Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 24ain Medi, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. Collier, M. Holland, G. Paulsen a B. Thomas.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau a buddiant a dderbyniwyd.

 

Cofnodion:

Ni adroddwyd unrhyw ddatganiadau buddiant na goddefebau.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Llongyfarchiadau

 

-       Estynnwyd llongyfarchiadau i Mrs Glenys Weston o Lynebwy a fyddai’n dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ar 10 Hydref 2020.

PENDERFYNWYD anfon llythyr priodol.

 

Cydymdeimlad

 

-       Mynegwyd cydymdeimlad gyda theulu a ffrindiau Syr Simon Boyle KCVO, Arglwydd Raglaw Gwent 2001-2016 a fu farw’n dawel yn ei gartref ar 4 Medi 2020 yn 79 oed.

 

 

Nododd swyddogion ac aelodau yr achlysur trist hwn gyda distawrwydd byr fel arwydd o barch.

 

Nodwyd yr anfonwyd llythyr cydymdeimlad ar ran Aelodau a swyddogion yr awdurdod.

 

5.

Llyfr Cofnodion – Chwefror-Medi 2020

Cofnodion:

Cyflwynwyd Llyfr Cofnodion am y cyfnod Chwefror-Medi 2020 i’w ystyried, yn cynnwys:-

 

Eitem Rhif 17 – Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio – 8 Medi 2020

 

Dywedodd Aelod y bu cryn dipyn o ddryswch yn y Pwyllgor Craffu Adfywio ddoe lle ystyriwyd y cofnodion uchod. Yn bennaf, roedd y dryswch a’r diffyg dealltwriaeth yn gysylltiedig â’r systemau a phrosesau i ddelio gyda cofnodion mewn ‘Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor’. Roedd wedi edrych ar Bwyllgorau blaenorol yn cynnwys Cyfarfodydd Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol ond roedd wedi methu gweld unrhyw gyfarfod arall lle’r oedd y broses wedi digwydd a dywedodd y dylid ceisio eglurhad ar y mater cyn derbyn y cofnodion.

 

Yn ychwanegol, codwyd pryder am gydbwysedd a’r adlewyrchiad o’r drafodaeth a ddangosir yn y cofnodion o’r eitem eithriedig derfynol, gan na wnaed unrhyw sôn am y pwyntiau a godwyd am hyfywedd yn gysylltiedig â thynnu asbestos a chyflwr yr adeilad. Bu hefyd gais pan oedd eitem yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Gweithredol (digwyddodd hyn awr ar ôl i’r Pwyllgor Craffu ddod i ben), fod barn y Pwyllgor Craffu yn cael ei chyfleu gyda chais bod yr adroddiad yn parhau mewn statws eithriedig nes y cafodd y materion hyn eu trin. Daeth i ben drwy ategu y dylid ceisio eglurhad ar y materion hyn cyn derbyn y cofnodion ac na fedrai ef yn bersonol dderbyn y cofnodion yn eu ffurf bresennol.

 

Dywedodd y Cadeirydd mai ei dealltwriaeth hi oedd bod Aelodau o’r Pwyllgor Craffu wedi pleidleisio ar y set neilltuol hon o gofnodion a’u bod wedi eu cadarnhau fel cofnod gywir o’r trafodion. Dywedodd yr Aelod mai ei ddealltwriaeth ef oedd y byddai Cadeirydd y Pwyllgor Craffu yn cwrdd â’r Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd i drafod y mater ymhellach.

 

Atgoffodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y Cyngor bod Aelodau wedi gofyn yn flaenorol am i setiau o gofnodion gael eu cyflwyno i’r cyfarfod nesaf ar gael o’r Pwyllgor Cyfle i’w hystyried, lle bynnag roedd hyn yn bosibl a bod hyn yn cynnwys cyfarfodydd ‘Arbennig’ o Bwyllgorau.

