Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 26ain Tachwedd, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier a Chyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a wnaed.

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Eitem Rhif 21 – Achos Busnes Canolfan Data

Cynghorydd W. Hodgins

 

Eitem Rhif 30 – Pwyllgor Apwyntiadau Swyddog JNC

Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Ni ddaeth unrhyw gyhoeddiadau i law.

 

5.

Llyfr Cofnodion Mis Mawrth – Mis Hydref 2020

Cofnodion:

Derbyniwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod mis Mawrth – mis Hydref 2020 i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gadarnhau’r cofnodion.

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 412 KB

Cadarnhau, ac os credir yn briodol, gymeradwyo Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 275 KB

Cadarnhau ac os credir yn briodol, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 226 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 3 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 253 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 240 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 21 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 467 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Cyfarfod Arbenig o’r Pwyllgor Gwiehtredol pdf icon PDF 341 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 321 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 247 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Medi 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 258 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 356 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 472 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cwestiynau dilynol gan y Cynghorydd H. Trollope ac atebwyd gan Arweinydd y Cyngor.

 

Cwestiwn:

 

Dechreuodd y Cynghorydd Trollope drwy ddweud nad oedd hwn yn gwestiwn ‘gwleidyddol’. Roedd yn ei ofyn oherwydd y sefyllfa y bu ynddi yn ddiweddar o golli cyfaill da iawn a hefyd oherwydd fod y pandemig wedi effeithio ar bawb ym Mlaenau Gwent.

 

“Gan fod Blaenau Gwent, ysywaeth, wedi cael nifer mor uchel o achosion o Covid-19, mae consyrn ymhlith rhai o’r cyhoedd am sylwadau y Cynghorydd Mark Holland ar y cyfryngau cymdeithasol. Gofynnwyd y cwestiwn pam, ar ôl i’r Cyng Holland adael y Gr?p Annibynnol ar ei ddewis ei hun, i chi ofyn i’r Cynghorydd Holland ailystyried a dychwelyd i’r Gr?p Annibynnol. Roedd adroddiadau am hyn yn y wasg leol.

 

A fedrwch esbonio, gyda synnwyr trannoeth, os y credwch y dylai eich arweinyddiaeth fod wedi mod yn fwy rhagweithiol wrth ei ddiarddel; a ph’un ai a ydych yn ystyried fod y Cynghorydd Holland wedi torri’r cod ymddygiad?’

 

Ymateb:

 

Dechreuodd yr Arweinydd drwy ddweud ei fod yn ymwybodol o amgylchiadau personol anffodus y Cynghorydd Trollope ac nad oedd yn ystyried hyn yn gwestiwn gwleidyddol. Aeth ymlaen drwy ddweud ei fod wedi ystyried y mater hwn yn ofalus iawn a phan ddaeth i’w sylw gyntaf ei ymateb uniongyrchol oedd cael sgwrs gyda’r Swyddog Monitro a hefyd y Rheolwr Gyfarwyddwr am sylwadau’r Cynghorydd Holland yn neilltuol yng nghyswllt unrhyw wrthdaro posibl yn nhermau’r cod ymddygiad. Pe byddai’r sgyrsiau hynny wedi gadael unrhyw amheuaeth fawr yn ei feddwl,  byddai ei ddull gweithredu a’i benderfyniadau wedi bod yn wahanol iawn fel y dangosodd yn glir yn y gorffennol ac yn arbennig yn 2017.

Yng ngoleuni’r sgyrsiau hynny yr ysgrifennodd at y Cynghorydd Holland a gofyn iddo ystyried a byddai o bosib wedi gobeithio cael sgwrs gydag ef ar sail un i un. I roi’r gair ‘ystyried’ yn ei gyd-destun – roedd gofyn i unigolyn ystyried yn ffurf o gysondeb roedd wedi tueddu i’w ddefnyddio mewn materion megis hyn fel y gallai cydweithwyr eraill oedd wedi sôn am adael y Gr?p Annibynnol gadarnhau. Byddai bob amser yn parchu dewis unigolyn oherwydd nad oedd unrhyw gontract neu oblygiadau ysgrifenedig ar gynghorwyr annibynnol, ond beth bynnag yr amgylchiadau byddai bob amser yn gwerthfawrogi sgwrs gydag unrhyw unigolyn oherwydd mai dyna ei arddull.

