Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Mercher, 9fed Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Holland.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a ddrebyniwyd.

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau dilynol o fuddiant:

    

Eitem Rhif 19: Cyllideb Refeniw 2022/2023

 

-       Cynghorwyr Malcolm Cross, Lyn Elias, John Hill, Wayne Hodgins, Haydn Trollope, Thomas Smith a Bernard Willis

 

Arhosodd yr Aelodau a enwir uchod yn y cyfarfod pan ystyriwyd yr eitem o fusnes.

 

Eitem Rhif 20: Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2022/2023

 

-       Cynghorwyr Stewart Healy a Wayne Hodgins

 

Arhosodd yr Aelodau a enwir uchod yn y cyfarfod pan ystyriwyd yr eitem o fusnes.

 

Eitem Rhif 24: Datganiad Polisi Cyflogau 2022/2023

 

-       Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr

-       Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

-       Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-       Bernadette Elias – Prif Swyddog Interim Masnachol

-       Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-       Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-       Clive Rogers – Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

-       Ellie Fry – Pennaeth Adfywio

-       Sarah King – Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau

-       Gina Taylor – Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg

-       Gemma Wasley – Rheolwr Gwasanaeth – Perfformiad a Democrataidd

-       Richard Bridge – Rheolwr Datblygu Sefydliadol – Cyflogres, Iechyd a Diogelwch

-       Steve Berry – Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant

-       Louise Bishop – Swyddog y Wasg a Chyhoeddusrwydd

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd

-       Leeann Turner – Swyddog Cymorth Democrataidd a Phwyllgor

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro, er bod y swyddogion a enwir uchod wedi datgan buddiant yng nghyswllt Datganiad Polisi Cyflogau 2022/23, y caniateir iddynt aros yn y cyfarfod. Fodd bynnag, pe byddai trafodaeth yn dilyn byddai’r swyddogion hynny a ddatganodd fuddiant yn gadael y cyfarfod ar adeg priodol ac eithrio:

 

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd (clerc cofnodion)

 

 Eite   Eitem Rhif 28: Llunio rhestr Fer: Prif Weithredwr Interim

:

-       Damien  McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Bernadette Ellais – Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid

 

Irem   Eitem Rhif 30: Pwyllgor Apwyntiadau – Prif Weithredwr Interim

       - Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Bernadette Ellais – Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid

Foll    Yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro, gallodd y swyddogion a enwir uchod aros yn y cyfarfod tra ystyriwyd eitemau rhif 28 a 30.

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Gwrthdaro Wcráin/Rwsia:

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y sefyllfa echrydus bresennol yn Wcráin wrth i’r ymosodiad direswm o’r wlad barhau i waethygu, ac felly’r argyfwng dyngarol enbyd a olygodd fod bron filiwn o bobl wedi eu hadleoli yn y saith diwrnod cyntaf ac yn awr mae dwy filiwn o ffoaduriaid wedi ffoi o Wcráin ar ôl dwy wythnos ac yn anffodus rhagwelir y bydd y sefyllfa hon yn parhau cyhyd ag y bydd y rhyfel.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud fod meddyliau gyda phawb y mae’r sefyllfa wedi effeithio arnynt a’r wythnos ddiwethaf cafodd adeilad y Swyddfa Gyffredinol ei oleuo yn lliwiau baner genedlaethol Wcráin i ddangos cefnogaeth y Fwrdeistref Sirol i bobl Wcráin.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn anodd ar y cam hwn rhagweld yn union beth fydd yn digwydd yn y cyfnod nesaf a sut y gall hyn effeithio ar y wlad ac yn wir gymunedau. Yn y dyddiau ac wythnosau i ddod, byddai gan bobl bryderon am effaith y rhyfel hon yn Wcráin a gartref a dywedodd y byddai’r Cyngor yn gwneud popeth a fedrai i gasglu a rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i breswylwyr.

 

Fel rhan o ymateb y gwasanaeth cyhoeddus roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi cwrdd gyda Llywodraeth Cymru i ymchwilio opsiynau i sicrhau y gellid darparu cymorth yng Nghymru pan mae dinasyddion Wcráin yn dechrau cyrraedd. Ymhellach i hyn, mae arweinydd WLGA wedi ysgrifennu at Brif Weinidog  ac Ysgrifennydd Cartref y Deyrnas Unedig ar ran 22 awdurdod lleol Cymru yn mynegi pryder fod ymysg pethau eraill fod proses ailsefydlu ffoaduriaid yn y Deyrnas Unedig yn rhy gymhleth, cul a chyfyngol yn wahanol i wledydd cyfagos oedd wedi symud yn gyflym ac wedi symleiddio prosesau a llacio rheolau. Felly roedd Arweinydd WLGA wedi gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ystyried y sefyllfa bresennol a rhoddir gwybodaeth bellach maes o law pan fydd mwy o fanylion ar gael.