 

Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Adfywio na fu unrhyw ddryswch am y cofnodion, roedd  Ymgynghorydd wedi cadarnhau ei bod mewn trefn i’r cofnodion gael eu cyflwyno i gyfarfod arbennig o’r Pwyllgor i gael eu hystyried.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur am yr un reswm a amlinellwyd gan ei gyd-aelod na fedrai yntau dderbyn y cofnodion a mynegodd ei bryder am gyflymder cynhyrchu’r set o gofnodion ac yr aed hefyd ar draws y pwyllgor craffu fel canlyniad.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd yn glir iddo lle’r aed ar draws y broses graffu oherwydd fod yr un egwyddor yn union wedi digwydd ar y dydd Llun blaenorol yng nghyswllt yr adroddiad Cyfleuster Pren. Esboniodd y dilynir y broses lle’r oedd materion dadleuol neu faterion o fudd i’r awdurdod oedd angen eu datblygu. Yng nghyswllt yr adroddiad yn ymwneud â Baddonau Pen y Pwll, byddai cynllun busnes wedi edrych os oedd yn ymarferol datrys problem a fu mewn bodolaeth am dros 30 mlynedd a byddai gallu  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 413 KB

Ystyried ac os gwelir yn dda, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

7.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 305 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddiol a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 357 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 192 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

10.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 195 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd ar 16 Medi 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 247 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 251 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2020. 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Cofnodion Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 260 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 250 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 235 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 223 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 5 Mawrth 2020. 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 198 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 16 Mawrth 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 245 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 8 Medi 2020.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorwyr J. C. Morgan, H. Trollope a S. Thomas am i’w henwau gael eu cofnodi yn erbyn y penderfyniad i dderbyn y set uchod o gofnodion.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gytuno’r cofnodion.

 

19.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.

 

20.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.

 

21.

Adolygiad Blynyddol Rheolaeth Trysorlys 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020 pdf icon PDF 659 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fyr am yr adroddiad, sy’n rhoi cyfle i Aelodau adolygu’r gweithgareddau Rheoli Trysorlys a gynhaliwyd yn ystod 2019/2020.

 

Cyfeiriwyd at Dabl 5.1.6 sy’n rhoi crynodeb o’r gweithgareddau a hysbyswyd Aelodau fod copi o’r adroddiad blynyddol llawn ar gael yn atodiad 1. Yn ystod 2019/2020 roedd yr awdurdod wedi cymryd £10m o ddyled gyhoeddus hirdymor gan awdurdodau cyhoeddus eraill ac er yr hinsawdd ariannol roedd yr awdurdod wedi perfformio’n dda yn nhermau ei fuddsoddiadau, gan weld adenillion o £61,000 gyda chyfradd log gyfartalog o 0.46%. Er fod hyn ychydig yn is na’r gyfradd meincnod o 0.54% mae’n adlewyrchu’r ffaith na fedrai’r Awdurdod fuddsoddi mewn gwrthbartïon oedd yn talu cyfraddau uwch oherwydd gostyngiadau graddiad credyd. Fodd bynnag roedd hyn yn cydymffurfio â pholisi osgoi risg yr Awdurdod lle mae sicrwydd y swm cyfalaf oedd y brif flaenoriaeth ar draul adenillion mwy cystadleuol.

 

Aeth y  Prif Swyddog ymlaen drwy ddweud y talwyd cyfradd log gyfartalog o 1.09% ar fenthyciadau dros dro, o gymharu â meincnod o 1.00% gan ostwng cyn belled ag oedd yn bosibl y llog a delir gan yr Awdurdod. Roedd hyn er gwaethaf yr effaith (cynnydd) mewn cyfraddau marchnad yn dilyn y cynnydd 1.00% mewn cyfraddau PWLB ym mis Hydref 2019 ac roedd hynny wedi effeithio ar gyfraddau marchnad. Felly, gellid gweld hyn fel tystiolaeth o berfformiad da.

 

Cydymffurfiwyd yn ystod y flwyddyn â’r holl derfynau trysorlys a dangosyddion darbodus rheoli trysorlys a osodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol ac nid oedd unrhyw sefydliadau y buddsoddwyd ynddynt yn ystod y cyfnod wedi cael unrhyw anhawster wrth ad-dalu buddsoddiadau a llog yn llawn, felly nid oedd yr Awdurdod wedi bod yn agored i unrhyw golled ariannol fel canlyniad i’r hinsawdd economaidd anodd.