 

Fodd bynnag yn yr achos hwn a sylwadau dilynol Cynghorydd Holland a’r rhesymau clir iawn a roddodd yn ysgrifenedig i’r Arweinydd am adael, roedd sefyllfa wedi ei chreu lle na fedrai ac mae’n debyg na fyddai eisiau cael ei ail-dderbyn i’r Gr?p Annibynnol.

 

Yng nghysywllt y sylwadau am synnwyr trannoeth a bod yn rhagweithiol yn ei weithredoedd, gan ystyried cynnwys ei ymateb hyd yma gyda’i arddull arweinyddiaeth, dywedodd yr Arweinydd iddo drin y sefyllfa fel yr ystyriai’n addas bryd hynny ac yn dal ei ystyried yn addas. Yng nghyswllt unrhyw dorri ar y safon ymddygiad, mater i’r Pwyllgor Safonau yw hynny ac yn fwy sylweddol yr Ombwdsmon sydd yn y pen draw yn penderfynu ar unrhyw  ...  view the full Cofnodion text for item 18.

19.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.

 

20.

Absenoldeb wedi eu Awdurdodi – y Cynghorydd Garth Collier

Ystyried absenoldeb wedi eu awdurdodi.

 

Cofnodion:

Fel y gwyddai Aelodau, dywedodd yr Arweinydd y cymerwyd y Cynghorydd Collier yn wael yn gynharach yn y flwyddyn ac ni theimlai ar hyn o bryd ei fod mewn sefyllfa i ddychwelyd i ddyletswyddau arferol y Cyngor er fod ei iechyd yn gwella’n araf ac mae’n rhagweld dychwelyd i ddyletswyddau yn y dyfodol gweddol agos. Gan y byddai’r rheol presenoldeb 6-mis ar gyfer y Cynghorydd Collier yn dod i ben ym mis Ionawr ac mai hwn fyddai cyfarfod ffurfiol olaf y Cyngor cyn y cyfnod hwnnw, cynigiodd y dylid rhoi absenoldeb i lanw am unrhyw absenoldeb pellach tu hwnt i fis Ionawr 2021.

 

Cymeradwyodd Arweinydd y Gr?p Llafur y sylwadau a rhoddodd ei gefnogaeth lwyr i’r cam hwn ac estynnodd ei ddymuniadau gorau oll i’r Cynghorydd Collier yn ei adferiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Arweinydd y Gr?p Llafur am ei sylwadau a’r tro diwethaf iddo siarad gyda’r Cynghorydd Collier roedd wedi cyfleu cofion  a dymuniadau gorau y Cyngor (ar draws yr holl sbectrwm gwleidyddol) a byddai’n parhau i wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD mewn pleidlais unfrydol i gymeradwyo absenoldeb i’r Cynghorydd Garth Collier am gyfnod pellach o 6-mis yn weithredol o fis Ionawr 2021.

 

21.

Asesu Perfformiad 2019/2020 pdf icon PDF 487 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Wrth gyflwyno’r Asesiad Perfformiad, esboniodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau ei fod yn cyflawni’r goblygiadau statudol a roddwyd ar y Cyngor fel rhan o ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac yn cyflawni rhai o’r Amcanion Llesiant sydd eu hangen fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Roedd yr adroddiad ôl-weithredol yn cwmpasu’r cyfnod 2019/2020 hefyd yn cynnwys asesiad o’r gwaith a wnaethpwyd fel rhan o ymateb i bandemig Covid-19.

 

Aeth y swyddog yn ei flaen drwy ddweud ei bod yn ofyniad ar y Cyngor i fesur nifer o ddangosyddion perfformiad cenedlaethol a elwir yn Fesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAM) sy’n adlewyrchu’r agweddau hynny o waith awdurdod lleol a ystyrir yn bwysig yn nhermau atebolrwydd cyhoeddus. Mae’n ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru gyflwyno eu perfformiad o gymharu â PAM. Fodd bynnag, ar gyfer y flwyddyn 2019/20 ni chafodd nifer o’r dangosyddion hyn eu casglu’n genedlaethol oherwydd pandemig Covid-19. Lle mae gwybodaeth ar gael, cafodd hyn ei gynnwys yn atodiad 1 yr Asesiad Perfformiad.

