Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 30ain Medi, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Hayden, M. Holland, C. Meredith, G. Paulsen a T. Sharrem.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Llongyfarchwyd:

 

Rosie Richards, 8 oed o Dredegar, a ddetholwyd i hyfforddi gyda Sgwad Datblygu Gymnasteg Cymru.

 

Lloyd Crump, 14 oed o Waunlwyd, oedd wedi ennill Twrnamaint Badminton Dyblau Cymysg Dan 17 Cymru ac a fyddai’n cynrychioli Cymru mewn twrnamaint rhyngwladol yn yr Alban yn yr wythnosau nesaf.

 

Alfie Skinner oedd wedi cymhwyso yng ngr?p 7 i 8 oed ym Mhencampwriaeth Golff Iau y Byd Academi IMG ac wedi ennill lle yn Nhîm Golff Iau Prydain a fyddai’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig yn California ym mis Gorffennaf 2022.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyrau addas.

5.

Llyfr Cofnodion – Hydref 2020 – Gorffennaf 2021

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Hydref 2020 – Gorffennaf 2021 i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo a chadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 757 KB

Cadarnhau ac os credir yn briodol, gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf 2021.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) pdf icon PDF 260 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 422 KB

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2021. 

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 226 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 208 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 1 Medi 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 274 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 140 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 292 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 22 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

14.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 243 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 30 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 261 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 210 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 243 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 212 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 255 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 26 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.

 

21.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.

 

22.

Adroddiad Adolygiad Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 pdf icon PDF 589 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi cyfle i Aelodau ystyried gweithgareddau Rheoli Trysorlys a wnaethpwyd ym mlwyddyn ariannol 2020/2021, yn unol â Chod Ymarfer Rheoli Trysorlys CIPFA.

 

Rhoddwyd crynodeb o’r gweithgareddau Rheoli Trysorlys a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn ym mharagraff 5.1.6 yr adroddiad, yn cynnwys:

 

-       Codwyd £166m mewn benthyciadau tymor byr gan arwain at daliad llog ar y benthyciadau dros dro hyn o £265,000 ar gyfradd llog gyfartalog o 0.83%. Mae’r gyfradd log hon yn is na’r gyfradd meincnod (seiliedig ar rymoedd y farchnad) o 1.00%.

 

-       Gwnaethpwyd £400,000 o fuddsoddiadau tymor byr sydd wedi ysgogi £8,000 mewn adenillion buddsoddiad.

 

-       Roedd dyled hirdymor yn dal yn ddyledus ar 31 Mawrth 2021 yn gyfanswm o £170m.

 

-       Roedd dyled tymor byr yn dal yn ddyledus ar 31 Mawrth 2021 yn gyfanswm o £65.315m.

 

-       Mae’r ddyled yn cynnwys y gysylltiedig gyda phrosiect Rheilffordd Cwm Ebwy – benthyciad penodol di-log gan Lywodraeth Cymru..

 

Mae’r Cyngor wedi cydymffurfio gyda Deddf Llywodraeth Leol 2003 ac yn unol â Chod Ymarfer Rheoli Trysorlys CIPFA a chanllawiau Llywodraeth Cymru wrth gynnal y gweithgareddau Rheoli Trysorlys a thrwy wneud hynny wedi ymdrechu am reoli risg effeithlon ac ar yr un pryd yn ceisio gwerth gorau cyn belled ag sy’n bosibl. Yn ychwanegol, mae’r Awdurdod wedi rheoli risg credyd yn effeithlon drwy gydol y cyfnod gan felly sicrhau na fu unrhyw golled ariannol arno fel canlyniad i’r argyfwng credyd.

 

Daeth y Prif Swyddog Adnoddau i ben drwy ddweud fod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Corfforaethol wedi ystyried yr adroddiad ar 21 Medi 2021 ac wedi cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Cafodd Aelodau wedyn gyfle i godi cwestiynau/rhoi sylwadau ar yr adroddiad. Rhoddwyd crynodeb o’r sylwadau hyn fel sy’n dilyn:

 

-       Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at y ‘Ffin Gweithredol ar gyfer Dyled Allanol’ a roddir yn Atodiad 1 yr adroddiad a chyfeiriodd at sylwadau a phryderon a wnaeth yn flaenorol yng nghyswllt amseriad benthyciad Rheilffordd Cwm Ebwy. Dywedodd fod cyllidebau yn dod dan bwysau cynyddol fel canlyniad i’r pandemig ac na wyddys ar hyn o bryd pa effaith y byddai hyn yn ei gael ar o hyn ymlaen ar lywodraeth leol, sydd â dyletswydd i ddarparu gofal cymdeithasol. Yn ychwanegol, mynegodd ei bryder am allu’r Cyngor i fenthyca yn y dyfodol (nodwyd y defnyddiwyd benthyca darbodus mewn blynyddoedd blaenorol i gynnal rhai o’r gwasanaethau craidd) a gofynnodd os oedd y Prif Swyddog yn hyderus fod terfyn y Ffin Gweithredol yn addas i’r awdurdod.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau ei bod yn hyderus fod y ffin gweithredol yn gywir ar gyfer yr awdurdod. Esboniodd mai’r Cyngor sy’n gosod y ffin gweithredol ac y caiff ei asesu a’i fonitro’n rheolaidd i sicrhau bod lefel y benthyca yn fforddiadwy. Nodwyd y caiff lefel yr amcangyfrif benthyca ei gynnwys yn y gyllideb refeniw yn flynyddol.