 

Roedd y Cynghorydd John Mason wedi galw cyfarfod, fel Cadeirydd y Gweithgor Ailsefydlu, ar 14 Mawrth i drafod y sefyllfa ddiweddaraf yng nghyswllt adsefydlu posibl pobl o Wcráin a threfniadau lleol, lle’r oedd yn sicr y byddai awgrymiadau am y paratoadau angenrheidiol pellach yn cael eu trafod a gobeithiai erbyn hynny y byddai mwy o wybodaeth wedi ei dderbyn gan WLGA. Yn ychwanegol, byddai’r Cyngor yn parhau i weithio’n agos gydag asiantaethau allweddol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol i adolygu materion yn agos i sicrhau y gallai ymateb gystal ag y gallai i unrhyw oblygiadau sy’n codi ar gyfer cymunedau lleol.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd y bu cyhoedd Cymru ac yn wir bobl a sefydliadau o fewn ei gymunedau ei hun yn hael iawn a diolchodd yn ddiffuant ar ran y Cyngor i bawb oedd wedi gwneud cyfraniad hyd yma. Bu pobl yn awyddus i gyfrannu a chefnogi pobl Wcráin, fodd bynnag roedd cyfrannu nwyddau yn achosi anawsterau logistaidd yma a thramor ac felly cafodd pobl oedd eisiau ac yn medru cyfrannu i wneud cyfraniad ariannol i apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychineb ac mae’r Cyngor wedi cyhoeddi  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Llyfr Cofnodion – Tachwedd 2021- Chwefror 2022

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2021 – Chwefror 2022 i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r cofnodion.

 

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 305 KB

Ystyried, ac os credir yn briodol, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 332 KB

Ystyried, ac os credir yn briodol, cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) pdf icon PDF 245 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) a gynhaliwyd ar 3 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Gweithrediaeth pdf icon PDF 216 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithrediaeth pdf icon PDF 233 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod arbennig y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 312 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 268 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 248 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

14.

Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 221 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o Bwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 204 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 221 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbenig o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cwestiwn Rhif 1

 

Derbyniwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Phil Edwards, Arweinydd y Gr?p Annibynnol Lleiafrifol, ac atebwyd gan y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor:

 

Cwestiwn:

 

Yn dilyn y datgeliad mewn cyfarfod diweddar y byddir yn gosod camerâu teledu CCTV yn yr Arcêd yn Abertyleri, a wnaiff yr Arweinydd esbonio o ble daeth y cyllid a phwy benderfynodd eu gosod yno?

 

Ymateb:

 

Mae’r  camera CCTV yn Arcêd Abertyleri yn cymryd lle hen gamera nad oedd bellach yn gweithio a gafodd ei osod oherwydd lefelau uchel o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y rhan honno o’r Arcêd dros nifer sylweddol o flynyddoedd. Yn anffodus, yn awr oherwydd bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau yn yr ardal gyfyngedig hon ac yn dilyn asesiad o effaith diogelu data, cafodd y broses benderfynu gan swyddogion ei seilio ar wybodaeth gref a gafwyd gan yr heddlu lleol, y gymuned a gwybodaeth a chwynion gan breswylwyr ynghyd ag Aelodau lleol Abertyleri. Gwnaeth hyn i swyddogion perthnasol y Cyngor i benderfynu er budd ac egwyddor y trefniadau camera CCTV fod angen camera newydd a daeth cyllid ar gyfer y camera hwn o’r tu fewn i gyllideb refeniw bresennol CCTV.

 

Cwestiwn Atodol:

 

Mae eiddo preifat yn yr Arcêd (yr ymddengys fod y Cyngor yn eu hategu) a chaiff clwydi’r Arcêd eu cau bob gyda’r nos ac felly gofynnodd yr Aelodau sut y gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol fod yn parhau yn yr ardal hon.

