Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 25ain Mawrth, 2021 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad ymlaen llaw os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G. Collier.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau dilynol o fuddiant:

 

Eitem Rhif 31 – Strategaeth Buddsoddiad TGCh

Cynghorydd Wayne Hodgins

    

Eitem Rhif 35: Datganiad Polisi Tâl 2021/2022

 

-       Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr

-       Richard Crook – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

-       Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

-       Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-       Bernadette Elias – Prif Swyddog Interim Masnachol

-       Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-       Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-       Gina Taylor – Rheolwr Gwasanaeth Cyfrifeg

-       Sean Scannell – Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Mynediad Cwsmeriaid

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd

-       Michelle Hicks – Swyddog Cymorth Democrataidd

 

Byddai’r swyddogion a enwir uchod yn gadael y cyfarfod pan ystyrir yr eitem hon o fusnes. Fodd bynnag byddai’r swyddogion dilynol yn aros yn y cyfarfod i gadw nodiadau am y trafodion:

 

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd (clerc cofnodion)

-       Michelle Hicks – Swyddog Cymorth Democrataidd

 

Eitem Rhif 40 – Safle NMC, Brynmawr

Cynghorydd John C. Morgan

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

 

Mynegwyd llongyfarchiadau i:

 

Tyler Allen, bachgen 10 oed o Six Bells sydd wedi cwblhau her i ddarllen 2 miliwn o eiriau fel rhan o’r rhaglen Darllen Cyflymach. Roedd Tyler wedi dechrau’r her ym mis Medi ac wedi darllen ei  filiwn cyntaf o eiriau erbyn y Nadolig ac ers hynny mae wedi darllen yr ail filiwn o eiriau gartref.

 

Roedd Tyler i fod wedi cael gwasanaeth cydnabyddiaeth arbennig yn Ysgol Gynradd Six Bells ond ni fu hyn yn yn bosibl oherwydd cau ysgolion.

 

Felly roedd Aelod Gweithredol Addysg a Chadeirydd y Cyngor wedi anfon llythyrau at Tyler i’w longyfarch am ei gamp wych.

 

COVID-19 – Diwrnod Coffa – 23 Mawrth 2021

 

I gofio blwyddyn ers dechrau’r pandemig, nododd Aelodau a swyddogion funud o fyfyrio tawel i gofio’r rhai a gollwyd oherwydd COVID-19.

 

5.

Llyfr Cofnodion – Tachwedd 2020 – Mawrth 2021

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2020 – Mawrth 2021 i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r cofnodion.

 

Ar y pwynt hwn, gofynnodd Arweinydd y Gr?p Llafur am ddatganiad byr i ddiweddaru Aelodau ar blant yn dychwelyd i’r ysgol a’r nifer o achosion COVID-19 a adroddwyd wedyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg mai’r sefyllfa ar 24 Mawrth 2021 oedd bod 130 o ddisgyblion yn hunanynysu oherwydd y cydnabuwyd bod y disgyblion hyn yn rhan o grwpiau cyswllt lle cadarnhawyd achosion positif a chadarnhawyd 6 achos positif (o staff addysgu a disgyblion). Fodd bynnag, mae’r sefyllfa hon yn newid yn ddyddiol gan y derbyniwyd gwybodaeth y diwrnod hwnnw am achos positif arall a ddynodwyd mewn ysgol gynradd yn ardal Tredegar.

 

Cyfeiriodd Aelod at y drafodaeth flaenorol a gynhaliwyd am Aelodau lleol yn cael eu hysbysu am unrhyw achosion o fewn ysgolion a mynegodd ei phryder na dderbyniwyd yr wybodaeth hon y tro hwn.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg at y cytundeb sy’n edrych yn ôl i dymor yr hydref, sef os byddai unrhyw ysgolion neilltuol yn cael eu cau yr hysbysid Aelodau ac y byddent hefyd yn cael eu diweddaru’n gyfnodol ar y sefyllfa gyffredinol. Fodd bynnag ar y pwynt hwn nid oedd angen cau ysgolion.

