtud – Sarah Long Ysgol Gynradd Deighton – Cynghorydd Ellen Jones Canolfan yr Afon – Jacqueline Gwynne
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.
Aelodaeth – Panel Ymgynghori Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol
Yn dilyn y cylch gorchwyl diwygiedig a gytunwyd yng nghyfarfod y Panel ar 30 Mehefin, adolygwyd aelodaeth y Pwyllgor Ymgynghori Penodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol fel sy’n dilyn:
· 3 Aelod o’r Gr?p Lleiafrifol (yn cynnwys yr Aelod Gweithrediaeth ar gyfer Pobl ac Addysg fydd yn cadeirio’r Panel); a · 3 Aelod o’r Gr?p Lleiafrifol. Felly PENDERFYNWYD penodi’r Aelodau dilynol i’r Panel: 1. Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg CynghoryddS. Edmunds (Cadeirydd) 2. Cynghorydd D. Bevan 3. Cynghorydd D. Davies 4. Cynghorydd G. A. Davies 5. Cynghorydd J. Hill 6. Cynghorydd T. Smith
Gweithgor Trawsbleidiol Argyfwng Costau Byw
- Sefydlu a phenodi Aelodau i’r Gweithgor uchod.
PENDERFYNWYD penodi’r Aelodau dilynol i’r Gweithgor uchod:
1. Arweinydd y Cyngor/Aelod Gweithrediaeth Trosolwg Corfforaethol a Pherfformiad 2. Dirprwy Arweinydd y Cyngor/Aelod Gweithrediaeth Lle ac Amgylchedd 3. Aelod Gweithrediaeth – Lle ac Adfywio 4. Aelod Gweithrediaeth – Pobl ac Addysg 5. Aelod Gweithrediaeth – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol 6. Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a Chraffu Perfformiad 7. Cynghorydd G. Humphreys
|
|
Amser Cyfarfodydd Cyngor y Dyfodol Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau amser cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol fod holl gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol yn dechrau am 10.00a.m.
|
|
Eitem(au) Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2022.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.
|
|
Pwyllgor Penodiadau Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a chynnig y swydd i Joanne Watts ar gyflog yn unol â JNC 1 (£52,178 - £57,392).
|