 

Ymateb:

 

Y Cyngor sy’n gyfrifol am Arcêd Abertyleri ac mae gan y Cyngor ddyletswydd i’w lanhau a’i gynnal ac mae cyllideb fach ar gael ar gyfer y diben hwnnw. Er na fedrai’r Arweinydd ddatgelu manylion sut mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn parhau er bod y clwydi yn cael eu cau bob nos gan swyddogion, rhoddodd sicrwydd fod yr heddlu yn cefnogi hyn yn llawn oherwydd y byddai’n eu galluogi i wybod pwy sy’n gyfrifol a chymryd camau priodol. Byddai’r llwybr gweithredu hwn hefyd yn diogelu eiddo’r Cyngor.

 

Cwestiwn Rhif 2

 

Derbyniwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Hedley McCarthy ac atebwyd gan y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithrediaeth Adfywio a Datblygu Economaidd:

 

Cwestiwn:

 

Yn dilyn adroddiadau anffafriol yn y wasg am Gapel y Drindod, sy’n dal i fod yn segur a gwag ar ôl chwe mlynedd, a fyddai’r Aelod Gweithrediaeth Adfywio yn esbonio i’r cyngor fod y prosiect ar impasse ac nad oeddem yn ddim nes at ei gwblhau nag oeddem ar ddechrau’r tymor hwn yn 2017?

 

Ymateb:

 

Dechreuodd Aelod Gweithredadiaeth Adfywio a Datblygu Economaidd drwy ddweud na fedrwyd cwblhau Capel y Drindod yn ystod ei gyfnod fel Aelod Gweithrediaeth.

 

Cyfeiriodd at ran gyntaf y cwestiwn sy’n dweud fod Capel y Drindod wedi sefyll yn segur ac yn wag am chwe mlynedd a dywedodd i’r adeilad ddod i ddwylo’r awdurdod lleol yn 2009/10, felly y bu’n segur a gwag am flynyddoedd lawer cyn 2017. Gwariwyd buddsoddiad o £1.2m ar y prosiect yn ystod 2015 a bryd hynny nid oedd wedi cynnwys ailwampio mewnol a dywedodd y cafodd yr adeilad ei adael yn y cyflwr hwn am gyfnod  ...  view the full Cofnodion text for item 17.

18.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.

 

19.

Cynnig o Gerydd pdf icon PDF 41 KB

Cofnodion:

Dechreuodd y Cadeirydd drwy atgoffa’r cyngor fod hyn yn Rybudd o Gerydd ac nid yn bleidlais diffyg hyder fel yr adroddwyd yn y wasg a gwahoddodd Arweinydd y Gr?p Llafur i gyflwyno’r Cynnig o Gerydd ar y pwynt hwn.

 

Dechreuodd Arweinydd y Gr?p Llafur drwy ddweud fod hyn yn fater technegol a bod angen trafod y cynnig. Oherwydd y datganiad a wnaed gan y Cadeirydd, gofynnodd i’r Swyddog Monitro gadarnhau os yw hyn yn gywir oherwydd ei ddealltwriaeth ef oedd fod angen i’r Cynnig gael ei lofnodi gan o leiaf 7 Aelod yn cynnwys Aelodau o ddau gr?p gwleidyddol o leiaf i fod yn ddilys ac felly nad oedd angen cefnogaeth dau-draean y Cyngor.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth a Chyfreithiol nad yw Cyfansoddiad y Cyngor yn cyfeirio at ‘bleidlais diffyg hyder’. Fodd bynnag, mae cyfeiriad at Gynnig i symud Arweinydd y Cyngor a all fod wedi ei ddehongli fel pleidlais diffyg hyder ac er mwyn symud yr Arweinydd, mae’r Cyfansoddiad yn dweud fod yn rhaid i ddau draean o’r Aelodau gefnogi’r Cynnig. Cafodd y Cynnig hwn ei ddiffinio fel ‘Cynnig o Gerydd’ a dywedodd mai ei barn hi fel Swyddog Monitro oedd fod yn hyn yn enw addas ar gyfer y cynnig hwn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod cynigion o ddiffyg hyder yn gyffredin ar draws y wlad ac y gallent gymryd rhan ac roedd caniatâd iddynt gael eu hystyried. Nid oedd angen i’r cynigion hyn gyrraedd y trothwy o ddau-draean ar gyfer symud yr Arweinydd, felly yn ei hanfod mae hyn yn gynnig o ddiffyg hyder ac yn gynnig i’w drafod. Aeth Arweinydd y Gr?p Llafur ymlaen drwy gyflwyno’r cynnig o gerydd fel sy’n dilyn:

 

Trafododd cyfarfod diweddar y Cyngor ar 7 Chwefror 2022 gyda’r adroddiad hirddisgwyliedig gan Archwilio Cymru ar ‘Diffygion yn llywodraethiant a throsolwg Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent o Silent Valley Waste Services’.

