Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 28ain Ionawr, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd M. Moore.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:

 

Eitem Rhif 34: Cais i Lesu Tir

Cynghorydd W. Hodgins

 

4.

Charlotte Clarke – Maer Ieuenctid ar gwblhau ei thymor yn y swydd

Derbyn trosolwg o daith democratiaeth Charlotte.

 

Cofnodion:

Ymunodd y Cynghorydd T. Sharrem â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Rhoddodd Charlotte Clarke, sy’n gadael ei swydd fel Maer Ieuenctid, y cipolwg dilynol ar ei thaith democratiaeth hyd yma.

 

Dechreuodd Charlotte drwy ddweud iddi gael amser gwych drwy gydol y ddwy flynedd ddiwethaf, oedd yn cynnwys ei chyfnod fel Dirprwy Faer Ieuenctid. Dechreuodd taith Charlotte pan oedd ar gam gwahanol iawn o’i bywyd, yr ysgol gynradd. Roedd bob amser wedi bod yn uchelgeisiol yn academaidd, gan ymfalchïo yn y swyddi a gyflawnodd, megis prif ferch, swyddog ysgol a dod yn aelod o gyngor yr ysgol. Roedd wrth ei bodd i gael cyfle i fynychu Uwch Gyngor y Plant yn ystod Blwyddyn 6 – digwyddiad yn dod â phlant o bob rhan o’r fwrdeistref ynghyd a oedd yn ysbrydoliaeth ac, yn flaengar ac yn dysgu meddwl annibynnol. Yn y digwyddiad hwn byddai plant yn cymryd rhan mewn tasgau fel ysgrifennu, darlunio a chwarae gemau hwyliog, yr holl weithgareddau’n gysylltiedig â materion cyfoes. Bu’r gweithdy ar ddod yn gyfeillgar i’r amgylchedd yn uchafbwynt personol i Charlotte. Y llynedd, cafodd Charlotte gyfle i ymweld ag Uwch Gyngor y Plant yn rhinwedd ei swydd fel Maer Ieuenctid. Gwnaeth hyn iddi wirioneddol werthfawrogi’n llawn pa mor wych oedd y digwyddiad. O’i safbwynt gallai’n wir ddeall a gwerthfawrogi pa mor ddiddorol ac ysgogol oedd i feddyliau ifanc; sy’n esbonio pam iddi wedi ei fwynhau cymaint o’r blaen.

 

Yn haf y flwyddyn honno, roedd Charlotte wedi derbyn llythyr yn dweud y dewiswyd cerdd a ysgrifennodd yn Uwch Gyngor Plant i’w rhoi ar blac ym Mharc Bryn Bach. Roedd hyn wedi gwneud Charlotte yn falch iawn oherwydd yr oedd yn un o’r pethau mawr cyntaf iddi ei gyflawni. Roedd yr atgof am y dadorchuddio, gyda chefnogaeth ei rhieni a’i pherthnasau agos yn annwyl iawn iddi. Yn y digwyddiad hwn cafodd wedyn ei gwahodd i ddod yn aelod o Fforwm Ieuenctid Blaenau Gwent, rhywbeth a wrthododd i ddechrau. Roedd hyn oherwydd ei diffyg hyder, mae mynd i’r ysgol uwchradd yn anodd i’r rhan fwyaf o ddisgyblion, a theimlai’n bryderus ac amheus o’i gallu. Serch hynny, gyda phwysau gan lawer o ffigurau cefnogol yn ei bywyd, penderfynodd ymuno ac wrth edrych yn ôl roedd wrth ei bodd iddi newid ei phenderfyniad oherwydd y bu hyn yn sbardun i bopeth arall. Er bod Charlotte yn dal i uniaethu gyda’r ferch ofnus swil ym Mlwyddyn 7 ac yn dal i gael trafferthion gyda phryder, roedd y Fforwm wedi bod o’i help iddi oresgyn ei hofn. O’r sicrwydd a’r gefnogaeth a roddodd y Fforwm iddi, nid oedd mwyach yn ferch ofnus Blwyddyn 7 ond yn ferch 15 oed oedd yn teimlo’n hyderus wrth osod ei phryder o’r neilltu er mwyn ymdrechu at ei nod.

