Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau am y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd yr ymddiheuriadau dilynol am absenoldeb:
Cynghorydd J. P. Morgan Cynghorydd H. Trollope Cynghorydd J. Morgan, Y.H.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Cydymdeimlad
- Mynegwyd cydymdeimlad gyda’r Cynghorydd John P. Morgan ar farwolaeth drist ei dad. . - Mynegwyd cydymdeimlad gyda’r Cyn Gynghorydd Gill Clark a’i theulu yn dilyn marwolaeth drist ei g?r, Roger Clark.
Gofynnodd yr Aelod Llywyddol i Aelodau a Swyddogion y Cyngor i gynnal munud o dawelwch fel arwydd o barch. .
Llongyfarchiadau
- Cafodd prosiect Gofalwyr Ifanc Teuluoedd yn Gyntaf ei ddewis ar gyfer rownd derfynol y broses feirniadu yng ngwobrau Gofal Cymdeithasol Cymru yn y categori gofalwyr di-dâl. Cynhelir y seremoni wobrwyo ar 27 Ebrill ac mae’r tîm yn falch iawn i fod yn y rownd derfynol ac yn edrych ymlaen at ddathlu eu llwyddiant yn ystod y seremoni.
- Mrs June Charles o Cwm, sy’n 87 oed ac a enillodd Wobr Gymunedol Gwobrau Menywod Ysbrydoledig y Flwyddyn yn Nh? Bedwellte. Roedd yn ddigwyddiad emosiynol iawn ac roedd Mrs Charles yn falch iawn i dderbyn y wobr.
- Mae Tîm Bowls Dan Do dros 60 Blaenau Gwent wedi cyrraedd y rownd derfynol ac yn cystadlu yn erbyn Abertawe yr wythnos nesaf.
- Enillodd Band Tref Tredegar Bencampwriaeth Cymru.
- Enillodd Band Pres Cwm Ebwy bencampwriaeth adran..
- Cyrhaeddodd Clwb Rygbi Abertyleri a Blaenau Gwent Rownd Derfynol Cwpan Adran 3 a byddant yn chwarae yn Stadiwm y Principality ar 8 Ebrill 2023.
- Mae Clwb Rygbi Nantyglo yn rownd derfynol y Cwpan Cenedlaethol yn Stadiwm y Principality.
- Cymerodd disgyblion Blwyddyn 9 Ebwy Fawr ran mewn ffug dreial yn Llys y Goron Abertawe. Roedd yr Aelod Llywyddol yn bresennol yn y digwyddiad ac er nad oedd y disgyblion yn hyderus iawn fe wnaethant gyrraedd y rownd nesaf. roedd yn gystadleuaeth ragorol ac roedd y disgyblion rhagorol.
Estynnodd yr Aelod Llywyddol longyfarchiadau i bawb ar ran y Cyngor.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 384 KB Ystyried ac, os credir yn addas, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 493 KB Ystyried ac, os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 423 KB Ystyried ac, os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 113 KB Ystyried ac, os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 121 KB Ystyried ac, os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 187 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 219 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Cabinet a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 344 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 339 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2023..
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2023.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 348 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 30 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Lle PDF 330 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 31 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 100 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Partneriaethau PDF 330 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Partneriaethau a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 353 KB Cadarnhau penderfyniadau y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Cyffredin y Cyngor – Dalen Weithredu PDF 7 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Ionawr 2023.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddi.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Cwestiwn 1
Cafwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Lee Parsons, a chafodd ei ateb gan y Cynghorydd Stephen Thomas, Arweinydd y Cyngor.
Cwestiwn:
“Mae’r contract presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dod i ben ym mis Medi 2023. A all yr Arweinydd hysbysu’r Cyngor pryd y bydd cyfarfodydd llawn wyneb i wyneb o’r Cyngor yn dechrau yn y Swyddfeydd Cyffredinol?”
Ymateb:
“Diolch am y cwestiwn, Cyng Parsons. Yn anffodus, ni fedraf ar y cam hwn, er fy mod wedi cael yr un cais gan aelodau o’r Gr?p Llafur. Byddai’n rhaid goresgyn rhai rhwystrau cyn y gallwn ddechrau cyfarfodydd wyneb i wyneb.