 

Pan y’i holwyd ar 7 Chwefror, datgelodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y Cynghorydd Daniels wedi derbyn llythyr gwreiddiol chwythu’r chwiban lle cafodd y swyddog ei enwi a bod eraill a dderbyniodd y llythyr yn cynnwys y Swyddog Arweiniol, Undebau Llafur a’r Dirprwy Adroddiad.

 

Roedd y swyddog a enwir yn yr adroddiad yn gweithio i’r Cyngor ac roedd hynny’n golygu y gwyddai’r Cynghorydd Daniels ar 22 Mawrth 2018 fod y sawl fydda’n derbyn yr ymddeoliad hyblyg a gynigid ymysg y rhai oedd wedi cael eu hymchwilio gan Heddlu Gwent ac Archwilio Cymru am saith mis cyn cynnal y cyfarfod hwnnw. Roedd y Cynghorydd Daniels yn fwriadol wedi atal yr wybodaeth hon rhag ei gydweithwyr yn y Cyngor, na wyddai ddim am y rhai oedd yn cael eu cynnwys yn yr ymchwiliad. Roedd 34 Aelod yn bresennol yn y cyfarfod hwn, ac ni wyddai 32 ohonynt fod y swyddog hwn yn rhan o’r ymchwiliadau oedd yn mynd rhagddynt. Credai Arweinydd y Gr?p Llafur pe byddai Aelodau wedi gwybod am yr wybodaeth na fyddent wedi cefnogi’r adroddiad anniogel hwn.

 

Am y rhesymau a amlinellir uchod nid oes gan yr  ...  view the full Cofnodion text for item 19.

20.

Cyllideb Refeniw 2022/2023 pdf icon PDF 804 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Malcolm Cross, Lyn Elias, John Hill, Wayne Hodgins, Haydn Trollope, Thomas Smith a Bernard Willis fuddiant yn yr eitem hon ond gwnaethant aros yn y cyfarfod pan oedd yn cael ei hystyried.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau mai hwn oedd cam olaf proses gosod y gyllideb ac amlinellodd y pwyntiau perthnasol a gynhwysir o fewn yr adroddiad fel sy’n dilyn:

 

-       Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent wedi cyhoeddi praeseptiau i’r cyngor yn gyfanswm o £6,342,390.

 

-       Roedd praeseptiau Cynghorau Tref/Cymuned yn gyfanswm o £555,101.

 

-       Yn cynnwys cymorth treth dewisol o £208,000, roedd cyfanswm net y gyllideb refeniw ar gyfer 2022/2023 yn £168,267,696.

 

Mae Adran 25 Deddf Llywodraeth Leol 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i Brif Swyddog Adnoddau yr Awdurdod i adrodd ar y ddau bwynt dilynol:

 

i.              Cadernid yr amcangyfrifon a gynhwysir yn y gyllideb

ii.             Digonolrwydd cronfeydd wrth gefn yr Awdurdod.

 

Yng nghyswllt (i) uchod, gallodd y Prif Swyddog ddweud i’r amcangyfrifon gael eu paratoi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ac yn briodol gydnerth. Cafodd pwysau cost eu hystyried yn ystod y broses o osod y gyllideb ac ar gyfer y tymor canol.

 

Yng nghyswllt (i) uchod, mae paragraffau 5.1.9 i 5.1.12 yn dangos fod sefyllfa ariannol yr Awdurdod yn gwella ac yn edrych ar gyflawni sefyllfa gynaliadwy ar gyfer y flwyddyn i ddod ac yn y tymor canol. Byddai’r protocol cronfeydd wrth gefn yn parhau i adolygu cronfeydd wrth gefn er mwyn sicrhau y caiff cronfeydd wrth gefn eu cadw ar lefel gynaliadwy yn y tymor canol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd am braeseptiau Cynghorau Tref/Cymuned, cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau fod Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd wedi codi ei braesept ar gyfer 2022/23 gan 52.39%.

 

Dywedodd Aelod, er ei bod yn dda mai cynnydd o 0% yn y dreth gyngor a gynigir ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, ei fod yn mynegi ei gonsyrn mai eiddo Band D ym Mlaenau Gwent sydd â’r lefelau treth gyngor uchaf yng Nghymru ac mae angen cyfarch hyn. Aeth ymlaen drwy ddweud ei bod yn nodi fod tri o’r Cynghorau Tref wedi gostwng lefel eu praesept am eleni a gofynnodd os yw’r Cyngor yn craffu ar ac yn archwilio lefelau praesept cynghorau tref/cymuned ar gyfer pob un o’r ardaloedd.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau fod gan gynghorau tref/cymuned hawl i osod eu lefelau praesept eu hunain ac nad oes gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros y penderfyniadau a wnaed.

