Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 6139
Rhif | eitem |
---|---|
Cyfieithu ar y Pryd Mae croeso i chi ddefnyddio’r Gymraeg yn y cyfarfod, ond mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.
Cofnodion: Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.
|
|
Ymddiheuriadau Derbyn ymddiheuriadau.
Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Elias, M. Holland, T. Sharrem, B. Thomas a’r Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.
|
|
Datganiadau Buddiant a Goddefebau Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd. Cofnodion: Gwnaed y datgtaniadau dilynol o fuddiant:
Eitem Rhif 30: Cynllunio, Gweinyddu a Chost Etholiadau Lleol – 5 Mai 2022
- Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr (Swyddog Canlyniadau) - Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau (Dirprwy Swyddog Canlyniadau) - Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Dirprwy Swyddog Canlyniadau)
Ar ôl derbyn cyngor, nodwyd y byddai’r swyddogion yn aros yn y cyfarfod os na chodir trafodaeth/cwestiynau manwl yn ymwneud â thaliadau penodol. Pe digwyddai hynny, byddai’r swyddogion yn gadael y cyfarfod.
Eitem Rhif 31: Adroddiad Blynyddol 2020/2021 Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
- Cynghorydd Wayne Hodgins
Eitem Rhif 35: Rôl Anweithredol
- Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr
Cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai’n gadael y cyfarfod tra ystyrir yr eitem hon o fusnes.
|
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.
Cofnodion: Cydymdeimlad
Mynegwyd cydymdeimlad gyda: Ø Theulu Moira Wilcox (gwraig y cyn Gynghorydd Don Wilcox) a fu farw Ø Teulu Eileen Davies (gwraig y cyn Gynghorydd Des Davies), a fu farw. Dangosodd Aelodau a swyddogion eu parch gyda munud o dawelwch.
PENDERFYNWYD anfon llythyrau priodol at y teuluoedd.
Salwch
Ø Dywedwyd y cafodd y Cynghorydd Lyn Elias lawdriniaeth yn ddiweddar.
PENDERFYNWYD anfon llythyr priodol.
Llongyfarchiadau
Estynnwyd llongyfarchiadau i:
Ø Cymru Creations a wnaeth waith gwych i ddod â’r ?yl Ryngwladol Ffilmiau Plant i Flaenau Gwent.
Mae G?yl Ryngwladol Ffilmiau Plant Cymru wedi dathlu’r goreuon mewn rhaglenni ffilm rhyngwladol ar gyfer plant, myfyrwyr a gwneuthurwyr ffilm proffesiynol ym mhob rhan o’r byd. Roedd hyn yn cynnwys ffilmiau byr, ffilmiau nodwedd, animeiddiadau a ffilmiau sy’n ysbrydoli cenedlaethau iau.
Cynhaliwyd yr ?yl dros 2 ddiwrnod yn Nh? Bedwellte, Tredegar ar 14-16 Hydref, gan ddod i ben mewn digwyddiad carped coch i ddathlu’r enillwyr.
PENDERFYNWYD anfon llythyr priodol.
|
|
Llyfr Cofnodion – Gorffennaf-Tachwedd 2021 Cofnodion: Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Gorffennaf-Tachwedd 2021 i gael ei ystyried.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r cofnodion.
|
|
Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor PDF 333 KB Cadarnhau, ac os credir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor PDF 219 KB Cadarnhau ac os credir yn briodol, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2021.
Cofnodion: Cytunwyd
|
|
Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddiol a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) PDF 274 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddiol a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) PDF 262 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) PDF 203 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 197 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Trwyddedu Statudol PDF 194 KB Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 28 Hydref 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 548 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gweithredol PDF 298 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2021. Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 248 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 236 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio PDF 363 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol PDF 372 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu PDF 253 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 14 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Adfywio PDF 262 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 15 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 212 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 17 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol PDF 200 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2021. Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) PDF 219 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol PDF 332 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 4 Hydref 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol PDF 221 KB Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2021.
Cofnodion: Cytunwyd.
|
|
CWESTIYNAU AELODAU Derbyn cwesdtiynau, oes oes rhai, gan Aelodau.
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.
Cofnodion: Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.
|
|
Adolygu Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (MRP) PDF 828 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy’n cynnig newid i’r polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) ac esboniodd yr effaith y byddai hyn ei gael ar yr MRP wrth symud ymlaen.