 

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 607 KB

Ystyried, ac os credir yn briodol, gadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 461 KB

Ystyried, ac os credir yn briodol, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 268 KB

Ystyried, ac os credir yn briodol, gymeradwyo cofnodion cyfarfod y cofnodion a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 256 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) pdf icon PDF 214 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Troseddu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 195 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Pwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 197 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 297 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 340 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 22 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 436 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 289 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 9 Tachwedd 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 331 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2020. 

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 273 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 259 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 7 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 298 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr 2020. 

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

21.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 323 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

22.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 231 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 21 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

23.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 232 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

24.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 473 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 2 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

25.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 261 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

26.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 322 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2021.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

27.

CWESTIYNAU GAN AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau. 

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan Aelodau.

 

28.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.

 

29.

Rheoli Trysorlys – Datganiad Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Datganiad Polisi MRP 2021/2022 (yn cynnwys Dangosyddion Darbodus) pdf icon PDF 511 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau mai diben yr adroddiad yw ystyried y Datganiad Strategaeth Trysorlys, y Strategaeth Buddsoddi a’r Datganiad Polisi MRP i’w mabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022. Dywedwyd y cafodd yr adroddiad ei baratoi yn unol â Chod Ymarfer CIPFA ar Reolaeth Trysorlys sydd angen i Ddatganiad Strategaeth Trysorlys blynyddol gael ei gymeradwyo cyn y flwyddyn ariannol berthnasol.

 

Byddai’r Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol sy’n rhan o’r Datganiad Strategol Trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus ar gyfer 2021/2022 yn cael eu hadolygu drwy gydol y flwyddyn a byddid yn rhoi adroddiad ar unrhyw newidiadau sydd eu hangen i’r Cyngor yr adeg honno. Roedd Datganiad Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw (MRP) 2021/2022 hefyd wedi ei gynnwys fel rhan o’r Datganiad Strategaeth Trysorlys. Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol wedi craffu ar y Datganiad Strategaeth cyn ei argymell i’w gymeradwyo’n ffurfiol gan y Cyngor ac mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Craffu yn flaenorol, mae’r strategaeth nawr yn cynnwys adran yn ymwneud â buddsoddiadau moesegol – mae hyn yn Adran 4.7 Atodiad 1.

 

Mae’r Cod hefyd yn argymell fod y Cyngor yn creu a chynnal Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, yn nodi’r polisïau ac amcanion ei weithgareddau rheoli trysorlys. Er nad yw’n ofyniad yn y Cod fod awdurdodau yn ceisio cymeradwyaeth i’r Datganiad Polisi Rheoli Trysorlys, cafodd ei gynnwys yn yr adroddiad fel Atodiad B er gwybodaeth.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y diweddarwyd y strategaeth i roi ystyriaeth i ragolygon diweddar (prif amcanion y datganiad strategaeth y cydymffurfir â nhw oedd diogelwch a hylifedd buddsoddiadau) a dywedodd nad oedd unrhyw newidiadau sylfaenol o gymharu gyda blwyddyn ariannol 2020/2021.

 

Daeth y Prif Swyddog i ben drwy gyfeirio at eitem Rhif 41 ar yr Agenda – Rheilffordd Glyn Ebwy a dywedodd, pe cytunid ar yr adroddiad, y byddai angen diwygio’r ffiniau gweithredol a’r terfynau a awdurdodwyd.

 

Felly PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y Datganiad Strategaeth Trysorlys Blynyddol a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol a’r Datganiad Polisi MRP ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 a’r Dangosyddion Darbodus Rheoli Trysorlys a gynhwysir ynddo. 

 

30.

Strategaeth Cyfalaf 2021/2022 pdf icon PDF 501 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau..

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Diben yr adroddiad yw rhoi cyfle i Aelodau ystyried a mabwysiadu’r Strategaeth Cyfalaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022, yn dilyn ei adolygiad blynyddol.