 

Awgrymodd Arweinydd y Gr?p Llafur y gellid efallai gynnal dialog yn y dyfodol gyda chynghorau tref/cymuned am eu lefelau praesept. Dywedodd Aelod arall y dylid craffu ar wariant cynghorau tref/cymuned yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na wyddai am unrhyw fesurau y gellid eu gosod i roi uchafswm ar lefel praeseptiau cynghorau tref/cymuned ond byddai’n ymchwilio hyn ymhellach. Cynhelir archwiliad blynyddol ar braesept for cyngor tref/cymuned a sut y’i defnyddir.

 

Dymunai Arweinydd y Cyngor gofnodi ei longyfarchiadau a’i  ...  view the full Cofnodion text for item 20.

21.

Ffioedd a Thaliadau Corfforaethol 2022/2023 pdf icon PDF 709 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr Stewart Healey a Wayne Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn y cyfarfod tra’r oedd yn cael ei ystyried.

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a dywedodd:

-       Y cafodd y gofrestr Ffioedd a Thaliadau ei hadolygu i:

-       Sicrhau fod yr holl ffioedd a thaliadau a gynhwysir ar y gofrestr yn berthnasol ar gyfer 2022/2023.

-       Adlewyrchu newidiadau mewn polisi a chostau lleol a chenedlaethol.

-       Adlewyrchu’r tybiaethau a gynhwysir o fewn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol lle’n briodol.

 

-       Mae’r gofrestr yn cynnwys taliadau a dderbyniwyd:

-       Cynnydd chwyddiant o 2% y flwyddyn fel y cytunwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol.

-       Dim cynnydd ffioedd.

-       Ffioedd a thaliadau y cynigir eu cynyddu gan fwy na 2%.

 

-       Byddai’r ffioedd a gynigir ar gyfer Trwyddedu yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Trwyddedu a chawsant eu cynnwys yn y Gofrestr er mwyn bod yn gyflawn. Cynigid cynnal y ffioedd ar lefel 2021/2022 yn seiliedig ar fodel cost llawn y fframwaith cenedlaethol.

 

-       Gwasanaethau Cymdeithasol (amrywiol) – Mae’r ffioedd hyn yn cael eu trafod ar hyn o bryd gyda darparwyr i adlewyrchu’r cynnydd priodol i dalu am gost ychwanegol y Cyflog Byw Gwirioneddol, cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, costau ynni ac yn y blaen.  Fodd bynnag, mae’r oedi yn derbyn y canllawiau llawn ar weithredu’r cyflog byw gwirioneddol wedi creu anawsterau gyda’r trafodaethau hyn. Felly cynigwyd y dylid rhoi p?er i Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol i osod y ffioedd a’r taliadau hyn ar gyfer 2022/2023.

 

-       Atodir ffioedd a thaliadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin ar gyfer gwasanaethau craidd ar gyfer 2022/23 i gael eu cymeradwyo gan y Cyngor yn unol gyda’r cytundeb cyllido a rheoli. Roedd y cynnig a gynigir i fwyafrif y ffioedd tua 3%, fodd bynnag roedd nifer o ffioedd wedi gostwng gan hyd at 30% a nifer wedi cynyddu gan hyd at 36% sydd oherwydd safoni’r cyfraddau iau a gostyngiadau ar draws y busnes fel canran benodol o’r ffi safonol i wella’r cysondeb ar gyfer y dyfodol.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor gymeradwyo’r adroddiad gyda’r diwygiadau dilynol:

-       Ni weithredir cynnydd o 10% ar brydau ysgol. Byddai’r cost yn parhau ar brisiau cyfredol 2021/2022.

-       Ni fyddai pris Pryd ar Glyd yn cynyddu a chedwir y gost ar brisiau 2021/2022.

 

Dywedodd Aelod ar adeg pan oedd llesiant plant yn flaenoriaeth bennaf fod nifer o’r cynnydd mewn taliadau a gynigiwyd gan Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn achosi rhwystr i blant, pobl ifanc a’r gymuned i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau. Ni fedrai gytuno i gynnydd o’r maint hwn a theimlai fod y cynnydd canrannol yn anghymesur pan fod ymdrechion yn cael eu gwneud i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a dywedodd y dylai’r cynnydd barhau i fod ar lefel chwyddiant yn unig. Roedd y taliadau y cyfeirir atynt yn ymwneud â:

-       Nofio Iau – cynnydd o 17.4%

-       Nofio Iau gyda Gostyngiad – cynnydd o 16.11%

-       Stiwdio Lifestyle  ...  view the full Cofnodion text for item 21.