 

Daeth y Prif Swyddog i ben drwy ddweud fod Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol wedi ystyried yr adroddiad ar 11 Medi 2020 ac wedi cymeradwyo Opsiwn 1,

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi’r gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaed yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20 a derbyn y cofnod o berfformiad a chydymffurfiaeth a gyflawnwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2019/20.

 

22.

Strategaeth Fasnachol pdf icon PDF 510 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Masnachol i gael ei ystyried.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Masnachol y Strategaeth Fasnachol ar gyfer 2020-2025 a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu a’r Pwyllgor Gweithredol ym mis Chwefror a mis Mawrth ond yn anffodus gohiriwyd ystyriaeth y Cyngor i’r strategaeth oherwydd effaith pandemig Covid-19.

 

Nodwyd fod llawer o’r bwriadau a’r uchelgeisiau o fewn y strategaeth wedi parhau’n ffocws wrth i’r Cyngor geisio dod yn sefydliad gyda naws mwy masnachol ac mae hyn yn cyd-fynd â’r uchelgais i fod yn ‘Gyngor uchelgeisiol ac arloesol yn darparu gwasanaethau ansawdd uchel sydd o bwys i’n cymunedau’. Mae nifer o themâu beirniadol o fewn y ddogfen a rhoddir sylw iddynt ym mharagraff 2.2 yr adroddiad.

 

Yn ychwanegol mae nifer o strategaethau a rhaglenni cysylltiedig a fyddai’n cyfrannu at gyflenwi’r Strategaeth Fasnachol, gyda digwyddiadau Covid-19 wedi effeithio ar y cyfan ohonynt yn cynnwys:

 

-       Strategaeth Cyfathrebu 2020 – 2025

-       Rhaglen Ddigidol a Thrawsnewid Cwsmeriaid

-       Y Strategaeth Gweithlu

 

Hysbyswyd aelodau fod pump uchelgais masnachol penodol a fanylir ym mharagraff 2.4 yr adroddiad. Byddai’r uchelgeisiau hynny yn cael eu trin drwy Fwrdd Strategol Comisiynu a Masnachol newydd sydd wrthi’n cael ei sefydlu. Byddai hyn yn disodli’r Bwrdd Caffael Strategol a byddai’r  Cylch Caffael a Chomisiynu yn cael ei gryfhau i gefnogi’r Bwrdd newydd fyddai hefyd â rôl yn adolygu cyflenwi Cytundebau Lefel Gwasanaeth i ysgolion, monitro hyfywedd masnachol gwasanaethau a fasnachir ac wrth lywodraethu opsiynau buddsoddiad yn defnyddio fframwaith buddsoddi.

 

Mae gan bob un o’r pump uchelgais masnachol set o gamau gweithredu sy’n ffurfio rhaglen waith a gaiff ei chraffu dros y pum mlynedd nesaf. Felly gwnaed y diwygiad dilynol i baragraff 2.6 yr adroddiad sef y byddai adroddiadau ar gyflenwi’r rhaglen gwaith yn cael ei wneud yn chwarterol drwy’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn chwarterol (ac nid yn flynyddol fel yn yr adroddiad) a byddai’n cael ei ystyried yn flynyddol gan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Daeth y Prif Swyddog Masnachol i ben drwy amlinellu’r opsiynau o fewn yr adroddiad.

 

Gofynnodd Arweinydd y Gr?p Llafur am i Aelodau gael rhestr lawn o’r ymgynghorwyr a gomisiynwyd dros y 2 flynedd ddiwethaf gyda’r gwariant cysylltiedig â phob comisiwn.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH yn unfrydol, yn amodol i’r uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y Strategaeth Fasnachol a’r rhaglen waith gysylltiedig.

23.

Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol pdf icon PDF 508 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol i’r strategaeth gael ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu a hefyd y Pwyllgor Gweithredol yn y gwanwyn ond y cafodd ei gohirio gan y Cyngor oherwydd pandemig Covid-19. Mae’r strategaeth yn cynnwys nifer o ddyheadau a gynyddwyd dros y 6 mis diwethaf. Cydnabuwyd pwysigrwydd a grym cyfryngau cymdeithasol ar amser mor anodd wrth fedru rhyddhau negeseuon allweddol yn gyflym i breswylwyr a medru ymateb i geisiadau am wybodaeth mewn cyfnod o argyfwng. Nodwyd fod cyfryngau digidol a chymdeithasol yn arfau grymus iawn ac yn rhoi proses gyfathrebu ddwy-ffordd ar gyfer y Cyngor a’i breswylwyr.

 

Prif amcan y strategaeth fel y’i manylir ym mharagraff 2.4 yr adroddiad yw darparu cyfathrebu dwy-ffordd rhagorol, arloesol ac effeithlon o ran cost, gan feithrin enw da cadarnhaol a chynyddu ymddiriedaeth a hyder bod y Cyngor yn darparu gwasanaethau sy’n ateb anghenion preswylwyr, busnesau ac ymwelwyr.

 

Cafodd llawer o’r wybodaeth a gasglwyd i roi cynnwys cyfathrebu o bresenoldeb rheolaidd mewn cyfarfodydd o Dîm Rheolaeth Cyfarwyddiaethau ac mae’r Tîm Cyfathrebu yn gweithio’n agos gyda phob cyfarwyddwr i ddynodi cysylltiad cynnar gyda gwasanaethau ar reoli ymgyrchoedd a chyfleoedd cyfathrebu.

 

Mae chwe uchelgais neu thema a fydd yn gyrru darpariaeth cyfathrebu dan arweiniad y Tîm Cyfathrebu Corfforaethol a chânt eu hamlinellu ym mharagraff 2.6 yr adroddiad. Mae gan bob un o’r uchelgeisiau set o gamau gweithredu sy’n llunio rhaglen waith a fyddai’n cael ei chraffu dros y pum mlynedd nesaf. Gwnaed y cywiriad dilynol i baragraff 2.7 yr adroddiad sef y caiff adroddiadau ar gyflenwi’r rhaglen waith ei wneud yn chwarterol drwy’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (ac nid yn flynyddol fel sydd yn yr adroddiad) a byddid yn rhoi adroddiad i’r Cyngor yn flynyddol.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Daeth y Prif Swyddog Masnachol i ben drwy amlinellu’r opsiynau ar gyfer argymhellion a gynhwysir ym mharagraff 3 yr adroddiad.

 

Defnydd Sianeli Cyfathrebu Digidol – mynegodd Aelod ei bryder fod enw da’r Cyngor o ran cyfathrebu gyda’r cyhoeddus wedi ‘yn y llaid’ ar hyn o bryd. Fel arfer mae’n rhaid i breswylwyr sy’n ceisio ffonio’r ganolfan gyswllt aros rhwng 45 munud ac awr ar gyfartaledd i gael ateb ac nid yw’r ‘ap’ hunanwasanaeth yn gweithio’n effeithlon bob amser.

 

Cefnogaeth i Aelodau Etholedig a Staff – canmolodd Arweinydd y Gr?p Llafur y strategaeth a dywedodd iddo weld gwelliant mewn cyfathrebu yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae’r cynllun fel y’i amlinellir ym mharagraff 2.5 hefyd yn anelu i gefnogi Aelodau a staff ond nododd fod cyfrifoldeb ar Aelodau, yn arbennig Aelodau arweiniol, i siarad lan dros y Cyngor. Soniodd am sgwrs a gafwyd gyda gohebydd o BBC Radio Wales yn gofyn iddo roi sylwadau ar y bwriad am gyfyngiadau lleol a dywedodd y gohebydd wrtho nad oedd Aelodau arweiniol wedi bod yn barod i gymryd rhan. Dywedodd nad oedd hyn yn ddigon da yn ystod y cyfnod anodd yma – roedd dyletswydd ar Aelodau’r Cyngor a’r arweinyddiaeth yn neilltuol i gyfathrebu.

