Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 29ain Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr G. Collier, W. Hodgins, J. C. Morgan, B. Thomas, Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Prif Swyddog Adnoddau.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau a buddiant a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol::

 

         Eitemau Rhif 59-61 – Llunio Rhestr Hir Swyddogion JNC, Llunio Rhestr Fer Swyddogion JNC, Pwyllgor Apwyntiadau Swyddogion JNC.

Bernadette Elias – Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd

 

Cofnodion:

Cydymdeimlad

 

Mynegwyd cydymdeimlad gyda:

 

-       Y Cynghorydd Bernard Willis a’i deulu ar farwolaeth drist ei ferch Kym Lewis. Bu Kim yn gymar Bernard yn ystod ei flwyddyn fel Maer.

 

-       Teulu’r cyn Gynghorydd Bwrdeistrefol a Maer Gareth Morgan MBE ar ei farwolaeth drist.

 

-       Teulu’r cyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol a Chynghorydd Tref Bob Pagett ar ei farwolaeth drist.

 

Dangosodd aelodau a swyddogion eu cydymdeimlad gyda munud o dawelwch.

 

Talwyd teyrngedau i’r Cynghorydd Bob Pagett, cyn Gynghorydd Bwrdeistref Sirol a Chynghorydd Tref. Dywedwyd bod Bob wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Tref ar gyfer Nantyglo a Blaenau ers diwedd y 1970au hyd at y diwrnod presennol ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd wedi gwasanaethu fel Maer ar sawl achlysur. Roedd y gymuned yn bwysig iawn i Bob a byddir yn gweld ei golli’n fawr.

 

Adleisiodd Arweinydd y Gr?p Llafur y sylwadau a wnaed a dywedodd y bu Bob yn was ffyddlon iawn i’r Fwrdeistref Sirol. Talodd deyrnged hefyd i Kym Lewis. Roedd Kym wedi gwasanaethu fel Cymar y Maer pan benodwyd ei thad, y Cynghorydd Bernard Willis, yn Faer. Bu Kym yn llysgennad gwych i Flaenau Gwent yn y swydd hon a byddid yn gweld ei cholli’n fawr.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyrau addas.

 

Llongyfarchiadau

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i:

 

-       Tîm Lefel ‘A; Hafan Dysgu Blaenau Gwent, Coleg Gwent. Roedd y tîm wedi ennill gwobr efydd bwysig yn Nhîm Addysg Bellach y Flwyddyn 2021 Gwobrau Addysgu Pearson am gyfraniad gwerthfawr y staff addysgu a’r gwahaniaeth a wnaeth hynny i bobl ifanc yn yr ardal.

 

Anfonwyd llythyr addas at Goleg Gwent.

 

-       Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn – Gwobr Aur: Derbyniwyd hysbysiad gan y Weinyddiaeth Amddiffyn fod Blaenau Gwent wedi ennill statws Aur dan Gynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn. Roedd hon yn wobr bwysig ac roedd Blaenau Gwent ymhlith dim ond 127 sefydliad y barnwyd iddynt gyrraedd y safon gofynnol.

 

Apêl y Cadeirydd 2021/2022

 

Cyhoeddodd y Cadeirydd mai’r Apêl a ddewisodd ar gyfer 2021/22 fyddai Banc Bwyd Blaenau Gwent. Bu gan y sefydliad rôl hollbwysig ar draws y fwrdeistref yn cefnogi pobl fregus drwy gydol y pandemig.

 

5.

Llyfr Cofnodion – Mawrth-Mehefin 2021

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Mawrth – Mehefin 2021 i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r cofnodion.

 

6.

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor pdf icon PDF 577 KB

Cadarnhau, ac os credir yn briodol, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Mai 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 562 KB

Cadarnhau ac os credir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 265 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) pdf icon PDF 291 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Cynllunio) pdf icon PDF 256 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) pdf icon PDF 232 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Pwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 196 KB

Ystyried y cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 205 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 441 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 14 Ebrill 2021.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 373 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 339 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Cyfarfod Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 417 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2021

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 356 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 317 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 367 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

21.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 253 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

22.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 342 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

23.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 257 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

24.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 258 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

25.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 223 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

26.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 259 KB

Cadarnhau cofnodion y Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

27.

Pwyllgor Craffu Arbennig Addysg a Dysgu pdf icon PDF 232 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 1 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

28.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 229 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol ar 12 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

29.

Pwyllgor Craffu y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus pdf icon PDF 252 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

30.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 271 KB

Ystyried cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

31.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 258 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

32.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 246 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

33.

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 233 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Addysg a Dysgu (Diogelu) a gynhaliwyd ar 26 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

34.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 353 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 27 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

35.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 230 KB

Cadarnhau cofnodion arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 28 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

36.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 233 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

37.

Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio pdf icon PDF 371 KB

Cadarnhau cofodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

38.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cwestiwn 1

 

Derbyniwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Hedley McCarthy a chafodd ei ateb gan y Cynghorydd Joanne Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:

 

Cwestiwn:

 

“A all yr Aelod Gweithredol esbonio i’r Cyngor pa gamau brys a gymerir i liniaru’r niwsans s?n annerbyniol o Blackwood Engineering yn Stad Ddiwydiannol Glandwr?”

