Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 27ain Ionawr, 2022 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Diwrnod Cofio’r Holocost – 27 Ionawr 2022

Cofnodion:

Dangosodd aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch i gofio’r rhai a gollodd ac a roddodd eu bywydau yn ystod yr Holocost.

 

2.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

3.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr N. Daniels, L. Elias a B. Thomas.

 

4.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau dilynol o fuddiant:

 

Eitem Rhif 25: Gorsaf Drosglwyddo Gwastraff a Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

 

Cynghorwyr M. Cook a B. Summers

 

 

5.

Darcey Howell – sy’n gadael swydd Maer Ieuenctid

Derbyn trosolwg gan Darcey Howell, sy’n gadael swydd Maer Ieuenctid.

 

Cofnodion:

Estynnwyd croeso cynnes i Darcey Howell, sy’n gadael swydd Maer Ieuenctid Blaenau Gwent.

 

Dechreuodd Darcey drwy ddweud ei bod yn fraint enfawr i fedru siarad gyda’r Cyngor am yr hyn a gyflawnodd drwy fod yn Faer Ieuenctid ac i sôn am rai o’r cyfleoedd gwych a gafodd.

 

Esboniodd Darcey iddi ymuno â’r Fforwm Ieuenctid yn ôl yn 2018 pan oedd yn fach ym mlwyddyn 7. Erbyn 2019 roedd wedi magu digon o hyder i sefyll i fod yn Ddirprwy Faer Ieuenctid. Ychydig a wyddai ar y pryd beth oedd o’i blaen a’r hyn y byddai yn ei wneud yn yr ychydig flynyddoedd nesaf. Pan gafodd ei hethol, roedd Darcey wedi penderfynu mai ei blaenoriaeth fyddai gwella iechyd meddwl drwy chwaraeon a gweithgaredd corfforol. Dewisodd y flaenoriaeth hon oherwydd ei fod yn mynd yn dda gyda blaenoriaeth Charlotte, y Maer Ieuenctid blaenorol a hefyd oherwydd ei bod yn hoff iawn o chwaraeon ac yn weithgar yn ei chlwb nofio (hefyd yn Is-gapten) a chlwb pêl-rwyd. Fodd bynnag, sylweddolai Darcey nad yw pob person ifanc yn cael cyfle i wneud hyn ac roedd wedi ceisio codi ymwybyddiaeth fod gweithgaredd corfforol yn fwy na dim ond bod yn rhan o glwb neu gampfa, a bod llawer o agweddau iddo.  

 

Mynychodd Darcey gampfa gymunedol leol gyda’i mam a sylweddolodd na fyddai peth o’r offer yn addas ar gyfer gr?p oedran iau. Gweithiodd gyda pherchennog y gampfa i gyflwyno cais am gyllid Cash4U ar gyfer offer chwaraeon fel y gallai pobl ifanc gymryd rhan mewn Rhaglen Academi Ieuenctid oedd yn cynnwys gwirfoddoli. Roedd y cais hwn yn llwyddiannus a phrynwyd yr holl offer ar ran y gampfa. Yn anffodus tarodd pandemig Covid ac ni aeth y prosiect yn ôl y bwriad a chafodd y Rhaglen Academi Ieuenctid ei gohirio. Ym mis Medi 2021 mynychodd Darcey ac aelodau o’r Fforwm Ieuenctid y gampfa i gymryd rhan mewn sesiwn yn defnyddio’r offer newydd a brynwyd fel rhan o’r cynnig ac roedd yn falch i adrodd fod rhannau cyntaf y rhaglen bellach wedi dechrau gyda 16 o bobl ifanc wedi cofrestru a 20 sesiwn ieuenctid wedi eu cyflwyno hyd yma. Roedd Darcey hefyd yn ddiweddar wedi cyflwyno cais arall am gyllid ar gyfer y clwb nofio y mae’n hyfforddi ynddo – byddai hyn yn rhoi hyfforddiant i aelodau newydd, eu galluogi i wirfoddoli fel hyfforddwyr ac a fyddai hefyd yn darparu offer newydd tebyg i beli meddyginiaeth a blociau plymio.

