Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 23ain Gorffennaf, 2020 10.00 am

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr D. Bevan, G. Collier, T. Sharrem a J. Wilkins

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:-

              

Eitem Rhif 36: Datganiad Polisi Tâl 2020/2021

 

-       Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr

-       Richard Crook – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

-       Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg (Interim)

-       Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-       Anne-Louise Clark – Prif Swyddog Masnachol

-       Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-       Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-       Bernadette Elias – Pennaeth Polisi a Pherfformiad

-       Gemma Wasley – Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd

-       Sean Scannell – Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Mynediad Cwsmeriaid

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd

-       Deborah Jones – Swyddog Cymorth Democrataidd

 

Byddai’r swyddogion yn aros yn y cyfarfod os na chynhelir trafodaeth fanwl. Pe digwyddai hynny, byddai’r swyddogion dilynol yn aros yn y cyfarfod tra caiff yr eitem honno ei hystyried:

 

-       Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr

-       Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-       Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd (clerc cofnodion)

 

Eitem Rhif 47 – Adolygiad Gwasanaeth

 

Adroddwyd y datganiadau dilynol o fuddiant:

 

Cynghorydd N. Daniels – cafodd gyngor gan y Swyddog Monitro y gallai aros yn y cyfarfod tra caiff yr eitem hon ei hystyried a chymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau, os oes angen.

 

Cynghorwyr P. Edwards, J. Millard, a H. Trollope – Aelodau’r Gweithgor

 

Cynghorwyr W. Hodgins a L. Parsons – Aelodau Bwrdd a benodwyd i Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y gall yr Aelodau uchod aros yn y cyfarfod tra bod yr eitem o fusnes yn cael ei thrafod.

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn cyhoeddiadau’r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Pandemig Covid-19

 

Cynhaliodd aelodau a swyddogion funud o fyfyrdod tawel i gofio am y rhai a fu farw oherwydd Covid-19 a’u hanwyliaid a’u teuluoedd yr oedd y feirws ofnadwy hwn wedi effeithio arnynt.

 

5.

LLYFR COFNODION – TACHWEDD 2019 – GORFFENNAF 2020

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion ar gyfer y cyfnod Tachwedd 2019 – Gorffennaf 2020 i’w ystyried.

 

Yn dilyn trafodaeth fer pan gododd Aelodau bryder na chafodd y cofnodion eu hystyried eto gan y Pwyllgorau Craffu unigol cyn eu cyflwyno i’r Cyngor, cadarnhaodd y Swyddog Democrataidd bod y setiau o gofnodion ar yr agenda i gael eu hystyried wedi mynd drwy’r broses Craffu.

 

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor – 2 Ebrill 2020 – Eitem Rhif 15 – Recriwtio – Datganiad gan Aelod Rhif 3

 

Hysbysodd Aelod am y cywiriad dilynol i baragraff cyntaf y cofnodion uchod. Dywedodd mai yn ystod 2011 ac nid 2012 fel y nodwyd y cafodd addysg ei roi mewn mesurau arbennig dan y weinyddiaeth flaenorol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y cywiriad uchod, i gymeradwyo a chadarnhau’r cofnodion.

 

 

6.

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor pdf icon PDF 585 KB

Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Ebrill 2020.

 

Cofnodion:

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor – 2 Ebrill 2020 – Eitem Rhif 15 – Recriwtio – Datganiad gan Aelod Rhif 3

 

Hysbysodd Aelod am y cywiriad dilynol i baragraff cyntaf y gofnodion uchod. Dywedodd mai yn ystod 2011 ac nid 2012 fel y nodwyd y cafodd addysg ei roi mewn mesurau arbennig dan y weinyddiaeth flaenorol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y cywiriad uchod, i gymeradwyo a chadarnhau’r cofnodion.

 

7.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 308 KB

Ystyried ac os credir yn briodol, gymeradwyo Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

8.

Cyfarfod Arbennig o'r Cyngor pdf icon PDF 398 KB

Ystyried ac os credir yn addas, gymeradwyo Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

9.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu pdf icon PDF 399 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddiol a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 6 Chwefror 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

 

10.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) pdf icon PDF 209 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

11.

Pwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 200 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Chwefror 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

12.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu pdf icon PDF 283 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

13.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu pdf icon PDF 309 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

14.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 460 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020.

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

15.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 643 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

16.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 672 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

17.

Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 482 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

18.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 242 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

19.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 423 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

20.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 255 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

21.

Cydbwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 238 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cydgyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

22.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 256 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

23.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 246 KB

Cadarnhau Cofnodion y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

24.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 236 KB

Cadarnhau Cofnodion y Pwyllgor Craffu Addysg & Dysgu a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

25.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 305 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

26.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 295 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a Gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

27.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 210 KB

Cadarnhau Cofnodion y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

28.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 348 KB

Cadarnhau Cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Cytunwyd.

 

29.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.

 

30.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.

 

31.

Argyfwng Covid-19 – Pontio i’r Cyfnod Nesaf pdf icon PDF 672 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, esboniodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y cafodd yr adroddiad ei ystyried a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Gweithredol ar 24 Mehefin 2020. Fodd bynnag, mae pethau wedi symud ymlaen ers mis Mehefin ac mae’r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar ymateb strategol y Cyngor i argyfwng Covid-19 ac yn amlinellu’r camau nesaf a’r pontio i’r cyfnod adfer, gan fod yr holl wlad yn awr yn croesawu saib yn y pandemig.

 

Nodwyd y cyhoeddwyd argyfwng iechyd cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020 a bod y Cyngor wedi gweithredu ei ymateb argyfwng cyn 23 Mawrth 2020 oedd wedi arwain at ddarparu gwasanaethau hanfodol yn unig gyda gwasanaethau heb fod yn hanfodol a busnes arferol y cyngor yn dod i ben.