 

Ymateb:

 

Roedd Tîm Iechyd yr Amgylchedd wedi cadarnhau derbyn un g?yn am s?n gan breswylydd lleol yng nghyswllt y mater hwn. Mae Tîm Rheoli y cwmni yn cydweithredu gyda’r Cyngor i fynd i’r afael â rhai o’r materion penodol a godwyd yn gysylltiedig â s?n ac wedi cynnig cyfres o gamau gweithredu i ddelio gyda’r materion hyn a gobeithid y byddai hynny’n datrys y problemau cyfredol oedd heb eu datrys yngl?n â s?n. Fodd bynnag, gan fod yr ymchwiliad yma’n parhau nid oedd yn addas rhoi sylwadau pellach ar hyn o bryd.

 

Cwestiwn Atodol:

 

Ni chyflwynwyd cwestiwn atodol.

 

Cwestiwn Rhif 2

 

Derbyniwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd Phillip Edwards a chafodd ei ateb gan y Cynghorydd Nigel Daniels, Arweinydd y Cyngor.

 

Cwestiwn:

 

“Pryd fydd dirprwyo pwerau yn ystod y pandemig, yn cynnwys y Gr?p Aur, yn dod i ben?”

 

Ymateb:

 

Roedd y dirprwyo ychwanegol i swyddogion wedi dod i ben ar 24 Mehefin 2020 pan godwyd gohirio Pwyllgorau’r Cyngor. Fodd bynnag, roedd y Gr?p Aur wedi parhau i weithredu fel rhan o’r ymateb cenedlaethol a rhanbarthol i’r pandemig ond ers 24 Mehefin mae wedi gweithredu yn gyfochrog â’r trefniadau democrataidd arferol. Daeth y Gr?p Aur i ben ym mis Mai 2021, ar ôl i Gr?p Cydlynu Strategol Gwent ddod i ben.

 

Cwestiwn Atodol:

 

Ni chyflwynwyd cwestiwn atodol.

 

 

39.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.

 

40.

Blaenraglen Waith Arfaethedig y Cyngor 2020/2021 pdf icon PDF 378 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i Flaenraglen Gwaith arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021-222.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Cyngor ar gyfer 2021-2022.

 

41.

Adroddiad Craffu Blynyddol 2021/22 pdf icon PDF 408 KB

Ystyried adroddiad y cyd-swyddogion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r ‘gweithgaredd craffu’ a gynhaliwyd gan bob Pwyllgor Craffu yn ystod 2020/21 ac y dylid cyhoeddi’r adroddiad ar wefan Blaenau Gwent.

 

42.

Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol Aelodau 2021-2022 pdf icon PDF 674 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, dywedodd yr Is-gadeirydd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi ystyried a chytuno ar y ddau adroddiad a chynigiodd y dylai Eitemau Rhif 41 a 42 gael eu cymeradwyo ar yr un pryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at gyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ym mis Mai pan ofynnodd i’r Arweinydd am yr achos lle penodwyd Aelod i ddwy swydd oedd yn derbyn tâl a dywedodd bod yr Arweinydd wedi gwadu ar y pryd y gwyddai am yr achos. Daeth yr Aelod i ben drwy ofyn os cafodd yr arian hwn yn awr ei ad-dalu i’r Cyngor gan fod paragraffau 2.3 a 2.6 y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau yn dweud mai dim ond un uwch gyflog oedd yn daladwy i Aelod o’r awdurdod.

 

Ar bwynt o gywiriad, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr Aelod wedi camddehongli ei sylwadau ac eglurodd nad oedd wedi gwadu y gwyddai am yr achos ond roedd wedi dweud bryd hynny nad oedd yn wirioneddol ddim yn gwybod amdano. Fodd bynnag, cafodd ei hysbysu’n ddilynol am y maes y cyfeiriwyd eto a chadarnhaodd bod y rheoliadau yn caniatau’r lwfans ychwanegol sy’n cael ei dalu i Gadeirydd sy’n derbyn lwfans cyfrifoldeb arbennig.

 

Dywedodd yr Aelod fod hyn yn ddryslyd ac yn gwrthddweud yr wybodaeth a roddir yn y Rhestr o Gydnabyddiaeth Ariannol i Aelodau, yn benodol baragraffau 2.3 a 2.6. h.y. mai dim ond un cyflog uwch sy’n daladwy i aelod o’r awdurdod a daeth i ben drwy ddweud, er fod yr Arweinydd wedi dweud na wyddai am yr achos, y gellid dehongli hyn i olygu ei fod yn gwadu gwybodaeth amdano.

 

Cododd Arweinydd y Cyngor bwynt o drefn a dywedodd fod ‘peidio gwybod am’ a ‘gwadu’ yn ddau beth gwahanol ac y gellid eu dehongli’n wahanol. Cadarnhaodd na wyddai am yr achos a bod hynny yn sylw diffuant a wnaed ar y pryd. Fodd bynnag, cafodd ei sicrhau wedyn gan y Swyddog Monitro a hefyd y Prif Swyddog Aelodau y gallai Aelod sy’n derbyn Band 3 Cadeiryddion Pwyllgorau (lefel tâl Cadeiryddion Pwyllgorau Craffu) dderbyn cyflog gan gorff arall.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod wedi tybio mai Arweinydd oedd yn  penodi i’r swyddi allanol hyn a’i bod yn bwysig cael tryloywder, yn neilltuol ar gyfer y cyhoedd yng nghyswllt lwfansau cyfrifoldeb uwch.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn fodlon mynd ar gofnod ei fod wedi argymell bod yr unigolyn dan sylw yn cael ei benodi i’r corff neilltuol hwnnw oherwydd ei brofiad a’i wybodaeth. Mae’r sefydliad dan sylw yn bartner hollbwysig a chredai mai’r Aelod oedd yr unigolyn gorau i wneud y swydd. Dywedwyd y cafodd y penodiad ei gymeradwyo’n llwyr gan ei gydweithwyr a’i gymeradwyo pan gafodd strwythur Pwyllgorau a chyrff allanol ei gymeradwyo gan y Cyngor Llawn.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur nad p’un ai’r unigolyn yw’r person gorau ar gyfer y swydd oedd dan sylw, ond fod yr unigolyn yn derbyn dau gyflog ac  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Datganiad o Daliadau a Wnaed i Aelodau Etholedig 2020/2021 pdf icon PDF 671 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cyhoeddi’r Datganiad Taliadau a Wnaed i Aelodau yn ystod 2020/21 er mwyn cydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth berthnasol.