 

Mae bod yn rhan o’r Fforwm Ieuenctid hefyd wedi rhoi llwyfan i Darcey gymryd rhan mewn llawer o gyfleoedd, gyda’r cyntaf y Cynulliad Newid Hinsawdd cyntaf yng Nghymru. Yn Ionawr 2021 fel Maer Ieuenctid gofynnwyd iddi hi a Mara, aelod arall o’r Fforwm Ieuenctid, i fod yn rhan o’r gr?p cynllunio ar gyfer y Cynulliad Newid Hinsawdd. Roedd hyn yn golygu mynychu cyfarfodydd rheolaidd, gweithio gyda gwahanol bartneriaid ar draws y cyngor, asiantaethau allanol a chymuned Blaenau Gwent. Cynhaliwyd y Cynulliad Newid Hinsawdd dros ddau benwythnos ym mis Mawrth 2021. Yn ystod hyn daeth aelodau o’r  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Croeso

 

Estynnwyd croeso cynnes i’r Cynghorydd David Wilkshire.

 

Manteisiodd y Cynghorydd Wilkshire ar y cyfle i fynegi ei werthfawrogiad i Aelodau a swyddogion am y negeseuon caredig a gafodd yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Salwch

Er y derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb, estynnwyd croeso i’r Cynghorydd Lyn Elias yn dilyn ei lawdriniaeth.

 

Gwobr Aur y Lluoedd Arfog

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd yr hysbyswyd y Cyngor iddo fod yn llwyddiannus wrth ennill Gwobr Aur y Lluoedd Arfog ac yn absenoldeb yr Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, dywedodd fod Gwobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn yn adlewyrchu ymrwymiad hirsefydlog y Cyngor i gefnogi’r gymuned Lluoedd Arfog. Mae’r Cyngor yn gwerthfawrogi’r sgiliau y gallai rhai sy’n gadael gofal ac aelodau’r lluoedd wrth gefn eu trosglwyddo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i’r gymuned. Roedd y Cyngor yn hynod falch i dderbyn y gydnabyddiaeth hon ac yn ymroddedig i barhau’r gwaith.

 

Mae’r Wobr Aur yn cydnabod gwaith y Cyngor yn rhoi polisïau cyflogaeth cefnogol ar waith ar gyfer cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog, aelodau lluoedd wrth gefn a theuluoedd y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog ac yn hyrwyddo cyfleoedd swyddi yn yr awdurdod i’r gymuned Lluoedd Arfog.

 

Mae’r Wobr hefyd yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach y Cyngor i gefnogi’r gymuned Lluoedd Arfog ym Mlaenauj Gwent, yn cynnwys:

 

·         darparu hyfforddiant i dros 200 o staff rheng-flaen am ddynodi a chefnogi anghenion aelodau cyfredol a chyn aelodau’r Lluoedd Arfog a’u teuluoedd; a

·         diwygio’r polisi tai i sicrhau nad yw rhai sy’n gadael y lluoedd arfog a’u partneriaid dan anfantais pan fyddant yn gwneud cais am gartref pan ddychwelant i fywyd sifilian ym Mlaenau Gwent.

Eitem Rhif 25 – Gorsaf Drosglwyddo Gwastraff a chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y cafodd yr eitem uchod ei gohirio ac y caiff ei hystyried mewn cyfarfod arbennig o’r Cyngor a drefnwyd ar gyfer 7 Chwefror 2022.

 

7.

Llyfr Cofnodion – Hydref-Rhagfyr 2021

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Hydref – Rhagfyr 2021 i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r cofnodion.

 

8.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 489 KB

Cadarnhau ac os teimlir yn addas, gymeradwyo gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) pdf icon PDF 394 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

 

10.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) pdf icon PDF 217 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

 

11.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) pdf icon PDF 251 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2022.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

 

12.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 593 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 292 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 226 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 384 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 303 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 3 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 239 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 209 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 268 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 374 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

21.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.

 

22.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.

23.

Adroddiad Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli Trysorlys – 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 pdf icon PDF 593 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n rhoi crynodeb o’r gweithgaredd Rheoli Trysorlys a wnaed rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2021 yn unol â Chod Ymarfer Rheoli Trysorlys CIPFA. Aeth y Prif Swyddog ymlaen drwy dynnu sylw at y pwyntiau perthnasol dilynol:

 

-       Cafodd y rhagolwg o gyfraddau banc ei ddiweddaru ers y craffwyd ar yr adroddiad i adlewyrchu effaith y newid annisgwyl yng nghyfradd Banc Lloegr a gynyddodd gan 0.25% yn Rhagfyr 2021. Yn flaenorol disgwylid y cynnydd hwn yn ail chwarter 2022. Cafodd y tabl yn yr atodiad i’r adroddiad ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid hwn er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael i Aelodau.