 

Er bod yr argyfwng yn parhau, bu saib yn y pandemig gyda gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion newydd a marwolaethau yn rhanbarth Gwent ac ar draws Cymru. Mae’r Cyngor yn awr ar bwynt ynghyd â Chynghorau ar draws Cymru lle mae’n symud i gyfnod adfer.

 

Aeth y Rheolwr Gyfarwyddwr ymlaen drwy dynnu sylw at elfennau allweddol yr ymateb dros yr ychydig fisoedd diwethaf, sef:

 

-       Bu strwythur cynllunio argyfwng yn weithredol ers canol mis Mawrth drwy ddull gweithredu aml-asiantaeth at y pandemig ac mae hyn yn parhau.

 

-       Daeth pob gwasanaeth heb fod yn hanfodol i ben gyda ffocws neilltuol ar Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion, cefnogi rhai o aelodau mwyaf bregus y gymuned, casglu sbwriel ac ailgylchu a diogelu’r cyhoedd, gyda’r Cyngor yn cymryd cyfrifoldebau gorfodaeth newydd sylweddol dan ddeddfwriaeth Coronafeirws.

 

-       Mae cau ysgolion wedi arwain at creu hybiau ysgol i gefnogi gweithwyr allweddol drwy ddarparu gofal plant ar gyfer eu plant ac ar gyfer gweithwyr bregus.

 

-       Mae’r Cyngor wedi parhau i gefnogi teuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim gyda dros 2,000 o deuluoedd yn cael eu cefnogi drwy’r gwasanaeth hwn.

 

-       Creu timau ymateb aml-asiantaeth bro a fu’n gweithio wrth ochr gwirfoddolwyr i gefnogi’r preswylwyr hynny sydd ar y rhestr gwarchod oherwydd rhesymau iechyd. Yn ychwanegol, mae’r Cyngor wedi dynodi dros 1,300 o breswylwyr bregus a gafodd gynnig cymorth yn ystod y cyfnod clo.

 

-       Effeithiwyd yn wael ar sectorau busnes ledled Cymru gyda llawer o gwmnïau yn cau lawr ac yn rhoi eu gweithwyr ar ffyrlo. Bu cefnogaeth ddigynsail ar gael i fusnesau lleol, gan eu galluogi i gael mynediad i wasanaethau cymorth ariannol y Llywodraeth, gyda’r nod o warchod yr economi lleol rhag effaith gwaethaf y pandemig. Hyd at 5 Mehefin, roedd y Cyngor wedi cefnogi dros 1,300 busnes ac wedi hwyluso talu 1,212 grant yn gyfanswm o £13.56m. Yn ychwanegol at hyn, cafodd nifer o fusnesau hefyd eu cefnogi drwy’r broses i wneud cais am gyllid drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd (a weinyddir gan Busnes Cymru).

 

-       Mae’r gweithlu wedi addasu’n gyflym i’r trefniadau gweithio newydd ac mae staff yn gweithio o gartref lle bynnag mae hynny’n bosibl.

 

Cafodd Covid-19 effaith enfawr ar Flaenau Gwent gyda 60 marwolaeth hyd yma oherwydd y feirws. Yn ychwanegol, cafodd y  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Effaith Covid-19 ar Gyllideb Refeniw 2020/2021 a Diweddariad ar gynigion Pontio’r Bwlch pdf icon PDF 776 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau bod yr adroddiad yn rhoi arwydd clir o’r effaith y byddai Covid-19 yn ei gael ar y gyllideb refeniw yn nhermau gwariant ac incwm. Mae’r adroddiad yn tybio bod y cyfnod clo wedi dod i ben ddiwedd mis Mehefin ac y byddai peth gweithgaredd arferol yn ailddechrau ym mis Gorffennaf ac y caiff rhagolygon y dyfodol eu diweddaru i roi ystyriaeth i unrhyw ddiwygiadau i’r sefyllfa bresennol.

 

Drwyddi draw rhagwelir cynnydd net mewn gwariant o £2.4m ynghyd â gostyngiad net mewn incwm o £1.6m a gafodd effaith niweidiol ar y gyllideb gyffredinol o £4m.

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o becynnau ariannol i gefnogi llywodraeth leol yn cynnwys £30m Cronfa Galedi, £14m Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, cefnogaeth ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, Digartrefedd a bod £78m yn cael ei ddarparu ar draws Cymru i gyllido colli incwm.

 

Mae’r adroddiad yn tybio y caiff yr holl gostau ychwanegol a gafwyd oherwydd ymateb y Cyngor i Covid-19 ei gyllido’n llawn ac y byddai hyn yn arwain at ostwng y pwysau cost i £1.465m. Fodd bynnag, yr arwyddion dechreuol gan Lywodraeth Cymru oedd mai dim ond 50% o gostau TGCh fyddai’n cael eu cyllido ac ei bod yn debygol y caiff rhai costau eu barnu’n anghymwys.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y rhagwelir y byddai colled incwm o £1.7m yn ystod Chwarter 1 gyda cholledion sylweddol yn y gwasanaeth arlwyo (prydau ysgol) a gwastraff. Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi gwybod y byddai’r £78m i gefnogi incwm a gollir yn cael ei ryddhau mewn dognau, gyda’r ddogn gyntaf yn cynnwys parcio ceir, gwastraff, gwasanaethau diwylliannol a phrydau ysgol. Byddai’r ardaloedd colled eraill yn cael eu hystyried yn ddilynol gan banel Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion yn y broses o gwblhau cyflwyno hawliadau chwarter 1 oedd angen eu derbyn gan Lywodraeth Cymru y trannoeth. Byddai unrhyw gymorth a dderbynnid yn gwella’r sefyllfa a adroddwyd, fodd bynnag oherwydd bod Covid-19 yn dal yn y gymuned, gallai’r effaith ariannol dilynol barhau i effeithio ar y Cyngor mewn chwarteri yn y dyfodol a byddai adroddiadau monitro cyllideb chwarterol yn adlewyrchu hyn yn y dyfodol.