 

Pan aeth i’r Fforwm Ieuenctid am y tro cyntaf, roedd etholiadau ar gyfer y Maer Ieuenctid ar fin digwydd a phenderfynodd redeg am swydd ddwy flynedd fel Dirprwy Faer Ieuenctid. Er ei bod yn ansicr iawn fod ganddi gyfle ennill oherwydd diffyg profiad a diffyg perthynas gydag aelodau  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd..

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gyhoeddiadau.

 

6.

Llyfr Cofnodion – Medi 2020 – Ionawr 2021

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Medi 2020 – Ionawr 2021 i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 837 KB

Ystyried ac os credir yn addas gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 308 KB

Ystyried ac os credir yn addas gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 446 KB

Cadarnhau cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 346 KB

Cadarnhau cofnodion y Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

 

11.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 403 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 333 KB

Cadarnhau cofnodion y Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) pdf icon PDF 241 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

14.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 211 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 7 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 237 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 307 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 295 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 28 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 247 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Cymunedol a gynhaliwyd ar 13 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 237 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 235 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

21.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 277 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

22.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 238 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 5 Tachwedd 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

23.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 474 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

24.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 238 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

25.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 252 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

26.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd H. McCarthy ac ymatebwyd iddo gan yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd.

 

Cwestiwn:

 

“Er bod y Gr?p Llafur yn rhoi croeso cyffredinol i benderfyniad y Pwyllgor Gweithredol i symud ymlaen gyda Throsglwyddo Ased Cymunedol Capel y Drindod i Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo, a all yr Aelod Gweithredol roi sicrwydd y cynhelir cyfnod o ymgynghoriad cyhoeddus ystyrlon ar newidiadau yn awr i’r ddarpariaeth Llyfrgell ar draws y pedair ward?”

 

Ymateb:

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol fod Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn gweithredu’r gwasanaethau llyfrgell ac na fyddai’r gwaith a wnaed yn newid y ddarpariaeth gwasanaeth, yn wir byddai’n hybu a gwella’r gwasanaeth. Dywedwyd mai’r unig newid mawr fyddai cyflwyno Gwasanaethau Addysg Oedolion gyda’r ddarpariaeth llyfrgell. 

 

Cwestiwn Atodol:

 

Heblaw am y cynnig i symud y llyfrgell, mae’r penderfyniad yn cyd-fynd â chynnig gwreiddiol y Gr?p Llafur. Roedd yn ymddangos yn ddibwynt i symud y llyfrgell ac yn brin o ddychymyg neu arloesi ac ni fyddai’n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar nifer y defnyddwyr, tra byddai archfarchnad gymunedol yn amlwg yn gwneud hynny. A fedrai’r Aelod Gweithredol esbonio sut mae wedi cymryd 4 blynedd i gyrraedd y cam hwn, pan mai’r cyfan a wneir yw symud llyfrgell a gafodd ei adeiladu’n bwrpasol a’i adnewyddu’n llawn i leoliad arall?”

 

Ymateb:

 

Esboniodd yr Aelod Gweithredol fod hyn ymhell o ddim ond symud y llyfrgell i leoliad newydd. Mae wedi cymryd amser i sicrhau’r cyllid er mwyn cwblhau’r prosiect a gweithio mewn ymgynghoriad gydag Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo a Llywodraeth Cymru, sicrhawyd y grantiau i wneud hyn erbyn hyn. Mynegodd ei werthfawrogiad i Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a swyddogion am y gwaith sylweddol a wnaed i ddod â dau brosiect da i ffrwyth yn y ddau adeilad.

 

Aeth yr Aelod Gweithredol ymlaen drwy ddweud y byddai Capel y Drindod yn llyfrgell a hefyd yn safle cymunedol lle gellid, er enghraifft, ofyn am gyngor ariannol drwy gyfleoedd a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo. Nodwyd y byddai’r safle hefyd yn cynnwys peiriant dosbarthu arian a chynhelir dosbarthiadau celf yn y safle. Mae gan y llyfrgell, drwy Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, hefyd gyfle i gynllunio’n bwrpasol yr hyn maent ei eisiau yn y cyfleuster. Mae’n credu y byddai nifer y defnyddwyr yn cynyddu a phan gyhoeddir y cynlluniau yr wythnos nesaf, byddai’r cyfleoedd yn amlwg. Yng nghyswllt yr archfarchnad gymunedol, teimlai Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo y byddai adeilad y llyfrgell presennol yn osodiad gwell o ran mynediad a threfniadau darpariaeth.