 

Nodwyd fod y Strategaeth Cyfalaf yn rhoi trosolwg lefel uchel o sut y mae gwariant cyfalaf, cyllido cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys wedi cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaethau a sut y caiff risg cysylltiedig ei reoli a’r goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Mae’r strategaeth yn amlinellu’r egwyddorion a’r fframwaith ar lefel uchel iawn sy’n llunio’r cynigion buddsoddiad cyfalaf.

 

Aeth y Prif Swyddog Adnoddau ymlaen drwy ddweud mai prif nod y strategaeth oedd cyflenwi rhaglen fforddiadwy o gyfalaf yn gydnaws gyda’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol sy’n cyfrannu at gyflawni blaenoriaethau ac amcanion yr awdurdod fel y’u hamlinellir yn y Cynllun Corfforaethol (h.y. byddai’n llywio’r ffordd y caiff amcanion gwasanaeth hirdymor eu cyflenwi). Yn ychwanegol, mae’n ystyried risgiau cysylltiedig yn neilltuol y rhai sy’n gysylltiedig gyda chyfleoedd masnachol a chyfyngiadau ariannol cydnabyddedig dros y tymor hirach.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Strategaeth Cyfalaf 2021/2022.

 

31.

Rhaglen Cyfalaf 2020/21 hyd 2025/26 pdf icon PDF 535 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad ar y Rhaglen Cyfalaf lawn (hyd 2025/26) a’r effaith ar y cyfalaf wrth gefn fel canlyniad i fuddsoddiadau cyfalaf diweddar a gymeradwywyd. Fel ym mis Hydref 2019 nodwyd fod cyfalaf wrth gefn o £2.843m yn parhau i gael ei ddyrannu ar ddyddiad yn y dyfodol.

 

Cymeradwywyd y cynlluniau ychwanegol yn ddiweddar (a fanylir ym mharagraff 2.2 yr adroddiad) yn gyfanswm o £2,026,000 gyda chyllid pellach o £650,000. Arweiniodd hyn at gynnydd net yn y rhaglen cyfalaf a gostyngiad dilynol yn y cyfalaf wrth gefn o £1,376,000. Manteisiwyd ar y cyfle i edrych eto ar lefel y cyllid sydd ar gael ac mae tabl 2.3.2 yn dynodi y gellid cynnwys £630,000 ychwanegol ar gyfer buddsoddiad cyfalaf – roedd hyn fel canlyniad i gyllid yn y gyllideb yn cael ei adolygu ar ôl derbyn y setliad diweddar gan Lywodraeth Cymru.

 

Mae adran 2.4 yr adroddiad yn dynodi ailbroffilio cyfraniad y Cyngor i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cyflwyno nifer o gynlluniau. Roedd y proffil gwreiddiol wedi dynodi gofyniad cyllid gan y Cyngor o £4,940,000 ar gyfer y cyfnod 2017/18 i 2025/26, fodd bynnag mae’r proffil newydd angen cyllid o £5,543,000 yn ystod yr un cyfnod gydag angen y £603,000 arall yn 2026/27. Fodd bynnag, mae’r proffil diweddaraf gan y Fargen Ddinesig yn dangos y byddai angen y cyfraniad llawn o £5.54m erbyn 2020/23 ac mae hyn yn golygu y byddai angen £603,000 ychwanegol o fewn y rhaglen cyfalaf bresennol. Nodwyd fod y Fargen Ddinesig yn dod â’r proffil ynghynt oherwydd nifer o brosiectau a gymeradwywyd a phrosiectau yn yr arfaeth y disgwylid y byddent yn dechrau ac yn golygu gwariant yn ystod 2022/23.