 

Daeth y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau i ben drwy amlinellu fformat y ddogfen a dywedodd y caiff y ddogfen ei harchwilio’n allanol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Asesiad Perfformiad y Cyngor sy’n rhoi adroddiad ôl-weithredol am flwyddyn 2019/20 ac sy’n cyflawni’r holl ofynion deddfwriaethol statudol.

 

22.

Achos Busnes Canolfan Data pdf icon PDF 699 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd W. Hodgins fuddiant yn yr eitem hon ond arhosodd yn y cyfarfod tra’r oedd yn cael ei thrafod.

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Diben yr adroddiad yw:

 

      i.        Cyflwyno’r Achos Busnes dros symud Canolfan Data SRS ym Mlaenafon i Next Generation Data (NGD) yng Nghasnewydd.

    ii.        Cytuno i drosglwyddiad data Blaenau Gwent (a gedwir ar hyn o bryd yn yr Ystafell Gyfrifiaduron yn y Ganolfan Ddinesig a Chanolfan Data Blaenafon) i NGD.

   iii.        Cytuno ar elfen Blaenau Gwent o’r buddsoddiad cyfalaf a refeniw sydd ei angen i fynd â’r prosiect yn ei flaen.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd y ganolfan data ffisegol ym Mlaenafon ei sefydlu i letya’r serfwyr TG sydd eu hangen i gynnal y systemau meddalwedd ar gyfer partneriaid gwreiddiol SRS. Mae hefyd yn lletya Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ar hyn o bryd, fodd bynnag byddai’r contract hwn yn dod i ben yn y dyfodol agos. Fodd bynnag, ar ôl i Flaenau Gwent a Chasnewydd ymuno â’r SRS, roedd yr achosion busnes ar gyfer Blaenau Gwent a hefyd Gasnewydd wedi cynnwys cytundeb y byddai pob serfiwr yn cael eu trosglwyddo i’r ganolfan data ym Mlaenafon ond cynnydd cyfyngedig a wnaethpwyd hyd yma.

 

Bu’r ganolfan data ffisegol ym Mlaenafon yn ased i SRS a phartneriaid am y 10 mlynedd diwethaf ond heb fuddsoddiad aseswyd bod y ganolfan data yn risg uchel iawn i holl bartneriaid SRS fel canlyniad i ffactorau amgylcheddol. Nodwyd fod angen buddsoddiad o £2.6m dros y 4 blynedd nesaf. Yn ychwanegol, nid yw’r ystafell gyfrifiaduron yn y Ganolfan Ddinesig wedi ei hadeiladu i safonau canolfan data ac ystyriwyd hefyd ei bod yn risg uchel iawn oherwydd pryderon am yr adeilad ac oedran yr offer (yn dod i ben ei oes ddefnyddiol) a byddai angen buddsoddiad i wella cadernid y ddarpariaeth i’r dyfodol. Ymhellach, mae’r Cyngor wrthi’n ystyried dyfodol y Ganolfan Ddinesig a all arwain at fod angen lleoliad(au) arall i letya seilwaith TG yn cefnogi holl wasanaethau Blaenau Gwent.

 

Ym mis Gorffennaf 2020 cytunodd Bwrdd Strategol SRS ar Strategaeth SRS tan 2026 gyda’r nod a gaiff ei rannu i sicrhau darpariaeth ‘cwmwl’ i ffwrdd o ganolfan data ar safle ac fel canlyniad disgwylid y byddai angen gostyngol ond cost gynyddol ar ddarpariaeth safle canolfan data, felly ymchwiliwyd darpariaeth arall ar gyfer y dyfodol.