 

Mae paragraff 5.2 yr adroddiad yn rhoi manylion y gwariant ychwanegol a gafwyd fel canlyniad i’r pandemig ac mae hyn yn cynnwys cynnydd mewn cymorth treth gyngor, gofal cymdeithasol oedolion, gwasanaethau gwastraff a phrydau ysgol am ddim. Roedd hefyd rhai meysydd trawsbynciol o wariant yn ymwneud â TGCh, offer diogelu personol a chynnyrch diheintio.

 

Mae paragraff 5.3 yr adroddiad yn rhoi manylion y colli incwm a fyddai’n digwydd fel canlyniad i’r pandemig sy’n cynnwys gostyngiad cyffredinol yng nghasgliad y Dreth Gyngor. Er bod yr adroddiad yn nodi 2.6%, ailedrychwyd ar hyn ac roedd bellach yn 1.1%. Gobeithid y byddai hyn yn incwm wedi ei ohirio yn hytrach na cholled, fodd bynnag, o gofio am y sefyllfa economaidd bresennol, mae risg uchel o beidio casglu ac mae posibilrwydd dileu dyledion yn cynyddu.

 

Mae’r rhagolwg yn tybio  ...  view the full Cofnodion text for item 32.

33.

Sefydlu Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent pdf icon PDF 429 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, rhoddodd y Prif Swyddog Masnachol fanylion yr adroddiad oedd â’r diben o sefydlu Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Blaenau Gwent.

 

Esboniodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu prif gynllun Profi, Olrhain a Diogelu ar 13 Mai a gefnogwyd gan Gynllun Ymateb Diogelu Iechyd y Cyhoedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gynlluniwyd i gefnogi’r symud allan o’r cyfnod clo. Fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru, mae’n ofynnol i bob rhanbarth ddatblygu ei ymateb rheolaidd rhanbarthol ei hun i’r Cynllun a dechreuodd gwasanaeth Gwent-gyfan ar 1 Mehefin 2020.

 

Er mwyn cyflawni hyn, cafodd rhai staff eu hadleoli i’r gwasanaeth i gynnal olrhain cysylltiadau a chynghori ar gysylltiadau. Nid oedd hwn yn drefniant cynaliadwy ar ôl mis Medi a gofynnwyd i awdurdodau sefydlu trefniant parhaus o fis Medi 2020 i fis Mawrth 2021. Ers hynny mae Gr?p Cydlynu Gwent wedi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth Cymru sydd wedi arwain at ddyfarnu £9.6m ar draws Gwent i sefydlu’r gwasanaeth.

 

Roedd model y gwasanaeth yn seiliedig ar fodel integredig lle mae Awdurdodau Lleol yn cymryd y prif gyfrifoldeb am eu timau lleol perthnasol a byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cymryd cyfrifoldeb arweiniol am yr ymateb rhanbarthol.

 

Aeth y Prif Swyddog Masnachol ymlaen drwy roi manylion y model ac esboniodd y caiff staff eu cyflogi’n benodol i roi adnoddau i’r tîm ym Mlaenau Gwent ac y byddent yn gweithio gartref o bell i ddarparu’r gwasanaeth. Yn seiliedig ar y datrysiad interim cynigiwyd creu tîm yn unol â modelau eraill Gwent gyda thîm yn cynnwys Rheolwr Gwasanaeth Tîm, Swyddogion Olrhain Cysylltiadau a Chynghorwyr, Cydlynwyr Shifft yn darparu gwasanaeth 7-diwrnod, 8.00 a.m. i 8.00 p.m.

 

Roedd nifer y staff sydd ei angen yn seiliedig ar boblogaeth Blaenau Gwent a’r gyfradd positif posibl h.y. byddai 20% o’r profion yn bositif. Mae Atodiad 1 yn rhoi manylion y trefniadau llywodraethiant a byddai’r tîm yn adrodd yn uniongyrchol i’r Gr?p Cydlynu Strategol fel rhan o ymateb i Covid-19 a Memorandwm Dealltwriaeth sy’n cynnwys y Bwrdd Iechyd ac awdurdodau lleol yng Ngwent sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

 

Felly cynigiwyd rhoi awdurdod wedi ei ddirprwyo i’r Prif Swyddog Masnachol i lofnodi’r Memorandwm Dealltwriaeth gan ymgynghori gyda’r Aelod Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD yn unol â hynny.

 

Daeth y Prif Swyddog Masnachol i ben drwy ddweud y byddai rheoli perfformiad y gwasanaeth newydd yn gydnaws gyda threfniadau rheoli perfformiad arferol y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog Masnachol y byddai swyddogion a gyflogir o fewn y gwasanaeth yn cael cynnig cefnogaeth tebyg i gwnsela. Yn ychwanegol ar ddechrau a diwedd pob shifft byddai sesiwn briffio a di-briffio. Mae gan y Cyngor raglen cymorth gweithwyr cyflogedig ar gyfer y swyddogion hynny sydd â phroblemau llesiant neilltuol ac angen siarad gyda rhywun y tu allan i’r tîm ac y byddai aelodau’r tîm yn cael blaenoriaeth ar gyfer y gefnogaeth honno os oes angen.

 

Mynegodd Arweinydd y Cyngor ei werthfawrogiad i’r Prif Swyddog Masnachol am y gwaith anhygoel  ...  view the full Cofnodion text for item 33.

34.