 

44.

Strategaeth Gweithlu 2021 -2026 pdf icon PDF 568 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, esboniodd y Pennaeth Datblygu Sefydliadol mai diben yr adroddiad yw ceisio cymeradwyaeth i Strategaeth Gweithlu 2021-2026. Nodwyd fod Strategaeth Datblygu Sefydliadol 2015-2020 y Cyngor wedi canolbwyntio’n strategol ar baratoi’r Cyngor a’i weithlu ar gyfer trawsnewid a newid, ac wedi hyrwyddo’n llwyddiannus y dull gweithredu ‘un Cyngor’, ac wedi cefnogi trawsnewid y sefydliad mewn ymateb i effeithiolrwydd ariannol sy’n cynnwys adolygiad o’r gwasanaethau a chyflwyno dulliau newydd ac amgen o ddarparu gwasanaethau.

 

Mae’r strategaeth 5-mlynedd yma’n canolbwyntio ar y dyfodol, gan integreiddio gweledigaeth, amcanion a threfniadau cynllunio ariannol y Cyngor. Byddai’n cysylltu deilliannau gwasanaethau gyda’r gweithlu sydd eu hangen i’w cyflawni a byddai ganddo ddealltwriaeth barhaus o sut y dylai’r gweithlu edrych yn y dyfodol drwy adolygu parhaus, ail-alinio a mesur sut y cyflawnir deilliannau. Byddai hefyd yn cefnogi’r gweithlu i bontio o ymateb i’r sefyllfa argyfwng yng nghyswllt pandemig Covid-19 a gweithredu fel ysgogydd allweddol i hwyluso newid diwylliannol.

 

Datblygwyd y strategaeth o wybodaeth gweithlu, arolygon staff ac ymgysylltu ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid ac undebau llafur allweddol ac mae’r awgrymiadau a wnaed wedi dylanwadu ar ddatblygiad y strategaeth. Daeth y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i ben drwy ddweud y byddai gan y strategaeth gynllun gweithredu blynyddol a fyddai’n cael ei fonitro drwy’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol. 

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at baragraff 2.2. yr adroddiad sy’n dweud y byddai’r “model gweithredu newydd yn cyflwyno arferion gweithio modern, yn anelu i wella profiad gwaith gweithwyr cyflogedig, cynyddu perfformiad a chynhyrchiant a sicrhau’r gwerth mwyaf i’r sefydliad ...” a gofynnodd os oedd y datganiad hwn yn ddibynadwy.

 

Aeth ymlaen drwy esbonio fod y sefyllfa bresennol yn yr Adrannau Cynllunio a Rheoli Adeiladau yn gywilyddus. Dywedir wrth y cyhoedd y byddai’r Cyngor yn dod yn awdurdod modern lleol, gydag uchelgais i greu tai newydd a dod yn awdurdod carbon isel. Fodd bynnag, roedd pobl yn y Fwrdeistref Sirol yn fawr iawn eu cwyn am y swm hurt o amser y mae’n ei gymryd i geisiadau gael eu hystyried. Gofynnodd am i’r Tîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol a’r arweinyddiaeth wleidyddol weithredu mesurau i fynd i’r afael â’r sefyllfa hon.

 

Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud, yng nghyswllt yr adroddiad, ei fod wedi gwneud ei sylwadau’n flaenorol yn y Pwyllgor Craffu ac yn cefnogi cymeradwyo’r argymhelliad.

 

Dechreuodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud ei fod yn gwybod am y sefyllfa bresennol o fewn y gwasanaeth ond dywedodd ei fod yn credu mai hon oedd y strategaeth gywir ar gyfer y Cyngor. Roedd yr Undebau Llafur wedi cefnogi’r strategaeth ac nid oedd wedi codi unrhyw amheuon am y strategaeth neu unrhyw feysydd eraill o’r awdurdod. Gwyddai fod gwaith yn mynd rhagddo i wella’r gwasanaeth digidol yng nghyswllt yr Adran Cynllunio ac y byddai hynny’n helpu i gefnogi gweithio o bell a gweithio ystwyth, fodd bynnag caiff hyn ei wneud ar lefel weithredol ar hyn o bryd.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr fod Arweinydd y Gr?p Llafur wedi codi  ...  view the full Cofnodion text for item 44.

45.

Datganiad Cyngor Amrywiol pdf icon PDF 422 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid yn fyr am yr adroddiad sy’n cyflwyno’r Datganiad Cyngor Amrywiol i gael ei gymeradwyo. Dywedodd Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i gynyddu amrywiaeth ym mhob agwedd o fywyd cyhoeddus a bod hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal cyfranogiad gweithredol unigolion mewn democratiaeth leol.