22.

Rheoli Trysorlys – Datganiad Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi MRP 2021/2022 (yn cynnwys Dangosyddion Darbodus) pdf icon PDF 601 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fyr am yr adroddiad a thynnodd sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Dywedwyd fod angen i awdurdodau lleol baratoi, cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, ddatganiad o’u polisi ar wneud darpariaeth refeniw i gynnwys ad-daliadau dyled (a elwir yn MRP neu Darpariaeth Isafswm Refeniw) yng nghyswllt y flwyddyn ariannol honno a’i gyflwyno i’r Cyngor llawn ei gymeradwyo. Felly caiff y datganiad MRP ar gyfer 2022/23 hefyd ei gynnwys fel rhan o’r Datganiad Strategaeth Trysorlys (Atodiad A). Rhoddir y Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys er gwybodaeth fel Atodiad B.

 

Byddid yn cydymffurfio â’r polisïau hyn bob amser gyda’r prif amcanion yn gyntaf ddiogelwch ac yn ail hylifedd buddsoddiadau a byddai hefyd yn anelu i leihau costau refeniw dyled tra’n cynnal lefel ddarbodus o adbrynu dyled.

 

Nid oedd newidiadau sylweddol i’r polisi a gynigir ar gyfer 2022/23. Mae’r prif newid yn cynnwys datblygu pellach ar strategaeth buddsoddi blynyddol i roi cyfleoedd ychwanegol ar gyfer y lefelau uwch o fuddsoddiad a gaiff eu rhagweld yn y tymor canol. Yn ychwanegol, mae’r polisi yn rhoi manylion y dangosyddion darbodus a fyddai’n monitro perfformiad, a fyddai’n cael eu hadrodd i Aelodau drwy gydol blwyddyn ariannol 2022/2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef y Datganiad Blynyddol Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Blynyddol Buddsoddi a’r Datganiad Polisi MRP ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23 a’r Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir ynddynt.

 

23.

Strategaeth Cyfalaf 2022/2023 pdf icon PDF 522 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad ac esboniodd y bwriedir i’r Strategaeth Cyfalaf roi trosolwg lefel uchel o sut yr oedd gwariant cyfalaf, cyllido cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys wedi cyfrannu at ddarparu gwasanaethau ynghyd â throsolwg o sut y caiff risg cysylltiedig ei reoli a’r goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd ariannol y dyfodol. Mae datblygu strategaeth cyfalaf yn rhoi hyblygrwydd i ymgysylltu gyda’r Cyngor llawn i sicrhau bod pob Aelod etholedig yn deall y strategaeth gyffredinol, gweithdrefnau llywodraethiant ac awydd risg yn llawn.

 

Er nad oedd angen unrhyw newidiadau sylweddol i Strategaeth Cyfalaf 2022/2023, byddai datblygiadau diweddar i Reolaeth Trysorlys y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA) a’r Cod Darbodus Cyllid Cyfalaf yn Awdurdodau Lleol a ddiwygiwyd yn 2020/2021 yn arwain at newidiadau a fyddai’n effeithio ar adroddiadau Strategaeth Cyfalaf o 2023/2024 ymlaen pan mae angen mabwysiadu’r codau diwygiedig yn ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Strategaeth Cyfalaf 2022/2023.

 

24.

Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/2023 pdf icon PDF 717 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol – Cyflogres, Iechyd a Diogelwch am yr adroddiad yn fanwl a thynnodd sylw at y penderfyniadau a gynhwysir o fewn adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23.

 

Gan fod etholiadau lleol ar y gorwel, byddai’r trefniadau newydd yn dod i rym o 9 Mai 2022 a byddai penderfyniadau presennol 2021/2022 y Panel yn weithredol am y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 8 Mai 2022.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol mai dewis Aelodau unigol yw p’un ai i beidio derbyn neu ostwng lefel eu cydnabyddiaeth ariannol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cyngor wedi ymateb yn flaenorol i’r Panel fel rhan o’r cyfnod ymgynghori ar ddrafft benderfyniadau 2022/2023 yn mynegi gwrthwynebiad a phryderon am y cynigion a dywedodd fod angen i’r Cyngor yn awr nodi’r penderfyniadau terfynol.