 

Wedyn rhoddodd y Prif Swyddog Adnoddau fanylion y 4 opsiwn a amlinellir yn yr achos busnes ynghyd â’r costau refeniw/cyfalaf a chostau dadgomisiynu a threfniadau cyllido a briodolir i hynny. Y 4 opsiwn oedd:

 

-       Opsiwn 1 – Busnes fel arfer

-       Opsiwn 2 – Gwneud yr isafswm

-       Opsiwn 3 – Gostwng i un neuadd ym Mlaenafon

-       Opsiwn 4  (opsiwn a ffefrir) – Darpariaeth arall

 

Mae paragraffau 5.1.9 (tabl 1) yn crynhoi goblygiadau ariannol pob un o’r opsiynau. Roedd Bwrdd Strategol SRS a’r Cyllid a Llywodraethiant wedi ystyried yr achos busnes ac wedi argymell Opsiwn 4  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Blaenraglen Gwaith Arfaethedig y Cyngor 2020-21 pdf icon PDF 380 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad yn rhoi manylion Blaenraglen Gwaith y Cyngor ar gyfer 2020/2021.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at Flaenraglen Gwaith y Cyngor a dywedodd y byddai adroddiad am Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ddefnyddiol wrth gael ei gynnwys yn y Flaenraglen Gwaith yn neilltuol gan fod yr adeg wedi cyrraedd pan gaiff penderfyniadau eu gwneud. Cyfeiriodd hefyd at y drafodaeth flaenorol am Gwestiwn Aelodau a dywedodd fod adroddiad a gyhoeddwyd gan y Brifddinas-Ranbarth ym mis Mehefin 2020 yn nodi y penodwyd yr Arweinydd yn Aelod arweiniol am Dechnoleg a 5G.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at bwynt olaf Arweinydd y Gr?p Llafur a chadarnhaodd y cafodd hyn ei gywiro erbyn hyn gan y Brifddinas-Ranbarth. Dywedodd y caiff adroddiad am y Brifddinas-Ranbarth ei gyflwyno i gyfarfod arferol nesaf y Pwyllgor Craffu Adfywio ac y bydd yn cael ei ystyried wedyn gan y Pwyllgor Gweithredol a’r Cyngor Llawn.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Flaenraglen Gwaith y Cyngor ar gyfer 2020/2021.

 

24.

Penodiad Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 395 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro) i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a

 

-       Penodi Mrs. Sarah Rosser yn aelod o’r Pwyllgor Safonau, yn weithredol o ddyddiad cymeradwyaeth y Cyngor (26 Tachwedd 2020).

 

-       Byddai cyfnod y swydd am 6 mlynedd i ddechrau; fodd bynnag, mae’r Rheoliadau perthnasol yn galluogi aelodau i eistedd am gyfnod arall olynol o hyd at 4 mlynedd. Byddir yn dod ag adroddiad gerbron y Cyngor cyn dechrau’r tymor cyntaf, er mwyn ystyried ail-benodi.

 

-       Cymeradwyo Ms. Sarah Manuel fel aelod wrth gefn os daw lle gwag ar gael o fewn 12 mis.

 

25.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 480 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan

-       penodi cynrychiolydd newydd.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd wedi derbyn unrhyw enwebiadau ar gyfer y swydd a gofynnodd am ddatganiadau diddordeb gan y Gr?p Llafur a’r Gr?p Annibynnol Lleiafrif, os oes gan unrhyw Aelod ddiddordeb mewn cymryd y swydd wag.

 

NEWIDIADAU CYMESUREDD

 

Oherwydd newidiadau i gymesuredd i 9:5:1 ar y Pwyllgorau islaw, PENDERFYNWYD penodi’r dilynol:

 

PWYLLGOR CRAFFU TROSOLWG CORFFORAETHOL 

15 AELOD - CYMESUREDD 9:5:1

 

1.            Cadeirydd -               Cynghorydd S Healy

 

2.         Is-gadeirydd -            Cynghorydd M. Cook

 

3.              Cynghorydd P. Baldwin

 

4.              Cynghorydd  G. Collier

 

5.              Cynghorydd  M. Cross

 

6.               Cynghorydd G. A. Davies

 

7.               Cynghorydd L. Elias

 

8.               Cynghorydd J. Hill

 

9.               Cynghorydd H. McCarthy

 

10.            Cynghorydd C. Meredith

 

11.            Cynghorydd J. P. Morgan

 

12.            Cynghorydd L. Parsons

 

13.            Cynghorydd G. Paulsen

 

14.            Cynghorydd S. Thomas

 