 

Mae paragraff 2.4 yr adroddiad yn nodi nifer y disgwyliadau ar y Cyngor i gefnogi amrywiaeth o fewn y broses ddemocrataidd a hefyd gyda phleidiau gwleidyddol i gefnogi’r broses o ddod yn gynghorydd a rhoi cefnogaeth i gynghorwyr unwaith y cânt eu hethol. Mae paragraff 2.5 yn amlinellu’r disgwyliadau ychwanegol fel rhan o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau.

 

Aeth y Prif Swyddog ymlaen drwy ddweud y byddir yn datblygu cynllun gweithredu fyddai’n cwmpasu’r cyfnod hyd at a thu hwnt i etholiadau lleol 2022 ac y cyflwynir hyn i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ei ystyried cyn ei gymeradwyo yn y Cyngor ar 30 Medi. Nodwyd fod y Cyngor eisoes yn gwneud cynnydd mewn rhai o’r meysydd, er enghraifft hyblygrwydd busnes drwy fynychu cyfarfodydd o bell.

 

Croesawodd Aelod yr adroddiad a gofynnodd pwy fyddai’n datblygu’r cynllun gweithredu ac os yr ymgynghorir â’r cyhoedd ar y cynllun cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Dywedodd fod angen i’r Cyngor ymgysylltu gyda phobl i ganfod beth y credent oedd y rhwystrau i ddod yn gynghorydd.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cynhaliwyd trafodaethau dechreuol gyda’r Swyddogion Cydraddoldeb i wneud y cysylltiadau hynny gyda rhai grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli i ganfod eu barn. Yn ychwanegol, mae’r Cynnig Democratiaeth Digidol presennol yn cynnwys gwaith gyda phobl ifanc 16-25 oed i ddeall eu profiadau a’r rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth gysylltu gyda’r trefniadau democrataidd ac y byddai peth o’r dysgu hwn yn helpu i gefnogi datblygu’r cynllun. Mae’r Panel Dinasyddion yn gyfle pellach i ymgysylltu a byddai hynny’n digwydd drwy rwydweithiau eraill a ddynodwyd gan fod gwahanol agweddau o’r datganiad y gallai gwahanol grwpiau fynd â nhw ymlaen. Nodwyd y cafodd peth ymchwil dechreuol ei gasglu gydag unigolion yn y Fwrdeistref Sirol ac y byddai’r holl wybodaeth hon yn cael ei chasglu a’i hystyried. Ychwanegodd y Prif Swyddog y caiff barn Aelodau ei hystyried drwy’r broses ddemocrataidd.

 

Croesawodd Aelod y datganiad a gofynnodd am sicrwydd gan yr Arweinydd, er mwyn dangos ymrwymiad y Cyngor y byddai aelodau’n cael cyfle i drafod Archwiliad Coffau Cymru a gymeradwyodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2020.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd ei fod yn fodlon i’r ddogfen gael ei thrafod.

 

Mynegodd Aelod arall ei bryder am ddemocratiaeth ddigidol a’i brofiad o gyfarfodydd rhithiol gan y teimlai nad oeddent yn ddefnyddiol nac ymarferol a dywedodd y dylid bod wedi cynnal trafodaeth drwyadl gydag aelodau’r cyhoedd a Chynghorwyr.

 

Dywedodd Aelod arall ei bod yn cytuno gyda’r adroddiad ond yr hoffai ryw fath o gydnabyddiaeth o fewn y cynllun gweithredu y cynhelir cyfarfodydd tu allan i’r diwrnod gwaith, yn arbennig bwyllgorau craffu, gan y teimlai y byddai  ...  view the full Cofnodion text for item 45.

46.

Symud tuag at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent pdf icon PDF 941 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn fanwl am yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth i Flaenau Gwent ymuno â chynghorau eraill a phartneriaid statudol eraill yng Ngwent i ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi diweddariad ar y cynnydd a wnaed yng nghyswllt asesiad llesiant a chynllun llesiant rhanbarthol, ffurfio’r pwyllgor craffu rhanbarthol a datblygu partneriaeth cyflawni lleol ym Mlaenau Gwent i sicrhau fod blaenoriaethau lleol yn parhau i fod yn ffocws yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Mae ffocws Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn nodi dyletswydd llesiant ar y cyd ar gyrff cyhoeddus penodol i weithredu ar y cyd drwy Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd drwy gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant.

 

Mae strwythur y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus presennol a gynhwysir o fewn Atodiad 1 yr adroddiad yn nodi fod 5 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngwent ar hyn o bryd yn canoli ar  5 ardal awdurdod lleol a bod y Byrddau hyn yn dod ag awdurdodau lleol a phartneriaid statudol ac anstatudol ynghyd i gydweithio i gynhyrchu cynlluniau ac asesiadau llesiant a nodir yn y ddeddfwriaeth. Disgwylir yr asesiadau llesiant lleol nesaf ym mis Mai 2022 ac mae gofyniad i gyhoeddi’r Cynlluniau Llesiant newydd erbyn mis Mai 2023.

 

Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud darpariaethau i uno dau neu fwy o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i uno a chyflwynwyd cynigion i greu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol ar gyfer Gwent i uno pob un o’r pump Bwrdd presennol yng Ngwent i ffurfio un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol ac i’r Byrddau lleol ddod i ben. Fodd bynnag mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cytuno parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethau lleol drwy bartneriaethau cyflawni lleol.