 

Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei bryder am y cynnydd a gynigir i lefelau cydnabyddiaeth ariannol ar hyn o bryd pan mae cynifer o bobl yn profi cyfyngiadau ariannol difrifol. Felly cynigiodd gadw’r status quo h.y. cadw cydnabyddiaeth ariannol ar lefelau 2021/2022. Cytunodd Aelodau eraill gyda’r sylwadau hyn a mynegodd eu pryder ar y cyd am y cynnydd presennol mewn costau byw a mynegodd bryderon yng nghyswllt nodi’r penderfyniadau yn y dyfodol.

 

Ategodd Arweinydd y Cyngor y cafodd ymateb ar y cyd ei anfon yn mynegi pryderon a  gwrthwynebiadau i’r cynigion ac mai dim ond ar gyfer eu nodi oedd y penderfyniadau. Caiff y penderfyniadau hyn eu gweithredu ledled Cymru a phenderfyniad cynghorwyr unigol fyddai derbyn lefel y gydnabyddiaeth ariannol a deimlent yn briodol. 

 

Dywedodd Arweinydd Pennaeth Cyfreithiol a Chydymffurfiaeth fod yr adroddiad ar gyfer ei nodi yn unig a dim i’w gymeradwyo ac y byddai’r penderfyniadau yn cael eu gweithredu pa bynnag bryderon a fynegwyd. Mae hyn yn sefyllfa unigryw ac nid oes unrhyw opsiwn i wrthod y penderfyniadau hyn. Cafodd gwrthwynebiadau Aelodau eu nodi ond mater i Aelodau unigol yw p’un ai a fyddant yn derbyn y lefel briodol o gydnabyddiaeth ariannol.

 

Er eglurdeb, dywedodd y Prif Swyddog Cyngor fod gan y Cyngor reidrwydd cyfreithiol i weithredu penderfyniadau adroddiad y Panel a dywedodd eto mai mater i Aelodau unigol oedd penderfynu rhoi’r gorau i neu beidio derbyn unrhyw elfen o’r gydnabyddiaeth ariannol. Nodwyd, pe byddai Aelod yn penderfynu i roi’r gorau yn wirfoddol i ran o’u cydnabyddiaeth ariannol, y byddai’r yswiriant gwladol a didyniadau treth yn seiliedig ar y swm net. Caiff cydnabyddiaeth ariannol ei dalu fel rhan o gyllideb y Cyngor ac y byddai unrhyw orwariant yn cael ei gadw o fewn y gyllideb.

 

Er eglurhad, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol na fedrid cymryd penderfyniad neu gynnig arall (h.y. i gadw’r lefelau presennol o gydnabyddiaeth ariannol) a fyddai’n rhwymo pob Aelod oherwydd y caniateir fod y gyfraith yn caniatau’r penderfyniadau hyn a mater i unigolion yw penderfynu p’un ai i dderbyn y swm llawn. Yn nhermau cydymffurfiaeth, ychwanegodd y Prif Swyddog Adnoddau ei fod  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Datganiad Polisi Tâl 2022/2023 pdf icon PDF 423 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y swyddogion dilynol fuddiant yn yr eitem hon ac aros yn y cyfarfod pan gafodd yr eitem ei hystyried;

 

-       Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr

-       Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

-       Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-       Bernadette Elias – Prif Swyddog Interim Masnachol

-       Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-       Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-       Clive Rogers – Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

-       Ellie Fry – Pennaeth Adfywio

-       Sarah King – Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau

-       Gina Taylor – Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg

-       Gemma Wasley – Rheolwr Gwasanaeth – Perfformiad a Democrataidd

-       Richard Bridge – Rheolwr Datblygu Sefydliadol – Cyflogres, Iechyd a Diogelwch

-       Steve Berry – Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant

-       Louise Bishop – Swyddog y Wasg a Chyhoeddusrwydd

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd

-       Leeann Turner – Swyddog Cymorth Democrataidd a Phwyllgorau

 

Fodd bynnag, pe byddai trafodaeth yn dilyn byddai’r swyddogion hynny a ddatganodd fuddiant yn gadael y cyfarfod ar yr adeg priodol ag eithrio:

 

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd (clerc cofnodion)

-        

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

Siaradodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol yn fyr am yr adroddiad, a

 

PHENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2022/2023.

