Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 25ain Ionawr, 2024 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

ApoloCafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Morgan, Y.H.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatrganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Cynghorydd L. Winnett – Eitem Rhif 24 Dyfodol Silent Valley Waste Services Cyf yn dilyn trosglwyddo gwasanaethau (a chyflogeion) yn ôl i’r Cyngor.

 

Cynghorydd T. Smith - Eitem Rhif 24 Dyfodol Silent Valley Waste Services Cyf yn dilyn trosglwyddo gwasanaethau (a chyflogeion) yn ôl i’r Cyngor.

 

Cynghorydd H. Cunningham – Eitem Rhif 25 Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu Baban Newyddanedig, Rhieni a Mabwysiadu Aelodau Etholedig (Polisi Absenoldeb Teuluol).

 

4.

Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol

Derbyn y cyhoeddiadau.

 

Cofnodion:

Llongyfarchiadau

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i Charlie Caswell o Tredegar a enillodd ei gap 16 oed Cymdeithas Pêl-droed Ysgolion Cymru.

 

Cydymdeimlad

 

Adroddwyd gyda thristwch  y bu farw Brian Thomas, a fu’n Gynghorydd am gyfnod maith ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Mynegodd aelodau eu cydymdeimlad a dangos eu parch gyda munud o dawelwch.

 

Llyfr Penderfyniadau – Hydref-Rhagfyr 2023

Cafodd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Hydref-Rhagfyr 2023 ar gyfer ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penderfyniadau a chadarnhawyd eu bod yn gofnod gywir o drafodion.

 

5.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 108 KB

Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

6.

Cabinet pdf icon PDF 118 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Cabinet pdf icon PDF 86 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2024.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 88 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Craffu Cynllunio pdf icon PDF 69 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Cyfarfod Cynllunio a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2024.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad pdf icon PDF 60 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 75 KB

Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023. 

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 84 KB

Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau pdf icon PDF 83 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 75 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad pdf icon PDF 57 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

 

17.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.

 

18.

Cynnig y Cyngor – Trais yn y Gwaith pdf icon PDF 64 KB

Ystyried y Cynnig a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r cynnig a gyflwynwyd ar drais yn y gwaith.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gefnogi’r Cynnig a chytunodd y Cyngor i:

·       Ailgadarnhau ei ymrwymiad i bartneriaeth gymdeithasol ac ymgynghori a chydweithio gydag undebau llafur

·       Mabwysiadu Siarter Trais yn y Gwaith Unsain

·       Annog pob ysgol i fabwysiadu’r Siarter

·       Annog Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i fabwysiadu’r Siarter.

 

19.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 97 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Panel Ymgynghori Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol

 

Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 17 Ionawr 2024 i benodi mewn egwyddor:

 

Cymuned Ddysgu Abertyleri – Michael Lyn Davies

Cymuned Ddysgu 3-16 Canolfan yr Afon – Julie Sambrook

 

I gadarnhau’r penodiad dilynol a wnaed gan gyfarfod y panel ar 15 Tachwedd 2023:

 

Ysgol Gynradd Glyncoed – Ms. Vikki Curtis

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.

 

Pwyllgor Craffu Pobl – Cynrychiolydd Cyfetholedig y Fforwm Ieuenctid

 

PENDERFYNWYD cadarnhau penodiad Miss Chloe Lines fel Cynrychiolydd Cyfetholedig y Fforwm Ieuenctid ar y Pwyllgor Craffu Pobl (dechreuodd y penodiad ar 21 Medi 2023).

 

20.

Adroddiad Diweddaru Chwarterol Rheoli Trysorlys – Mehefin 2023 pdf icon PDF 130 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn derbyn y gweithgaredd rheoli trysorlys yn ystod 3 mis cyntaf 2023/24 heb wneud unrhyw ddiwygiadau i’r strategaethau Trysorlys a dangosyddion perfformiad a gytunwyd yn flaenorol.

 

21.

Adroddiad Blynyddol 2022/2023 y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 136 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant a gyflwynwyd ar ran y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Diogelu Data a Llywodraethiant a gyflwynwyd ar ran y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad a roddwyd i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio fel sicrwydd fod trosolwg a monitro priodol yn digwydd a derbyn unrhyw ddiffygion fod mesurau rheoli yn eu lle i wneud y gwelliannau angenrheidiol.

 

22.

Polisi Recriwtio a Dethol pdf icon PDF 149 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn cymeradwyo’r Polisi Recriwtio a Dethol ar gyfer ei weithredu.

 

23.

