Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 20fed Gorffennaf, 2023 10.00 am

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

Cofnodion:

Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:

Cynghorydd H. Trollope, Cyfarwyddydd Corfforaethol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

  

Eitem Rhif 40: Silent Valley Waste Services Cyfyngedig

 

-        Cynghorwyr T. Smith a L. Winnett.

 

Eitem Rhif 46: Rhestr Fer Swyddogion JNC

Eitem Rhif 47: Pwyllgor Penodiadau – Swyddogion JNC

 

-        Cynghorydd W. Hodgins

 

Arhosodd yr Aelodau a enwir uchod yn y cyfarfod tra ystyriwyd yr eitemau busnes.

 

Eitem Rhif 45: Recriwtio

 

-        Damien McCann, Prif Weithredwr Interim

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Interim y byddai’n gadael y cyfarfod cyn i’r eitem uchod gael ei hystyried.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Cydymdeimlad

 

Mynegwyd cydymdeimlad gyda theulu’r cyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol a Maer, Graham Bartlett, ar ei farwolaeth drist.

 

Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o ddistawrwydd.

 

Nodwyd yr anfonwyd llythyr cydymdeimlad at y teulu.

 

5.

Llyfr Penderfyniadau – Chwefror-Gorffennaf 2023

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Chwefror-Gorffennaf 2023 i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r penderfyniadau.

 

6.

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor pdf icon PDF 664 KB

Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 420 KB

Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023.

 

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor pdf icon PDF 195 KB

Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Craffu Cynllunio pdf icon PDF 221 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Pwyllgor Craffu Cynllunio pdf icon PDF 233 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 192 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 192 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Craffu Cynllunio pdf icon PDF 211 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Cabinet pdf icon PDF 508 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet pdf icon PDF 115 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet pdf icon PDF 203 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Mai 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Cabinet pdf icon PDF 354 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet pdf icon PDF 326 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 359 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 371 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

21.

Pwyllgor Craffu Lle pdf icon PDF 330 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

22.

Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad pdf icon PDF 225 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

23.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 220 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

24.

Pwyllgor Craffu Partneriaethau pdf icon PDF 234 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

25.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 351 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

26.

Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad pdf icon PDF 94 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbenig o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

27.

Pwyllgor Craffu Pobl pdf icon PDF 334 KB

Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

28.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 365 KB

Cadarnhau penderfynaidau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

29.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

 

30.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

31.

Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2023/2024 y Cyngor pdf icon PDF 379 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Flaenraglen Gwaith 2023/2024 y Cyngor.

 

32.

Polisi IVF pdf icon PDF 411 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cynyddu amser bant ar dâl ar gyfer dau gylch o driniaeth IVF.

 

33.

Polisi Diogelwch Tân yn y Gwaith pdf icon PDF 489 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Polisi Diogelwch Tân yn y Gwaith ar gyfer ei weithredu.

           

34.

Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023-24 pdf icon PDF 660 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol er ystyriaeth.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno a chyhoeddi Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023-24.

 

35.

Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 414 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd er ystyriaeth.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r adroddiad ar y sail fod y Cyngor yn fodlon bod lefel ddigonol o gefnogaeth ar gyfer Aelodau Etholedig.

 

36.

Diweddariad Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol pdf icon PDF 492 KB

Ystyried adroddiad y cyd-swyddogion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y cyd Swyddogion.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn fodlon gyda’r camau gweithredu a gymerwyd hyd yma ac ni wnaed unrhyw ddiwygiadau i gamau gweithredu y dyfodol.

 

37.

Adroddiad Craffu Blynyddol 2022-23 pdf icon PDF 409 KB

Ystyried adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

       

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Annibynnol at Atodiad 1 y ddogfen yn cyfeirio at werthuso craffu, yn arbennig gwblhau’r ffurflenni gwerthuso a dywedodd fod angen i’r elfen hon o’r broses gael ei datblygu ymhellach a’i gwella.

 

Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylid gofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adolygu’r agwedd hon gyda’r nod o wella’r elfen gwerthuso craffu wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r ‘gweithgaredd craffu’ a gynhaliodd pob Pwyllgor Craffu yn ystod 2022/23 a chyhoeddi’r adroddiad ar wefan Blaenau Gwent.

 

38.

Protocol Deisebau 2023/27 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 496 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Protocol Deisebau 2023/2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

 

39.

Asesiad Effaith Integredig y Ganolfan Ddinesig pdf icon PDF 481 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at baragraff 2.9 yr adroddiad yn ymwneud â seilwaith adeilad blaenorol y Ganolfan Ddinesig a theimlai y gallai peth o’r wybodaeth yn yr adroddiad fod wedi ei phortreadu yn wahanol. Dywedodd iddo wneud cais yn flaenorol i oedi cau adeilad y Ganolfan Ddinesig gan y teimlai y gallai’r adeilad fod wedi gwasanaethau diben ar gyfer y Cyngor yn y dyfodol yn cynnwys defnydd Siambr y Cyngor a oedd yn ddigon mawr i gynnwys yr holl Aelodau, swyddogion a’r cyhoedd. Daeth yr Arweinydd i ben drwy ddweud, tra’i fod yn cefnogi’r adroddiad, a gofyn i’w sylwadau gael eu nodi  a’u cynnwys.