Blaengynllun – Adnewyddu Cynllun Corfforaethol 2020/22 pdf icon PDF 514 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Fel canlyniad i’r pandemig, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwyr y caiff ei gydnabod fod angen diwygio’r blaenoriaethau corfforaethol hyd at 2022 ac yn bwysicaf mae angen adfyfyrio ac adeiladu ar wersi’r ymateb i’r pandemig a sefydlu’r arfer da a gwaith da i flaenoriaethau a dyheadau y dyfodol. Cafodd y darn hwn o waith ei wneud mewn cysylltiad gyda’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Ni chafodd unrhyw flaenoriaethau eu tynnu o’r cynllun gwreiddiol ond cafodd y ddogfen ei hailddrafftio a’i haileirio i geisio canolbwyntio ar y deilliannau i’w cyflawni gan y Cyngor ac i sicrhau bod y dull gweithredu un cyngor at ddarpariaeth a ddefnyddiwyd mor llwyddiannus dros yr ychydig fisoedd diwethaf yn parhau.

 

Caiff meysydd newydd o weithgaredd eu dynodi yn yr adnewyddu yn cynnwys yr uchelgais i ddod yn Gyngor a Bwrdeistref carbon isel, a gaiff ei gryfhau gan yr angen i edrych sut y byddai’r Cyngor yn gweithio yn y dyfodol gan roi ystyriaeth i fuddion peth o’r gweithio newydd a symud i fodel mwy cynaliadwy yn y dyfodol yn nhermau gweithio ystwyth. Gwneud yn si?r ein bod fel Cyngor yn symud ymlaen yn parhau i fyw gyda’r pandemig, y darperir gweithle diogel ar gyfer gweithwyr ac amgylchedd diogel ar gyfer defnyddwyr pan maent yn dod i gysylltiad gyda’r Cyngor ac yn derbyn ei wasanaethau.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod yn cefnogi’r adroddiad a dywedodd fod y datganiadau deilliant yn dal i fod yn ddigon hyblyg i ychwanegu elfennau dros gyfnod.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud fod anifeiliaid yn crwydro yn dod yn broblem yn y Fwrdeistref Sirol yn arbennig felly yn wardiau Nantyglo a Blaenau a gofynnodd os gellid edrych ar hyn eto yn y dyfodol. Dywedodd Aelod arall, er ei fod yn effeithio mwy ar rai ardaloedd nag eraill, gofynnodd os y gellid rhoi blaenoriaeth i fater gwasanaeth llocio a mynd ar ôl hyn yn gynnar yn hytrach na’n hwyrach.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor na fyddai ganddo broblem gyda’r cais a dweud fod hyn yn cael ei gynnwys yn ddigonol yn y datganiad deilliant – “diogelu a gwella ein hamgylchedd a seilwaith er budd ein cymunedau”. Er na fyddai’n cael ei gynnwys yn y Cynllun Corfforaethol gan fod hyn yn manylu blaenoriaethau ‘strategol’, rhoddodd ymrwymiad y byddai’n codi’r mater gyda’r Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd ac awgrymodd y gellid ei gynnwys yng nghylch gorchwyl y portffolio Gwasanaethau Cymunedol.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo’r Blaengynllun Corfforaethol 2020/22 ar gyfer ei gyhoeddi.

 

 

35.

Strategaeth Cyfalaf 2020/2021 pdf icon PDF 513 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fyr am yr adroddiad a dywedodd fod Cod Darbodus Cyllid Cyfalaf mewn Awdurdodau Lleol y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), a ddiwygiwyd yn 2017, yn cyflwyno cysyniad Strategaeth Cyfalaf yn weithredol o fis Ebrill 2019.

 

Bwriad y strategaeth cyfalaf yw rhoi trosolwg lefel uchel o sut mae gwariant cyfalaf, cyllido cyfalaf a gweithgaredd rheoli trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau ynghyd â throsolwg o sut y caiff risg cysylltiedig ei reoli a’r goblygiadau ar gyfer cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol. Mae datblygu strategaeth cyfalaf yn caniatáu hyblygrwydd i ymgysylltu gyda’r Cyngor llawn i sicrhau fod pob Aelod etholedig yn deall y strategaeth gyffredinol, y gweithdrefnau llywodraethiant a’r archwaeth am risg.

 

Nodwyd y cafodd y Strategaeth Cyfalaf ei hystyried gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Corfforaethol yn ystod mis Chwefror ac mai’r bwriad oedd i’r Cyngor ei ystyried ym mis Mawrth. Fodd bynnag, ers hynny edrychwyd eto ar y strategaeth i ganfod os oedd angen gwneud unrhyw ddiwygiadau ac roedd swyddogion yn fodlon nad oedd angen unrhyw newidiadau sylweddol i’r ddogfen fel canlyniad i Covid-19 ac na fu unrhyw newidiadau sylweddol ers y cafodd y strategaeth olaf ei mabwysiadu yn 2019.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar Strategaeth Cyfalaf 2020/2021.

 

36.

Rheoli Trysorlys – Datganiad Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi & Datganiad Polisi MRP 2020/2021 (yn cynnwys Dangosyddion Darbodus) pdf icon PDF 512 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau ar gyfer ei ystyried.

 

Mae’r adroddiad er mwyn rhoi cyfle i Aelodau ystyried y Strategaeth Trysorlys, Strategaeth Buddsoddi a Pholisi Isafswm Darpariaeth Refeniw (yn cynnwys dangosyddion darbodus) ar gyfer ei fabwysiadu ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021.

 

Nodwyd fod gohirio cyfarfodydd ffurfiol y Cyngor oherwydd y cyfnod clo coronafeirws wedi golygu fod oedi cyn i’r Cyngor ystyried yr adroddiad hwn ac fel canlyniad bu rhai mân newidiadau eraill i’r strategaeth i adlewyrchu data economaidd diweddar. Fodd bynnag, nid yw’r strategaethau wedi newid yn sylweddol ers iddo gael ei graffu gan Trosolwg Corfforaethol ar 3 Mawrth 2020.