Ar hynny, tynnodd y Prif Swyddog sylw at y pwyntiau perthnasol a gynhwysir ynddo:
- Yn ystod Chwefror/Mawrth 2021, roedd y Cyngor wedi cyflogi Cynghorwyr Trysorlys i gynnal adolygiad o’r polisi MRP presennol. Roedd yr adolygiad wedi dynodi’r cyfle i newid dwy elfen o’r polisi cyfredol, a fyddai’n rhoi buddion cadarnhaol i’r Cyngor drwy ostwng y tâl MRP blynyddol tan 2031/32 ar gyfer benthyca heb ei gefnogi a 2057/58 ar gyfer benthyca a gefnogir.
Rhoddir manylion y newidiadau arfaethedig yn Adran 6 yr adroddiad a maent yn cynnwys:
· newid yn yr elfen benthyca a gefnogir o’r MRP o 2% llinell syth i sail blwydd-dal 50-mlynedd; a
· newid yn elfen benthyca heb gael ei gefnogi o’r MRP o sail blwydd-dal i sail blwydd-dal cyfartalog wedi ei bwysoli.
- Nodwyd fod y dull blwydd-dal yn rhoi cost tecach na rhandaliadau cyfartal oherwydd ei fod yn rhoi ystyriaeth i werth amser, er enghraifft mae talu £100 mewn 10 mlynedd yn llai o faich na thalu £100 yn awr.
- Cynigiwyd hefyd y byddai dull symlach arall yn defnyddio dull oes ased cyfartalog ar sail blwydd-dal ar gyfer pob prosiect cyfalaf benthyca heb ei gefnogi bob blwyddyn yn hytrach nag ar brosiectau unigol.
- Roedd angen i’r Cyngor benderfynu ar lefel o MRP a ystyriai yn ddarbodus, gan roi ystyriaeth i’r canllawiau MRP a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd fod y newidiadau arfaethedig yn gydnaws â’r enghreifftiau a roddwyd o fewn Canllawiau Llywodraeth Cymru ar yr MRP a rhoddir manylion hyn yn Atodiad 1 yr adroddiad.
- Mae’r tabl ym mharagraff 5.1.1 yr adroddiad yn dangos effaith cost MRP a fyddai gan y fethodoleg ac os cytunwyd, disgwylid i’r polisi diwygiedig ostwng cost MRP o 2022/23 ymlaen.
- Dan y polisi presennol amlygwyd y byddai’r cost MRP 2022/23 yn £4.47m yn gostwng i £1.74m dan y polisi diwygiedig ac y byddai’n cynyddu ym mlynyddoedd y dyfodol. Felly, yn seiliedig ar dybiaethau cyfredol yr MTFS, yn fwy na £750,000. Fodd bynnag, hysbyswyd Aelodau y cafodd yr adroddiad ei ystyried ers hynny yn y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ym mis Gorffennaf. Cynhaliwyd dadansoddiad manwl pellach ac amcangyfrifir yn awr fod yr effaith gadarnhaol yn £1.3m.
- Er yr amcangyfrifwyd y byddai’r cost MRP yn cynyddu mewn blynyddoedd dilynol, byddai’r cost hwn yn is na’r amcangyfrifon presennol a byddai’n lliniaru rhai o’r pwysau cost a ddynodwyd yn flaenorol a gostwng y bylchau presennol a aseswyd yn y gyllideb. Roedd yn bwysig nodi fod y newidiadau hyn yn ddarpariaethol ac na chynigir diwygio unrhyw gyfrifiad blynyddoedd blaenorol, ac er bod yr MRP yn ofyniad o God Ymarfer CIPFA, mae dal i fod angen i’r Cyngor godi swm darbodus i’r cyfrif incwm a gwariant i lanw’r taliadau ar ddyledion heb eu talu. Nodwyd ... view the full Cofnodion text for item 28. |
|
Strategaeth Ariannol Tymor Canol 2022/23 i 2026/27 PDF 531 KB Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fyr am yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (MTFS) a’r asesiad diweddaraf o sefyllfa ariannol y Cyngor dros y 5 mlynedd nesaf.
Mae’r MTFS yn dod ynghyd â’r holl ffactorau hysbys sy’n effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor ac yn ffurfio’r sail ar gyfer gwneud penderfyniadau ac yn cynnwys rhagolwg dros y pum mlynedd nesaf i asesu’r gofynion gwariant y mae’r Cyngor yn debyg o’u hwynebu i gyflenwi’r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun Corfforaethol ac yn amlygu lefel y toriadau (gostwng neu atal gwasanaethau) y byddai angen eu gwneud i sicrhau y gallai’r Cyngor osod cyllideb gytbwys bob blwyddyn.
