Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:
Cynghorwyr E. Jones, D. Rowberry, G. Thomas, J. Wilkins, D. Woods, Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Democrataidd, Llywodraethiant a Phartneriaethau.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.
Cofnodion: Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Llongyfarchiadau
Estynnwyd llongyfarchiadau i Grace Bayton o Llanhiledd ar gymhwyso fel Cyfrifydd Siartredig yn 20 oed, y person ifanc yn y byd i gymhwyso.
Nodwyd yr anfonwyd llythyr at Grace yn ei llongyfarch ar ran y Cyngor.
Cydymdeimlad
Mynegwyd cydymdeimlad gyda Steph Hopkins, Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu ar farwolaeth drist ei mam.
Dangosodd Aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch. |
|
Llyfr Penderfyniadau Medi – Tachwedd 2022 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Penderfyniadau ar gyfer y cyfnod Medi – Tachwedd 2022 i’w ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo a chadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 401 KB Ystyried, ac os credir yn briodol, gadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor PDF 213 KB Ystyried ac os credir yn briodol, gadarnhau penderfynaidau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 195 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 22 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 197 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 22 Medi 2022. Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 202 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol PDF 189 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 205 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gweithrediaeth PDF 396 KB Cadarnhau penderfyniadau’r Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022. Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau penderfyniadau cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cabinet PDF 189 KB Ystyried penderfyniadau’r cyfarfod arbennig o’r Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 357 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 206 KB Cadarnhau penderfynaidau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Lleoedd PDF 330 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Lleoedd a gynhaliwyd ar 20 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 340 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 21 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad PDF 112 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad a gynhaliwyd ar 23 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Pobl PDF 333 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Pobl a gynhaliwyd ar 30 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Partneriaethau PDF 256 KB Cadarnhau penderfyniadau’r cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Partneriaeth a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 244 KB Cadarnhau penderfyniadau y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Cyffredin y Cyngor – Dalen Weithredu PDF 10 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor – Dalen Weithredu PDF 248 KB Derbyn y Ddalen Weithredu.
Cofnodion: Cyflwynwyd y Ddalen Weithredu yn deillio o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Hydref 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Ystyried adroddiad y cyd Swyddogion.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd gan Swyddogion.
Yn dilyn trafodaeth cynigiodd Arweinydd y Cyngor gymeradwyo Opsiwn 2 a bod y sylwadau dilynol yn ffurfio rhan o ymateb yr ymgynghoriad i’w anfon ymlaen at Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sef
Oherwydd yr argyfwng ariannol a chostau byw presennol, nid yw’r Cyngor yn cytuno y dylid cyfeirio’r cyflog sylfaenol na’r cynnydd a gynigir i elfennau rôl Bandiau 1 a 2 at ddata ASHE 2021. Teimlai’r Cyngor y dylai pob penderfyniad rôl ar gyfer 2022 i 2023 barhau fel oeddent.
Felly PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef y cafodd pob un o’r penderfyniadau a gynhwysir yn nrafft adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2023/2024 a amlygir ym mharagraffau 6.1.1 i 6.1.6 eu hystyried ac y cyflwynir y sylwadau uchod yn ymwneud â’r penderfyniadau uchod i’r Panel fel rhan o’r broses ymgynghori a fyddai’n dod i ben ar 1 Rhagfyr 2022.
|
|
Adroddiad Adolygu Blynyddol Rheoli Trysorlys 1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022 PDF 588 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Diolchwyd i swyddogion y tîm am eu gwaith mewn amgylchiadau ariannol anodd.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 a derbyn cofnod perfformiad a chydymffurfiaeth a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn.
|
|
Polisi Gyrru yn y Gwaith PDF 415 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.
Dywedodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol y gofynnir am gyngor gan gydweithiwr yng nghyswllt gwirio a monitro dogfennau Aelodau. Yn ychwanegol, anfonir cyfathrebiad corfforaethol at yr holl staff a rheolwyr yn gofyn am raeadru manylion y polisi i’r gweithlu. Nodwyd y caiff mesurau diogelwch o fewn cerbydau eu cynnwys fel rhan o’r wybodaeth.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cefnogi cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwch a chymeradwyo gweithredu’r Polisi Gyrru yn y Gwaith.
|
|
Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd a Gorfodaeth Amgylcheddol – Polisi Gorfodaeth Diwygiedig PDF 492 KB Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Diogelu’r Cyhoedd.
Diolchodd yr Aelodau i’r Hyrwyddwyr Sbwriel am eu gwaith gwirfoddol gwerthfawr tu hwnt, yn casglu sbwriel o fewn eu hardaloedd ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd yr Aelod Llywyddol y caiff yr Hyrwyddwr Sbwriel gwirfoddol eu cydnabod am eu gwaith mewn cyfarfod gyda swyddogion yn y Swyddfeydd Cyffredinol a drefnir maes o law.
Mewn ymateb i sylw am gyhoeddi erlyniadau, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cynhelir ymchwiliadau i’r wybodaeth a gyfathrebir drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor .
Gadawodd y Cynghorydd G. A. Davies y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Dilynodd trafodaeth faith pan ymatebodd yr Aelod Cabinet Lle ac Amgylchedd i gwestiynau ac egluro pwyntiau a godwyd. Mynegodd ei diolch i’r swyddogion a fu’n ymwneud â datblygu’r polisi a’r holl dîm am eu holl waith ar sail ddyddiol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo mabwysiadu Polisi Diogelu’r Cyhoedd a Gorfodaeth Amgylcheddol.
Caiff y Polisi ei adolygu’n ffurfiol bob pum mlynedd i’w gymeradwyo gan y Cyngor, neu’n gynharach os credir fod angen.
|
|
Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef mabwysiadu’r cynigion ar gyfer datblygu’r trefniadau llywodraethiant ar gyfer Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru wrth iddo ddod yn gyfrifol am Maethu Cymru.
Cadarnhawyd cefnogaeth ar gyfer y Cytundeb cyd Bwyllgor ar gyfer y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol a llofnodwyd y cytundeb.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 356 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i: PANEL YMGYNGHOROL AR GYFER LLYWODRAETHWYR AWDURDOD LLEOl Nodwyd y cafodd y cyfarfod o’r Panel Ymgynghorol a drefnwyd ar gyfer 22 Tachwedd 2022 ei ohirio ac y caiff ei ail-drefnu maes o law. PWYLLGOR CRAFFU BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWENT Penodi’r Cynghorwyr Tommy Smith ac Ellen Jones i Bwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
BWRDD PARTNERIAETH YSGOLION DIOGELACH
Penodi’r Cynghorydd Tommy Smith i’r Bwrdd Partneriaeth Ysgolion Diogelach.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
|
|
Eitemau Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Gadawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Pwyllgor Penodiadau Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022.
Cofnodion:
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad yn ymwneud â materion staffio a bod y swydd yn cael ei chynnig i Eleanor Fry ar gyflog yn unol â JNC CO (£83,481 - £91,826 y flwyddyn).
|