15.            Cynghorydd T. Smith

 

PWYLLGOR CRAFFU ADFYWIO 

15 AELODAU - CYMESUREDD 9:5:1

 

1.         Cadeirydd -            Cynghorydd J. Hill

 

2.         Is-gadeirydd -        Cynghorydd G. A. Davies

 

3.         Cynghorydd  M. Cook

 

4         Cynghorydd  M. Cross

 

5.        Cynghorydd G. L. Davies

 

6.        Cynghorydd P. Edwards

 

7.        Cynghorydd K. Hayden

 

8.        Cynghorydd  S. Healy

 

9.        Cynghorydd W. Hodgins

 

10.      Cynghorydd  H. McCarthy

 

11.      Cynghorydd  J. C. Morgan

 

12.      Cynghorydd  J. P. Morgan

 

13.       Cynghorydd L. Parsons

 

14.       Cynghorydd  K. Rowson

 

15.       Cynghorydd B. Willis

 

 

PWYLLGOR CRAFFU GWASANAETHAU AELODAU 

15 AELOD - CYMESUREDD 9:5:1

 

1.         Cadeirydd -          Cynghorydd M. Moore

 

2.         Is-gadeirydd -       Cynghorydd C. Meredith

 

3.        Cynghorydd  P. Baldwin

 

4.         Cynghorydd M. Cook

 

5.         Cynghorydd M. Cross

 

6.         Cynghorydd M. Day

 

7.         Cynghorydd P. Edwards

 

8.         Cynghorydd S. Healy

 

9.         Cynghorydd W. Hodgins

 

10.      Cynghorydd  J. Holt

 

11.      Cynghorydd  J. C. Morgan

 

12.       Cynghorydd  G. Paulsen                                      

 

13.       Cynghorydd T. Sharrem

 

14.       Cynghorydd B. Summers

 

15.       Cynghorydd L. Winnett

 

PWYLLGOR CRAFFU ADDYSG A DYSGU  

15 AELOD - CYMESUREDD 9:5:1

 

1.            Cadeirydd -             Cynghorydd H. Trollope       

 

2.         Is-gadeirydd -         Cynghorydd J. Holt

 

3.         Cynghorudd D. Bevan

 

4.        Cynghorydd  G. Collier

 

5.        Cynghorydd  M. Cook

 

6.        Cynghorydd  M. Day        

   

7.        Cynghorydd L. Elias

 

8.        Cynghorydd  J. Hill

                

9.    Cynghorydd  C. Meredith

 

10. Cynghorydd J. C. Morgan

 

11. Cynghorydd J. P. Morg

 

12.  Cynghorydd L. Parsons

 

13.  Cynghorydd  T. Smith

 

14.  Cynghorydd B Summers

 

15.  Cynghorydd D. Wilkshire

 

* Byddai hefyd yn cynnwys 2 Aelod o gyrff crefyddol a rhwng 2-5 o lywodraethwyr sy’n rhieni gyda hawliau pleidleisio yn unig wrth ddelio gyda materion addysg.

 

1.         Mr. T. Baxter          Corff Addysg Esgobaethol (Eglwys Gatholig)

 

2.         Mr. A. Williams       (Yr Eglwys yng Nghymru)

 

3.         Swydd wag             Cynrychiolydd Fforwm Ieuenctid

 

 

PWYLLGOR CRAFFU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL –

15 AELOD - CYMESUREDD 9:5:1

 

1.            Cadeirydd -               Cynghorydd S. Thomas

 

2.         Is-gadeirydd -            Cynghorydd K. Rowson

 

3.         Cynghorydd D. Bevan

 

4.       Cynghorydd G. Collier

 

5.         Cynghorydd G. A. Davies

 

6.        Cynghorydd  G. L. Davies

 

7.        Cynghorydd  P. Edwards

 

8.         Cynghorydd K. Hayden

 

9.          Cynghorydd W. Hodgins

 

10.       Cynghorydd  J. Holt

 

11.       Cynghorydd M. Moore

 

12.     Cynghorydd G. Paulsen

 

13.     Cynghorydd  T. Sharrem

 

14.      Cynghorydd T. Smith

 

15.       Cynghorydd B. Summers

 

 

PWYLLGOR CRAFFU BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS

15  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Eitem(au) Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylid eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniadau dros yr eithriadau ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorwyr D. Bevan a M. Holland y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau dros y penderfyniadau am yr eithriadau ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

27.