Mae’r MTFS arfaethedig yn broses a dull ailadrodd a fyddai’n datblygu a chael eu mireinio wrth i’r sefyllfa cyllid gan Lywodraeth Cymru ddod yn gliriach ac adolygiadau busnes strategol yn cael eu datblygu a’u gweithredu ymhellach.
Yn seiliedig ar y tybiaethau yn y MTFS a’r pwysau cost a ddynodir yn Atodiad 2 yr adroddiad, nodwyd y rhagwelir bwlch cyllideb o £21m dros y 5 mlynedd nesaf ac yn seiliedig ar yr amcangyfrif cyfredol o’r hyn a gyflawnir gan yr Adolygiadau Busnes Strategol o gymharu gyda’r bwlch cyllideb a ddynodir yn y MTFS, mae bwlch cyllid gweddilliol o £4m yn 2022/23 ac mae hyn yn amrywio rhwng £2.3m a £2.7m mewn blynyddoedd dilynol.
Mae MTFS presennol y Cyngor yn cynnwys nifer o dybiaethau sy’n effeithio ar lefel ei incwm a gwariant. Gallai newidiadau yn y tybiaethau hyn gael effaith sylfaenol ar y bwlch cyllideb dros y 5 mlynedd nesaf. Cafodd effaith newid 1% ar y prif dybiaethau ei gyfrif a rhoddir manylion hynny ym mharagraff 5.2.2 yr adroddiad.
Daeth y Prif Swyddog i ben drwy ddweud fod y Cyngor yn defnyddio’r MTFS ar gyfer dibenion cynllunio i roi arwydd o’r asesiadau ariannol am y 5 mlynedd nesaf ac yn rhan o fframwaith rheoli ariannol y Cyngor. Caiff hyn ei ddilyn gan ddatblygu a chytuno ar y gyllideb flynyddol a fyddai’n dechrau yn dilyn cadarnhad o setliad darpariaethol llywodraeth lleol a ddisgwylir o setliad Llywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2021.
Cyfeiriodd Aelod at y gofynion gwariant dros y 5 mlynedd nesaf a gofynnwyd os y gwnaed darpariaethau ariannol o fewn yr MTFS yng nghyswllt CCTV a’r gwaith iechyd, diogelwch a chydraddoldeb a ddynodwyd yng Ngwarchodfa Natur Cwmcelyn. Byddai angen buddsoddiad ariannol yn y ddau faes hyn yn y 5 mlynedd nesaf.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y gyllideb ddrafft wedi cynnwys darpariaeth ar gyfer CCTV yn seiliedig ar y ddarpariaeth cyllid presennol oedd wedi cynyddu’n gronnus gan ymchwydd 2% oherwydd chwyddiant. Nodwyd y cyflwynir adroddiad drwy’r broses ddemocrataidd yn yr ychydig fisoedd nesaf yng nghyswllt darpariaeth CCTV ac os oedd gofynion pellach y dylid eu hystyried, caiff hyn ei gynnwys yn y pwysau cost a’r gyllideb unwaith y derbyniwyd y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru. Yng nghyswllt Gwarchodfa Natur Cwmcelyn, ni wyddai’r swyddog am unrhyw ddyraniad penodol a neilltuwyd ar gyfer y gweithiau ... view the full Cofnodion text for item 29. |
|
Drafft Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2022/23 PDF 794 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol – Cyflogres, Iechyd a Diogelwch am yr adroddiad sy’n cynnwys y prif gynigion a gynhwysir yn adroddiad drafft 2022/23 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) fel y cyfeiriant at Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Aeth y swyddog ymlaen drwy dynnu sylw at y pwyntiau dilynol:
- Mae’n ofyniad gan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) fod Adroddiad Blynyddol y Panel yn dod i rym o 1 Ebrill ac yn y rhan fwyaf o flynyddoedd mae hyn yn gydnaws gyda threfniadau ariannol a gweinyddol pob awdurdod. Fodd bynnag, pan etholir cynghorau newydd, byddai rhai o benderfyniadau’r Panel yn dod i rym ar gyfer y tymor bwrdeisiol newydd.