 

Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy ddweud fod y Cyngor a’i bartneriaid wedi symud yn gyflym i gwblhau’r ddau brosiect er mwyn osgoi oedi i gynllun Capel y Drindod ac agor archfarchnad gymunedol, y mae angen mawr amdano yn yr ardal. 

 

27.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.

 

 

28.

Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys – 1 Ebrill 2020 i 30 Medi 2020 pdf icon PDF 677 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dechreuodd y Prif Swyddog Adnoddau drwy ddweud fod yr adroddiad yn rhoi manylion gweithgareddau Rheoli Trysorlys yr Awdurdod yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Oherwydd y cyfraddau llog manteisiol yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol, mae’r Awdurdod wedi ymrwymo i drefniadau dyled hirdymor o £9m gyda’r Bwrdd Benthyca Gweithiau Cyhoeddus (PWLB)/awdurdodau cyhoeddus eraill. Gwnaed y trefniadau hyn naill ai yn lle benthyciadau sy’n aeddfedu neu yn lle gwariant cyfalaf cyllid.

 

Yn gryno, er yr hinsawdd ariannol oherwydd y pandemig, mae’r awdurdod wedi perfformio’n dda yn nhermau ei weithgareddau Rheoli Trysorlys o gymharu gyda’r cyfraddau meincnod a sefydlwyd:

 

-      Nodwyd y sicrhawyd adenillion buddsoddiad o £3,000 yn y cyfnod gyda chyfradd log gyfartalog o 0.07%. Mae hyn yn uwch na’r gyfradd meincnod o -0.07% ond yn adlewyrchu’r effaith a gafodd y pandemig ar gyfradd sylfaen banciau ac yn ei dro’r cyfraddau llog marchnad a gynigir ar fuddsoddiadau.

 

-      Mae’n annhebyg y bydd y llog buddsoddiad yn y gyllideb flynyddol o £43,000 yn cael ei gyflawni, fodd bynnag mae faint o log a dalwyd hefyd wedi gostwng yn sylweddol sy’n gwrthweithio hyn yn ei gyfanrwydd.

 

-      Talwyd cyfradd log gyfartalog o 0.67% ar fenthyciadau dros dro yn erbyn meincnod o 1.00%, yn gyfanswm o £159,000 am y cyfnod o chwe mis. Y gyllideb ar gyfer y llog a dalwyd ar fenthyca tymor byr oedd £660,000 am flwyddyn lawn – roedd y llog taladwy yn y flwyddyn lawn yn debygol o fod yn rhwydd o fewn y gyllideb. Felly roedd y llog sy’n daladwy gan yr Awdurdod wedi ei ostwng gymaint ag sydd modd, ac yn dystiolaeth o berfformiad da.

 

-      Cydymffurfiwyd â’r holl Derfynau Trysorlys a Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol yn ystod y flwyddyn.

 

-      Nid oedd unrhyw sefydliad y gwnaed buddsoddiadau ynddynt yn ystod y cyfnod wedi cael unrhyw anhawster yn ad-dalu buddsoddiadau a llog yn llawn felly ni fu’r Awdurdod yn agored i unrhyw golled ariannol fel canlyniad i’r hinsawdd economaidd anodd. 

 

-      Dechreuodd y Cyfleuster Adnau Cyfrif Rheoli Dyled (DMADF) drwy gynnig cyfraddau llog negyddol o fis Medi 2020 ar fuddsoddiadau a roddir gyda nhw. Roedd hyn wedi cyfyngu’r cyfleoedd buddsoddiad ar gael i’r Awdurdod. Byddai’r Awdurdod yn parhau i fonitro cyfleoedd buddsoddi eraill, fodd bynnag roedd yn cynnig cynnydd yn y swm y gallai gadw yng nghyfrif banc yr Awdurdod o £6 miliwn i £10 miliwn i osgoi mynd dros ben y terfyn presennol. Byddai hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i’r awdurdod o ran ei lif arian.