Yn gyntaf, fel y dywedwch, daw’r contract presennol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ar gyfer y ganolfan brechu torfol i ben ar 31 Medi 2023. Ond mae opsiwn i ymestyn am chwe mis pellach ar y pwynt hwnnw os yw’r Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn cytuno, yn dibynnu os bydd rhaglen brechu Gaeaf arall.
Yn ail, yng nghynigion diweddar y Gyllideb ar gyfer 23/24, cytunodd y ddau gr?p gwleidyddol gyda’r achos busnes oedd yn cyfeirio at arbediad o £60,000 drwy rentu ystafelloedd yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Rhan sylweddol o’r arbediad hwnnw yw tua £4,000 y mis a dderbyniwn gan y Bwrdd Iechyd. Os yw’r contract yn dod i ben, bydd yn rhaid i ni ganfod y diffyg mewn man arall.
Yn drydydd, polisi presennol y Cyngor y cytunwyd arno yng nghyfarfod 29 Medi, sef y Polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad, a benderfynodd yn unfrydol y byddai holl gyfarfodydd y Cyngor a’r Cabinet yn cael eu cynnal o bell ac y cynhelir pob cyfarfod craffu ffurfiol ar sail hybrid. Yn amlwg, os ydym yn ailddechrau cyfarfodydd wyneb i wyneb ni fyddai hynny fel oedd cyn Mawrth 2020 gan fod deddfwriaeth wedi newid yn dilyn y pandemig.
Mae darpariaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 fod angen i Gynghorau:
Darlledu cyfarfodydd yn electronig (yn weithredol o fis Mai 2022) a gwneud a chyhoeddi trefniadau i sicrhau y gellir mynychu holl gyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, Pwyllgorau, Is-bwyllgorau, a Chyd-bwyllgorau o bell (h.y. galluogi pobl heb fod yn yr un lle i fynychu’r cyfarfod) – a elwir hefyd yn ‘gyfarfodydd aml-leoliad’.
Mae Deddf Llywodraeth Leol yn dweud na all Cynghorau orfodi presenoldeb corfforol mewn cyfarfodydd.”
Cwestiynau Atodol:
“A all Arweinydd y Cyngor gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i adeiladu arena gwleidyddol ym Mlaenau Gwent yn y dyfodol”.
Ymateb:
“Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor y byddai hyn yn benderfyniad i’r Cyngor llawn ac nad oes ar hyn o bryd unrhyw benderfyniad gan y Cyngor i greu arena gwleidyddol”.
Cwestiwn 2
Cafwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Gareth A. Davies a chafodd ei ateb gan y Cynghorydd Stephen Thomas, Arweinydd y Cyngor
Cwestiwn:
“A all yr Arweinydd gadarnhau neu wrthod y straeon fod gwasanaethau bws yn cynnwys y gwasanaeth Fflecsi ym Mlaenau Gwent i ddod i ben yn fuan?”
Ymateb:
“Er eglurdeb, mae tri math o wasanaeth yn cael eu rhedeg ar hyn o bryd – llwybrau masnachol a ... view the full Cofnodion text for item 23. |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Cafwyd y cwestiwn dilynol gan Mr Phillip Edwards a chafodd ei ateb gan y Cynghorydd Stephen Thomas, Arweinydd y Cyngor:
Cwestiwn:
“Yng nghyfarfod arbennig y Cyngor ar 7 Chwefror 2022 edrychodd y Cyngor ar ganfyddiadau Swyddfa Archwilio Cymru ar y berthynas gyda Silent Valley Waste Services Cyf.
Ar ôl trafodaeth gwnaeth y Cynghorydd Stephen Thomas gynnig a gafodd ei eilio gennyf fi (fel Arweinydd y Gr?p Annibynnol Lleiafrifol) ac yn unfrydol wedi ei dderbyn gan y Cyngor llawn y dylid cynnal ymchwiliad mewnol i sicrhau na fydd y pryderon sylweddol a amlygwyd gan adroddiad Archwilio Cymru i’r berthynas rhwng Cyngor Blaenau Gwent a darparydd gwasanaethau gwastraff “byth yn digwydd eto”.
A gafodd yr ymchwiliad hyn dwedi digwydd a phwy oedd ar y panel ymchwilio?”