 

-       Rhoddir crynodeb o’r gweithgareddau yn y tabl ym mharagraff 5.1.6 yr adroddiad ac er yr argyfwng ariannol yng nghyswllt y pandemig, mae’r awdurdod wedi perfformio’n dda yn hanner cyntaf y flwyddyn yng nghyswllt ei weithgareddau rheoli trysorlys, gydag enillion buddsoddiad o £13,000 yn ystod y cyfnod gyda chyfradd log gyfartalog o 0.02% sydd yn uwch na’r gyfradd meincnod o -0.8%. Fodd bynnag, mae hyn yn adlewyrchu effaith y pandemig ar gyfraddau sylfaen banciau ac yn ei dro gyfraddau llog ar fuddsoddiadau.

 

-       Roedd y llogau ar fuddsoddiad yn y gyllideb flynyddol o £6,000 a rhagorwyd ar hynny yn rhannol oherwydd y buddsoddiad yng nghyswllt arian seilwaith rheilffordd.

 

-       Talwyd cyfradd log gyfartalog o 0.31% ar fenthyciadau dros dro yn ystod y flwyddyn o gymharu â chyfradd meincnod o 1.7% a arweiniodd at dalu £49,000 mewn taliadau llog ar gyfer y cyfnod 6-mis o gymharu â chyllideb blwyddyn lawn o £425,000. Nodwyd fod y llog taladwy am y flwyddyn lawn yn rhwydd o fewn y gyllideb ac y cafodd y llog taladwy gan yr awdurdod ei ostwng cyn belled ag sy’n bosibl ac mae hyn yn dystiolaeth o berfformiad da.

 

-       Cydymffurfiwyd â’r holl derfynau rheoli trysorlys a dangosyddion darbodus yn ystod y flwyddyn ac ni wnaed unrhyw fuddsoddiadau yn ystod y cyfnod hwn wedi cael unrhyw anawsterau mewn ad-dalu ei logau. Felly ni fu’r awdurdod yn agored i unrhyw golled ariannol fel canlyniad i’r hinsawdd economaidd anodd.

 

-       Daeth y Prif Swyddog i ben drwy ddweud y byddai cyfleoedd buddsoddi ariannol eraill yn parhau i gael ei fonitro yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol ac y rhoddir adroddiad i Aelodau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bresennol.

 

Wedyn rhoddwyd cyfle i aelodau i godi cwestiynau/rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod y Gr?p Llafur at baragraff 5.2.2 yr adroddiad ac yn neilltuol y benthyciad rheilffordd o £70m a gofynnodd am sicrwydd gan ofyn os oedd y Prif Swyddog Adnoddau yn hyderus y byddai cyfleoedd buddsoddi eraill yn dod ar gael.

 

Dechreuodd y Prif Swyddog Adnoddau drwy ddweud ei bod yn hyderus y daw cyfleoedd buddsoddi eraill ar gael. dywedodd y Prif Swyddog y cafodd cyfleoedd ychwanegol eisoes eu dynodi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wrth ochr cyfleoedd buddsoddi traddodiadol yr awdurdod a gwnaed trefniadau eraill ar  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas Ranbarth Caerdydd Chwarter 2 2020/21 pdf icon PDF 606 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy ddweud fod hwn yn adroddiad rheolaidd sy’n rhoi manylion cynnydd a gweithgareddau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Nodwyd fod Blaenau Gwent yn rhan o bartneriaeth Rhanbarth y De Ddwyrain a bod yr adroddiad yn benodol yn rhoi diweddariad ar y prosiectau a gyflwynir yn y Fwrdeistref Sirol, sy’n cael eu datblygu fel rhan o’r bartneriaeth. Mae’r prosiectau allweddol hyn yn cynnwys Metro Plus, hybu a chyflwyno cerbydau allyriad isel iawn (yn neilltuol tacsis), cynllun tai yn Ashvale, Tredegar a chydnabod llwyddiant rhaglen prentisiaeth Anelu’n Uchel, gyda chynllun peilot rhanbarthol ar y gweill gyda’r nod o ymestyn y rhaglen ar draws y rhanbarth.

 

Mae’r prosiectau hyn wedi arwain at ychydig dros £2m o fuddsoddiad yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd. Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi ystyried a chefnogi’r adroddiad ym mis Rhagfyr 2021.

 

Wedyn daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy roi diweddariad yng nghyswllt datblygu’r Cydbwyllgorau Corfforedig Rhanbarthol a dywedodd fod deddfwriaeth yn awr yn ei gwneud yn ofynnol i’r pedwar rhanbarth yng Nghymru i sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig yn 2022. Mae cyfarfodydd cyntaf y Cydbwyllgorau hyn yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd a chynhelir cyfarfod cyntaf Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru yr wythnos ddilynol i osod y gyllideb (erbyn 31 Ionawr 2022) ar gyfer y flwyddyn i ddod. Daw pwerau newydd i’r pwyllgorau hyn i rym ym mis Mehefin 2022.

