Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan: Cynghorydd H. Trollope, Cyfarwyddydd Corfforaethol Addysg a Chyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd.
Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Eitem Rhif 40: Silent Valley Waste Services Cyfyngedig
- Cynghorwyr T. Smith a L. Winnett.
Eitem Rhif 46: Rhestr Fer Swyddogion JNC Eitem Rhif 47: Pwyllgor Penodiadau – Swyddogion JNC
- Cynghorydd W. Hodgins
Arhosodd yr Aelodau a enwir uchod yn y cyfarfod tra ystyriwyd yr eitemau busnes.
Eitem Rhif 45: Recriwtio
- Damien McCann, Prif Weithredwr Interim
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr Interim y byddai’n gadael y cyfarfod cyn i’r eitem uchod gael ei hystyried.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Cydymdeimlad
Mynegwyd cydymdeimlad gyda theulu’r cyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol a Maer, Graham Bartlett, ar ei farwolaeth drist.
Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o ddistawrwydd.
Nodwyd yr anfonwyd llythyr cydymdeimlad at y teulu.
|
|
Llyfr Penderfyniadau – Chwefror-Gorffennaf 2023 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Chwefror-Gorffennaf 2023 i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r penderfyniadau.
|
|
Cyfarfod Blynyddol y Cyngor PDF 664 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mai 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 420 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor PDF 195 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 221 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 233 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 192 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 192 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 211 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Gorffennaf 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 115 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 203 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 3 Mai 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 326 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 359 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 28 Chwefror 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 371 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Lle PDF 330 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 225 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 220 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Partneriaethau PDF 234 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 28 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 351 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 94 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod arbenig o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 334 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 365 KB Cadarnhau penderfynaidau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: |
|
Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2023/2024 y Cyngor PDF 379 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Democrataidd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Flaenraglen Gwaith 2023/2024 y Cyngor.
|
|
Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cynyddu amser bant ar dâl ar gyfer dau gylch o driniaeth IVF.
|
|
Polisi Diogelwch Tân yn y Gwaith PDF 489 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Polisi Diogelwch Tân yn y Gwaith ar gyfer ei weithredu.
|
|
Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023-24 PDF 660 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol er ystyriaeth.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno a chyhoeddi Atodlen Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2023-24.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd PDF 414 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd er ystyriaeth.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r adroddiad ar y sail fod y Cyngor yn fodlon bod lefel ddigonol o gefnogaeth ar gyfer Aelodau Etholedig.
|
|
Diweddariad Cynllun Gweithredu Cyngor Amrywiol PDF 492 KB Ystyried adroddiad y cyd-swyddogion.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y cyd Swyddogion.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn fodlon gyda’r camau gweithredu a gymerwyd hyd yma ac ni wnaed unrhyw ddiwygiadau i gamau gweithredu y dyfodol.
|
|
Adroddiad Craffu Blynyddol 2022-23 PDF 409 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Annibynnol at Atodiad 1 y ddogfen yn cyfeirio at werthuso craffu, yn arbennig gwblhau’r ffurflenni gwerthuso a dywedodd fod angen i’r elfen hon o’r broses gael ei datblygu ymhellach a’i gwella.
Cynigiodd Arweinydd y Cyngor y dylid gofyn i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd adolygu’r agwedd hon gyda’r nod o wella’r elfen gwerthuso craffu wrth symud ymlaen.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r ‘gweithgaredd craffu’ a gynhaliodd pob Pwyllgor Craffu yn ystod 2022/23 a chyhoeddi’r adroddiad ar wefan Blaenau Gwent.
|
|
Protocol Deisebau 2023/27 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent PDF 496 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Protocol Deisebau 2023/2027 Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
|
|
Asesiad Effaith Integredig y Ganolfan Ddinesig PDF 481 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at baragraff 2.9 yr adroddiad yn ymwneud â seilwaith adeilad blaenorol y Ganolfan Ddinesig a theimlai y gallai peth o’r wybodaeth yn yr adroddiad fod wedi ei phortreadu yn wahanol. Dywedodd iddo wneud cais yn flaenorol i oedi cau adeilad y Ganolfan Ddinesig gan y teimlai y gallai’r adeilad fod wedi gwasanaethau diben ar gyfer y Cyngor yn y dyfodol yn cynnwys defnydd Siambr y Cyngor a oedd yn ddigon mawr i gynnwys yr holl Aelodau, swyddogion a’r cyhoedd. Daeth yr Arweinydd i ben drwy ddweud, tra’i fod yn cefnogi’r adroddiad, a gofyn i’w sylwadau gael eu nodi a’u cynnwys.
Yn dilyn trafodaeth faith lle codwyd pryderon yng nghyswllt acwsteg a phroblemau parcio o fewn ac yn y Swyddfeydd Cyffredinol, cynigiwyd ac eiliwyd:
Ø Cynnal ymchwiliadau i ddynodi safle arall i gynnal cyfarfodydd y Cyngor Llawn ar hyn o bryd (nodwyd fod angen cynnig y cyfarfodydd hyn ar sail hybrid).