Cronfa’r Aelod Llywyddol – Cynigion ar gyfer Defnydd pdf icon PDF 149 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Llywyddol i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a dyrannu cyfanswm o £6,594.23 o’r Gronfa fel sy’n dilyn:

 

£1,200 ar gyfer Prosiect Murlun Celf ar y Blaen/Gorsaf Bwmpio Llanhiledd

 

£540.84 i Eglwys San Siôr Tredegar / cefnogi ymweliad i Uganda i helpu addysg plant

 

£1,200.00 i Ysgol Gynradd Deighton / Prosiect Rhandir

 

£75.00 Prosiect Mannau Lleol ar gyfer Natur (Cwmcelyn) / i ategu gwaith Bioamrywiaeth sy’n mynd rhagddo

 

£283.39 Sefydliad newydd Cwm / Cynnal a Chadw yr Adeilad

 

£500.00 Gr?p Cofeb Glowyr Tredegar / cyfraniad ar gyfer y Clwydi Coffa

 

£2,160.00 Cwmni Budd Cymunedol Nantyglo* / sefydlu gardd/gofod tyfu o amgylch Heol Attlee

 

£75.00 Cangen Abertyleri Catrawd Frenhinol Cymru – digwyddiad Coffa Dydd G?yl Dewi

 

£75.00 Clwb Bowls Llanhiledd – cynllun ehangu cyfranogiad

 

£100.00 Capel Glowyr Seion – prosiect Gardd Blodau Gwyllt

 

£75.00 Canolfan Gymunedol Aberbîg – prosiect Happi Cafe

 

£75.00 Canolfan Gymunedol Swffryd – cymorth costau byw

 

£75.00 Canolfan Gymunedol Brynithel – cymorth costau byw

 

£160.00 Rhandiroedd Rhiw Briery / cynnal a chadw cyffredinol

 

*Nid yw’r Cwmni Budd Cymunedol wedi ei sefydlu’n ffurfiol ar hyn o bryd, caiff y cyfraniad ei wneud yn dilyn ymgorfforiad ffurfiol.

 

24.

Dyfodol Silent Valley Waste Services Cyf yn dilyn Trosglwyddo Gwasanaethau (a Chyflogeion) yn ôl i’r Cyngor pdf icon PDF 160 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr L. Winnett a T. Smith fuddiant yn yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 1, sef diddymu Silent Valley Waste Services Cyf. Byddai hyn yn arwain at i’r cwmni gael ei dynnu o’r Gofrestr Cwmnïau.

 

25.

Polisi Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu Babanod Newyddanedig, Rhieni a Mabwysiadu ar gyfer Aelodau (Polisi Absenoldeb Teulu) pdf icon PDF 151 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd H. Cunningham fuddiant yn yr eitem hon.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democratiaeth i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo a chyhoeddi’r Polisi Absenoldeb Mamolaeth, Tadolaeth, Mabwysiadu Babanod Newyddanedig, Rhieni a Mabwysiadu ar gyfer Aelodau (Polisi Absenoldeb Teulu a nodir yn Atodiad 1.

 

26.

Cais i Brydlesu Clwb a Safle ym Mharc Eugene Cross, Glynebwy pdf icon PDF 144 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Stadau ac Asedau Strategol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Tîm Stadau a Rheoli Asedau i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor fel ymddiriedolwyr elusennol yn penderfynu eu bod yn fodlon, ar ôl ystyried adroddiad y syrfëwr y mae copi ohono yn Atodiad 1, fod telerau’r gwarediad y gorau y gellir eu cael yn rhesymol ar gyfer yr elusen ac yn cytuno ar egwyddor y brydles arfaethedig ar gyfer yr ardal o dir ac adeiladau a ddangosir gydag ymyl goch ar y cynllun ynghlwm yn Atodiad 1 am dymor o 35 mlynedd yn amodol ar:

 

       i.          ECPSL yn talu premiwm unwaith yn unig o £1.00.

 

      ii.          Cael caniatâd y Comisiwn Elusennol i’r brydles, sy’n rhaid ei gael cyn i’r les gael ei chwblhau’n gyfreithlon.

 

27.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniadau ar gyfer yr eithriad ar gael ar restr a gaiff ei chadw gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus a bod y wasg a’r cyhoedd yn cael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael mewn rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

28.

Llys Einion, Abertyleri

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Rhan 1, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol, 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.

 

Cynigiodd Aelod Opsiwn 3 amgen, fel y’i manylir yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2024.

 

Eiliwyd y cynnig.

 

Opsiwn 3- Hysbysu’r Landlord am fwriad y Cyngor i ddod â’r brydles i ben ar ddiwedd y brydles ar 16 Rhagfyr 2025.

 

Mewn pleidlais a gymerwyd,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad oedd yn cynnwys gwybodaeth am faterion ariannol/busnes heblaw’r Awdurdod a bod y Cyngor yn cymeradwyo Opsiwn 2, sef dechrau gadael Llys Einion o 1 Ebrill 2024 ac iddo gael ei adael yn wag nes daw’r brydles i ben ar 16 Rhagfyr 2025; a hysbysu’r Landlord am fwriad y Cyngor i ddod â’r brydles i ben ar ddiwedd y brydles erbyn 16 Rhagfyr 2025.

 

29.

Llunio Rhestr Fer – JNC CE Prif Weithredwr

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd|).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad oedd yn ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.