 

Wedyn rhoddwyd cyfle i Aelodau godi cwestiynau a rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

Cynllun Metro Plus – Dolen Abertyleri – Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at baragraffau 2.4 i 2.6 yr adroddiad sy’n cyfeirio at Ddolen Abertyleri y cynllun Metro Plus a mynegodd ei bryder, er y bu trafodaethau yn mynd rhagddynt am y prosiect hwn ers peth amser, na ddaethpwyd i gasgliad pendant yng nghyswllt y cyllid ar gyfer y fenter. Dywedodd y credai pe na bai’r cynllun yn dod i ffrwyth y gellid efallai fuddsoddi’r arian mewn man arall. Gofynnodd am ddiweddariad yng nghyswllt y prosiect hwn a’r trafodaethau a fu hyd yma.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod trafodaethau’n mynd rhagddynt gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nodwyd fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi rhaglen ‘Adfer eich Rheilffyrdd’ yn ystod y flwyddyn flaenorol ac wedi gwahodd cynigion ar draws Prydain fel rhan o’r agenda ‘Codi’r Gwastad’ i ddatblygu rheilffyrdd mewn gwahanol gyfnodau. Fel rhan o’r rhaglen honno roedd Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno nifer o gynlluniau, gyda Dolen Abertyleri yn un cynllun o’r fath. Mae dialog yn parhau rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru am y cynllun a disgwylir cyhoeddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar y rhaglen hon – byddai hyn yn rhoi arwydd o lle mae’r cynllun arni yn nhermau blaenoriaethau cyllid. Nodwyd fod perthynas rhwng cynllun Dolen Abertyleri â’r gwaith prosiect sy’n mynd rhagddo ar brif reilffordd Cwm Ebwy.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod peth amheuaeth am y cynllun a’i farn ef oedd bod y prosiect yn pylu. Gofynnodd os y byddai’n deg dweud yn  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 356 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan

-       penodi dau gynrychiolydd i’r uchod.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau ar gyfer y swyddi hyn..

 

Panel Ymgynghori ar gyfer Llywodraethwyr Awdurdod Lleol

 

Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 25 Ionawr 2022 i benodi:

 

Ysgol Gynradd Georgetown – Donna Hardman

 

Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Sefydliadol Brynmawr – Cynghorydd John Hill

 

Cymuned Ddysgu Abertyleri  – Cynghorydd Nigel Daniels

 

Cymuned Ddysgu Abertyleri – Deborah Mary Field

 

Ysgol Gyfun Tredegar – Peter Harriman

 

Ysgol Gynradd Sant Joseff – Cynghorydd Malcolm Cross.

 

Ysgol Gynradd Coed y Garn – Rafi Abbas (cymeradwywyd yn y Panel diwethaf ar 15/11/2021)

 

Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen – Cynghorydd Gareth A. Davies

 

Nodwyd y cafodd cyfnod swydd y Cynghorydd David Wilkshire ar gorff llywodraethu Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen ei ymestyn am 6 mis ychwanegol.

 

Felly

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r apwyntiadau uchod.

 

26.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig, gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad aam yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniadau am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

27.

Gorsaf Drosglwyddo Gwastraff a Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Ystyried i adroddiad y cyd-swyddogion.

 

Cofnodion:

Nodwyd y cafodd yr eitem hon ei gohirio ac y caiff ei hystyried mewn cyfarfod arbennig o’r cyngor ar 7 Chwefror 2022.

 

 

28.

Cais i Brydlesu Tir

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol cytuno ar yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chytuno ar Opsiwn 1, sef:

 

Bod y Cyngor fel ymddiriedolwyr elusennol yn fodlon fod y cafodd y gwarediad ei gynnig y gorau y gellid yn rhesymol eu cael ar gyfer yr elusen a chytunodd ymrwymo i brydles ar y darn o dir a ddangosir gydag ymyl goch ar y cynllun a roddir yn Atodiad 1 am gyfnod o dair blynedd neu nesaf cafodd datblygiad HWBC newydd Tredegar ei gwblhau, yn amodol ar:

 

·         Y sefydliad a enwir yn yr adroddiad yn talu rhent blynyddol o £900.00 y flwyddyn

·         Unrhyw dderbyniad refeniw yn cael ei neilltuo i gael ei ddefnyddio gan yr elusen i hybu amcanion yr elusen ac nid eu cronni i’w defnyddio o fewn Cronfa Gyffredinol y Cyngor.