 

Hysbyswyd aelodau fod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol wedi ystyried yr adroddiad yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr ac argymhellodd i’r Cyngor y newid arfaethedig yn y strategaeth buddsoddi.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

-      nodi’r gweithgaredd a wnaed yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2020/21 a derbyn y cofnod o’r perfformiad a’r cydymffurfiaeth a sicrhawyd yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2020/2021.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH i  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Polisi Trais Domestig, Trais a Thrais Rhywiol pdf icon PDF 582 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y gofynnir am gymeradwyaeth gan y Cyngor i fabwysiadu’r Polisi ar Gamdriniaeth Domestig, Trais a Thrais Rhywiol. Byddai’r polisi hwn yn disodli’r polisi presennol ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a byddai’r polisi a ddiwygiwyd yn weithredol i’r Cyngor a staff seiliedig mewn ysgolion.

 

Roedd nifer o newidiadau allweddol i’r polisi, gyda’r nod o sicrhau fod dulliau cefnogaeth effeithlon ac ymarferol yn eu lle ar draws yr Awdurdod i gynorthwyo dioddefwyr camdriniaeth/trais domestig. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys:

 

·         Egluro diffiniadau a deddfwriaeth allweddol.

·         Darparu hyd at 5 diwrnod o wyliau diogel ar dâl a mesurau cefnogi eraill ar gyfer dioddefwyr.

·         Manylion rôl y rheolwr, gan gefnogi unigolion drwy broblemau.

 

Roedd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar 22 Ionawr 2021 wedi ystyried y polisi diwygiedig ac wedi gwneud nifer o awgrymiadau i wella’r ddogfen, sef:

 

-      Asiantaethau cymorth – oherwydd newidiadau mewn cyllid, yn neilltuol ar gyfer y trydydd sector, cynhelir gwiriadau i ganfod os yw’r sefydliadau hyn yn dal i fod yn hyfyw.

-      Cynnwys Cymorth i Ddioddefwyr, Cyfraith Claire a’r hawl i gysylltu â’r heddlu ar y rhestr o asiantaethau cefnogi.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod yn cefnogi’r polisi newydd yn llwyr ond bod rhai unigolion wedi cysylltu ag ef yn bryderus nad oedd teitl newydd y polisi yn cynnwys y gair ‘menywod’. Aeth ymlaen drwy ddweud fod hwn yn fater hanesyddol neilltuol ar gyfer menywod ac oherwydd bod rhai menywod sy’n dioddef o’r math yma o gamdriniaeth yn ei chael yn anodd dod ymlaen, gofynnodd os gellid ystyried cynnwys yr agwedd hon o fewn y ddogfen. Byddai hyn yn sicrhau fod menywod yn ymwybodol o’r polisi a’i fod yn cyfeirio atynt hwy.

 

Gofynnodd Aelod arall fod y polisi hefyd yn adlewyrchu cymorth ar gyfer plant a theuluoedd oherwydd bod ystadegau yn awgrymu fod plant a fagwyd mewn safle cam-drin domestig yn fwy tebygol o ddod yn dramgwyddwyr yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y byddid yn cynnwys manylion asiantaethau cymorth ychwanegol o fewn y polisi a fedrai roi cymorth i deuluoedd a phlant ac ymgymerodd i gynnwys gwybodaeth yn cyfeirio at ‘fenywod’ o fewn y ddogfen polisi.

 

Mynegodd Aelod ei werthfawrogiad i Bennaeth Datblygu Sefydliadol am weithredu ar awgrymiadau y Pwyllgor Craffu.

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor hefyd ei werthfawrogiad i’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol am  ymgorffori cyfraniadau Aelodau’r Pwyllgor Craffu i’r polisi newydd a dywedodd ei fod hefyd yn cefnogi’r awgrymiadau ychwanegol a wnaed yn gynharach. Ar hynny cynigiodd y dylid cymeradwyo Opsiwn 2. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef nodi a chymeradwyo’r sylwadau a’r diwygiadau/ychwanegiadau pellach i’r Polisi Cam-drin Domestig, Trais a Thrais Rhywiol.