 

Aeth Arweinydd y Gr?p Llafur ymlaen drwy ddweud ymhellach fel sy’n dilyn:

 

-       Cyfeiriwyd at Adolygiad Blynyddol diweddar Archwiliad  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Asesiad Perfformiad 2020/21 pdf icon PDF 488 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dechreuodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy ddweud y cafodd yr adroddiad ei ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a’r Pwyllgor Gweithredol. Mae angen cynhyrchu a chyhoeddi’r adroddiad statudol hwn erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Fodd bynnag mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 wedi newid y gofynion adrodd ar gyfer y dyfodol ac o hyn ymlaen bydd angen i’r Cyngor ddatblygu adroddiadau ar y cynnydd a wnaed ar flaenoriaethau’r Cynllun Corfforaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Felly, hwn fyddai’r adroddiad terfynol a gynhyrchwyd yn ei ffurf bresennol.

 

Mae’r adroddiad yn cydnabod y bu 2020/2021 yn flwyddyn anodd tu hwnt i gynghorau a chymunedau a chydnabuwyd y cafodd rhai blaenoriaethau eu gohirio gan fod adnoddau wedi eu cyfeirio i wasanaethau critigol a gan bod ymateb y Cyngor wedi canolbwyntio ar y pandemig ac yn ddilynol, y cynllun adfer.

 

Ar y pwynt hwn, talodd y Rheolwr Gyfarwyddwr deyrnged a mynegi ei gwerthfawrogiad i staff oedd wedi gweithio mor ddiflino yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r adroddiad yn rhoi manylion y cynnydd a wnaed o fewn meysydd o weithgaredd y Cyngor ac roedd y gweithlu, Aelodau, cymunedau a phartneriaid  i’w canmol yn fawr am eu camp wych mewn cyfnod mor anodd.

 

Wedyn cafodd Aelodau gyfle i godi cwestiynau/rhoi sylwadau ar yr adroddiad. Rhoddwyd crynodeb o’r sylwadau hyn fel sy’n dilyn:

 

-       Dechreuodd Arweinydd y Gr?p Llafur drwy ddweud mai asesiad y Cyngor ei hun o’i berfformiad oedd hyn a dywedodd y teimlai fod yr adroddiad yn darllen yn rhy gadarnhaol ac nad oedd yn rhoi digon o sylw i’r gwelliannau sydd eu hangen. Mae Adolygiad Thematig Estyn yn enghraifft o hyn oedd wedi rhoi sylw i feysydd cadarnhaol ond wedi canolbwyntio llai ar y gwelliannau angenrheidiol.

 

Mae’r adroddiad yn or-optimistig a dylai adroddiad llawer mwy cytbwys fod wedi ei ddarparu ar gyfer y cyhoedd oherwydd ei fod yn portreadu barn hollol groes i‘r hyn y mae aelodau’r cyhoedd yn ei weld ar lawr gwlad h.y. mae sbwriel ac yn arbennig dresmasu gan anifeiliaid yn cynyddu ym mhob rhan o’r Fwrdeistref Sirol – dywedwyd y gwnaed ceisiadau am sefydlu gwasanaeth newydd i drin y mater. Yn ychwanegol, fel rhan o gyllideb y llynedd, cyflwynwyd cynnig i wella’r gwasanaeth CCTV – eto, dywedwyd mai Blaenau Gwent oedd yr unig awdurdod yng Ngwent heb wasanaeth CCTV oedd yn cael ei staffio.

 

Aeth Arweinydd y Gr?p Llafur ymlaen drwy gyfeirio at ymgynghoriad a dywedodd fod y Cyngor wedi methu ar yr agwedd hon a soniodd am bynciau diweddar lle teimlai y bu diffyg ymgysylltu h.y. Parc yr ?yl, y Swyddfeydd Cyffredinol a Meysydd Parcio’r Rheilffordd a Buddsoddiad Rheilffordd Cwm Ebwy.