 

Ar wahân i un mân newid a amlinellir uchod, ni wnaed unrhyw newidiadau sylweddol i’r strategaeth o gymharu â’r ddogfen a gytunwyd yn 2019/20.

 

Mewn ateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’r rhagolwg cyllideb ar gyfer Isafwm Darpariaeth Refeniw o 2022/2023 yn codi’n ddilynol a chaiff ei ffactora yn Strategaeth Ariannol Tymor Canol y Cyngor yn y dyfodol. O ran amcangyfrif costau, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’n dilyn y mater ac yn adrodd yn ôl yn unol â hynny i Arweinydd y Gr?p Llafur.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cytuno ar y Datganiad Blynyddol Strategaeth Trysorlys, y Strategaeth Buddsoddi Blynyddol a Datganiad Polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/2021 a chytuno ar y Dangosyddion Darbodus Rheolaeth Trysorlys a gynhwysir ynddo.

 

37.

Datganiad Polisi Tâl 2020/21 pdf icon PDF 417 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Datganodd y swyddogion dilynol fuddiant yn yr eitem hon ond aros yn y cyfarfod tra bod yr eitem yn cael ei hystyried:

 

-       Michelle Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr

-       Richard Crook – Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol

-       Damien McCann – Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

-       Lynn Phillips – Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg (Interim)

-       Rhian Hayden – Prif Swyddog Adnoddau

-       Anne-Louise Clark – Prif Swyddog Masnachol

-       Andrea Jones – Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol

-       Andrea Prosser – Pennaeth Datblygu Sefydliadol

-       Bernadette Elias – Pennaeth Polisi a Pherfformiad

-       Gemma Wasley – Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd

-       Sean Scannell – Rheolwr Cyfathrebu, Marchnata a Mynediad Cwsmeriaid

-       Ceri Edwards-Brown – Swyddog Democrataidd

-       Deborah Jones – Swyddog Cymorth Democrataidd

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor mai hwn oedd yr adroddiad traddodiadol sy’n nodi’r polisïau yn ymwneud â thâl ac wedyn cynigiodd gymeradwyo Opsiwn 1.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef y Datganiad Polisi Tâl 202021.

 

38.

Absenoldeb Statudol Profedigaeth Rhiant pdf icon PDF 707 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol i gael ei ystyried.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo gweithredu Opsiwn 1 yn weithredol o 6  Ebrill 2020 ar y sail y byddai’n cyflawni:

-       y gofynion deddfwriaethol tra’n rhoi’r Cyngor o flaen yr isafswm gofyniad statudol;

-       cael ei annog gan y Llywodraeth;

-       yn gyson gyda’r hyn a gynigir mewn darpariaethau eraill;

-       yn golygu cost ychwanegol fach iawn;

-       ac y byddai’r Cyngor yn cael ei weld fel cyflogwr modern o ddewis sy’n gysylltiedig gyda’r cynigion ar gyfer y Strategaeth Gweithlu newydd.

 

Opsiwn 1

Ystyriaethau

·    Buddion

Newid hawl  2 wythnos o wyliau ar gyflog llawn, beth bynnag am oedran neu hyd gwasanaeth, neu rai sydd wedi dioddef genedigaeth farw ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd.

 

Ymestyn y ddarpariaeth i gynnwys perthnasau yng nghyfraith a llys-berthnasau i sicrhau cysondeb gyda darpariaethau eraill cyfnod absenoldeb (y gwyddom na fyddai’n medru adhawlio yng nghyswllt y SPBB).   

 

·   Byddai’n golygu cost ychwanegol i’r Awdurdod (isel ond mae’r union swm yn anhysbys)

·   Yn uwch na’r hyn sydd ei angen gan y Ddeddf

·   Byddai angen i staff rheng-flaen gael llanw ar gyfer yr absenoldeb ychwanegol.

·   Cysylltiadau i Strategaeth Gweithlu

o fod yn gyflogwr modern o ddewis

sy’n hyrwyddo llesiant ein gweithwyr

cyflogedig.

·         Byddid yn disgwyl i’r gost

ychwanegol fod yn fach iawn o

gofio am pa mor aml y byddid yn

defnyddio’r ddarpariaeth ac y

gellid adhawlio’r taliad statudol am y ddwy wythnos.

·         Darpariaeth gyson ar gyfer pob

gweithiwr cyflogedig a fyddai’n

golygu tegwch yn yr hawliadau

Ar gyfer yr holl staff.

 

 

39.

Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol 2020-21 pdf icon PDF 590 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor er mwyn cydymffurfio gyda Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a rheoliadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ei bod yn ofynnol i’r Cyngor baratoi rhestr o daliadau yn flynyddol y mae’n bwriadu eu gwneud i’w Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig. Cynigiodd y dylid cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at y rhestr o Hawliadau Cyflogau Uwch a amlinellir ar dudalen 546 yr adroddiad a dywedodd fod dau lwfans cyfrifoldeb hefyd yn cael eu talu i’r cynrychiolwyr a benodwyd i Fwrdd Silent Valley a gofynnodd os y dylai’r taliadau hynny hefyd gael eu cynnwys ar y rhestr.

 

Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y rhestr yn cyfeirio at lwfansau cyflogau uwch sy’n ffurfio rhan o’r Panel Annibynnol ac nid yw eu penderfyniadau (sydd â chap o 17) ac eglurodd nad yw’r penodiadau i Fwrdd Silent Valley yn ffurfio rhan o’r gofynion hynny. Fodd bynnag, caiff y taliadau hyn eu dangos yn y rhestr flynyddol o Ddatganiad Taliadau a wnaed i Aelodau.