 

30.

Polisi Cydraddoldeb Traws pdf icon PDF 713 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Datblygu Sefydliadol.

 

Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y datblygwyd y Polisi Cydraddoldeb Traws i atodi polisïau presennol ac i roi mwy o gefnogaeth i sicrhau bod gan staff nad oedd yn uniaethu gyda’r rhywedd a ddyrannwyd iddynt adeg eu geni yr hawl i driniaeth a diogeliad cyfartal o wahaniaethu yn y gwaith, ac i sicrhau bod rheolwyr yn glir am eu rolau a chyfrifoldebau unigol am gefnogi cydweithwyr oedd yn trosiannu tra’u bod yn y gweithle.

 

Datblygwyd y polisi yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Cydnabyddiaeth Rhywedd 2004 a byddai’n weithredol i holl staff y Cyngor ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, yn cael ei argymell i gyrff llywodraethu ysgolion i gael ei fabwysiadu.

 

Roedd y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar 22 Ionawr 2021 wedi ystyried y polisi newydd ac wedi awgrymu’r diwygiad dilynol:

 

-      Newid y term LGBT am LGBTQ+ - byddai hyn yn gydnaws gyda’r terminoleg cydraddoldeb a hawliau dynol. Nodwyd fod LGBTQ+ yn sefyll am ‘lesbian, gay, bisexual, transgender, queer or questioning’.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y caiff y sefydliadau o fewn yr atodiad eu hadolygu i restru asiantaethau hyfyw yn unig. Dywedodd Aelod y byddai’n e-bostio manylion asiantaeth cymorth neilltuol drwy’r Pennaeth Datblygu Sefydliadol i’w ystyried ar gyfer ei gynnwys o fewn y polisi.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo gweithredu’r Polisi Cydraddoldeb Traws.

 

31.

Polisi Diogelwch Gwybodaeth pdf icon PDF 483 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Mae Polisi Diogelwch Gwybodaeth diwygiedig y Cyngor yn nodi’r ymagwedd a fabwysiadodd y Cyngor i ddatblygu, rheoli a gwella Diogelwch Gwybodaeth i sicrhau y caiff adnoddau gwybodaeth gwerthfawr eu diogelu’n iawn.

 

Cafodd y polisi drafft ei ddiwygio a’i ddiweddaru ac mae’n disodli nifer o bolisïau presennol y Cyngor a amlinellwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad. Byddai’r polisi yn weithredol i holl staff Blaenau Gwent, Aelodau, ysgolion, contractwyr, trydydd partïon a phob defnyddiwr awdurdodedig gyda mynediad i asedau gwybodaeth y Cyngor.

 

Mae’r polisi egwyddorion cyffredinol yn dynodi Diogelwch Gwybodaeth h.y. cyfrinachedd, integriti ac argaeledd, yn esbonio rolau a chyfrifoldebau pawb sydd â mynediad i wybodaeth y Cyngor ac yn rhoi manylion disgwyliadau’r Cyngor wrth sicrhau fod gwybodaeth yn parhau’n ddiogel. Mae hefyd yn pwysleisio fod yn rhaid rhoi adroddiad ar unwaith os torrir diogelwch.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau bod Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar 22 Ionawr 2021 yn argymell mabwysiadu’r polisi.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Polisi Diogelwch Gwybodaeth.

 

32.

Polisi Defnydd Derbyniol pdf icon PDF 485 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.

 

Nodwyd fod y Polisi Defnydd Derbyniol diwygiedig yn cysylltu’n agos iawn gyda’r eitem flaenorol, Polisi Diogelwch Gwybodaeth.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fyr am yr adroddiad a dywedodd fod y Polisi Defnydd Derbyniol a gynigir ar gyfer y Cyngor yn rhoi arweiniad a throsolwg o ddisgwyliadau’r Cyngor ar y defnydd derbyniol o systemau, adnoddau a gofodau gwaith.