 

Rhoddir effaith y newidiadau i’r rhaglen gyfalaf a’r cyfalaf wrth gefn ym mharagraff 5.1.2 yr adroddiad – mae’r gronfa wrth gefn sydd ar ôl ychydig dan £1.5m ar hyn o bryd. Argymhellwyd fod y Cyngor yn cadw cronfa cyfalaf wrth gefn gyda tharged o £1m oedd yn gyfwerth â 5% o adnoddau Blaenau Gwent ei hun yn y rhaglen gyfalaf. Pe byddai’r holl gyllid cyfalaf yn cael ei ddyrannu byddai cyllid cyfyngedig ar gael i’w ddyrannu i brosiectau’r dyfodol ac i fynd i’r afael ag unrhyw orwariant posibl mewn cynlluniau cyfalaf. Caiff manylion prosiectau’r dyfodol a gorwariant posibl eu cynnwys ym mharagraffau 5.2.2 a 6.1.1 yn yr un drefn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai angen cymeradwyaeth y Cyngor ar gyfer unrhyw ddefnydd neu gais i ddefnyddio’r gronfa gyfalaf wrth gefn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

-      Cytuno i ailbroffilio cyllid y Fargen Ddinesig a nodi’r Rhaglen Gyfalaf wedi ei diweddaru ac effaith y cymeradwyaethau dilynol, cyllid diwygiedig ac ailbroffilio cyllid y Fargen Ddinesig ar y gronfa gyfalaf wrth gefn.

 

-      Cytuno i gynnal cronfa gyfalaf wrth gefn gyda tharged o £1m yn gyfwerth â 5% o adnoddau Blaenau Gwent ei hun o fewn y rhaglen gyfalaf (2020/21 i  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Cynllun Buddsoddi TGCh pdf icon PDF 563 KB

Ystyried adroddiad y cyd-swyddogion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Wayne Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’i bod yn cael ei hystyried ond heb gymryd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyd-swyddogion.

 

Amlinellodd y Prif Swyddog Interim Masnachol ddiben yr adroddiad sef rhoi set lawn o gynigion i’r Cyngor ar yr opsiynau buddsoddi sydd eu hangen i gadw seilwaith TGCh sefydlog a chryf.

 

Cafodd y cynigion eu gwahanu yn dri chategori sy’n anelu i ddisgrifio’r heriau cyfredol ac opsiynau’r dyfodol, sef:

 

-      Cyfrifiaduron desg - cynigiwyd adnewyddiad 5-mlynedd o’r stad gliniaduron a chyfrifiaduron desg.

-      Rhwydwaith a theleffoneg – cynigiwyd adnewyddu stad teleffoneg hen ffasiwn a gwella darpariaeth gwasanaeth sy’n cynnwys swyddogaeth switsfwrdd.

-      Cofrestr contractau – gall fod cyfle i ostwng gwariant ar gontractau meddalwedd a chaledwedd allweddol a gaiff eu rheoli gan SRS ar ran y Cyngor a rhai a gaiff eu rheoli’n uniongyrchol gan y Cyngor. Byddai hyn yn cynnwys adolygiad o nifer o gysylltiadau PSBA a fedrai arwain at arbedion ariannol pe byddent yn cael eu gostwng.

 

Roedd profiad diweddar y pandemig a symud i weithio ystwyth wedi dangos sut y gallai technoleg gefnogi’r Cyngor i gyflawni ei drefniadau democrataidd a darpariaeth gwasanaeth.

 

Daeth y Prif Swyddog Interim Masnachol i ben drwy ddweud bod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol ar 22 Ionawr a’r Pwyllgor Gweithredol ar 24 Chwefror 2021 wedi cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Dechreuodd y Prif Swyddog Adnoddau drwy ddweud fod Adran 5 yr adroddiad yn dynodi’r buddsoddiad cyfalaf a refeniw sydd ei angen i gyllido’r cynigion gyda buddsoddiad dechreuol o £464,000 yn y ddwy flynedd gyntaf a ddilynir gan fuddsoddiad blynyddol wedyn o £166,000. Fodd bynnag, ers i’r adroddiad gwreiddiol gael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu a’r Pwyllgor Gweithredol, roedd y Cyngor wedi derbyn Grant Trawsnewid Digidol gan Lywodraeth Cymru ac fel canlyniad cafodd y cynnig cyllid cyfalaf ar gyfer y buddsoddiad hwn ei ddiwygio i gynnig bod tair blynedd cyntaf y buddsoddiad yn cael ei ariannu o gronfa wrth gefn TGCh (£63,0900) a’r Grant Trawsnewid Digidol (£567,000).