 

Gwaith Papur yr Agenda – nododd Aelod  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020 i 2024 pdf icon PDF 496 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau i gael ei ystyried.

 

Dechreuodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau drwy ddweud fod gan y Cyngor gyfrifoldeb statudol i gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol. Yn ogystal â’r dyletswyddau penodol a gafodd ei nodi yn y Ddeddf Cydraddoldeb (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) (Rheoliadau), mae Llywodraeth Cymru yn dymuno dechrau Dyletswydd Cydraddoldeb Sector Cyhoeddus newydd dan deitl ‘dyletswydd cymdeithasol-economaidd’ o fis Medi 2020 sydd angen ei gynnwys yn y Cynllun a’i fonitro yn y dyfodol.

 

Rhoddir manylion yr Amcanion Cydraddoldeb ym mharagraff 2.7 yr adroddiad a chynhwysir y cynllun a’r dogfennau cefnogi o fewn Atodiad 1.

 

Defnyddiwyd nifer o ddulliau ymgysylltu i gael sylwadau ar y drafft gynllun a derbyniwyd 98 ymateb fel rhan o’r ymgynghoriad ffurfiol a gynhaliwyd rhwng Rhagfyr 2019 a Ionawr 20920. Yn ystod y ddau gyfnod ymgysylltu, cymerwyd rhan gan yr Uwch Bwyllgor Plant, y Fforwm Ieuenctid, Fforwm 50+ a Gr?p Pobl yn Gyntaf Blaenau Gwent ac arolygwyd siopwyr yng nghanol pob tref. Cysylltwyd yn effeithlon gydag Aelodau etholedig drwy Weithgor Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gyfarfu ym mis Medi a mis Tachwedd 2019 fel rhan o gynllun y prosiect.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024, yn unol â disgwyliadau dyletswyddau penodol Deddf Cydraddoldeb 2010.

 

25.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig pdf icon PDF 749 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Rheolwr Tîm – Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu yn fanwl am yr adroddiad, oedd â’r diben o geisio cymeradwyaeth am Gytundeb Cyflenwi Diwygiedig ar gyfer paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol newydd ynghyd ag Asesiad Covid-19.

 

Mae Adran 2 yr adroddiad yn nodi’r rheswm pam y bu angen diwygio’r Cytundeb Cyflenwi a chynnal Asesiad Covid-19. Nodwyd, er fod y gwaith o baratoi’r Cynllun hwn 3 mis ar ôl yr amserlen (roedd hyn o fewn y llithriad 3-mis y caniateir amdano gan y Cytundeb Cyflenwi), mae cynnydd da yn cael ei wneud. Mae’r Tîm Cynlluniau Datblygu yn paratoi i fynd allan ar gyfer ymgynghoriad ar yr 2il Alwad am Safleoedd Ymgeisiol a gwybodaeth bellach ar safleoedd presennol, pan darodd pandemig Covid-19.

 

Yn gynnar ym mis Mawrth, cafodd y Cyngor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru yn cynghori rhag symud ymlaen gyda’r cynllun gan fod hyn yn debygol o fod yn groes i’r gofynion cyfreithiol a nodir yng Nghytundeb Cyflenwi Cynllun Ymgyfraniad Cymunedau ac felly ni aeth yr 2il Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ymlaen a chafodd y cynllun ei oedi. Derbyniwyd llythyr pellach gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf yn cynghori symud ymlaen ond i wneud hynny roedd angen i’r Cyngor gyflwyno Cytundeb Cyflenwi diwygiedig i drin Covid-19, ymbellhau cymdeithasol a’r oedi ynghyd ag asesiad Covid-19.

 

Cafodd cwmpas yr adroddiad ei amlinellu ym mharagraff 2.12 a nodwyd y byddai angen hefyd cyflwyno’r ddwy ddogfen sydd angen cymeradwyaeth y Cyngor i Lywodraeth Cymru i’w cymeradwyo cyn i’r gwaith ar y cynllun symud ymlaen.

