Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, L. Elias, M. Holland, J. P. Morgan, G. Paulsen a B. Willis.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd. Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
Eitemau Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) a gafodd eu heithrio gan roi ystyriaeth i'r prawf diddordeb cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm a penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol.
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylid eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad i eithrio ar gael mewn rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Parc yr Ŵyl, Glynebwy Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cofnodion: Gan ystyried yr farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Ar ddechrau’r cyfarfod, dywedodd Aelod iddi dderbyn gwybodaeth newydd a ddaeth i law yn hwyr y noson flaenorol, a fedrai gael effaith sylweddol ar yr adroddiad. Ni chafodd yr wybodaeth ei rhannu gydag Aelodau a swyddogion cyn dechrau’r cyfarfod.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylai’r Aelod godi’r mater ar ôl i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol gyflwyno’r adroddiad.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol
Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fanwl am yr adroddiad a thynnodd sylw at bwyntiau perthnasol ynddo. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fanylion o ran:
· Cwmpas a chefndir yr adroddiad sy’n dangos y cynhaliwyd trafodaethau yng nghyfarfod y Cyngor ym mis Gorffennaf 2020 a gytunodd y dylai negodiadau manwl ddechrau gyda pherchnogion presennol Parc Siopa yr ?yl gyda golwg ar gytuno ar benawdau telerau ar gyfer caffael y safle ar gyfer ailwampio/ailddatblygu a pharatoi achos busnes ar gyfer caffael a defnydd yn y dyfodol.
· Roedd negodiadau masnachol wedi dechrau yn dilyn cymeradwyaeth yr adroddiad ym mis Gorffennaf ac yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd. Cafodd achos busnes ei ddatblygu gan ymgynghorwyr allanol mewn cysylltiad â swyddogion i gyd-fynd gyda’r negodiadau hyn.
· Mae trafodaethau yng nghyswllt opsiynau a chymorth cyllid yn parhau gyda Llywodraeth Cymru.
· Ynghyd â datblygu’r achos busnes dros gaffael Parc Siopa yr ?yl a’r tir parc, gwnaed cynnydd da yng nghyswllt sefydlu hybiau cymunedol. Nodwyd nad oedd y darn hwn o waith wedi ei seilio ar gaffael y safle ac y cafodd costau cyfalaf a refeniw ar gyfer elfen hon y prosiect eu cynnwys yn yr achos busnes.
Wedyn rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fanylion yr opsiynau a gyflwynwyd yn yr achos busnes ynghyd â chost gysylltiedig pob opsiwn. - Opsiwn 1 – Caffael Canolfan Siopa Parc yr ?yl neu’r opsiwn ‘Gwneud y Lleiafswm’ (opsiwn a ffafrir) - Opsiwn 0 – Busnes fel Arfer neu’r opsiwn ‘Gwneud Dim’ - Opsiwn 2 – Codi adeilad gweinyddiaeth newydd i gymryd lle’r Ganolfan Ddinesig.
Yn nhermau’r Cynllun Corfforaethol, nodwyd y byddai’r opsiwn a ffafrir yn dod o fewn nodau blaenoriaeth y cynllun sef:
- cynyddu’r gyfradd sefydlu busnes, cadw a thwf busnesau lleol a denu mewnfuddsoddiad newydd; a - gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer ein canol trefi a sicrhau eu dyfodol hirdymor.
Mae adran 4.2 yr adroddiad yn rhoi manylion gweithgareddau a nodau pellach a fyddai’n cael eu cefnogi a’u gwireddu pe cymeradwyir yr opsiwn a ffafrir. Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ben drwy ddweud fod y cynnig hwn hefyd yn cysylltu’n uniongyrchol gyda nifer o adolygiadau busnes ... view the full Cofnodion text for item 5. |