Byddai’r trefniadau bwrdeisiol newydd yn dod i rym ar 9 Mai 2022 yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol. Felly mae gan yr Adroddiad Blynyddol ddau ddyddiad gweithredu gwahanol fel a nodir islaw:
Ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 8 Mai 2022, byddai’r holl benderfyniadau a gynhwysir yn Adroddiad Blynyddol 2021/22 Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn parhau i fod mewn grym yng nghyswllt prif gynghorau a chynghorau cymuned a thref.
Yn weithredol o 9 Mai 2022 (y flwyddyn fwrdeisiol newydd), byddai’r penderfyniadau a nodir yn Adrannau 3 a 13 yr adroddiad yn weithredol i brif gynghorau a chynghorau cymuned a thref.
- Nodwyd y caiff cyflog sylfaenol cynghorwyr prif gynghorau a etholir yn etholiadau lleol Mai 2022 ei ailosod i alinio gydag Arolwg Blynyddol Enillion fesul Awr (ASHE) 2020 ac y byddai’r swm hwn yn £16,800.
- Mae Tabl 2.3.3 yn rhoi manylion talu cyflogau sylfaenol ac uwch gyflogau ar gyfer 2022/23. Mae’r cynnydd a gynigir yn amrywio o 10.5% i 19%.
Daeth y Rheolwr Datblygu Sefydliadol – Cyflogres, Iechyd a Diogelwch i ben drwy amlinellu’r opsiynau a gynhwysir ym mharagraff 3 yr adroddiad.
Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi ystyried y drafft adroddiad a’i drafod yn faith ar 8 Tachwedd 2021. Teimlai’r Pwyllgor yn gryf na fedrai gefnogi’r cynnydd gormodol a gynigiwyd yn lefelau cydnabyddiaeth ariannol a nodir yn nrafft adroddiad y Panel ar gyfer 2022/23 (ar wahân i’r argymhellion yn cyfeirio at y cyfraniadau tuag at gost gofal a chymorth personol) yn yr hinsawdd presennol o lymder fel canlyniad i Covid-19, cynnig tâl isel y Llywodraeth i staff y Cyngor o 1.75% ac i weithwyr GIG a roddodd eu hunain mewn risg drwy gydol y pandemig ac oherwydd y sefyllfa fod rhai gweithwyr allweddol yn dal i ennill yr isafswm cyflog.
Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Rheolwr Datblygu Sefydliadol fod y galw yn isel iawn yn nhermau hawliadau am gost gofal a chymorth personol.
Ategodd Arweinydd y Gr?p Llafur sylwadau Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a dywedodd y credai’r Gr?p Llafur a’r Gr?p Annibynnol Lleiafrifol nad dyma’r amser cywir i gynnig unrhyw gynnydd mewn lefelau cydnabyddiaeth ariannol a dywedodd fod angen i Aelodau gefnogi’r gweithlu ar yr adeg yma.
Aeth ymlaen drwy gyfeirio at ... view the full Cofnodion text for item 30. |
|
Cynllunio, Gweinyddiaeth a Chost Etholiadau Lleol – 5 Mai 2022 PDF 490 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr (yn rôl Swyddog Canlyniadau Etholiadau Llywodraeth Leol).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Datganwyd buddiant gan Michelle Morris, Rheolwr Gyfarwyddwr (Swyddog Canlyniadau), Rhian Hayden, Prif Swyddog Adnoddau (Dirprwy Swyddog Canlyniadau) ac Andrea Jones, Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Dirprwy Swyddog Canlyniadau) ond fe wnaethant aros yn y cyfarfod tra ystyriwyd yr eitem hon o fusnes, ar y ddealltwriaeth y byddent yn gadael pe dymunai Aelodau drafod mater ffioedd.
Gadawodd y Cynghorydd T. Smith y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr (yn rôl Swyddog Canlyniadau ar gyfer Etholiadau Llywodraeth Leol).
Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr (yn rôl Swyddog Canlyniadau Etholiadau Llywodraeth Leol) am yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y gofynion adnoddau a chyllid yng nghyswllt yr etholiadau lleol arfaethedig ym mis Mai 2022. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth am daliadau staff a rhoddodd esboniad o’r prif gyfrifoldebau wrth weinyddu etholiadau lleol yn effeithiol.
Cyfeiriwyd at Adran 2 yr adroddiad a hysbyswyd Aelodau yn nhermau Cyfrif a Datgan Canlyniadau ar gyfer yr etholiadau ar gyfer y Cyngor Bwrdeistref Sirol a hefyd y Cynghorau Tref/Cymuned, sydd yn yr un modd â’r rhan fwyaf o gynghorau Cymru, y cynhelir hyn y diwrnod ar ôl y bleidlais h.y. ddydd Gwener 6 Mai 2022.