 

Fodd bynnag, yng nghyswllt yr ymateb i argyfwng Covid-19, bu’r Cyngor yn wych a bu’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a staff yn rhagorol - soniwyd am hyn mewn adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud, er fod meysydd o waith da ym Mlaenau  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol pdf icon PDF 444 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod y Cyngor eisoes wedi ymrwymo yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf i ddod yn Gyngor amrywiol ac y cytunwyd bryd hynny i ddatblygu cynllun gweithredu i gefnogi amrywiaeth yn y broses ddemocrataidd a bod y cynllun gweithredu’n cael ei ystyried gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd cyn ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Mae’r cynllun gweithredu, a roddir fel atodiad i’r adroddiad, yn dilyn fformat WLGA ac yn cynnwys y canfyddiadau a wnaethpwyd eisoes gyda phobl ifanc 16-25 oed yng nghyswllt rhyngweithio o amgylch democratiaeth. Mae trafodaethau hefyd wedi mynd rhagddynt gyda swyddogion allweddol ac arweinwyr cydraddoldeb i sicrhau y gwnaed y cysylltiadau cywir fel y gellid datblygu rhai o’r camau gweithredu a gynigiwyd. Nodwyd fod y cynllun gweithredu yn nodi’r gweithgaredd y bwriedir ei gynnal cyn etholiadau lleol 2022 ac yn dilyn etholiadau – mae’r ddogfen yn hirhoedlog a gellid ychwanegu arni ac ychwanegu ati wrth iddi symud ymlaen.

 

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi croesawu’r adroddiad ond y codwyd ychydig o bwyntiau am beth o’r geiriad a ddefnyddiwyd o ran cyfansoddiad gwleidyddol grwpiau a thaliadau parasiwt i Aelodau a gollai eu seddi mewn etholiad.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at eitem rhif 30 yn y cynllun gweithredu ac yn fwy penodol y bwynt bwled olaf, sef “cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru a Phanel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol i ymchwilio grantiau adsefydlu neu ‘daliadau parasiwt’ i Aelodau sy’n colli eu seddi mewn etholiad” a dywedodd na fedrai’r Gr?p Llafur na’r Gr?p Annibynnol Lleiafrifol gefnogi’r cynnig hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y cynllun gweithredu yn ddogfen ‘fyw’ ac y byddai’n cael ei hadolygu yn rheolaidd i sicrhau fod y ddogfen yn cynnwys unrhyw bwyntiau perthnasol dros amser. Caiff y cynllun monitro ei fonitro drwy’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fel rhan o’r flaenraglen gwaith.

 

Dilynodd trafodaeth bellach am ddefnydd yr ymadrodd ‘pleidiau gwleidyddol’ o fewn y ddogfen a gofynnwyd am ddiwygio hyn i ddarllen ‘grwpiau gwleidyddol’.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod y pwyntiau a wnaed am yr eirfa yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd eu cynnwys yn yr adroddiad egluro. Yng nghyswllt taliadau parasiwt, mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn ystyried hyn ar sail genedlaethol a chaiff ei drafod ar draws Cymru ar hyn o bryd. Gan y byddai fersiynau pellach o’r cynnig hwn, gallai’r Cyngor ystyried hyn yn y dyfodol fel rhan o’r adolygiad byw o’r cynllun gweithredu.

 

Cyfeiriodd Aelod at baragraff 6.1 yr adroddiad ac yn neilltuol fod Blaenau Gwent yn parhau i fod â lefelau sylweddol uwch na’r cyfartaledd o anabledd gyda chyfanswm o 31.6% o bobl oedran gwaith wedi eu diffino fel anabl (EA craidd neu anabledd yn cyfyngu gwaith) o gymharu gyda 22.8% ar gyfer Cymru. Gan fod gan Blaenau Gwent un o’r cyfraddau uchaf yn y categori hwn yng Nghymru, gofynnodd yr Aelod os y gellid cynnwys cam gweithredu yn y  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Diwygiadau i'r Cyfansoddiad pdf icon PDF 380 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol/Swyddog Monitro.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol mai diben yr adroddiad yw i’r Cyngor gymeradwyo a mabwysiadu newidiadau arfaethedig i’r Cyfansoddiad. Nodwyd na chafodd y ddogfen ei diweddaru ers 2019 ac na fu unrhyw ddiweddariad yn y flwyddyn flaenorol gan fod y ffocws ar ymateb i’r pandemig. Felly, mae’r ddogfen yn cynnwys 2 flynedd o ddiwygiadau, yn rhai gweithdrefnol a newidiadau wedi eu diweddaru.

 

Roedd y Gweithgor Cyfansoddiad wedi ystyried a chymeradwyo’r diwygiadau arfaethedig mewn cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021. Anfonwyd gohebiaeth hefyd at Aelodau absennol yn gofyn am eu sylwadau ac at swyddogion allweddol i gael diwygiadau pellach. Fodd bynnag, ni dderbyniwyd unrhyw gynigion na sylwadau pellach.