 

Yn nhermau costau refeniw ar gyfer gweithredu Teleffoneg Teams a’r Ganolfan Cyswllt, amcangyfrifwyd eu bod tua £77,000 y flwyddyn. Byddai hyn yn cael ei gyllido o’r gyllideb refeniw a sefydlwyd gyda’r costau hyn yn disodli costau ar y trefniadau presennol na fyddai eu hangen mwyach.

 

Daeth y Prif Swyddog i ben drwy ddweud y disgwylid fodd bynnag y byddai rhai costau pontio wrth drosglwyddo o’r ddarpariaeth bresennol i’r trefniadau newydd a chynigwyd fod y costau hyn yn cael eu cyllido gan gronfa wrth gefn TGCh.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo’r buddsoddiad yn y seilwaith TGCh.

 

33.

Adroddiad Blynyddol Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 622 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Interim Masnachol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi fod lefel ddigonol o gymorth ar gyfer Aelodau Etholedig.

 

34.

Adroddiad Craffu Blynyddol 2019/20 pdf icon PDF 410 KB

Ystyried adroddiad y cyd swyddogion.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyd-swyddogion.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r ‘gweithgaredd craffu’ a gynhaliwyd gan bob Pwyllgor Craffu yn ystod 2019/20 a chyhoeddi’r adroddiad ar wefan Blaenau Gwent.

 

35.

Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2021/22 pdf icon PDF 715 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1 sef nodi’r penderfyniadau a nodir yn adroddiad blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

 

36.

Datganiad Polisi Tâl 2021/22 pdf icon PDF 412 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y swyddogion dilynol fuddiant yn yr eitem hon a gadael yr ystafell tra ystyriwyd yr eitem:

 

-       Michelle Morris – Rheolwr Gorfforaethol

-       Richard Crook – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

-       Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

-       Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-       Bernadette Elias – Prif Swyddog Interim Masnachol

-       Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-       Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-       Gina Taylor – Rheolwr Gwasaneath - Cyfrifeg

-       Sean Scannell – Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Mynediad Cwsmeriaid

 

Arhosodd y swyddogion dilynol yn y cyfarfod tra bod yr eitem yn cael ei hystyried i gadw nodiadau o’r trafodion:

 

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd

-       Michelle Hicks – Swyddog Cymorth Democrataidd

 

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

Nodwyd fod Deddf Lleoliaeth 2011, Pennod 8 (Adrannau 38 i 43) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi Datganiad Polisi Tâl blynyddol sy’n rhaid iddo fanylu ar bolisïau’r Awdurdod yng nghyswllt amrywiaeth o faterion yn ymwneud â thâl ei weithlu, yn arbennig bolisïau’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol ei staff uwch (Prif Swyddogion) a’r gweithwyr  ar y cyflog isaf.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo Datganiad Polisi Tâl 2021/2022.

 

Ar y pwynt hwn dychwelodd y swyddogion a enwir uchod a adawodd y cyfarfod tra bod yr eitem yn cael ei hystyried.

 

37.

Model Gweithredu a Threfniadau Gweithio newydd y Cyngor pdf icon PDF 545 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn fanwl am yr adroddiad sy’n ceisio cymeradwyaeth ar gyfer model gweithredu a threfniadau gweithio newydd ar gyfer y Cyngor. Mae hwn yn benderfyniad pwysig i Flaenau Gwent – y dewis yw p’un ai i ddychwelyd i sut y gweithredai’r Cyngor yn flaenorol wrth i’r wlad ddod allan o gyfnodau clo ac yn adfer o’r pandemig neu gymryd cam uchelgeisiol ymlaen a dysgu o’r profiad a’r ymateb dros y 12 mis diwethaf a dangos arweinyddiaeth gymunedol drwy greu sefydliad ystwyth a modern.