Yn ychwanegol, unwaith y cyhoeddwyd yr Hysbysiad Etholiad ar 18 Mawrth 2022, cynigiwyd wedyn y byddai busnes ffurfiol y Cyngor yn dod i ben yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad h.y. ni chynhelir unrhyw gyfarfodydd o’r cyngor neu bwyllgorau, os nad oes fusnes brys sydd angen ei drin.
Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr ymlaen drwy ddweud, ers paratoi’r adroddiad yn cadarnhau’r adroddiad, y derbyniwyd y Datganiad Gweinidogol y byddai Blaenau Gwent yn un o’r pedwar awdurdod ynghyd â Thorfaen, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr a fyddai’n cymryd rhan Peilot Pleidleisio Cynnar ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol yn y Gwanwyn.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd gyda Choleg Gwent i dargedu pleidleiswyr tro cyntaf 16-17 oed a sefydlu gorsaf bleidleisio cynnar ar y dydd Mawrth a’r dydd Mercher cyn y diwrnod pleidleisio arferol ddydd Iau 5 Mai. Nodwyd y caiff pleidleisio cynnar ei ymestyn i’r holl breswylwyr sy’n gymwys i bleidleisio yn y Fwrdeistref Sirol ac y cyhoeddir cyfathrebiad i’r diben hwnnw ar yr adeg priodol. Er fod cost y cynllun peilot yn ychwanegol at y gyllideb o £140,000, byddai’r gwariant ychwanegol hwn yn cael ei dalu gan Lywodraeth Cymru ac felly ni fyddai hyn yn cael unrhyw effaith ariannol ar gyllideb y Cyngor.
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch ymgysylltu â Chynghorwyr, cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at yr adroddiad sy’n nodi’r prif feysydd gweithgaredd a dywedodd fod un o’r elfennau hyn yn cynnwys briffiadau i ymgeiswyr ac asiantau. Cynhelir briffiadau yn gynnar yn y flwyddyn newydd gyda darpar ymgeiswyr a chynhelir briffiad pellach i ymgeiswyr yn dilyn enwebiadau. Felly byddai nifer o gyfleoedd i ymgeiswyr dderbyn briffiadau ar y cynllun peilot a sut y byddai’r pleidleisio cynnar yn gweithredu yn ymarferol.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd mai’r isafswm oed oedd 18 ar gyfer i unigolyn sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad.
Mewn ymateb i ... view the full Cofnodion text for item 31. |
|
Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/2021 PDF 495 KB Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod pan oedd yn cael ei ystyried.
Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i baratoi adroddiad blynyddol ar weithredu ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. Yr arfer yw i’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried yr adroddiadau perfformiad chwarterol ond mae’r pandemig wedi tarfu ar y dull adrodd. Yn ychwanegol, dim ond ddechrau’r hydref yr adroddwyd gwybodaeth 2019/20 gan y cafodd hyn ei ohirio oherwydd y pandemig.
Aeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol ymlaen drwy ddweud fod yr adroddiad yn rhoi sylw i’r cyfnod Ebrill 2020 – Mawrth 2021 a rhoddodd fanylion sut mae gwasanaethau cymdeithasol yn parhau i gyflawni ei swyddogaethau yn ystod y pandemig, a’r cynnydd a wnaed mewn nifer o feysydd. Nodwyd y cafodd y manylion yn yr adroddiad ei ddarparu’n flaenorol i Aelodau fel rhan o ymateb y Gyfarwyddiaeth i’r pandemig.
Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y cafodd gwaith y gyfarwyddiaeth ei ddilysu mewn modd cadarnhaol gan Wiriad Sicrwydd Edrych yn Ôl Arolygiaeth Gofal Cymru a gynhaliwyd ar 17 – 21 Mai yn eu llythyr 11 Mehefin 2021. Roedd yr ymweliad hwn wedi ystyried pa mor dda yr oedd yr awdurdod lleol wedi cyflawni ei swyddogaethau statudol i gadw pobl sydd angen gofal a chymorth a gofalwyr oedd angen cymorth yn ddiogel a hyrwyddo llesiant yn ystod y pandemig. Roedd y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ystyried yr adroddiad ar 7 Hydref 2021 ac wedi cymeradwyo Opsiwn 1.