 

Nodwyd y byddai’r polisi drafft yn disodli’r polisïau cyfredol y Cyngor:-

·         Defnydd derbyniol o E-bost

·         Defnydd derbyniol o’r Rhyngrwyd

 

Byddai’r polisi yn weithredol i holl staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ysgolion, gwirfoddolwyr, Aelodau, contractwyr, trydydd partïon a phob defnyddiwr awdurdodedig eraill gyda mynediad i asedau gwybodaeth y Cyngor a dynododd yr egwyddorion cyffredinol a’r mesurau rheoli gorfodol oedd eu hangen ac yn berthnasol i holl wybodaeth, dyfeisiau caledwedd a data o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

Daeth y Prif Swyddog Adnoddau i ben drwy ddweud fod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar 22 Ionawr 2021 wedi argymell mabwysiadu’r polisi.

 

Gofynnodd Aelod am iddi gael ei gwneud yn glir iawn y byddai’r holl wybodaeth a gaiff ei chadw neu a ganfyddir ar ddyfeisiau Blaenau Gwent yn agored i’w arsylwi gan yr awdurdod.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau bod yr holl staff a’r partïon y mae’r polisi yn weithredol iddynt yn cael y galedwedd angenrheidiol a’r asedau gwybodaeth i ymgymryd â’u rôl.. Er y caniateir defnydd cyfyngedig ar ddyfeisiau i staff am resymau personol, fodd bynnag, ni chaiff hyn ei annog a dylai unigolion fod yn ymwybodol fod eu defnydd o asedau gwybodaeth y Cyngor yn cael ei fonitro a’i archwilio yn rheolaidd.

 

Dywedodd Aelod fod etholwyr wedi gofyn iddo weithiau ddefnyddio ei liniadur personol i anfon negeseuon e-bost yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd ar eu rhan a dywedodd fod yn rhaid iddo barchu’r cais. Er ei fod yn deall bod yn rhaid monitro defnydd, byddai angen iddo gael ei fonitro gan swyddogion priodol. Gofynnir i’r Swyddog Monitro egluro pwy fyddai’r swyddogion priodol i fonitro negeseuon e-bost.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro), yn nhermau’r ddogfen polisi, nad yw hyn yn dynodi/enwi swyddog priodol ond mae’n amlwg y byddai’n swyddog annibynnol o swydd ddigonol uchel ac a awdurdodwyd ac a gyfarwyddwyd gan y Rheolwr Gyfarwyddwr i adolygu’r data. Caiff unrhyw archwilio a monitro ei wneud yn gyfrinachol, mewn ymgynghoriad a gyda chymorth SRS.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod y polisi yn cyfeirio at offer y Cyngor a fenthycir i Aelodau a staff. Gofynnodd am eglurdeb fod defnydd offer personol yn sicr yn fater rhwng y Cynghorydd ac unigolyn ac nad oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros hyn.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau, hyd yn oed er y gall Aelodau fod yn defnyddio dyfeisiau personol, os oes gwybodaeth sy’n ymwneud â busnes y Cyngor neu unrhyw wybodaeth bersonol yn ymwneud ag unigolion yn cael ei gadw ar y dyfeisiau hyn, mae’n gyfrifoldeb ar Aelodau i sicrhau fod yr wybodaeth hon yn parhau’n  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 358 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

-       penodi cynrychiolydd yn lle.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd wedi derbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer y swydd a chadarnhaodd y Gr?p Llafur hefyd nad oedd wedi derbyn unrhyw ddatganiadau diddordeb gan Aelodau ei Gr?p ar hyn o bryd.

 

Bwrdd Strategol SRS

-       penodi cynrychiolydd yn lle.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd J. Wilkins fel y cynrychiolydd yn lle’r Cynghorydd N. Daniels ar y Bwrdd uchod.

 

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol

-       penodi cynrychiolydd yn lle.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd J. Holt yn lle’r Cynghorydd L. Parsons ar y Pwyllgor uchod.

 

34.

Eitem(au) Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus a bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniadau dros yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

35.

Cais i Lesu Tir

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ac arhosodd yn cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.