 

Nodwyd y byddai’r trefniadau gweithio newydd yn golygu symud i fodel gweithio ystwyth ar gyfer y gweithlu ar sail barhaol yn seiliedig ar y dysgu a phrofiadau o sut y gweithredodd y Cyngor dros y 12 mis diwethaf. Byddai hyn yn golygu y byddai angen penderfyniad i adael y Ganolfan Ddinesig yn barhaol a rhyddhau’r tir ar gyfer dibenion adfywio, creu Hyb Democrataidd newydd yn y Swyddfeydd Cyffredinol ar gyfer busnes ffurfiol y cyngor a chreu rhwydwaith o Hybiau Cymunedol yn rhannu lleoliad gyda llyfrgelloedd.

 

Cafodd y cynigion hyn eu datblygu dros nifer o fisoedd ac amlinellodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ddilyniant yr adroddiadau a gyflwynwyd i’r Cyngor ers mis Gorffennaf 2020 (paragraffau 2.5 – 2.7 yr adroddiad) a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2020 gydag adroddiad oedd yn argymell fod y sefyllfa a gytunwyd yn flaenorol yn y Cyngor, i symud ymlaen gyda chaffael Parc yr ?yl, yn cael ei adael i fuddsoddwyr preifat sydd wedi datgan diddordeb yn y safle i fynd ag ef rhagddo ond y dylai’r Cyngor symud ymlaen gyda’r agweddau eraill a gytunwyd yn y Cyngor (Hydref 2020) i ddatblygu’r cyfleuster democrataidd yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Hybiau Cymunedol mewn canol trefi a gadael a dymchwel y Ganolfan Ddinesig. Dywedwyd fod y dyraniadau cyfalaf i wneud y gwaith hwn wedi ei gytuno’n flaenorol gan y Cyngor.

 

Ers penderfyniad y Cyngor ym mis Tachwedd, mae’r Gweithgor Aelodau wedi gweithio gyda swyddogion a chynrychiolwyr undebau llafur i ddatblygu model ar gyfer y trefniadau gweithio newydd, yn seiliedig ar weithio ystwyth, a fyddai’n galluogi’r sefydliad i weithredu allan o’r swyddfeydd sydd ganddo ar ôl yn Llys Einion, ViTCC, y Swyddfeydd Cyffredinol ac adeiladau eraill priodol y Cyngor. Rhoddir manylion y cynigion hyn yn Adran 5 yr adroddiad.

 

Roedd nifer o fanteision yn gysylltiedig gyda gweithredu model gweithio ystwyth, yn cynnwys:

 

-       Creu trefniadau gweithio hyblyg ac ystwyth ar gyfer staff ac oherwydd y byddai newidiadau i gontractau cynigid y darperid lwfans ar gyfer gweithwyr cartref ac ystwyth.

-       Yn seiliedig ar dystiolaeth y byddai gwell cydbwysedd gwaith/bywyd gan ostwng y teithio dyddiol i ac o’r gwaith a pharhad lefel uchel o gynhyrchiant.

-       Gostyngiad yn nifer y dyddiau a gollir oherwydd absenoldeb salwch.

 

Roedd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn cydnabod na fyddai’r trefniant yn gweddu’r holl staff a byddai’r model yn galluogi gwneud addasiadau ar gyfer yr aelodau hynny o staff a allai fod mewn categori gweithwyr cartref neu ystwyth ond na fedrai wneud hyn ar sail  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Cynnig – Prydau Ysgol am Ddim pdf icon PDF 311 KB

Ystyried y cynnig a atodir gan Unite Cymru.

 

Cofnodion:

 

Ystyriodd y Cyngor y cynnig dilynol gan Unite Cymru.