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr ymlaen drwy ddweud fod Atodiad 2 yr adroddiad yn nodi’r strwythur arfaethedig ar gyfer y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol ac paragraff 2.9 yr adroddiad yn rhoi manylion y manteision yn gysylltiedig gyda’r newid.

 

Pe cymeradwyid y cynnig i symud i un Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol, y dasg gyntaf fyddai cynnal Asesiad Llesiant i bob rhan o Went erbyn mis Mai 2022 a chyhoeddi Cynllun Llesiant Rhanbarthol erbyn Mai 2023. Nodwyd fod dwy flynedd ar ôl ar y Cynllun Llesiant presennol ar gyfer Blaenau Gwent a byddai hyn yn parhau i gael ei gyflenwi a’i oruchwylio gan y bartneriaeth cyflenwi lleol a byddai gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a chraffu ar y Cynlluniau Llesiant presennol yn parhau drwy graffu lleol ym mhob ardal unigol tan 2023 i sicrhau y cyflawnir blaenoriaethau. Yn gweithredu’n gyfochrog i’r trefniant hwn, trefnir strwythur craffu rhanbarthol cyn mis Mai 2022.

 

Hysbyswyd y Cyngor fod cydweithwyr yng Ngwent eisoes wedi ystyried a chymeradwyo’r symud tuag at Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol a bod y partneriaid statudol ac anstatudol wedi cymeradwyo’r adroddiad. Roedd Pwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent wedi ystyried ac wedi cytuno ar yr adroddiad ynghynt yr wythnos honno lle bu trafodaeth yn nhermau cymorth gweinyddol  ...  view the full Cofnodion text for item 46.

47.

Polisi Pryderon a Chwynion Diweddaredig pdf icon PDF 417 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithol a Chorfforaethol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fod yr Awdurdod Safonau Cwynion wedi llunio polisi enghreifftiol Pryderon a Chwynion a bod disgwyliad y byddai awdurdodau cyhoeddus yn mabwysiadu’r polisi enghreifftiol i sicrhau cysondeb trin cwynion ar draws Cymru. Cyflwynwyd y polisi i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant ar 29 Mehefin a chafodd y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor yn cynnwys y sylwadau terfynol gan yr Ombwdsman eu cynnwys yn y polisi. Felly, polisi enghreifftiol oedd y polisi a gyflwynwyd gyda mân addasiadau lleol.

 

Yn y dyfodol, dywedwyd y byddai angen i’r Cyngor roi data ar sail chwarterol i’r Awdurdod Safonau Cwynion ac y byddai angen rhoi adroddiad ar yr wybodaeth hon i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ddwywaith y flwyddyn h.y. mis Hydref a mis Ebrill.

 

Nodwyd fod y cyfeiriad at gwynion o fewn y polisi yn ymwneud â chwynion gwasanaeth ac mae’r drefn yng nghyswllt cwynion ymddygiad yn parhau heb newid. Yn ychwanegol, byddai cyfeiriad y Canolfan Ddinesig y cyfeirir ato yn y ddogfen polisi yn cael ei ddiweddaru i’r cyfeiriad gwasanaeth, a gafodd ei newid yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef mabwysiadu’r Polisi Pryderon a Chwynion a chyflwyno adroddiad cwynion i’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ddwywaith y flwyddyn ym mis Hydref a mis Ebrill bob blwyddyn.

 

48.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol 2019/2020 pdf icon PDF 505 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol yn fyr am yr adroddiad ar wahoddiad y Cadeirydd a dywedodd ei bod yn gyfrifoldeb statudol ar y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol i asesu effeithlonrwydd darpariaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a chynhyrchu adroddiad blynyddol sy’n rhan o Fframwaith Adroddiadau Blynyddol y Cyngor.

 

Oherwydd y pwysau sydd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r pandemig Covid, cytunodd Llywodraeth Cymru ohirio datblygu Adroddiad Blynyddol 2019/20. Fodd bynnag cytunodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach y dylai’r adroddiad ar gyfer 2019/20 gael ei ddatblygu a’i gymeradwyo yn ogystal ag adroddiad ar wahân ar gyfer 2020/21 a gyflwynir i’r Cyngor yn ddiweddarach yn y flwyddyn (hydref).

 

Mae’r prif ddiweddariadau am Wasanaethau Plant ac Oedolion ym mharagraff 6 yr adroddiad. Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ben drwy ddweud fod y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Gofynnodd Aelod i’w ddiolch gael ei gofnodi am waith yr adran drwy gydol y pandemig. Roedd staff wedi mynd tu hwnt i ddisgwyliadau a bu gwaith yr adran yn ardderchog a gofynnodd am ymestyn y diolch i’r holl staff.

 

Adleisiodd Aelod y Gr?p Llafur y sylwadau hwn a dywedodd y bu hon yn gamp wych a gofynnodd hefyd i nodi ei werthfawrogiad a’i longyfarchiadau am y gwaith da.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chadarnhau Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r manylion a gynhwysir yn Adroddiad Blynyddol 2019/20 y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

49.

Deddf Trwyddedu 2003 – Datganiad Polisi Trwyddedu pdf icon PDF 508 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd am yr adroddiad yn fyr a chynigiodd gymeradwyo Opsiwn 1. Eiliwyd y cynnig hwn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo polisi diwygiedig y Ddeddf Drwyddedu.

 

50.