 

Nodwyd y byddai’r amserlen Cytundeb Cyflenwi fel canlyniad i’r cyfnod clo yn cael ei ohirio gan 7 mis gyda 2 wythnos arall wedi eu hychwanegu ar gyfer y cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynllun adnau a fyddai’n golygu’r cynllun yn awr yn cael ei fabwysiadu yn hydref 2022 yn hytrach nag ym mis Mawrth 2022 – y dyddiad diweddaraf oll ar gyfer y cynllun presennol byddai diwedd 2021, felly byddai’r Cyngor heb Gynllun Datblygu Lleol am gyfnod o 10 mis.

 

Rhoddir manylion dulliau i oresgyn problemau pellter cymdeithasol ym mharagraff 2.15 yr adroddiad ac mae mesurau o’r fath yn cynnwys cyfnodau ymgynghori hirach ac apwyntiadau a drefnwyd ymlaen llaw.

 

Cafodd manylion dogfen asesiad Covid-19 eu hamlygu o fewn paragraffau 2.16-2.20 ac mae’r ddogfen yn rhoi trosolwg o asesiad y sylfaen tystiolaeth a daeth i’r casgliad fod y sylfaen tystiolaeth yn gyffredinol naill ai mor dda ag y gallai fod oherwydd diffyg data tueddiadau newydd neu gallai gael ei ddiweddaru a byddai’n cael ei ddefnyddio i lywio’r Cynllun Adnau. Mae strategaeth ac amcan y cynllun yn gydnaws gyda nodau Llywodraeth Cymru a amlinellir o fewn dogfen Adeiladu Lleoedd Gwell.

 

Nodwyd fod y polisïau strategol yn ddigon hyblyg i ddelio gyda’r hyn oedd yn gyfnod anhysbys a rhoi fframwaith monitro yn eu lle i adlewyrchu ansicrwydd cysylltiedig, byddai’r Cynllun yn ddigon cadarn tra’n gosod gweledigaeth glir a neilltuol o’r hyn roedd ei angen o fewn  ...  view the full Cofnodion text for item 25.

26.

Cynllun Datgarboneiddio 2020 – 2030 pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau perthnasol ynddo. Esboniodd fod adran gyntaf yr adroddiad yn cydnabod fod newid hinsawdd yn fater byd-eang o bwysigrwydd sylweddol a bod y cynllun yn gosod uchelgais a chyfeiriad clir i Flaenau Gwent ar sut y gallai ostwng newid hinsawdd a dod yn Gyngor carbon niwtral erbyn 2030. Mae’r cynllun hefyd yn bwriadu cefnogi cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o Gymru garbon isel a galwodd am arweinyddiaeth sector cyhoeddus ac i’r holl sector cyhoeddus yng Nghymru ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Hysbyswyd Aelodau fod y Cyngor eisoes yn gweithio ar gynlluniau ac yn gwneud buddsoddiadau i helpu gostwng ei ôl-troed carbon a rhoddir manylion hyn ym mharagraff 2.4 yr adroddiad. Felly, nid yw’r Cyngor yn cychwyn o safbwynt o ‘ddim gweithgaredd’ ac er y gwnaed gwaith da, mae cryn dipyn o waith i’w wneud yn y dyfodol. Mae enghreifftiau da o’r hyn a gyflawnwyd hyd yma yn cynnwys buddsoddi mewn Ysgolion 21ain Ganrif, gan ddarparu seilwaith/adeiladau ysgol mwy modern ac effeithiol; symud tuag at stad oleuadau stryd ynni o ran isel; rheoli gwastraff – gostwng swm y gwastraff a aeth i domen lanw a’r rhaglen Refit – gweithio gyda Llywodraeth Cymru yn ailosod adeiladau i’w gwneud yn fwy effeithiol o ran ynni. Rhoddir manylion y lefelau presennol o allyriadau carbon yn yr adroddiad i’r adroddiad.