 

Cyfeiriodd Aelod at y rhestr o ddiwygiadau arfaethedig i Gyfansoddiad y Cyngor, yn neilltuol y ddau gynnig dilynol:

 

-       Rhan 4 – Cofrestr Buddiannau Aelodau – cynnig i gynyddu budd materol gwerth o £10 i £20.

 

-       Adran 20 – Cod Ymddygiad Swyddog – cynnig i gynyddu gwerth rhoddion o dan £10 i dan £20.

 

Aeth yr Aelod ymlaen drwy ddweud, er budd bod yn agored a thryloyw, na ddylid cynyddu’r cynigion uchod ond naill ai ei gostwng i sero neu gadw’r sefyllfa fel y mae.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Corfforaethol a Chyfreithiol y cynhaliwyd gwaith meincnodi yn ddiweddar yng Ngr?p Swyddogion Monitro Cymru-gyfan am lefel trothwy rhoddion sylweddol, lle byddai’n ofynnol i Aelodau a swyddogion gofnodi’n gyfreithiol unrhyw roddion a dderbyniwyd. Nodwyd fod gosod y trothwy ar ddisgresiwn y Cyngor ar hyn o bryd ac roedd yn amlwg o’r gwaith meincnodi mai Blaenau Gwent sydd â’r lefel isaf yng Nghymru.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol drwy ddweud y bu’r lefel o £10 yn ei lle am dros 30 mlynedd a bod y rhan fwyaf o awdurdodau eraill yng Nghymru wedi cynyddu eu lefelau i £25-30 oherwydd ei bod yn eithaf cyffredin i Aelodau a swyddogion dderbyn anrhegion adeg y Nadolig, Felly, byddai cynyddu i £20 yn lefel y trothwy yn gwneud y broses yn llai beichus i Aelodau ac yn swm mwy realistig, gan gofio na chafodd hyn ei ailbrisio am nifer sylweddol o flynyddoedd.

 

Nodwyd fod rhai Aelodau yn datgelu pob rhodd beth bynnag eu gwerth ond nad oedd yn ofyniad cyfreithiol arnynt i wneud hynny os nad oeddent yn dod dros y llinell trothwy, sy’n £10 ar hyn o bryd. Felly byddai’r cynnig hwn yn golygu y byddai’r Cyngor yn debyg i gynghorau eraill ar draws Cymru a’r Gweithgor Cyfansoddiad a ystyriai fod £20 yn lefel resymol.

 

Dywedodd Aelod iddo dderbyn rhoddion yn flaenorol ac wedi ei gynghori gan y Swyddog Cyfreithiol ar y pryd ond i wneud cyfraniad ar werth tebygol y rhodd i Apêl y Maer.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn gwerthfawrogi fod chwyddiant wedi cynyddu ac y dylai’r Cyngor longyfarch ei hun am fod yn un o’r cynghorau mwyaf beichus yng Nghymru ond dywedodd y byddai’n cynnig gwelliant er budd bod yn agored a  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 454 KB

Ystyried yr adroddid a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan

-       penodi dau gynrychiolydd i’r uchod.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd wedi derbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer y swyddi hyn hyd yma.

 

Pwyllgor Cydlynu Rheilffordd Cwm Ebwy

-       penodi cynrychiolydd i’r uchod.

-        

PENDERFYNWYD penodi Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd i’r Pwyllgor Cydlynu uchod.

 

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Phwyllgor Craffu Diogelu – Cyfethol Aelod

 

Cadarnhau penodiad Mr. Tim Pritchard, Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair fel Aelod cyfetholedig ar y Pwyllgorau Craffu uchod.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

 

27.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad i eithrio ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

 

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am yr eithriadau ar gael mewn rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

28.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod y Pwyllgor Apwyntiadau wedi cwrdd a chyfweld ag ymgeiswyr ar gyfer swydd Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau ar 28 Medi 2021 a chadarnhaodd mai Miss Sarah King oedd yr ymgeisydd llwyddiannus ac y cynigiwyd y swydd iddi’n ffurfiol. Nodwyd fod y swydd hon hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb statudol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a chadarnhawyd mewn cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y dylai’r dynodiad statudol hwn barhau gyda swydd Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Fel y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd sy’n gadael y swydd, mynegodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid ei gwerthfawrogiad i Aelodau am y cyfle a gafodd i gyflawni’r swydd hon ers 2013. Dywedodd y bu’n fraint i weithio gydag Aelodau yn y swydd hon ac edrychai ymlaen at barhau i weithio gydag Aelodau yn ei swydd newydd, fel rhan o’r uwch dîm arweinyddiaeth.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei dymuniadau gorau i’r Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid yn ei swydd newydd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.