Rhaglen Gwaith Cyfalaf Priffyrdd 2021-2022 pdf icon PDF 550 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol am yr adroddiad sy’n rhoi’r sefyllfa ddiweddaraf a chynnydd ar raglen cyfalaf 2017/2021 a chyflwynodd opsiynau ar gyfer rhaglen waith 2021/22. Esboniodd y daeth £4.4m ar gael hyd yma drwy grantiau Llywodraeth Cymru a benthyca darbodus i roi gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd ac y bu ffocws y gweithiau hyn am y 3 blynedd ddiwethaf ar y priffyrdd preswyl sy’n ffurfio 74% o’r rhwydwaith.

 

Cyfanswm canran y ffyrdd diddosbarth mewn cyflwr gwael cyn dechrau’r gwaith oedd 17%. Fel canlyniad i’r tair blynedd flaenorol, cadwyd y ffigur hwn ar 11.4%. Hyd yma cafodd 82 o briffyrdd preswyl wyneb newydd ynghyd â gwaith blaenoriaeth i ffyrdd dosbarth A a B.

 

Mae £602,000 ar gael ar hyn o bryd yn rhaglen cyfalaf 2021/22 a’r bwriad yw canolbwyntio ar y ffyrdd preswyl yn y cyflwr gwaethaf ym mhob ward. Opsiwn arall ynghyd â’r ffyrdd ym mhob ward oedd edrych ar ffyrdd blaenoriaeth A a B ar gyfanswm cost o £912,000, a fyddai’n gadael diffyg o £310,000. Nodwyd fod lefel bresennol cronfa wrth gefn y rhaglen cyfalaf yn £1.26m a phe cytunid ar y cyllid ychwanegol hwn, byddai hyn yn gostwng y gronfa wrth gefn i £950,000.

 

Daeth y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol i ben drwy ddweud mai’r opsiwn a ffafrir yw Opsiwn 2.

 

Gofynnodd Aelod os y caiff argymhellion Cynghorwyr ei ystyried fel rhan o’r broses oherwydd ei fod wedi gwneud argymhellion blaenorol i’r adran ac na chawsant eu cydnabod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol ei fod yn ymddiheuro os digwyddodd hynny a chadarnhaodd, er y cafodd y polisi ei fabwysiadu, os oes gan Aelodau bryderon penodol y byddant yn cael eu hystyried a byddai’r matrics yn cael ei werthuso yn unol â’r pryderon hynny. Mae hyn wedi digwydd nifer o weithiau hyd yma a dywedodd y byddai’n dilyn y mater penodol a godwyd gan yr Aelod ac yn cysylltu ag ef yn dilyn y cyfarfod.

 

Mynegodd Aelod ei bryder am faint rhai wardiau a dywedodd mai Ward Sirhywi oedd y ward fwyaf yn y Fwrdeistref Sirol ac mae angen trin mwy na un ffordd ynddi. Fodd bynnag, teimlai fod rhai wardiau llai yn cael blaenoriaeth a gofynnodd am i’r broses gael ei hadolygu yn y dyfodol.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod cynghorwyr wardiau wedi rhoi sylwadau ac wedi cadarnhau y gwnaed newidiadau ond nad oedd y rhestr waith bresennol yn adlewyrchu hynny a gofynnodd am eglurhad os caiff hyn ei newid. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol y caiff y rhestr ei diwygio i adlewyrchu’r newid a gytunwyd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 22, sef:

 

Opsiwn 2: Fel Opsiwn 1 (Ffordd Breswyl Blaenoriaeth Uchaf ym mhob Ward [cyfanswm o 16] a Ffordd Stad Ddiwydiannol Blaennant – Amcangyfrif Cyfanswm Cost £602,000) ynghyd â Ffyrdd Blaenoriaeth A a B a Gwaith Diogelwch Priffyrdd – Amcangyfrif Cyfanswm Cost £912,000.

 

Ffyrdd Blaenoriaeth A a B:

o   A4048 gwaith ailadeiladu llawn Heathfield

o   A4046 wyneb newydd  ...  view the full Cofnodion text for item 50.

51.

Rhyddid y Fwrdeistref – Gweithgor Trawsbleidiol pdf icon PDF 230 KB

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2021.

 

Cynigiodd Arweinydd y Gr?p Llafur gymeradwyo’r adroddiad a’r argymhellion ynddo.

 

Cynigiodd Aelod y dylid cytuno i’r cais i gyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i’r Lleng Brydeinig Frenhinol. Mae’r sefydliad hwn wedi cefnogi byddin o wirfoddolwyr am dros 100 mlynedd ac wedi gofalu am gyn aelodau ac aelodau presennol y lluoedd arfog. Eiliwyd y cynnig.

 

Rhoddodd Aelodau eraill sylwadau fel sy’n dilyn yng nghyswllt cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i’r cyn Gynghorwyr Malcolm Dally a Brian Scully:

 

-       Mynegwyd pryder am gyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i gyn gynghorwyr a’i bod yn anaddas i wobrwyo cynghorwyr am swydd yr oeddent wedi derbyn cyflog i’w gwneud oherwydd y byddai hyn yn anfon y neges anghywir i staff a phreswylwyr a gallai fod yn niweidiol i forâl staff.

 

-       Mae cynghorwyr yn derbyn tâl am eu gwaith a gallai gwasanaeth hir cyn gynghorwyr gael ei goffau gyda thystysgrif/gwobr yn lle.