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr ymlaen drwy ddweud fod paragraff 2.7 yn nodi nifer o weithrediadau’r Cyngor lle gallai gweithredu wneud cyfraniad sylweddol tuag at yr uchelgais o fod yn garbon niwtral a phontio i gyflawni Cyngor mwy effeithol a charbon niwtral. Byddai angen gwneud gwaith pellach a chynnwys meysydd fel trafnidiaeth a theithio (yn cynnwys teithio i’r gwaith), caffael nwyddau a gwasanaethu, prynu a defnyddio ynni a gwresogi adeiladau a gwaith pellach am wastraff a chyfraddau ailgylchu cynyddol. Yn ychwanegol, mae gwaith pwysig a gweithgaredd mapio’n cael ei wneud ar hyn o bryd fyddai’n edrych sut y gellid defnyddio asedau/daliadau tir i wrthbwyso unrhyw allyriadau carbon – gelwir hyn yn ‘secwestriad’.

 

Pwysleisiodd y Rheolwr Gyfarwyddwr na ddylid gweld y Cynllun Datgarboneiddio fel menter neu gynllun newydd arall, roedd yn uchelgais am sut mae’r Cyngor yn dymuno gweithredu a byddai’n sylfaen i bob darpariaeth gwasanaeth a sut y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu datblygu a’u gwella yn y dyfodol. Byddai’n rhaid i aelodau a swyddogion fod yn ymwybodol o effaith gwneud penderfyniadau yn y dyfodol a’r effaith y byddai hyn yn ei gael ar yr awdurdod yn dod yn garbon niwtral.

 

Mae adran 6 yr adroddiad yn rhoi sylw i’r gwaith a’r dystiolaeth data sy’n cefnogi’r cynllun, yn cynnwys elfennau  ôl-troed carbon. Amcangyfrifwyd, bod y Cyngor  ar hyn o bryd yn cynhyrchu 71,330 tunnell fetrig o CO2 fel sefydliad yn darparu ei weithrediadau a gweithgareddau dydd i ddydd.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi enghreifftiau o’r gweithgaredd hwn, gyda rhan fawr o’r allyriadau carbon yn ganlyniad teithio i’r gwaith a swyddogion yn gyrru o amgylch i gyflawni eu  ...  view the full Cofnodion text for item 26.

27.

Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 119 KB

Derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2020.

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2020.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

28.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 455 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

-       penodi cynrychiolydd newydd.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am gyflwyno datganiadau diddordeb os oes gan unrhyw Aelod ddiddordeb mewn llenwi’r swydd wag.

 

Panel Ymgynghori Llywodraethwyr Ysgol yr Awdurdod Lleol

 

Gwnaed yr argymhellion dilynol i’r Panel ar 3 Awst 2020 i benodi:

 

Ysgol Gynradd Sofrydd – Sian Barrett

Ysgol Gynradd Pen-y-Cwm – Hannah Williams

Ysgol Gynradd Leighton – Jaqueline Thomas

Ysgol Gynradd Glyncoed – Cynghorydd Clive Meredith

 

Nodwyd ymhellach fod y Panel hefyd wedi argymell y penodiadau dilynol yn y cyfarfod na chafodd eu cynnwys o fewn yr Adroddiad Aelodaeth:

 

Ysgol Gynradd Ystruth – Cynghorwyr G. Collier a L. Winnett

 

Gwnaeth y Panel yr argymhellion dilynol ar 14 Medi 2020 i benodi:

 

Ysgol Gynradd Brynbach – Gemma Badham

Ysgol Gynradd Illtud Sant – Lucy Allsopp

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r apwyntiadau uchod.

 

PWYLLGOR GWASANAETHAU DEMOCRATAIDD

 

PENDERFYNWYD nodi:

 

Penodiad y Cynghorydd J. C. Morgan fel Cadeirydd y Pwyllgor uchod.

 

Byddai’r Cynghorydd M. Cross yn parhau’n Aelod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Mewn ateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Llywodraethiant a Phartneriaethau y byddai’n cwrdd gyda’r Cadeirydd newydd yn y dyfodol agos a rhagwelai y byddai cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei gynnull maes o law.

 

Amlinellodd y Cynghorydd Cross ei resymau am sefyll i lawr fel Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a mynegodd ei ddiolch i’r ddau gyn Is-gadeirydd, y Cynghorwyr Julie Holt a Jonathan Millard am eu cefnogaeth iddo yn y gorffennol. Dywedodd ei fod yn sicr y byddai’r Cynghorydd Morgan yn gadeirydd llwyddiannus.

