Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais. Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr M. Cook a J. Wilkins.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau'r Cadeirydd
Cofnodion: Cydymdeimlad
ØMynegwyd cydymdeimlad â theulu’r diweddar gyn Gynghorydd David White ar eu profedigaeth.
Safodd aelodau a swyddogion mewn distawrwydd fel arwydd o barch.
Llongyfarchiadau ØEstynnwyd llongyfarchiadau i Denis ac Audrey Osland o Abertyleri a fyddai’n dathlu eu pen-blwydd priodas Ddiemwnt ar 6 Chwefror 2020. PENDERFYNWYD anfon llythyr yn eu llongyfarch.
|
|
Llyfr Cofnodion – Tachwedd 2019 - Ionawr 2020 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2019 – Ionawr 2020 i’w ystyried.
PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 350 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2019. Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 285 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r pwyllgor arbennig o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 194 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu PDF 242 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) PDF 195 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019).
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2020. Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 659 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 234 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 226 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 326 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 288 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 9 Rhagfyr 2019.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Cyflwynwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd H. Trollope, Dirprwy Arweinydd y Gr?p Llafur ac ymatebwyd iddo gan y Cynghorydd J. Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:
Cwestiwn
“A fyddai Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad ac esbonio ei gefnogaeth dros gadw’r sefyllfa fel y mae yng nghyswllt Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol a’r Cartref a’r Coleg (lefel bresennol darpariaeth) ym mis Medi 2018 o gymharu â’i gefnogaeth ar gyfer penderfyniad y Pwyllgor Gweithredol ar Gymorth Cludiant mewn Gwasanaethau Cymdeithasol yr wythnos flaenorol”.
Ymateb
Dywedodd yr Aelod Gweithredol y credai fod gwahaniaethau sylfaenol rhwng y ddau benderfyniad hyn. Mae’n ddyletswydd statudol ar y Cyngor i ddarparu cludiant rhwng y cartref a’r ysgol, tra nad oes unrhyw ddyletswydd statudol i ddarparu Cymorth Cludiant. Dim ond os na allent gael eu diwallu gan adnoddau’r person ei hun neu adnoddau cymunedol y mae gan Gwasanaethau Cymdeithasol ddyletswydd i ddiwallu’r anghenion hynny.
Penderfyniad y Pwyllgor Gweithredol ym mis Medi 2018 oedd peidio cynyddu’r terfyn polisi presennol i’r terfynau statudol a nodir ar gyfer cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a Chludiant Rhwng y Cartref a’r Coleg. Y penderfyniad oedd peidio cytuno i ostwng y grant teithio Ôl 16 mewn camau. Gwnaed y penderfyniad hwn i sicrhau diogelwch plant a bod pob plentyn a pherson ifanc o fewn Blaenau Gwent yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ddysgu a datblygu sgiliau ar gyfer adfywio’r ardal yn y dyfodol.
Roedd gweithredu’r polisi Cludiant Cymorth wedi ei gefnogi gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a hefyd y Pwyllgor Gweithredol a’r cyfan oedd penderfyniad y Pwyllgor Gweithredol oedd codi tâl ar 11 unigolyn nad ydynt yn gymwys am gludiant am ddim ond yn methu mynd eu hunain i Opsiynau Cymunedol ac angen defnyddio cludiant y Cyngor. Cytunodd y Pwyllgor Gweithredol y dylai’r tâl hwn fod yn gyfwerth â’r gost o fynd yno mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Allan o’r 149 asesiad a gynhaliwyd, dim ond un dinesydd sydd wedi rhoi’r gorau i fynychu Opsiynau Cymunedol ac mae hyn yn adlewyrchu’r ymgynghoriad a’r datrysiadau a ganfuwyd gan y tîm ar gyfer rhai sy’n mynychu a’u gofalwyr.
Cwestiwn Atodol
“A gynhaliwyd asesiad effaith llawn gyda defnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd oherwydd ei bod yn amlwg o sylwadau yn y South Wales Argus dyddiedig 29 Ionawr 2020 fod yr unigolyn dan sylw yn teimlo wedi’i siomi ac yn cael problemau parhaus?” Ymateb
Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol bod asesiad effaith llawn wedi’i atodi gyda’r adroddiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gweithredol a hefyd y Pwyllgor Craffu sy’n rhoi sylw llawn i’r pwyntiau a godwyd.
Fodd bynnag, cynigiodd drefnu cyfarfod rhyngddo ef, yr Aelod a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ar amser cyfleus i drafod yr achos yn ymwneud â’r unigolyn.
Diolchodd y Cynghorydd Trollope i’r Aelod Gweithredol a derbyniodd y cynnig i gwrdd.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Nid oedd unrhyw gwestiynau wedi’u cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Cyllideb Refeniw 2020/2021 to 2024/2025 PDF 900 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a gyflwynwyd i Aelodau i:
ØRoi diweddariad ar y setliad llywodraeth leol darpariaethol cadarnhaol ar gyfer 2020/2021 a’r effaith ar gyllideb y Cyngor.
