Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na chafwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan: Cynghorwyr G. A. Davies a J. Holt.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a gafwyd. Cofnodion: Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:
Eitem 3: Cynllun Dewisol Costau Byw Cynghorwyr K. Chaplin, W. Hodgins, H. Trollope
Eitem Rhif 19: Adroddiad Blynyddol 2021/22 Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cynghorydd W. Hodgins
|
|
Cyhoeddiadau’r Aelod Llywyddol Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Cydymdeimlad
- Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II a fu farw ddydd Iau 8 Medi. Roedd Ei Mawrhydi wedi esgyn i’r orsedd yn 1952 ac wedi gwasanaethu am dros 70 mlynedd – teyrnasiad hiraf unrhyw frenin neu frenhines ym Mhrydain a’r hiraf mewn hanes ar gyfer unrhyw fenyw yn bennaeth gwladwriaeth.
Mynegwyd cydymdeimlad gyda theuluoedd: - Cyn Gynghorydd a Maer y Fwrdeistref Sirol, Keith Barnes, a fu farw ar 12 Awst gwta 25 diwrnod ar ôl ei wraig Val. Roedd Keith wedi cynrychioli Ward Cwm am dros 30 mlynedd yn ystod ei gyfnod fel Cynghorydd.
- Mr Jeff Wheeler, cyn aelod o staff y Cyngor, a fu farw yn ddiweddar.
Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o ddistawrwydd.
Nodwyd yr anfonwyd llythyrau priodol o gydymdeimlad.
Llongyfarchiadau
Estynnwyd llongyfarchiadau i:
Ø Charlotte Carey ar ennill medal efydd yn y dyblau tenis bwrdd gyda’i phartner Anna Hursey yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham.
Hon oedd y fedal tennis bwrdd gyntaf i fenyw o Gymru ei hennill yng Ngemau’r Gymanwlad.
Ø Owain Dando a Jonathan Tomlinson ar ennill medal efydd yn nigwyddiad bowls trebl y dynion gyda’i bartner tîm Ross Owen yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham.
Anfonwyd llythyrau priodol at bob enillydd medal.
|
|
Llyfr Cofnodion – Gorffennaf-Medi 2022 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Gorffennaf-Medi 2022 i gael ei ystyried.
Nodwyd mai dim ond penderfyniadau cyfarfodydd fyddai’n cael eu hadrodd o hyn ymlaen ac nid y cofnodion llawn fel mewn blynyddoedd blaenorol.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 360 KB Ystyried ac os credir yn addas gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Gorffennaf 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 225 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Cynllunio PDF 211 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gweithrediaeth PDF 356 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithrediaeth a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 256 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2022..
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 339 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2022.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan aelodau o’r cyhoedd.
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Cynnig – Datgarboneiddio Cronfeydd Pensiwn Cymru PDF 354 KB Ystyried y cynnig a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r cynnig yn ymwneud â datgarboneiddio cronfeydd pensiwn Cymru
PENDERFYNWYD yn unfrydol y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol eraill a rhannau eraill o’r sector cyhoeddus i ddatblygu strategaeth ar y cyd ar gyfer datgarboneiddio’r buddsoddiadau a wnaed gan eu cronfeydd pensiwn ac ailgyfeirio’r buddsoddiad hwnnw i brosiectau seiliedig yng Nghymru sy’n datgarboneiddio defnydd ynni a hefyd gynhyrchu ynni.
|
|
Ystyried y Cynnig a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i’r cynnig uchod.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD, er mwyn cydnabod ymroddiad a gwaith caled gweithwyr cyflogedig yn Datblygu Gweithlu, Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg, i ddyrannu taliad unigol o £735 o Gyllideb Gorfforaethol y Cyngor i’r gweithwyr a gollodd mas ar y cynllun a rhoi iawn am yr anghyfiawnder yr oeddent wedi ei ddioddef.
|
|
Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2022-23 y Cyngor PDF 380 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Democrataidd.
Nodwyd fod y Flaenraglen Gwaith yn ddogfen sy’n newid ac yr ychwanegir ati dros gyfnod. Yng nghyswllt pryder a godwyd na chynhwyswyd eitem yn ymwneud â’r rhwydwaith Priffyrdd, er bod cyllideb refeniw ar gael ar gyfer 2022/23 i wneud atgyweiriadau o ddydd, nad oedd arian grant cyfalaf ar gael ar hyn o bryd a fyddai’n caniatáu buddsoddiad ychwanegol yn y rhwydwaith ffyrdd. Fodd bynnag, pe byddai cyfleoedd cyllid yn dod ar gael neu gyllid arall yn cael ei ddynodi, gallai’r Cyngor benderfynu sut y dylid rhoi blaenoriaeth i hynny a’i wario. Os nad oes mwy o gyfleoedd cyllid ar gael, cynhelir trafodaethau gydag Aelodau yn ymwneud â blaenoriaethau unwaith y bydd canlyniad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn hysbys ym mis Rhagfyr.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Flaenraglen Gwaith 2022/23 y Cyngor.
|
|
Polisi Cyfarfod Aml-leoliad PDF 631 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gadawodd y Cynghorydd D. Rowberry y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.
Roedd hwn yn bolisi fyddai’n newid ac a gaiff ei addasu wrth i’r Cyngor symud ymlaen a chaiff ei fonitro gan Aelodau bob hyn a hyn.