Diweddariad Parc yr Ŵyl

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol yn fanwl am yr adroddiad a thynnodd sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Cyfeiriwyd yn neilltuol at baragraff 2.3 yn ymwneud â’r safle a roddir ar y farchnad agored, y Penawdau Telerau a’r gwrth-gynnig i dynnu’r tir parc o’r gwerthiant.

 

Nodwyd os cymeradwyir yr opsiwn a ffefrir (1), y byddai’r Gweithgor yn parhau i ddatblygu agweddau eraill yr opsiwn a ystyriwyd gan y Cyngor yn nhermau’r gofod democrataidd yn y Swyddfeydd Cyffredinol, yr Hybiau Cymunedol a’r trefniadau eraill ar gyfer adeiladu staff. Byddai angen dyraniad cyfalaf o £180,000 i ariannu cost y gwaith sydd ei angen yn y Swyddfeydd Cyffredinol a’r Hybiau Cymunedol a £650,000 arall ar gyfer dymchwel y Ganolfan Ddinesig. Fodd bynnag, byddai gwerthiant y tir wedyn yn cynhyrchu derbyniad cyfalaf o £750,000.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ben drwy amlinellu’r risgiau a gynhwysir ym mharagraff 5.2 yr adroddiad sy’n cynnwys goblygiadau cyfreithiol a hefyd adnoddau dynol.

 

Ar hynny, gofynnwyd am farn Aelodau (crynodeb islaw) ac ymatebwyd iddynt gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a’r Aelod Gweithredol – Adfywio a Datblygu Economaidd:

 

-       Dywedodd Aelod iddi yng nghyfarfod blaenorol y Cyngor godi’r mater y cafodd y safle ei hysbysebu ar y farchnad agored cyn cymryd y bleidlais i symud ymlaen i gaffael y safle. Roedd y datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd yn dilyn cyfarfod hwn y Cyngor wedi dweud y byddai’r Cyngor yn tynnu’n ôl o’r pryniant os oes buddsoddwyr preifat gyda diddordeb yn y safle. Fodd bynnag, mynegodd yr Aelod bryder nad oedd yr adroddiad hwn yn dangos y rheswm dros dynnu’n ôl o brynu’r safle.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol fod y gweithgor wedi cytuno mai dim ond os yw popeth arall wedi methu y byddai’r Cyngor yn symud ymlaen i brynu’r safle h.y. os nad oedd unrhyw ddiddordeb gan y sector preifat.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at ohebiaeth a anfonwyd ato ef a’r Arweinydd nôl ym mis Gorffennaf yn dweud am ddiddordeb gan y sector preifat yn y safle.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol na wyddai’r Cyngor y gwnaed unrhyw gynigion pendant ar gyfer y safle adeg y datblygwyd yr achos busnes ond y derbyniwyd gwybodaeth yn ddilynol yn cadarnhau fod diddordeb preifat yn awr, cynigiwyd gadael y caffaeliad i’r sector preifat ei ddatblygu. 

 

Gofynnodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod pob gwybodaeth berthnasol yn cael ei chynnwys o fewn adroddiadau yn y dyfodol a dywedodd y dylid bod wedi cyfeirio at y diddordeb allanol er mwyn rhoi gwybodaeth lawn  ...  view the full Cofnodion text for item 27.

28.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniad a gynhwysir ynddo.

 

29.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniad a gynhwysir ynddo.

 

30.

Pwyllgor Apwyntiadau – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2020.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Hydref 2020.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a nodi’r penderfyniad i beidio penodi i swydd Swyddog Arweiniol Gwella Ysgolion.

 

 

31.

Pwyllgor Apwyntiadau – Swyddogion JNC

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020..

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra cynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Gadawodd Lynn Phillips, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Tachwedd 2020.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n ymwneud â materion staffio a chynnig y swydd i Lyn Phillips ar gyflog yn unol â Phrif Swyddog JNC (£82,247 - £90,469).