ØYstyried a chytuno ar y gyllideb fanwl ar gyfer 2020/2021 a’r gyllideb ddangosol ar gyfer 2021/2022.
ØCytuno ar lefel cynnydd y Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021.
Wedyn tynnwyd sylw manylach at y pwyntiau perthnasol dilynol:
Cwmpas a Chefndir:
ØMae’r Setliad Darpariaethol yn cynnwys manylion y cyllid refeniw y gallai Awdurdodau Cymru ddisgwyl eu derbyn yn 2020/2021 er mwyn iddynt osod eu cyllidebau a phenderfynu ar lefel y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn honno. Mae hefyd yn rhoi manylion y cyllid cyfalaf y gallai Awdurdodau ddisgwyl ei dderbyn i gyllido eu rhaglenni cyfalaf. Nodwyd na chafwyd ffigurau dangosol ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 a thu hwnt hyd yma.
ØMae’r setliad darpariaethol cadarnhaol ynghyd â’r cyfleoedd a ddynodir yn rhaglen Pontio’r Bwlch yn golygu y gall y Cyngor fuddsoddi mewn blaenoriaethau allweddol, osgoi toriadau i wasanaethau a chynyddu ei gydnerthedd ariannol.
Sefyllfa Genedlaethol (Cymru gyfan)
ØMae’r prif bennawd cyffredinol yn y Cyllid Allanol Cronnus (AEF) a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn 3.9%, ar ôl rhoi ystyriaeth i drosglwyddiadau i’r setliad. O gymharu gyda chynnydd cyfartalog Cymru o 4.3%, mae hyn yn rhoi Blaenau Gwent yn y traean isaf o’r tabl Cymru-gyfan.
ØBu pedwar trosglwyddiad i’r setliad fel sy’n dilyn:
· £39.112m ar gyfer y grant pensiwn athrawon · £12.018m ar gyfer y grant tâl athrawon · £1.9m ar gyfer gofal nyrsio a gyllidir gan GIG · £151k ar gyfer y Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol
Mater i bob cyngor fyddai penderfynu p’un ai i basportio y cyfan neu beth o’r cyllid hwn i’r deiliaid cyllideb perthnasol.
ØDim ond ar sail Cymru-gyfan y cafodd peth data penodol ar grantiau refeniw ei gyhoeddi yn gyfanswm o £982m, felly nid yw effaith lawn hyn yn hysbys eto ar gyfer Blaenau Gwent.
ØMae cyllid ar gyfer rhai grantiau wedi cynyddu, er enghraifft Grant Gwella Ysgolion Consortia Rhanbarthol, Gweithlu Gofal Cymdeithasol a Mynediad PDG a Grant Pwysau Cynaliadwyedd. Mae hefyd grant newydd ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol ond mae rhai grantiau wedi gostwng, er enghraifft y Grant Rheoli Gwastraff Cynaliadwy.
ØCyhoeddir manylion pellach y grantiau penodol wrth ochr y Grant Cymorth Refeniw (RSG) terfynol ar 25 Chwefror 2020.
ØByddai’r cyllid cyfalaf cyffredinol heb ei neilltuo ar gyfer 2020/2021 yn £198 miliwn (yn cynnwys £20 miliwn ar gyfer grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus), cynnydd o £15 miliwn ar yr hyn a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol y llynedd.
Sefyllfa Blaenau Gwent
ØMae’r cynnydd pennawd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar ôl caniatáu am drosglwyddiadau yn 3.9% (£4.3m) o gymharu â chynnydd Cymru gyfan o 4.3%.
ØMae manylion yr Asesiad Gwariant Safonol (SSA) – y fformiwla y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio fel sail i ddosbarthu cyllid i’w weld ym mharagraffau 2.22 – 2.24 yr adroddiad.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 450 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i:
Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan I benodi cynrychiolydd i gymryd lle y Cynghorydd Julie Holt.
Dywedodd yr Arweinydd nad oedd gan y Gr?p Annibynnol unrhyw enwebiadau cyfredol i’w cyflwyno ar gyfer y swydd wag hon a chynigiodd i’r Gr?p Llafur roi enwebiad.
Panel Cynghori Llywodraethwyr Ysgol yr Awdurdod Lleol
Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 17 Rhagfyr i benodi:
Cynghorydd D. Davies – Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr Cynghorydd P. Edwards – Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen Cynghorydd H. Trollope – Ysgol Gyfun Tredegar Ms. Sian Barrett – Ysgol Gynradd Trehelyg
Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 31 Ionawr 2020 i benodi:
Cynghorydd D. Bevan – Ysgol Gynradd Cwm
Mewn pleidlais unfrydol,
PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r apwyntiadau uchod.
Oherwydd natur y busnes a drafodir yn y cyfarfodydd hyn, dywedodd Aelod y gwnaed ceisiadau i glerc fod ar gael mewn Paneli yn y dyfodol i gadw cofnodion o’r trafodion.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor y cynhaliwyd trafodaethau gyda’r Aelod Gweithredol – Addysg ar y mater hwn ac y byddai’n cydlynu am y cais gyda’r Tîm Gwasanaethau Democrataidd.
|