 

Er y croesewir symudiad Llywodraeth Cymru i ymestyn darpariaeth prydau ysgol am ddim i’r rhai sy’n gymwys ar hyn o bryd tan y Pasg 2022 yn cynnwys gwyliau ysgol, roedd hyn yn anffodus yn golygu nad yw’r holl blant hynny sy’n byw mewn cartrefi ar fudd-daliadau, p’un ai’n gredyd cynhwysol, credyd treth gwaith neu fudd-daliadau gwaddol, oherwydd y gosodwyd y trothwy ar £7,400 neu enillion fisol yn llai na £610, yn derbyn prydau ysgol am ddim gan olygu mewn gwirionedd fod mwy mewn tlodi yn mynd heb yn hytrach na chael.

 

Felly PENDERFYNODD y Cyngor yn unfrydol:

 

-       Cydnabod y ffaith ofidus fod 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac eto mai dim ond 13% sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Roedd hyn yn bennaf oherwydd bod y 17% arall o blant yn byw ar aelwydydd incwm isel lle maent ychydig dros y meini prawf presennol ar gymhwyster.

 

-       Nodwyd fod gan Loegr a’r Alban brydau ysgol am ddim i bob plentyn yn y Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2, ac nad yw hynny’n wir yng Nghymru.

 

-       Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau costau, cyllideb a darparu fel mater o frys i ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn sy’n byw  mewn tlodi yng Nghymru ond a gaiff eu heithrio rhag bod â hawl dan y meini prawf presennol ar gymhwyster.

 

-       Cytunwyd na ddylai unrhyw blentyn fynd yn newynog ac y dylai hyn fod yn gam tuag at ymestyn prydau ysgol am ddim i bob plentyn yng Nghymru fel y gelwir amdano gan wahanol grwpiau yng Nghymru, yn cynnwys y Gr?p Gweithredu ar Dlodi Plant a Chynulliad y Bobl, Cymru.

 

39.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 455 KB

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan

-       i benodi cynrychiolydd newydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd wedi derbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer y swydd hon ar hyn o bryd ac estynnodd wahoddiad i Arweinwyr Gr?p eraill i gyflwyno datganiadau diddordeb.

 

Panel Ymgynghori ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion yr Awdurdod Lleol

 

Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 4 Mawrth 2021 i benodi:

 

Ysgol Gynradd Deighton – Cynghorydd H. Trollope & Delyth Pearsall

 

Ysgol Arbennig Pen y Cwm – Tim Baxter

 

Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort – Frances Lynch

 

Ysgol Gynradd Cwm - Kathryn Cross

 

Ysgol Gynradd Ystruth – Kerys Beese

 

Cymuned Ddysgu Abertyleri – Jack Newtown

 

Canolfan yr Afon -  Raymond Harris, Lee Powell a Jan English

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r apwyntiadau uchod.

 

40.

Eitemau Eithriedig

To receive and consider the following reports which in the opinion of the proper officer are an exempt items taking into account consideration of the public interest test and that the press and public should be excluded from the meeting (the reasons for the decision for the exemption is available on a schedule maintained by the proper officer).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniadau am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

 

41.

Safle NMC, Brynmawr

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. C. Morgan fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’r oedd yn cael ei hystyried ond ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth.

 

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Busnes ac Adfywio.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a rhoi manylion cwmpas a chefndir y prosiect. Rhoddir yr wybodaeth hon yn adrannau 2.1 – 2.11 yr adroddiad.

 

Mewn ateb i gwestiwn, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol na wyddai am unrhyw yswiriant neilltuol y gellid ei gymryd i indemnio’r risg ond dywedodd y gellid ymchwilio hyn. Fodd bynnag, nodwyd y byddai’n rhaid talu’n ddrud am y math hwn o yswiriant ac nad oedd hynny yn y gyllideb.

 

Mynegodd yr Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd ei werthfawrogiad i swyddogion am ddod â’r prosiect hwn i ffrwyth a chynigiodd gymeradwyo Opsiwn 2.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 1, sef awdurdodi’r Weithred Blaenoriaeth gan alluogi’r prosiect i fynd rhagddo.

 

Mynegodd Aelod Ward ei werthfawrogiad i’r Cyngor am gefnogi’r proseict hwn a fyddai’n ei gwneud yn bosibl dod â safle ddiffaith tir llwyd yn ôl i ddefnydd.