Ymateb:
“Cynhaliwyd yr ymchwiliad mewn dau gam:
Yn gyntaf, yn dilyn cyfarfod y Cyngor a gyda chytundeb Arweinwyr y grwpiau gwleidyddol bryd hynny, gofynnodd y cyn Reolwr Gyfarwyddwr am gyngor cyfreithiol a chyflogaeth i gynnal “Ymchwiliad rhagarweiniol i benderfynu os yw yn briodol yng nghyswllt y cyflogeion cyfredol o’r Cyngor a enwir yn Adroddiad Buddiant Cyhoeddus Archwilio Cymru (a gyhoeddwyd 27 Ionawr 2022), mae’n briodol cymryd camau dan unrhyw un o bolisïau a gweithdrefnau cyflogaeth y Cyngor”.
Ar ôl ystyried y cyngor cyfreithiol, symudodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ar y pryd y mater gyda’r Swyddog Monitro a’r Adran Datblygu Sefydliadol (Adnoddau Dynol).
Cafodd canlyniad a gytunwyd ar y cyd wedyn ei rannu gyda Archwilio Cymru na wnaeth unrhyw wrthwynebiad i’r camau gweithredu a ddefnyddiwyd.
Yn ail, argymhelliad arall yr Archwilydd Cyffredinol oedd adolygu trefniadau llywodraethiant a throsolwg y Cyngor gyda chwmnïau eraill y mae gennym fuddiant perchnogaeth iddynt.
Fel canlyniad i’r argymhelliad hwn, cafodd adolygiad ei gwblhau o drefniadau llywodraethiant a throsolwg o Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, Gwasanaeth Cyflawni Addysgol Gwent, Archifau Gwent a dylid gorffen yr un terfynol ar Amlosgfa Gwent erbyn diwedd Mawrth 2023. Pan fydd wedi ei gwblhau, daw adroddiad drwy’r prosesau democrataidd yn yr ychydig fisoedd nesaf i roi sicrwydd manwl i Aelodau a’r cyhoedd ar lywodraethiant a throsolwg presennol y sefydliadau hyn.
Cwestiwn Atodol:
“Yn deillio o’r Adroddiad ar Silent Valley a gyflwynwyd ar 7 Chwefror 2022 codwyd problem yng nghyswllt ymddeoliad hyblyg swyddogion a gytunwyd yng nghyswllt ymddeoliad hyblyg swyddogion a gytunwyd mewn cyfarfod blaenorol o’r Cyngor yn 2018. Rwy’n credu fod hyn yn wybodaeth hanfodol i’r adroddiad ac y dylai Aelodau fod wedi cael eu hysbysu. Ni wnaeth y cyn Gyfarwyddwr Rheoli erioed ddatgan os y cafodd yr wybodaeth ei thrafod gyda’r Arweinyddiaeth a’r Aelodau Gweithredol cyn cyfarfod y Cyngor. Felly gofynnaf os y gallai’r Cyngor ysgrifennu at y Rheolwr Gyfarwyddwr i gadarnhau os y cafodd y cyn Reolwr Gyfarwyddwr i gadarnhau os cafodd yr wybodaeth hon ei harwain gyda’r Arweinyddiaeth a’r Aelodau Gweithredol ar y pryd.
Ymateb:
“Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd ef yn yr Arweinyddiaeth nac yn Aelod Gweithredol ar y pryd ac na fyddai’n gwybod am unrhyw drafodaethau a fu”.
Ychwanegodd Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y byddai angen ystyried y cais ac felly y rhoddir ... view the full Cofnodion text for item 24. |
|
Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys – 1 Ebrill 2022 i 30 Medi 2022 PDF 586 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r gweithgaredd rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod 6 mis cyntaf 2022/2023 a derbyn y cofnod o berfformiad a chydymffurfiaeth yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2022/2023.
|
|
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac Opsiwn 1, sef ystyried Datganiad y Strategaeth Trysorlys Blynyddol a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol a’r Datganiad Polisi MRP ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 a’r Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir ynddynt (Atodiad A) a’r diwygiadau arfaethedig cyn eu cymeradwyo.
|
|
Strategaeth Cyfalaf 2023/2024 PDF 416 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y Strategaeth Gyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.