 

Ar yr un pwynt, dywedodd Aelod arall fod y Cyngor wedi cytuno’n flaenorol y byddai’r ddau daliad hyn yn cael eu cynnwys mewn rhestri yn y dyfodol er budd agoredrwydd a thryloywder.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd ganddo broblem wrth weithredu’r awgrym er fod yr wybodaeth wedi ei chynnwys o fewn y Datganiad Taliadau i Aelodau blynyddol sydd yn ddogfen gyhoeddus. Fodd bynnag, os teimlid bod angen dyblygu’r wybodaeth hon a chyhyd ag ei fod o fewn cylch yr hyn y gellid ei wneud o safbwynt adnoddau, roedd yn sicr na fyddai’n broblem.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y Cyngor yn cael ad-daliad gan Silent Valley am ffioedd y cyfarwyddwyr.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cytuno a chyhoeddi’r Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21.

 

40.

Datganiad Taliadau a Wnaed i Aelodau yn 2019/2020 pdf icon PDF 595 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor er mwyn cydymffurfio gyda Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a rheoliadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, ei bod yn ofynnol i’r Cyngor baratoi rhestr o daliadau yn flynyddol y mae’n bwriadu eu gwneud i’w Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig. Cynigiodd y dylid cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Mewn ymateb i sylw a wnaed yr ymddangosai y talwyd ddwywaith i unigolyn, dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau na chredai nad oedd hwn yn daliad a wnaed ddwywaith a bod y taliadau blynyddol a dderbyniwyd yn cyfeirio at ddau sefydliad gwahanol ac nad oedd unrhyw Aelod wedi derbyn mwy nag un SRA ar unrhyw amser penodol. Fodd bynnag, dywedodd y swyddog y byddai’n weithredu ar y mater ac yn adrodd yn ôl yn union â hynny.

 

Cododd Aelod bryder yr ymddangosai yn y golofn ‘Swm a Dalwyd’ lle disgwylir data a dywedodd fod hyn wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol. Gofynnodd am sicrwydd y byddid yn derbyn yr wybodaeth cyn gynted ag sy’n bosibl.

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y disgwylir yr wybodaeth hyn gan gyrff allanol ond pan dderbynnir yr wybodaeth derfynol y caiff y Rhestr Taliadau a hefyd y Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol ei diweddaru i adlewyrchu hyn. Rhagwelir y derbynnir yr wybodaeth hon cyn cyhoeddi’r Datganiad Taliadau yn ffurfiol ar y wefan a chaiff ei gylchredeg i Aelodau unwaith y’i derbyniwyd.

 

Dywedodd Aelod arall fod Heddlu Gwent a’r Panel Troseddu wedi cyhoeddi’r wybodaeth hon ar y wefan a dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’n gweithredu ar hyn.

 

Mynegodd Aelod bryder fod gwahaniaeth yn y symiau a hawlir am lwfansau teithio. Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai hyn yn dibynnu ar yr hawliadau unigol gan Aelodau unigol ac roedd yn dibynnu ar y nifer y teithiau y mae’n rhaid i unigolion ei wneud wrth gynnal eu dyletswyddau fel Cynghorydd.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1 sef cyhoeddi’r Datganiad Taliadau a Wnaed i Aelodau yn ystod 2019/20, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

 

41.

Opsiynau Cyllido – Heol Aberbîg pdf icon PDF 431 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, yn absenoldeb yr Aelod Gweithredol – Amgylchedd, fod yr adroddiad hwn yn bennaf ar gyfer gwybodaeth oherwydd y bu’n fater o reidrwydd fod angen i’r gwaith ddechrau ar Heol Aberbîg fel mater o frys, ac am resymau amlwg felly roedd y Pwyllgor Gweithredol wedi cymryd y penderfyniad hwn ar ran y Cyngor. Tynnwyd sylw at y ffaith y rhoddir manylion y fethodoleg cyllid yn yr adroddiad ac y cafodd Opsiwn 2 ei gymeradwyo.

 

Gofynnodd Aelod am sicrwydd am lefel yr effaith y byddai cau Heol Aberbîg yn ei gau ar safle profi Covid-19 yn Cwm a gofynnwyd os y byddai wedi bod yn gallach i gyflwyno’r cau mewn camau mewn trafodaeth gyda Costain gyda chau heol Blaenau’r Cymoedd ym Mrynmawr.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol yr hysbyswyd yr ymgynghorwyr adeg y chwilio am safle profi am y bwriad i gau’r ffordd ond roeddent yn dal i deimlo ar gyfer hygyrchedd ar gyfer mwyafrif y Fwrdeistref Sirol ac yn ehangach na’r Fwrdeistref Sirol bod y safle yn dderbyniol ac felly fe wnaethant symud ymlaen gan wybod yn llawn am y bwriad i gau’r ffordd Yn nhermau sicrwydd, roedd pobl yn mynd i’r safle ac yn archebu profion ac mae’n llawn weithredol ar y cam hwn.

 

Yn nhermau Blaenau’r Cymoedd, ceisir lleihau effaith hyn ond nid oedd y Cyngor wedi derbyn cadarnhad tan yn hwyr yn y dydd am pryd y byddid yn cau ffyrdd ar Ffordd Blaenau’r Gwybodaeth. Cyn gynted ag y derbyniwyd yr wybodaeth hon, gofynnwyd i’r Pwyllgor Gweithredol gymeradwyo’r gwaith i Heol Aberbîg er mwyn lleihau’r effaith. Nodwyd pe na byddai’r gwaith i Heol Aberbîg wedi ei wneud tan ar ôl y gwaith ar heol Blaenau’r Cymoedd, byddai fod risg o ddifrod helaeth i’r adran honno o’r ffordd a gallai fod wedi bod rhaid ei chau. Byddai’r ffordd yn ail-agor unwaith y cwblhawyd y gwaith a byddai’n dod yn rhan o’r llwybr gwyro ar gyfer heol Blaenau’r Cymoedd.