 

Yn dilyn trafodaeth faith lle codwyd pryderon yng nghyswllt acwsteg a phroblemau parcio o fewn ac yn y Swyddfeydd Cyffredinol, cynigiwyd ac eiliwyd:

 

Ø  Cynnal ymchwiliadau i ddynodi safle arall i gynnal cyfarfodydd y Cyngor Llawn ar hyn o bryd (nodwyd fod angen cynnig y cyfarfodydd hyn ar sail hybrid).

 

Ø  Cwblhau Asesiad Effaith Integredig llawn ar gyfer unrhyw safle arall a ddynodir.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a derbyn yr Asesiad Effaith Integredig ôl-weithredol a gafodd ei gwblhau yn unol â deddfwriaeth.

 

40.

Mabwysiadu Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2023-2028 pdf icon PDF 529 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.

 

Cynigiwyd gohirio’r adroddiad nes y cynhelir ymchwiliadau i ddynodi cyfleoedd cyllido pellach y gellid eu defnyddio i weithredu’r cynllun gwaith.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

41.

Trosglwyddo Silent Valley Waste Services yn ôl i’r Cyngor pdf icon PDF 537 KB

Ystyried adroddiad y cyd Swyddogion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr T. Smith a L. Winnett fuddiant yn yr eitem ond aros yn y cyfarfod tra’r oedd yn cael ei hystyried.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyd Swyddogion.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Wilkins y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r dilynol:

i)                 Y datganiad safle ar lwyddiant trosglwyddo Silent Valley Waste Services yn ôl i’r Cyngor a wnaed ar 1 Mai 2023 (yn cynnwys trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau ar neu ar ôl dyddiad y trosglwyddo hyd at bwynt dirwyn y Cwmni i ben).

 

ii)               O gofio’r tybiaethau a weithredir ar hyn o bryd, bod yr amcangyfrif o’r effaith uniongyrchol yn parhau i fod o fewn amlen y gyllideb a gytunwyd yn flaenorol.

 

iii)              Yr asesiad gan Silent Valley Waste Services Cyf o fuddion ariannol i’r Cyngor ers sefydlu’r Cwmni.

 

Cytunwyd ymhellach bod:

 

Ø  Gweddill darpariaeth ôl-ofal Silent Valley a’r gronfa wrth gefn elw a cholled yn cael ei defnyddio i sefydlu darpariaethau priodol/cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi o fewn y Cyngor i gefnogi ymrwymiad ariannol parhaus ôl-ofal a chynnal a chadw yn safle tomen lanw Silent Valley a rhwymedigaethau eraill.

 

Ø  Swyddogion yn parhau i edrych ar y cyngor cyfreithiol ar yr opsiwn o wneud y cwmni yn segur yn hytrach na’i ddiddymu. Byddai unrhyw gynnig i wneud y cwmni yn segur yn cael ei adrodd i’r Cyngor i gael ei ystyried a’i gytuno.

 

42.

Taliadau prydau ysgol am ddim - gwyliau'r haf pdf icon PDF 502 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg Gweithredol.

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r cyllid un-tro yn gyfanswm o tua £300,000 o’r Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol i alluogi ymestyn y taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnod gwyliau’r ysgol am y cyfnod a amlinellir ym mharagraff 2.5 yr adroddiad.

 

43.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 457 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Panel Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol

 

Cafodd yr argymhellion dilynol eu gwneud gan y Panel ar 10 Gorffennaf 2023 i benodi mewn egwyddor:

 

Ysgol Gynradd Gatholig yr Holl Seintiau – Mr Tim Baxter (yn weithredol o 1 Medi 2023)

Cymuned Ddysgu 3-16 Ebwy Fawr  – Ms. Joanne Davies

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.

 

Gweithgor Strategaeth Tai a Digartrefedd

 

PENDERFYNWYD cadarnhau sefydlu’r Gweithgor uchod a chadarnhau’r penodiadau dilynol i’r Gr?p:

Aelod Cabinet – Lle ac Amgylchedd (Cadeirydd)

Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd

Cynghorydd S. Behr

Cynghorydd W. Hodgins

 

44.

Amser Cyfarfodydd Cyngor y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol..

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau amser cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol y bydd holl gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol yn dechrau am 10.00 a.m.

 

45.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau dros y penderfyniadau am yr eithriadau ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Gadawodd y Prif Weithredwr Interim y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

46.

Recriwtio

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 15, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â gwybodaeth yn cyfeirio at unrhyw ymgynghoriadau neu negodiadau, neu ymgynghoriadau neu negodiadau a ystyrir, mewn cysylltiad gydag unrhyw faterion cysylltiadau llafur yn deillio rhwng yr Awdurdod a chyflogeion neu ddeiliaid swyddi gan yr Awdurdod a bod y sefyllfa bresennol a’r trefniadau ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr parhaol yn cael eu cadarnhau.

 

47.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.

 

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniadau a ystyrir ynddo.

 

48.

Pwyllgor Penodiadau

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.

 

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21  Mawrth 2023.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a chynnig y swydd i  Lee Williams ar gyflog yn unol â JNC 1

(£54,103 – £59,317 y flwyddyn).