 

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fyr am yr adroddiad a dywedodd fod y Cyngor yn ceisio cymeradwyaeth (fel Ymddiriedolwyr T? a Pharc Bedwellte) i ddefnyddio rhan o’r Parc ar sail dros dro ar gyfer gweithgaredd ar gyfer adeiladu cyfleusterau iechyd.

 

Unwaith y’u cymeradwywyd gan y Cyngor byddai hefyd gwneud cais pellach i’r Comisiwn Elusennau dan Adran 105 Deddf Elusen 2011 yn gofyn am eu caniatâd i roi prydles ar gyfer y defnydd a nodir ym mharagraff 2.5 yr adroddiad.

 

Mewn ateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd strwythur dros dro ar gyfer ystlumod ei ddarparu’n llwyr mewn cysylltiad gyda’r gweithgaredd adeiladu ac y darperir strwythur parhaol unwaith  bydd y gwaith wedi’i orffen.

 

Yng nghyswllt ffioedd cyfreithiol, nodwyd y byddai cost unrhyw ffioedd cyfreithiol i’r Cyngor yn cael ei dalu gan y sefydliad a enwir o fewn yr adroddiad.

 

Croesawodd Arweinydd y Gr?p Llafur yr adroddiad a mynegodd ei werthfawrogiad i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r tîm am y gwaith a wnaed i symud ymlaen gyda chanolfan iechyd sydd ei mawr angen yn ardal Tredegar.

 

PENDERFYNWYD, yn unfrydol yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

Mae’r Cyngor fel ymddiriedolwyr elusennol wedi penderfynu eu bod yn fodlon, ar ôl ystyried adroddiad y syrfëwr, fod y telerau y cynigiwyd y trefniad arnynt y gorau y gellid yn rhesymol eu cael ar gyfer yr elusen a chytuno ar egwyddor prydles arfaethedig ar gyfer y darn o dir a ddangosir gydag ymyl goch ar y cynllun a atodir yn Atodiad 1 am gyfnod o dair blynedd nes bod datblygu HWBC newydd Tredegar i’r sefydliad a enwir wedi dod i ben yn amodol ar:

 

i)             Y sefydliad a enwir yn talu rhent blynyddol fel y manylir yn yr adroddiad o £900.00 y flwyddyn.

 

ii)            Sicrhau cydsyniad y Comisiwn Elusennau i’r brydles, sy’n rhaid ei gael cyn cwblhau’r brydles yn gyfreithiol.

 

Bod unrhyw dderbyniad refeniw yn cael ei neilltuo ar gyfer ei ddefnyddio gan yr elusen i hybu amcanion yr Elusen a pheidio ei gronni ar gyfer ei ddefnyddio o fewn Cronfa Gyffredinol y Cyngor.

36.

Diweddariad ar Gapasiti Claddedigaethau Mynwentydd

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Golwg Strydoedd.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Tîm Golwg Strydoedd.

 

Dechreuodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol drwy ddweud fod y Pwyllgor Gweithredol a’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol wedi ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r opsiwn a ffafrir i sicrhau y cedwir capasiti claddedigaethau o 20 mlynedd ar draws y stad.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymlaen drwy amlinellu lefelau capasiti pob un o’r mynwentydd a’r materion perchnogaeth tir a amlinellir ym mharagraff 2.4.1 yr adroddiad. Nodwyd y byddai angen cydsyniad cynllunio er mwyn caffael unrhyw dir dan Orchymyn Pryniant Gorfodol ac y byddai ‘n ofynnol gael cefnogaeth gyfreithiol arbenigol i symud ymlaen gyda chaffael y tir, os oes angen.

 

Croesawodd Arweinydd y Gr?p Llafur yr adroddiad a’r gwaith a wnaed hyd yma.

 

Mewn ateb i gwestiwn am amserlenni negodi, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y caiff y trafodaethau gyda’r tirfeddianwyr a gwaith tuag at y broses Gorchymyn Pryniant Gorfodol ei wneud yn gyfochrog i sicrhau y caiff y prosiect ei gyflenwi o fewn yr amserlenni a osodwyd.

 

PENDERFYNWYD, yn unfrydol, derbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

·         Penodi cyngor cyfreithiol allanol i ddarparu’r wybodaeth gyfreithiol angenrheidiol i symud ymlaen i gaffael tir.