 

-       Nid oedd y cyn gynghorwyr profiadol hyn wedi cael tâl yn ystod y cyfnod y buont yn gwneud y swydd ac nid oedd hyn ynddo’i hyn yn llawer o ddadl pan gafodd y Rhyddid ei gyflwyno’n ddiweddar i bencampwr chwaraeon, cafodd ei gydnabod am yr hyn a gyflawnodd mewn chwaraeon ac nid am gael ei dalu. Daeth yr Aelod i ben drwy gefnogi argymhellion y gweithgor.

 

-       Mewn blynyddoedd blaenorol cafodd Rhyddid y Fwrdeistref ei gyflwyno i gyn gynghorydd am ei wasanaeth hir a hefyd i gyn swyddog o’r awdurdod, felly cafodd cynsail ei osod eisoes.

 

-       Dywedodd Aelod y dymunai gofnodi ei werthfawrogiad i’r cyn gynghorwyr am eu gwasanaeth hir i’r Fwrdeistref Sirol – roedd dros 40 mlynedd o wasanaeth i gael ei gymeradwyo ond credai fod cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref yn gam yn rhy bell. Mae swydd cynghorydd yn un sy’n derbyn tâl ac mae hyn yn ddigon o wobr ynddo’i hun. Cynigiodd na ddylid cytuno i gyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i’r cyn gynghorwyr Scully a Dally.

 

-       Mae’r cyn gynghorwyr hyn wedi rhoi gwasanaeth da i’r Fwrdeistref Sirol am flynyddoedd lawer ac wedi gweithio’n galed yn ystod eu cyfnod yn eu swyddi, ac felly cynigiodd y dylid cymeradwyo argymhellion y gweithgor.

 

-       Dywedodd Aelod y dymunai nodi nad oedd yn adnabod na’n gwybod am y naill na’r llall o’r ddau gyn gynghorydd ond ei bod wedi gwrando ar y sylwadau. Dywedodd fod hyd eu gwasanaeth i’w gymeradwyo’n fawr ond dywedodd mai Rhyddid y Fwrdeistref oedd yr anrhydedd uchaf y gallai’r awdurdod ei gyflwyno ac nid oedd yn cytuno gydag egwyddor cyflwyno Rhyddid y Fwrdeistref i gyn gynghorwyr.

 

-       Cyflwynwyd Rhyddid y Fwrdeistref i’r cyn gynghorydd Rex Herbert oherwydd iddo wasanaethu’n ddi-dor am 52 mlynedd ac mai ef oedd y cynghorydd gyda’r gwasanaeth hiraf yng Nghymru a Phrydain gyfan ar y bryd. Roedd hefyd wedi gwasanaethu fel Maer ar ddau achlysur. Fodd bynnag, mae’r oes wedi newid a chaiff enw da cynghorwyr ei weld yn wahanol ac ni fyddai’r cyhoedd yn maddau gwobrwyo cynghorwyr am eu gwasanaeth.

 

-       Dywedodd Arweinydd  ...  view the full Cofnodion text for item 51.

52.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 454 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan

-       penodi dau gynrychiolydd i’r uchod.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd wedi derbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer y swydd hyd yma.

 

Panel Ymgynghorol Llywodraethwyr Ysgol yr Awdurdod Lleol

 

Gwnaeth y Panel ar 21 Mehefin 2021 yr argymhellion dilynol i benodi:

 

Ysgol Gynraddd Blaen-y-Cwm – Stephen Connolly

 

Ysgol Gynradd Trehelyg – Judith Waring

 

Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr – Adam King

 

Ysgol Gynradd Glanhywi – Cynghorydd T. Smith

 

Mewn pleidlais,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r apwyntiadau uchod.

 

Cymdeithas Llywodraeth Leol – Cynulliad Cyffredinol

 

Nodi penodi’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd i’r uchod.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

 

53.

Amser Cyfarfodydd Cyngor y Dyfodol

Trafod amser cyfarfodydd y dyfodol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i amser cyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD y byddai cyfarfodydd y Cyngor yn dechrau am 10.00 a.m. o hyn ymlaen.

 

54.

Cynnig – Diwrnod 999 Gwasanaethau Argyfwng 2021

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ystyried yr eitem fel mater o frys, cadarnhaodd Cadeirydd y Cyngor y gellid ystyried y mater dan ddarpariaethau Paragraff 4(b), Adran 100(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol:

 

-       Bod y Cyngor yn cofnodi ei gefnogaeth ar gyfer ‘Diwrnod Gwasanaethau Argyfwng’ cenedlaethol blynyddol y Deyrnas Unedig a gynhelir ar 9 Medi ac a gefnogir gan Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II.

-       Bod y Cyngor yn cofnodi ei werthfawrogiad diffuant i’r ddwy filiwn o bobl sy’n gweithio ac yn gwirfoddoli yn y GIG a’r gwasanaethau argyfwng heddiw.

-        Bod y Cyngor yn cytuno i gyhwfan y faner swyddogol ar ‘Ddiwrnod Gwasanaethau Argyfwng’ uwchben neuadd y dref ar 9 Medi bob blwyddyn i nodi Diwrnod 999.

 

Gofynnodd Aelod y dylai’r cynnig gydnabod yr aelodau hynny o’r gwasanaethau argyfwng a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unol â hynny.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Collins y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

55.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm dros y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniadau am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

56.