Yn dilyn trafodaeth, cytunwyd bod hysbysiadau cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi yn yr Hybiau Cymunedol ac adeilad y Swyddfeydd Cyffredinol er mwyn rhoi gwybod i bobl heb ddarpariaeth technoleg gwybodaeth am y cyfarfodydd sydd ar y gweill. Yn ychwanegol, yn nhermau hunaniaeth gan mai adeilad y Swyddfa Gyffredinol yw bellach yr Hyb Democrataidd, byddid yn ymchwilio mater arwyddion ond ni fyddai hyn yn ffurfio rhan o’r polisi hwn.
Nodwyd er nad oedd y system hybrid yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, y gallai Aelodau ddal fynychu cyfarfodydd yn y Swyddfeydd Cyffredinol er drwy Microsoft Teams ar hyn o bryd nes y dynodir datrysiad.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r polisi Cyfarfodydd Aml-leoliad a’i ddefnyddio i gefnogi pob cyfarfod democrataidd a sesiynau aelodau yn y dyfodol.
|
|
Cynllun Dewisol Costau Byw PDF 586 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr K. Chaplin, W. Hodgins a H. Trollope fuddiant yn yr eitem hon ond fe wnaethant aros yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei thrafod.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
Dywedwyd fod y Pwyllgor Craffu Corfforaethol a Pherfformiad yn ei gyfarfod ar 23 Medi 2022 wedi cynnig newid bach i’r argymhelliad, sef darparu £30,000 i Fanc Bwyd Blaenau Gwent fel y prif dderbynnydd a sefydlu cronfa ddewisol o £70,000 i alluogi grwpiau/sefydliadau dosbarthu bwyd lleol eraill i wneud cais i’r Cyngor am gyllid i gynorthwyo gyda chyflawni gwaith yn eu cymunedau eu hunain. Cytunodd y Pwyllgor i’r cynnig i ddarparu £50,000 i Gyngor ar Bopeth i alluogi adnoddau ychwanegol i gefnogi cyngor ariannol/dyled i unigolion ar draws Blaenau Gwent.
Cymeradwyodd Arweinydd y Cyngor y dylid cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Craffu.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chytuno ar y newid a awgrymir uchod i’r Cynllun Dewisol Costau Byw (Opsiwn 2).
Mynegwyd gwerthfawrogiad gwresog i’r holl bobl hynny yn y gymuned, cyn ac aelodau presennol y cyngor oedd wedi cynorthwyo’r banciau bwyd yn neilltuol yn ystod y pandemig.
|
|
Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2021/2022 PDF 496 KB Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei thrafod.
Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Interim Gwasanaethau Cymdeithasol i gael ei ystyried.
Mynegodd yr Aelod Gweithrediaeth – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol ei werthfawrogiad i staff am eu holl waith caled ymroddiad ac ymrwymiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2021/2022 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd yr Aelod Gweithrediaeth – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol cynhaliwyd Arolwg Estyn ar y Tîm Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid yn ddiweddar ac y cafodd y gwasanaeth ei asesu fel ‘da’. Gofynnodd am i longyfarchiadau a gwerthfawrogiad gael ei anfon at bawb oedd yn gysylltiedig am eu holl waith caled ac ymdrechion yn ystod proses yr arolwg.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 458 KB Ystyried yr adroddiad a atodir.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i: PANEL ymgynghorol ar gyfer llywodraethwyr awdurdodau lleol
Gwnaeth y Panel yr argymhellion dilynol ar 22 Medi 2022 i benodi mewn egwyddor: Ysgol Gynradd Coed-y-Garn – Ken Jones Ysgol Gynradd yr Holl Saint – Laura Newall Ysgol Gymraeg Bro Helyg – Cynghorydd Peter Baldwin a Rebecca Legge Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair – Angela Davies Ysgol Anghenion Arbennig Pen-y-Cwm – Cynghorydd Jen Morgan, Y.H.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r penodiadau uchod
PWYLLGOR CRAFFU POBL
Penodi Rhianna Lewis, Cynrychiolydd y Fforwm Ieuenctid ar y Pwyllgor uchod.
PENDERFYNWYD cadarnhau penodiad Rhianna Lewis, Cynrychiolydd y Fforwm Ieuenctid, ar y Pwyllgor uchod.
BWRDD LLYWODRAETHIANT Y GWASANAETH MABWYSIADU CENEDLAETHOL
Nodwyd y daeth y Bwrdd uchod yn gyfrifol am Maethu Cymru.
Ailgadarnhawyd penodi Aelod Gweithrediaeth Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bwrdd uchod.
PENDERFYNWYD yn unol â hynny.
GWEITHGOR ANIFEILIAID STRAE/TRESMASU GAN ANIFEILIAID
PENDERFYNWYD sefydlu’r Gweithgor uchod a phenodi’r Aelodau dilynol:
Aelod Gweithrediaeth – Lle ac Amgylchedd (Cadeirydd) Cadeirydd – Pwyllgor Craffu Lle
Nodwyd y caiff y Cynghorydd L. Winnett yn awr ei phenodi i’r Gweithgor yn lle’r Is-gadeirydd – Pwyllgor Craffu Lle.
PENDERFYNWYD YMHELLACH i wahodd Aelod o’r Gr?p Annibynnol i fynychu cyfarfodydd o’r Gweithgor.
|
|
Eitemau Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Gadawodd y Pennaeth Adfywio y cyfarfod ar y pwynt hwn.
|
|
Llunio Rhestr Hir – Swyddogion JNC Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i gyfarfod y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Medi 2022.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.
|
|
Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2022.
Cofnodion: Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi 2022.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.
Dywedwyd yn dilyn y Pwyllgor Penodiadau a gynhaliwyd ar 28 Medi 2022 y penodwyd Ms. Eleanor Fry i swydd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.
Llongyfarchwyd Eleanor ar ei phenodiad newydd.
|