 

·         Cefnogi defnyddio pwerau Gorchymyn Pryniant Gorfodol i brynu’r tir fel sydd angen yn seiliedig ar y cyngor cyfreithiol a roddwyd.

 

Bod cyllid ar gael o fewn rhaglen gyfalaf y Cyngor i gefnogi costau prynu tir a gwaith seilwaith mynwentydd sydd eu hangen dros y tair blynedd nesaf 2021/22, 2022/23 a 2023/24, fel y dynodir ym mharagraff 5.2.1 yr adroddiad.

37.

Addysg – Strwythur Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Cofnodion:

Ymunodd y Cynghorydd J. Hill â’r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 12, 14 a 15 , Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Mae’r adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth y Cyngor i greu strwythur parhaol a threfniadau arweinyddiaeth ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg yn dilyn y penodiad i swydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod egwyddorion yr adroddiad wedi eu seilio ar hybu strwythur cynaliadwy sydd â’r capasiti i gefnogi a chyflenwi gwell cyfleoedd bywyd ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal ag ystyried y newidiadau i’r portffolio Addysg yn gysylltiedig gydag ychwanegu y swyddogaeth cleient Hamdden.

 

Cafodd manylion pellach y strwythur arweinyddiaeth arfaethedig eu hamlinellu ym mharagraffau 2.4, 2.6, 2.7 a 2.8 yr adroddiad ac mae’r rhain yn cynnwys rôl newydd Pennaeth Gwella Ysgolion a Chynhwysiant, a fyddai’n gweithredu fel dirprwy i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg ac a fyddai’n darparu capasiti gwella ysgolion ychwanegol. Rhoddwyd manylion swyddi Rheolwyr Gwasanaeth hefyd.

 

Yn nhermau’r ymgynghoriad, bu ymgynghoriad ffurfiol gyda’r undebau llafur a’r staff sy’n gysylltiedig yn uniongyrchol â’r trefniadau ailstrwythuro a chafodd barn ymgyngoreion eu hystyried o fewn yr adroddiad. Mae’r undeb llafur yn cefnogi’r egwyddorion strategol a amlinellir yn yr adroddiad ac mae’r staff wedi cydnabod yr angen i gryfhau’r arweinyddiaeth gyda’r Gyfarwyddiaeth Addysg ac yn llwyr gefnogol i’r strwythur a gynigir.

 

Nodwyd y cafodd yr adroddiad ei ystyried gan y Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol ac wedi mynd drwy’r broses adolygu ‘gwirio a herio’. Yn ychwanegol, cafodd y strwythur arfaethedig ei feincnodi ar drefniadau arweinyddiaeth a rheoli tebyg mewn awdurdodau cyfagos a byddai’n rhoi arbediad net o tua £88,000 dros 5 mlynedd pe cymeradwyir y strwythur arfaethedig.

 

Ar hynny, gofynnwyd am farn Aelodau (a grynhoir islaw) a chafwyd ymateb y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg/Rheolwr Gyfarwyddwr a’r Aelod Gweithredol Addysg.

 

-       Dechreuodd Arweinydd y Gr?p Llafur drwy ddweud nad oedd y sylwadau dilynol wedi eu cyfeirio at unrhyw un swyddog. Aeth ymlaen drwy ddweud fod ganddo amheuon dwfn am y strwythur arfaethedig a ymddangosai’n debyg i’r hyn oedd yn weithredol cyn 2015/16 (y flwyddyn y daeth y Cyngor allan o Fesurau Arbennig). Esboniodd fod gormod o bwyslais yn cael ei roi ar yr elfen Cyfarwyddwr Corfforaethol, pan y dylai’r ffocws allweddol fod ar ysgolion o ran dysgu ac arweinyddiaeth. Ychwanegodd fod Estyn wedi canmol y Cyngor yn flaenorol am ganolbwyntio ar faterion craidd h.y. darparu addysgu a dysgu ar gyfer plant a dywedodd fod ganddo hefyd bryderon dwfn am gynnwys y swyddogaeth cleient Hamdden fel rhan o’r portffolio Addysg.

 

Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur  ...  view the full Cofnodion text for item 37.