Tir Elusennol, cyn Ysgol Gymraeg, Stryd y Brenin, Brynmawr

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Stadau.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Croesawodd Aelod Ward yr adroddiad a dywedodd y bu aros mawr am hyn. Mae’r ardal mewn cyflwr diffaith ar hyn o bryd ac edrychai ymlaen at ddatblygu’r safle.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor yn gweithredu fel Ymddiriedolwyr yn cytuno ar y dilynol:

 

1)    Bod yr Ymddiriedolwyr yn gwneud cais am ‘gynllun’.

 

2)    Y byddai unrhyw incwm o werthu’r safle ysgol o fudd cyfartal i ysgol Blaen-y-Cwm, Eglwys yng Nghymru y Santes Fair ac Ysgol Gatholig y Santes Fair.

 

57.

Rheilffordd Cwm Ebwy

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Pennaeth Adfywio yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Esboniodd y swyddog fod yr adroddiad yn rhoi manylion y Cytundeb Benthyciad a’r Cytundeb Pedairochrog. Byddai’r cynnig hwn yn fenter ar y cyd rhwng y Cyngor a’r cyrff a enwir ynddo.

 

Nodwyd fod y Cytundeb Pedairochrog yn rhoi manylion swyddi a chyfrifoldebau pob un o’r partneriaid i gyflawni’r prosiect rheilffyrdd yn llwyddiannus. Yn ychwanegol, mae Cytundeb Gweithredu yn ddogfen gontract sy’n mynd dan y Cytundeb Pedairochrog a fyddai’n ymdrin â darpariaeth y prosiect.

 

Aeth y Pennaeth Adfywio ymlaen drwy amlinellu rolau a chyfrifoldebau pob un o’r sefydliadau partner fel y’u manylir ym mharagraff 2.9 yr adroddiad. Mae’r ddogfen yn nodi’n glir mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddarpariaeth y benthyciad a’r ymrwymiad ariannol ar gyfer y rhaglen yn cynnwys risgiau gorwariant tu hwnt i swm y benthyciad. Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i lobio Adran Trafnidiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyllid ychwanegol i hwyluso gwaith Cam II (Dolen Abertyleri).

 

Daeth y Pennaeth Adfywio i ben drwy ddweud fod y Pwyllgor Craffu Adfywio wedi ystyried yr adroddiad ac wedi cefnogi Opsiwn 1.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau (crynodeb islaw) ac ymatebwyd iddynt gan y Rheolwr Gwasanaeth, Pennaeth Adfywio, Rheolwr Gwasanaeth – Cyfrifeg, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd.

 

-       Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei gonsyrn y cafodd y penderfyniad ei wneud yn y Pwyllgor Craffu Adfywio heb wybodaeth lawn o’r Cytundeb Pedairochrog. Pe cytunid ar y cynnig hwn, gofynnodd os y byddid yn cyhoeddi datganiad i’r wasg i’r cyhoedd (gan fod hwn yn adroddiad cyfrinachol heb fod o fewn y parth cyhoeddus) ac os felly, os y byddai hyn yn datgelu’r ffaith mai Llywodraeth Cymru fyddai’n gyfrifol pe byddai unrhyw ddiffyg neu rwymedigaeth ariannol yn gysylltiedig gyda’r benthyciad.

 

Eglurodd yr Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd na fyddai’r Cyngor yn atebol yn ariannol am y benthyciad neu os oedd diffyg, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fyddai hynny. Byddai angen cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt yr agweddau cyllid ond gellid sicrhau’r cyhoedd na fyddai Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cario unrhyw rwymedigaeth ariannol.

 

-       Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at baragraff 6.1.2 yr adroddiad a gofynnodd os byddai Llywodraeth Cymru yn lliniaru’r effaith ar ddarpariaeth isafswm refeniw y Cyngor neu os byddai’n rhaid i’r Cyngor gario’r baich hwn.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth – Cyfrifeg y byddai effaith ar yr isafswm  ...  view the full Cofnodion text for item 57.

58.

Gwaith Cynnal a Chadw Priffyrdd Ychwanegol 2021/22

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Cymunedol i gael ei ystyried.

 

Siaradodd y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol yn fyr am yr adroddiad a dywedodd pe cymeradwyid  Opsiwn 2 y byddai cost y £320,000 yn cael ei gyllido o gronfa wrth gefn gyffredinol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 2, sef:

 

Dynodi’r gwaith angenrheidiol ar draws pob un o’r 16 ward a chynnal gwaith tendr gyda chontractwr preifat i sicrhau cost gwaith clytio priffyrdd fesul metr sgwâr. Targedu tua 400 metr sgwâr o atgyweirio priffyrdd fesul ward yn cynnwys ffyrdd preswyl ym mhob un o’r 16 ward.

 

59.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Datganodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fuddiant yn eitemau rhif 59-61 a gadawodd y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Wedyn cafodd eitemau rhifau 57-62 eu hystyried ar yr un pryd.

 

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.

 

60.

Pwyllgor Penodiadau

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2021.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a chynnig y swydd i Luisa Munro-Morris ar gyflog yn unol â JNC 3 (£63,742 - £70,115).

 

61.

Llunio Rhestr Hir – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mai 2021.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.

 

62.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.

 

63.

Pwyllgor Penodiadau

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2021.

 

PENDERFYNWYD i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a chynnig y swydd i Bernadette Elias ar gyflog yn unol â JNC 5 (£73,137 - £80,450).  

 

64.

Pwyllgor Apêl

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2021.

 

Cofnodion:

Gan ystyried y farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2021.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r penderfyniad a gynhwysir ynddo.