 

Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ben drwy ddweud fod y Cyngor wedi parhau i weithio gyda thîm Blaenau’r Cymoedd ac y byddai’n parhau i geisio lleihau effaith hyn a gwneud ei orau i osgoi hyn. Fodd bynnag, gall fod yn bosibl y bydd gorgyffwrdd o ychydig o wythnosau rhwng y ddau ddarn o waith.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at Opsiwn 2 a dywedodd fod preswylwyr yn bryderus am y prosiect Bwa Mawr yn y dyfodol ac yn ceisio sicrwydd cyn gynted ag y ceir caniatâd ac ymrwymiad gan Cadw y byddai gwaith yn dechrau ar y Bwa Mawr o fewn cyfnod byr ac y byddai’r cyllid yn cael ei ailosod yn gyflym.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor sicrwydd cadarn y byddai hyn yn digwydd. Ymgynghorwyd ar hyn gyda’r Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y mae ei bortffolio yn cynnwys y Bwa Mawr ynghyd â swyddogion. Er na fyddai’r gwaith ar y Bwa Mawr yn dechrau tan 2021 ac er y cyflwynwyd ceisiadau am gymorth cyllid  ...  view the full Cofnodion text for item 41.

42.

Cylch Blynyddol Cyfarfodydd 2020/201 pdf icon PDF 483 KB

Ystyried adroddiad Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Perfformiad a Democrataidd.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad hwn yn dangos ymrwymiad o fis Medi ymlaen y byddai’r broses ddemocrataidd yn dychwelyd i rywfaint o normalrwydd. Byddai’r Pwyllgorau Craffu yn cwrdd yr wythnos ddilynol i drafod blaenraglenni gwaith fel y byddai pob Pwyllgor yn barod am eu cyfarfodydd cyntaf ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef:

 

(i)            Cymeradwyo cylch blynyddol arfaethedig cyfarfodydd 2020/21.

 

(ii)          Cymeradwyo’r broses penderfynu ddilynol i drin unrhyw fater brys yn ystod gwyliau mis Awst

 

a.    bod yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd mewn cysylltiad gydag Aelodau Gweithredol a Swyddogion perthnasol yn delio gydag unrhyw eitemau brys rhwng 1 – 31 Awst 2020 (h.y. gelwir Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Gweithredol ar fyr rybudd i gydnabod fod y mater yn un brys ac y byddai’r weithdrefn galw-mewn yn weithredol). Byddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr/Pennaeth Gwasanaeth Cyflogedig ynghyd â’r Arweinyddiaeth yn penderfynu os oedd y mater yn un brys; a

 

b.    dylid cyfyngu penderfyniadau i faterion brys a’u cofnodi ar restr penderfyniadau a gyflwynir i gyfarfod cyffredin nesaf y Cyngor. Ni ddylai unrhyw faterion dadleuol neu sensitif gael eu trin yn ystod y cyfnod hwn.

 

 

43.

Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 208 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ionawr 2020.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

44.

Penodiad i’r Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 389 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro).

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn, sef:

 

-       cymeradwyo penodiad Mr. Francis Roy Lynch; ac

 

-       ailhysbysebu yr ail apwyntiad gwag na chafodd ei lenwi.

 

 

45.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 453 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

-       penodi cynrychiolydd newydd.

 

Gofynnodd yr Arweinydd am ddatganiadau diddordeb os oes gan unrhyw Aelod ddiddordeb mewn llenwi’r swydd wag hon.

 

Panel Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion yr Awdurdod Lleol

 

Gwnaeth y Panel yr argymhellion dilynol ar 25 Chwefror 2020 i benodi:

 

-       Debra Fields – Ysgol Gynradd Sofrydd

-       Pat Smail – Ysgol Gynradd Sofrydd

 

Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 10 Gorffennaf 2020 i benodi:

 

-       Claire Gardner – Ysgol Eglwys yng Nghymru Santes Fair

-       Richard Bevan a Daryl Tovey – Cymuned Ddysgu Abertyleri

-       Joanne Davies – Ysgol Gynradd Glanhywi

-       Cynghorydd John C Morgan – Ysgol Gynradd Georgetown

-       Cynghorydd John C Morgan – Ysgol Gyfun Tredegar

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r penodiadau uchod.

 

46.

Amser Cyfarfodydd y Cyngor yn y Dyfodol

Ystyried amser cyfarfodydd.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod cyfarfodydd y Cyngor yn dechrau am 10.00am yn y dyfodol.

 

47.

Eitemau Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) a gafodd eu heithrio gan roi ystyriaeth i'r prawf diddordeb cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm a penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol.

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiadau dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitemau eithriedig gan roi ystyriaeth i’r prawf budd cyhoeddus ac y dylai’r wasg a’r cyhoedd gael eu heithrio o’r cyfarfod (mae’r rhesymau am y penderfyniadau am yr eithriad ar gael mewn rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

48.

Adolygiad Gwasanaeth

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

Cofnodion:

Gadawodd y Cynghorydd D. Wilkshire y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Datganodd y Cynghorwyr  N. Daniels, W. Hodgins, L. Parsons, P. Edwards, J. Millard a H. Trollope fuddiant yn yr eitem hon ond ar gyngor y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol fe wnaethant aros yn y cyfarfod tra roedd yn cael ei hystyried.