 

42.

Rheilffordd Cwm Ebwy

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fanylion y cynnig a fyddai’n cynorthwyo gyda gweithredu’r seilwaith sydd ei angen i gyflawni amcan Llywodraeth Cymru a hefyd y Cyngor sef cynyddu amlder gwasanaethau. Nodwyd y byddai’r benthyciad di-log ac na fyddid yn ei gymryd nes y cynhaliwyd diwydrwydd dyladwy ac y cytunwyd i sefydlu trefniant cyd-fenter – os na chytunir ar hyn, byddai’r arian yn cael ei ad-dalu’n llawn.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau (crynodeb islaw), gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol/Prif Swyddog Adnoddau yn ymateb:

 

-       Dywedodd Aelod mai dim ond os y gwarentir dolen Casnewydd ac y gwneir y gwaith mewn partneriaeth gyda Chaerffiili a Chasnewydd a bod y baich ariannol yn cael ei rannu rhwng y tri awdurdod y byddai’n cefnogi’r cynnig.

 

Cydnabu’r Aelod gyfle gangen i Abertyleri ond dywedodd fod y pandemig wedi rhwygo canol tref Abertyleri gyda siopau wedi cau a gofynnodd os cynhelir asesiad effaith i asesu unrhyw effaith posibl y byddai hyn yn ei gael ar fusnesau presennol. Daeth i ben drwy ddweud y gallai cynyddu nifer y trenau i 4 yr awr fod yn ormod ac y gallai o bosibl wneud y llinell yn anhyfyw yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y bu trafodaeth sylweddol pan agorodd y rheilffordd gyntaf am ddefnydd gan deithwyr ac roedd y modelu wedi ei seilio ar lefelau defnydd hysbys – byddai Astudiaeth WelTAG yn penderfynu os yw nifer defnyddwyr yn realistig. Yng nghyswllt canol y dref, byddai hyn yn cael ei ailasesu i benderfynu sut y gellid newid y dref dros gyfnod i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd rhwng y dref a’r ddolen reilffyrdd. Nodwyd y cynhelir asesiad o’r effaith economaidd fel rhan o’r proseict.

 

Byddai’r gwaith yn nhermau dolen Casnewydd yn dibynnu ar drydydd parti a chaiff hyn ei gynnwys fel rhan o’r cytundeb Cydfenter a fyddai’n nodi’r prif ganlyniadau ar gyfer y prosiect. Yn nhermau gweithio partneriaeth gyda’r ddau awdurdod arall, nid oes unrhyw reswm pam na fedrai’r tri chyngor gydweithio i fanteisio i’r eithaf ar y buddion yn y dyfodol a dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y gallai hyn ffurfio rhan o ymgysylltu yn y dyfodol.

 

Yn nhermau cwestiwn am risg yn nhermau cynnydd yn y MRP, cadarnhawyd pe derbyniwyd y benthyciad ac na chytunwyd ar y Gyd-fenter, gellid ad-dalu’r cyllid felly ni fyddai unrhyw oblygiadau risg i’r Cyngor. Fodd bynnag, pe gellid cyflawni’r ffrwd incwm, ni fyddai angen y ddarpariaeth MRP.

 

-       Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur  ...  view the full Cofnodion text for item 42.

43.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Derbyn adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio ac i nodi’r penderfyniadau a gynhwysir ynddo.

 

44.

Pwyllgor Penodiadau

Derbyn adroddiad y Pwyllgor Apwyntiadau a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol parthed y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD gwahardd y cyhoedd tra cynhaliwyd yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a:

 

-       cynnig swydd Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid Addysg a Newid Busnes i Claire Gardner ar gyflog yn unol â JNC 1 (£51,407 - £56,544).

 

-       cynnig swydd Rheolwr Gwasanaeth Pobl Ifanc a Phartneriaethau i Joanne Sims ar gyflog yn unol â JNC 1 (£51,407 - £56,544).