 

26.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 359 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Panel Ymgynghori ar gyfer Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol

 

Gwnaeth y Panel yr argymhellion dilynol ar 8 Mawrth 2022 i benodi mewn egwyddor:

 

Ysgol Gynradd yr Holl Seintiau – Laura Newall

 

Ysgol Gyfun Tredegar – Adrian Tuck

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.

 

27.

Gwerthfawrogiad

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai hwn fyddai cyfarfod ffurfiol diwethaf y Cyngor y byddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr yn ei fynychu cyn gadael i fynd i’w swydd newydd a dymunai fanteisio ar y cyfle i fynegi yn ddiffuant ei werthfawrogiad i Michelle am ei holl waith caled ac ymroddiad i’r cyngor yn ystod ei chyfnod fel Rheolwr Gyfarwyddwr. Roedd wedi cael Michelle yn weithiwr effeithlon iawn, roedd wedi gweithio gyda’r holl arweinyddiaeth wleidyddol ar bob ochr o’r Cyngor ac wedi bod yn deg, agored ac wedi gweithio’n galed i gyflawni’r blaenoriaethau a fu’n bwysig i’r Cyngor a’i phreswylwyr.

 

Roedd Michelle wedi gwneud gwaith enfawr ar drawsnewid gwasanaethau a dod ag effeithiolrwydd a moderneiddio’r sefydliad ac yn y 2 flynedd ddiwethaf dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr, roedd y Cyngor wedi wynebu heriau sylweddol enfawr y pandemig Covid, gan weithio mewn cysylltiad gyda chydweithwyr ac Aelodau ym Mlaenau Gwent ac fel rhan o’r ymateb argyfwng rhanbarthol.

 

Dywedodd yr Aelod y gwyddai am y parch yr oedd Michelle wedi ei feithrin yn y 5 mlynedd gyda phrif weithredwyr eraill a swyddogion o bob rhan o Went, y rhanbarth a Chymru. Daeth i ben drwy ddweud ei fod yn bleser a braint llwyr i weithio gyda Michelle a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd fel Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Cytunodd Arweinydd y Gr?p Llafur gyda’r sylwadau gan yr Arweinydd a dywedodd y byddai Michelle yn golled i’r Cyngor ond dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd.

 

Ychwanegodd y Cadeirydd ei llongyfarchiadau i Michelle yn ei swydd newydd.

 

Mynegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei gwerthfawrogiad i’r ddau Arweinydd am ei geiriau caredig a mynegodd ei werthfawrogiad i’r Cyngor am y cyfle a gafodd i wneud y swydd am y pedair blynedd a hanner ddiwethaf. Bu’n fraint ac roedd yn falch o’r hyn a gyflawnodd yn ystod y cyfnod. Bu’r ddwy flynedd ddiwethaf, y llwyddodd y Cyngor i ganfod ei ffordd drwyddynt, yn amser anghyffredin iawn i bawb.

 

Manteisiodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ar y cyfle i fynegi ei gwerthfawrogiad i’r Tîm Arweinyddiaeth Corfforaethol oedd wedi ei chefnogi drwy gydol ei hamser yn y swydd a dywedodd y gwyddai y byddai’r swyddogion hyn yn parhau i arwain y cyngor o’r ochr broffesiynol ac i staff, ased fwyaf y Cyngor, a aeth yr ail filltir a thu hwnt mewn amgylchiadau eithriadol a mynegodd ei gwerthfawrogiad iddynt am eu hymrwymiad a’u cefnogaeth barhaus i’r Cyngor. Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy estyn ei dymuniadau gorau oll ar gyfer y dyfodol i’r Cyngor, y staff a Blaenau Gwent.

 

28.

Eitem(au) Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig, gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad aam yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Gadawodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

29.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y Panel Llunio Rhestr Fer a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2022.

 

Cofnodion:

Cafodd eitemau 27 – 30 eu hystyried ar yr un pryd.

 

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.

 

30.

Llunio Rhestr Fer – Prif Weithredwr Interim

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2022..

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyfarwyddwr corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Swyddog Masnachol fuddiant yn yr eitem hon.

 

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2022.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniadau a nodir ynddo.

 

31.

Pwyllgor Apwyntiadau – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y Pwyllgor Apwyntiadau a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2022.

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a chynnig y swydd i Vikki Gledhill ar gyflog yn unol â

JNC 1 (£51,407 - £56,544).  

 

32.

Pwyllgor Apwyntiadau – Prif Weithredwr Interim

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fuddiant yn yr eitem hon.

 

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2022.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a chynnig y swydd i Damien McCann ar gyfelog yn unol â JNC Prif Weithredwyr (£102,976 - £111,055).