 

Ar ôl rhoi ystyriaeth i farn y Swyddog Priodol am y prawf cyhoeddus o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol yn fanwl am yr adroddiad sy’n cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad a gynhaliwyd ar ddarpariaeth Hamdden a Diwylliant a thynnodd sylw at y pwyntiau perthnasol iddo. Atododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg (Interim) yr wybodaeth hon drwy ddarparu manylion y Bwrdd Partneriaeth Strategol newydd a threfniadau llywodraethiant a strwythur wedi eu cryfhau.

 

Nodwyd bod y Cyngor a'r sefydliad wedi cydweithio drwy gydol y broses adolygu ac wedi datblygu cynllun busnes cadarn a gafodd ei wirio am ddiwydrwydd dyladwy gan gydweithwyr ariannol. Daeth y Prif Swyddog Masnachol i ben drwy amlinellu’r opsiynau ar gyfer eu hystyried o fewn yr adroddiad.

 

Wedyn gofynnwyd am farn Aelodau pan ddywedodd Aelodau, yn amodol ar gryfhau’r trefniadau llywodraethiant, y cefnogid yr opsiwn a ffafrir a fanylion yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i dderbyn yr adroddiad sy’n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod) a chymeradwyo Opsiwn 2, sef dilyn Llwybr B h.y.

 

Cyfnod ymestyn contract gyda therfyn amser o bum mlynedd gyda phwynt torri/adolygu ar flwyddyn 3. Defnyddio’r strwythur llywodraethiant newydd arfaethedig i adolygu’n ffurfiol berfformiad cyflenwi’r cynllun busnes gan y sefydliad ar y fanyleb a threfniant ariannol a rheoli diwygiedig. Defnyddio mannau gwirio clir i ddynodi risgiau a gweithredu i’w lliniaru yn amserol. Pe byddai’r sefydliad yn cyflawni eu cynllun busnes i gyd byddai’r Cyngor yn ystyried ehangiad pellach i’r contract yn amodol ar adolygiad pellach.

 

Canmolodd Arweinydd y Gr?p Llafur waith y swyddogion ac Aelodau’r Gweithgor yng nghyswllt yr adolygiad gwasanaeth.

 

Oherwydd natur eu datganiad buddiant ni wnaeth y Cynghorwyr W. Hodgins ac L. Parsons gymryd rhan yn y bleidlais yng nghyswllt yr eitem hon.

 

49.

Parc yr Ŵyl

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Ar ôl rhoi ystyriaeth i farn y Swyddog Priodol am y prawf cyhoeddus o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei chynnal gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Gwnaeth y Rheolwr Gyfarwyddwr y datganiad dilynol cyn ystyried yr adroddiad.

 

Byddai’r Cyngor yn gwybod am erthygl yn y South Wales Argus ddydd Gwener diwethaf am yr adroddiad hwn a’i argymhellion. Roedd hwn yn adroddiad eithriedig a chyfrinachol a roedd yn ymddangos o’r erthygl fod y newyddiadurwr wedi cael copi o’r adroddiad.

 

Roedd cyhoeddi cynnwys yr adroddiad yn awr wedi cyflwyno rhai risgiau ychwanegol sylweddol i’r Cyngor – nid yn lleiaf y gallu i negodi sefyllfa fasnachol dda a’r niwed i enw da’r Cyngor gyda’n partner, ac yn fwyaf arbennig Lywodraeth Cymru.

 

Fel Rheolwr Gyfarwyddwr roedd wedi ysgrifennu at Olygydd y South Wales Argus am y mater. Fe wnaeth hefyd atgoffa’r Cyngor fod Codau Ymddygiad Swyddogion ac Aelodau Etholedig ill dau yn gosod dyletswydd o gyfrinachedd ar bawb a bod datgelu’r adroddiad hwn yn doriad difrifol ar y ddyletswydd honno.

 

Wrth wneud y datganiad hwn heddiw, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn pwysleisio ar y Cyngor effaith y weithred o rannu’r adroddiad gyda newyddiadurwr ac i atgoffa’n gadarn bod yn rhaid i adroddiadau eithriedig barhau’n gyfrinachol.

 

Cefnogodd Arweinydd y Cyngor ddatganiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a dywedodd ei fod yn gwybod drosto’i hun drwy drafodaethau am lefel y siom a’r pryder a fu am y mater hwn. Nid oedd gan unrhyw unigolyn a allai wneud rhywbeth fel hyn gyda goblygiadau posibl masnachol ac i enw da fawr neu ddim parch at y Cyngor. Teimlai’n bersonol fod hyn yn dor-cyfrinach yn rhy bell ac y dylai bod rhyw fath o ymchwiliad i hyn mewn ymgais i ganfod o lle y daeth y toriad hwn .

 

Cytunodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor gyda sylwadau’r Arweinydd a dywedodd y dylai pob Aelod a swyddog perthnasol sicrhau bod y dyfeisiau trydanol perthnasol ar gael fel rhan o’r broses ymchwilio.

Mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei bryder fod gan rai Aelodau wybodaeth gyfrinachol allanol ar eu dyfeisiau ac na fyddai’r sefydliad neilltuol dan sylw yn caniatáu cyrchu hyn fel rhan o’r rheoliadau GDPR.

 

Dywedodd Aelod arall y bu’r wybodaeth hon yn y parth cyhoeddus am hir cyn bod yr adroddiad wedi dod ar gael i Aelodau a swyddogion yr wythnos flaenorol. Yr oedd yr Aelod Seneddol hefyd yn gwybod am gynnwys yr adroddiad.

 

Dilynodd trafodaeth faith pan fynegwyd gwahanol sylwadau gydag un Aelod yn dweud ei fod yn cytuno fod angen i ymchwiliad ar hyn fynd mor bell yn ôl â mis Rhagfyr 2019 pan ddaeth pobl i wybod gyntaf am y sefyllfa.

 

Dywedodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol (Swyddog Monitro) fod datgelu  ...  view the full Cofnodion text for item 49.