 

Mynegodd y Cynghorydd Morgan ei werthfawrogiad i’r Cynghorydd Cross am ei holl waith yn ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor a dywedodd y byddai’n anodd llenwi ei esgidiau.

 

 

29.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar  gael ar restr a gynhelir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylid eithrio’r wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod (mae’r rheswm am y penderfyniad i eithrio ar gael mewn rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

30.

Diweddariad Parc yr Ŵyl

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Gan ystyried yr farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol i gael ei ystyried. Nodwyd fod yr eitem hon ar gyfer dibenion gwybodaeth yn unig.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad, oedd â’r diben o ddiweddaru Aelodau gyda’r cynnydd a wnaed hyd yma yng nghyswllt cynnig Parc yr ?yl. Nodwyd y sefydlwyd Gweithgor Parc yr ?yl a chynhaliwyd nifer o gyfarfodydd i ystyried elfennau rhyng-gysylltiedig y prosiect cymhleth hwn. Mae’r gweithgor hefyd wedi cysylltu gyda rhanddeiliaid perthnasol fel rhan o’r proseict.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y rhan fwyaf o’r gwaith a amlinellwyd ym mharagraff 2.5 yr adroddiad wedi ei gwblhau erbyn hyn a daeth i ben drwy amlinellu y tri opsiwn a gaiff eu manylu o fewn y cynllun busnes terfynol. Byddai’r cynllun hwn hefyd yn rhoi manylion manteision ac anfanteision pob opsiwn.

 

Gofynnwyd am farn Aelodau a rhoddir crynodeb ohonynt islaw ynghyd â’r atebion a gafwyd gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol:

 

-       Mynegwyd pryder y dylai’r trafodaethau fod wedi eu cynnal yn y Cyngor cyn gwneud cynnig i’r asiant. Yn ychwanegol, gofynnodd Aelodau am eglurdeb am werth y cynnig a wnaed a gofynnodd sut oedd y Cyngor yn bwriadu cyllido’r cynnig os caiff ei dderbyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei fod wedi bod yn gweithredu dan bwerau dirprwy a awdurdodwyd i ddatblygu’r trafodaethau ond gwyddai’r asiant yn iawn y byddai unrhyw gynigion a wneir yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Soniodd am werth y cynnig ac ychwanegodd fod trafodaethau’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru yng nghyswllt y dulliau cyllido ar hyn o bryd.

 

Gofynnodd y Gr?p Llafur fod y gost ynghyd â’r effaith ar flaenoriaethau ehangach yn y Gyfarwyddiaeth Adfywio yn cael ei gynnwys yn yr achos busnes. Gofynnod am sicrwydd, pe derbynnir yr achos busnes, na fyddai hyn yn cael ei gyllido o gyllideb yr adran ac na fyddai gweithgareddau eraill yn dioddef fel canlyniad.

 

Atebodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r achos busnes yn canolbwyntio ar y tri opsiwn y cyfeiriwyd atynt yn gynharach ac na fyddent yn cyfeirio at unrhyw wasanaethau a gweithgareddau eraill y Cyngor. Dywedodd y gall yr achos busnes ddangos buddion ariannol hirdymor ond na fedrai roi mwy o sylwadau nes derbynnir yr achos busnes terfynol.

 

Dywedodd Aelod arall ei fod yn bryderus nad yw’r Cyngor mewn sefyllfa i symud ymlaen oherwydd y byddai’r Cyngor yn dibynnu ar fenthyciadau i’w gyllido pe derbynnid y cynnig. Dywedodd y dylai’r cynllun busnes fod wedi ei gymeradwyo cyn y gwnaed cynnig ffurfiol.

 

          Dywedodd  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Llunio Rhestr Fer – Swyddogion JNC

Derbyn adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020.

 

Cofnodion:

Gan ystyried yr farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus sef o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra caiff yr eitem hon o fusnes ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2020.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion staffio a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.