Ø Cwblhau Asesiad Effaith Integredig llawn ar gyfer unrhyw safle arall a ddynodir.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a derbyn yr Asesiad Effaith Integredig ôl-weithredol a gafodd ei gwblhau yn unol â deddfwriaeth.
|
|
Mabwysiadu Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd 2023-2028 PDF 529 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Tîm – Golwg Strydoedd.
Cynigiwyd gohirio’r adroddiad nes y cynhelir ymchwiliadau i ddynodi cyfleoedd cyllido pellach y gellid eu defnyddio i weithredu’r cynllun gwaith.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Trosglwyddo Silent Valley Waste Services yn ôl i’r Cyngor PDF 537 KB Ystyried adroddiad y cyd Swyddogion.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr T. Smith a L. Winnett fuddiant yn yr eitem ond aros yn y cyfarfod tra’r oedd yn cael ei hystyried.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyd Swyddogion.
Gadawodd y Cynghorydd J. Wilkins y cyfarfod ar y pwynt hwn.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r dilynol: i) Y datganiad safle ar lwyddiant trosglwyddo Silent Valley Waste Services yn ôl i’r Cyngor a wnaed ar 1 Mai 2023 (yn cynnwys trosglwyddo asedau a rhwymedigaethau ar neu ar ôl dyddiad y trosglwyddo hyd at bwynt dirwyn y Cwmni i ben).
ii) O gofio’r tybiaethau a weithredir ar hyn o bryd, bod yr amcangyfrif o’r effaith uniongyrchol yn parhau i fod o fewn amlen y gyllideb a gytunwyd yn flaenorol.
iii) Yr asesiad gan Silent Valley Waste Services Cyf o fuddion ariannol i’r Cyngor ers sefydlu’r Cwmni.
Cytunwyd ymhellach bod:
Ø Gweddill darpariaeth ôl-ofal Silent Valley a’r gronfa wrth gefn elw a cholled yn cael ei defnyddio i sefydlu darpariaethau priodol/cronfeydd wrth gefn wedi’u clustnodi o fewn y Cyngor i gefnogi ymrwymiad ariannol parhaus ôl-ofal a chynnal a chadw yn safle tomen lanw Silent Valley a rhwymedigaethau eraill.
Ø Swyddogion yn parhau i edrych ar y cyngor cyfreithiol ar yr opsiwn o wneud y cwmni yn segur yn hytrach na’i ddiddymu. Byddai unrhyw gynnig i wneud y cwmni yn segur yn cael ei adrodd i’r Cyngor i gael ei ystyried a’i gytuno.
|
|
Taliadau prydau ysgol am ddim - gwyliau'r haf PDF 502 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg Gweithredol.
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Gweithredol Addysg.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r cyllid un-tro yn gyfanswm o tua £300,000 o’r Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol i alluogi ymestyn y taliadau prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnod gwyliau’r ysgol am y cyfnod a amlinellir ym mharagraff 2.5 yr adroddiad.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 457 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Panel Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol
Cafodd yr argymhellion dilynol eu gwneud gan y Panel ar 10 Gorffennaf 2023 i benodi mewn egwyddor:
Ysgol Gynradd Gatholig yr Holl Seintiau – Mr Tim Baxter (yn weithredol o 1 Medi 2023) Cymuned Ddysgu 3-16 Ebwy Fawr – Ms. Joanne Davies PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod.
Gweithgor Strategaeth Tai a Digartrefedd
PENDERFYNWYD cadarnhau sefydlu’r Gweithgor uchod a chadarnhau’r penodiadau dilynol i’r Gr?p: Aelod Cabinet – Lle ac Amgylchedd (Cadeirydd) Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd Cynghorydd S. Behr Cynghorydd W. Hodgins
|
|
Amser Cyfarfodydd Cyngor y Dyfodol Ystyried amser cyfarfodydd y dyfodol..
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau amser cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol y bydd holl gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol yn dechrau am 10.00 a.m.
|
|
Eitemau Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau dros y penderfyniadau am yr eithriadau ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Gadawodd y Prif Weithredwr Interim y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Recriwtio Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 15, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â gwybodaeth yn cyfeirio at unrhyw ymgynghoriadau neu negodiadau, neu ymgynghoriadau neu negodiadau a ystyrir, mewn cysylltiad gydag unrhyw faterion cysylltiadau llafur yn deillio rhwng yr Awdurdod a chyflogeion neu ddeiliaid swyddi gan yr Awdurdod a bod y sefyllfa bresennol a’r trefniadau ar gyfer recriwtio Prif Weithredwr parhaol yn cael eu cadarnhau.
|
|
Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023.
Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.
Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniadau a ystyrir ynddo.
|
|
Pwyllgor Penodiadau Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried.
Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol ynghylch y prawf cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y bydd datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a chynnig y swydd i Lee Williams ar gyflog yn unol â JNC 1 (£54,103 – £59,317 y flwyddyn).
|