Croesawodd Aelod yr adroddiad a mynegodd ei ddiolch i staff a swyddogion y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol oedd wedi gweithio’n ddiflino drwy gydol y cyfnod 2-flynedd i gefnogi’r llai abl yn y Fwrdeistref Sirol.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn amlygu ac yn dangos parodrwydd, hyblygrwydd a phenderfyniad staff yn gweithio mewn partneriaeth ar draws yr adran sydd wedi diogelu mwyafrif gwasanaethau yn ystod y pandemig a diogelu’r mwyaf bregus yn y gymuned. Roedd y gwaith hwn wedi parhau dan bwysau a heriau parhaus oedd yn newid yn ddyddiol a mynegodd ei werthfawrogiad personol i bawb oedd yn gysylltiedig. ar hynny cynigiodd gymeradwyo Opsiwn 1. Eiliwyd y cynnig hwn.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef Adroddiad Blynyddol 2020/21 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’i gyflwyno i’r Arolygiaeth Gofal Cymru.
|
|
Deddf Gamblo 2005 – Adolygu Datganiad Polisi Gamblo PDF 507 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.
Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad a dywedodd y cynhelir adolygiad o’r Polisi Gamblo bob tair blynedd. Nodwyd fod y Pwyllgor Trwyddedu Statudol ar 28 Hydref 2021 wedi ystyried a chymeradwyo’r polisi diwygiedig. Os byddai’r polisi yn cael ei weithredu, byddai’n dod i rym ar 31 Ionawr 2022.
Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd mai dim ond un cais yn ymwneud â mân welliant gweinyddol y gofynnwyd amdano. Nodwyd y caiff gwelliannau eu hamlygu fel arfer o fewn y ddogfen polisi ond na dderbyniwyd unrhyw welliannau hyd yma.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Polisi Gamblo a adolygwyd.
|
|
Adroddiad Aelodaeth PDF 451 KB Ystyried yr adroddiad amgaeedig.
Cofnodion: Rhoddwyd ystyriaeth i:
Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan - penodi dau gynrychiolydd i’r uchod.
Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau ar gyfer y swyddi hyn.
panel Ymgynghorol ar gyfrer Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol
Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 12 Hydref 2021 i benodi:
Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort – Mr Rhion Hollister
Ysgol Gynradd Sofrydd – Mr Paul Maddy
Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 15 Tachwedd 2021 i benodi:
Canolfan yr Afon – Mr. Richard Barrett; Ms. Lesley Bush; Ms. Jenna Underey; Ms. Hannah Moncreiff
Ysgol Gynradd Coed-y-Garn – Mr. Raffi Abbas
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr - Cynghorydd D. Davies
Ysgol Gynradd Bryn Bach – Ms. Diane Rowberry
Dilynodd trafodaeth am gylch gorchwyl y Panel Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr Awdurdodau Lleol a’r broses bleidleisio a ddefnyddiwyd yng nghyfarfod y Panel ar 15 Tachwedd 2021 ar gyfer penodi llywodraethwyr ychwanegol i ysgol neilltuol a gafodd hysbysiad rhybudd statudol.
Cadarnhawyd nad yw’n rheidrwydd cyflwyno’r ceisiadau hyn i’r Panel ond y cawsant eu rhannu er gwybodaeth er mwyn i’r Panel ddeall y dull gweithredu a ddilynir. Nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y sylwadau a wnaed a byddai’n egluro sefyllfa yr apwyntiadau hyn ar gyfer trefniadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, ei ddealltwriaeth o’r cyngor a gafwyd gan Adran Cefnogi Llywodraethau y Gwasanaeth Cyflawni Addysg oedd fod yr awdurdod o fewn ei hawliau i benodi llywodraethwyr ychwanegol heb gynnal pleidlais.
PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo’r apwyntiadau uchod.
|
|
Eitemau Eithriedig Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r gyfarfod (mae’r rheswm am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
Cofnodion: Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniadau am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).
|
|
Rôl Anweithredol Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Cofnodion: Datganodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fuddiant yn yr eitem hon a gadael y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD yn unfrydol fod yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio yn cael ei dderbyn a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cefnogi cais y Rheolwr Cyfarwyddwr i gymryd rôl anweithredol Aelod Annibynnol ar y Cydbwyllgor Archwilio ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys.
|
|
Pwyllgor Penodiadau Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2021. Cofnodion: Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.
PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi 2021.
PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a chynnig swydd i Sarah King ar gyflog yn unol â JNC 3 (£63,742 - £70,115).
|