|
|
Ffioedd a Chostau Corfforaethol 2023/2024 PDF 509 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:
- cymeradwyo’r ffioedd a chostau ar gyfer 2023/2024 ar gyfer Rheoli Stadau ac Asedau Strategol a roddir yn Atodiad 1 a chostau llogi ystafelloedd ar gyfer y Swyddfeydd Cyffredinol yn Atodiad 2; a
- diwygio ffi yn cyfeirio at Gwasanaethau Gwastraff o £574,93 y chwarter i £543.66 y chwarter ar gyfer 2023/2024 (paragraff 5.1.4) ynghyd â’r ffioedd a ailddatganwyd yn cyfeirio at gasglu Gwastraff Swmpus a gynhwysir yn Atodiad 1.
|
|
Cynllun Dewisol Costau Byw – Cynigion Atodol PDF 390 KB Ystyriedadroddiad y Prif Swyddog Adnoddau Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y diwygiadau arfaethedig i Gynllun Costau Byw Dewisol Blaenau Gwent.
|
|
Datganiad Polisi Cyflogau 2023/2024 PDF 421 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygiad Sefydliadol i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo opsiwn 1 sef cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2023/2024.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2023 Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Cymru PDF 617 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol 2023/24 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd PDF 411 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau. Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad ar y sail fod lefel ddigonol o gefnogaeth i Aelodau Etholedig.
|
|
Cyfres y Cyngor o Bolisïau Datblygu Aelodau PDF 590 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef y gyfres o bolisïau fel y nodir yn yr atodiadau:
· Strategaeth Datblygu Aelodau 2022-2027 (atodiad 1). · Fframwaith Mentora Aelodau 2022-2017 (atodiad 2). · Adolygiad Datblygu Personol Aelodau Etholedig a Fframwaith Cymhwysedd 2022 (atodiad 3).
|
|
Cyflawni Gofynion Penodol Deddf Cydraddoldeb 2010: Adroddiadau Blynyddol ac Asesu Effaith PDF 499 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau ar gyfer ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad ac:
· Adroddiadau Blynyddol – nodwyd y cynnydd a wnaed yn erbyn amcanion Cydraddoldeb y Cyngor. · Asesu Effaith – nodi proses newydd Asesu Effaith a chynnull Sesiwn Wybodaeth i Aelodau ar gyfer pob Aelod Etholedig i gynnwys y ddyletswydd benodol ar gyfer asesu effaith i gynnwys y broses, enghreifftiau o’i defnydd a’i rôl mewn gwneud penderfyniadau.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau PDF 408 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chydymffurfiaeth/Swyddog Monitro.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:
· Cadarnhawyd y cafodd y ddyletswydd statudol a osodir gan y Ddeddf ei chyflawni.
· Cymeradwyo newid enw’r Pwyllgor Safonau i’r “Pwyllgor Moeseg a Safonau”.
|
|
Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol yr Aelod Llywyddol: Mehefin 2022 – Mawrth 2023 PDF 476 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i Adroddiad Gweithgareddau Blynyddol yr Aelod Llywyddol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r gweithgareddau a digwyddiadau a fynychwyd gan yr Aelod Llywyddol ar gyfer y cyfnod Mehefin 2022 – Mawrth 2023.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 457 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r dilynol:-
Panel Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol Gwnaeth y Panel yr argymhellion dilynol ar 17 Mawrth i benodi mewn egwyddor: - Ysgol Gynradd Glyncoed– Cynghorydd Chris Smith - Ysgol Gyfun Gwynllyw – Cynghorydd Sue Edmunds - Ysgol Gymraeg Bro Helyg – Ms. Tracy Dyson - Cymuned Ddysgu 3-16 Abertyleri – Mr. Matthew Fowler
Felly PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r apwyntiadau uchod.
Gr?p Cyfeirio Rhanddeiliaid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Nodwyd y gwnaed penderfyniad i ddod â’r Gr?p Cyfeirio Rhanddeiliaid yn ei ffurf bresennol i ben tra bod Cadeirydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu ac yn ailddylunio rôl a chyfansoddiad y Gr?p gan sicrhau ei fod yn addas i’r diben ac yn hollol effeithol.
Byddai’r Bwrdd Iechyd yn ystyried cynnig ar gyfer ail-sefydlu’r Gr?p a gallai’r Bwrdd wedyn cadarnhau gofynion aelodaeth y Gr?p ar gyfer y dyfodol.
Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin – Panel Cist Gymunedol
GAVO – Gwobrau Ymfalchïo yn eich cymuned Gwent
Nodwyd fod y grwpiau uchod wedi dod i ben.
|