Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
Cynghorwyr M. Cross, D. Davies, J. Holt, J. Wilkins a Mara Moruz, Maer Ieuenctid.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd
Cofnodion: |
|
Chloe Lines – Maer Ieuenctid sy’n Gadael y Swydd Derbyn trosolwg gan Chloe Lines, Maer Ieuenctid sy’n gadael y swydd a ei thaith ddemocratiaeth.
Cofnodion: Estynnodd yr Aelod Llywyddol groeso i’r cyfarfod i Chloe Lines, y Maer Ieuenctid sy’n gadael y swydd.
Wedyn rhoddodd Chloe drosolwg o’i taith ddemocrataidd hyd yma. Prif flaenoriaeth Chloe yn ystod ei chyfnod yn y swydd oedd codi ymwybyddiaeth o fwlio a dangoswyd ei ffilm ymgyrch i’r Cyngor. Nodwyd fod y ffilm ar gael i’w gweld ar wefan y Cyngor a chafodd ei rhannu gyda phob ysgol.
Cafodd Chloe ei chanmol gan Aelodau am ei thaith wirioneddol ysbrydoledig ac ar gynhyrchu ffilm mor wych a grymus ac estynnwyd eu dymuniadau gorau iddi ar gyfer y dyfodol.
Cafodd y Maer Ieuenctid newydd, Mara Moruz a’r Dirprwy Faer Ieuenctid, Chloe Simmonds hefyd eu croesawu a’u llongyfarch ar eu hetholiad llwyddiannus a mynegwyd dymuniadau gorau ar gyfer eu blwyddyn yn y swydd.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Llongyfarchiadau
Mynegwyd llongyfarchiadau i:
Ø Riley Powell sy’n 14 oed, disgybl blwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Tredegar a fyddai’n chwarae yn erbyn detholyn rhif 8 y byd, Kyren Wilson yn y gêm Shoot Out Snooker a ddarlledir y diwrnod hwnnw.
PENDERFYNWYD anfon llythyr i longyfarch Riley.
Cydymdeimlad
Ø Mynegwyd cydymdeimlad â Steve Smith, Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau ar farwolaeth drist ei dad.
Ø Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Holocost ar 27 Ionawr 2023 a fyddai’n cofio’r rhai a gollodd ac a roddodd eu bywydau yn ystod yr holocost.
Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.
|
|
LLYFR PENDERFYNIADAU HYDREF 2022 – IONAWR 2023 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Hydref 2022 – Ionawr 2023 i’w ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penderfyniadau a chawsant eu cadarnhau.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 238 KB Ystyrier ac os credir yn briodol, gadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 235 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 208 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 182 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 187 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Strategol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2023.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2022..
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 338 KB Cadarnhau penderfyniadau y Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 197 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Lle PDF 333 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 111 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Lle PDF 247 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Lle a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 106 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Cyffredin y Cyngor – Dalen Weithredu PDF 325 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: |
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw cwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.
Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y rhoddir manylion yn y Cyfansoddiad ar y drefn ar gyfer cyflwyno cwestiynau cyhoeddus. Fodd bynnag, ar gyfer dibenion bod yn agored a thryloyw, byddid yn ymchwilio ffyrdd i roi sylw i’r wybodaeth mewn ffurf gliriach ar y wefan mewn cysylltiad gyda Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Amserlen Ddiwygiedig Cytundeb Cyflenwi Cynllun Datblygu Lleol PDF 805 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol..
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig a’r amserlen ar gyfer paratoi y Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
|
|
Penodiad Pwyllgor Safonau PDF 390 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo penodi Miss Jennifer White i’r Pwyllgor Safonau ac yn ychwanegol i gymeradwyo Ms Sarah Manuel fel ymgeisydd wrth gefn i lanw pe byddai lle yn dod yn wag.
|
|
Rhyddid y Fwrdeistref Derbyn adroddiad llafar.
Cofnodion: Dechreuodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud y soniwyd ac y nodwyd yn flaenorol mai 27 Ionawr yw Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Holocost sy’n nodi’r dyddiad y cafodd Auschwitz-Birkenau, un o’r gwersylloedd marwolaeth mwyaf, ei ryddhau.
Yn anffodus, mae cynnydd mewn troseddau casineb hiliol a dangosodd ystadegau’r Swyddfa Gartref y bu cynnydd amlwg o 19% yn y troseddau hyn rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mawrth 2021 ac felly mae angen gweithredu i wrthweithio hyn.
Mae Eva Clarke, a oroesodd yr holocost, wedi ymroi a threulio llawer o’i bywyd yn lledaenu neges gobaith yn y tywyllwch ac amlinellu stori erchyll yr holocost i’r hen a’r ifanc. Mae Eva wedi ymweld â Blaenau Gwent nifer fawr o weithiau i gyflwyno’r neges hon i Aelodau, y cyhoedd a phlant. I gydnabod y gwaith gwych hwn ac anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad Eva, cynigiodd yr Arweinydd ddyfarnu Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent iddi.
Wrth wneud hynny, dywedodd yr Arweinydd y byddai hyn yn anfon neges gan y Cyngor nad oes gan hiliaeth a gwahaniaethu hiliol unrhyw le yn y gymuned ac y byddid yn ymladd yn erbyn lle bynnag y byddai’n ymddangos.
I gloi, cofnododd Arweinydd y Cyngor ei werthfawrogiad i Dave Rees ac Unsain am eu help wrth roi sylw cyson i’r mater hwn ac am eu cefnogaeth barhaus mewn digwyddiadau.
Canmolodd Aelodau eraill y cynnig a’i eilio i ddyfarnu Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i Eva Clarke.
Felly PENDERFYNWYD yn unfrydol i gyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i Eva Clarke.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 461 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion:
PANEL YMGYNGHOROL AR GYFER LLYWODRAETHWYR YR AWDURDOD LLEOL
Gwnaeth y panel yr argymhellion dilynol ar 19 Ionawr 2023 i benodi mewn egwyddor: - Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm– Helen Langley - Ysgol Gynradd Coed-y-Garn– Cynghorydd Sonia Behr - Cymuned Ddysgu 3-18 Ebwy Fawr -– Cynghorydd George Humphreys - Ysgol Gynradd Sant Illtyd – Keri Jones - Ysgol Gynradd Sofrydd – Keri Jones
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau dilynol.
CYNGHORAU IECHYD CYMUNED
Nodwyd dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac ymgysylltu) (Cymru) 2020 (“Deddf 2020” y byddai Corff Llais y Dinesydd yn cymryd lle Cynghorau Iechyd Cymuned ac y cânt eu lansio ar 1 Ebrill 2023. Felly, byddai penodiadau Aelodau yn dod i ben pan gaiff y Cynghorau Iechyd Cymuned yn dod i ben, a rhagwelir y bydd hynny’n digwydd ar 1 Ebrill 2023 ac y cynigid cyfle i Aelodau i wirfoddoli ar gyfer y Corff Llais y Dinesydd (er na fyddent yn ffurfio rhan o gyfansoddiad Bwrdd Corff Llais y Dinesydd).
FFORWM GWLEDIG CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU - penodi Aelod ar y Fforwm uchod.
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Chris Smith i gynrychioli’r Cyngor ar Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
HYRWYDDWR LLESIANT
- penodi Hyrwyddwr Llesiant.
PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Jacqueline Thomas yn Hyrwyddwr Llesiant y Cyngor.
|