Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 12fed Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o hysbysiad os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais.

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L. Winnett.

 

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiadau buddiant dilynol:

 

Cynghorwyr G. Collier, M. Cross, M. Holland a J. C. Morgan Eitem Rhif 28: Treth Gyngor - Dileu Disgownt Lwfans Eiddo Gwag ar gyfer Aneddiadau Rhagnodedig Dosbarth C.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol y gallai'r Aelodau a enwir uchod aros yn y cyfarfod tra trafodir yr eitem o fusnes.

 

Cynghorydd  W. Hodgins

Eitem Rhif 30 - Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2018/19 Ch4.

 

Cynghorwyr M. Cook a J. Hill

Eitem Rhif 36 - Dyfodol Rheolaeth Gorsaf Drosglwyddo Gwastraff a Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn Cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Estynnwyd llongyfarchiadau i:

 

ØNicky Pepper Junior, 21 mlwydd oed, a enillodd wobr Tirmon Ifanc y Flwyddyn gan y Sefydliad Tirmyn. Cafodd Nicky ei addysg yn Ysgol Gyfun Glyncoed ac roedd wedi dechrau ei yrfa drwy dorri lawntydd ar gyfer pobl leol. Cyflwynwyd y wobr i Nicky gan Dan Walker o'r BBC.

 

Nodwyd fod Nicky Pepper Senior hefyd wedi ei gydnabod am ei waith fel tirmon yng Nglynebwy gan y Gynghrair Criced.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr o longyfarchiadau.

 

Dyfarniad Arian Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi derbyn Dyfarniad Arian y Cynllun Cydnabyddiaeth Cyflogwyr Amddiffyn am ei ymrwymiad i sicrhau nad yw personél gwasanaeth, cyn aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd dan anfantais annheg pan maent yn ceisio cyflogaeth gyda'r Cyngor. 

 

Derbyniwyd y dyfarniad ar ran yr Awdurdod yng Ngwobrau Lluoedd Arfog Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru ddydd Iau 28 Tachwedd 2019 gan y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor. Fel rhan o gyflawni'r dyfarniad Arian mae'r Cyngor yn ddiweddar wedi mabwysiadu Polisi Amser Band i Aelodau Lluoedd wrth Gefn sy'n cynnwys pymtheg diwrnod o absenoldeb ar dâl ar gyfer hyfforddiant ar gyfer aelodau'r lluoedd wrth gefn, yn ogystal â chefnogi eu mobileiddio.

 

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi llofnodi'r Gyfamod Lluoedd Arfog yn adlewyrchu ei ymrwymiad parhaus i'r gymuned lluoedd arfog yn 2014 ynghyd ag ystod o bartneriaid sifilian a milwrol y mae'r Cyngor wedi gweithio gyda nhw drwy Gr?p Llywio Blaenau Gwent. Bydd y Cyngor yn awr yn anelu i ennill y dyfarniad Aur drwy fesurau pellach megis gwarant cyfweliad ar gyfer holl aelodau'r gymuned lluoedd arfog sy'n diwallu meini prawf hanfodol y swydd y gwnaethant gais amdani.

 

Ar y pwynt hwn, cyflwynodd Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog y dyfarniad i Gadeirydd y Cyngor a mynegi ei werthfawrogiad i Arweinydd y Cyngor am gefnogi gwaith y Gr?p Llywio.

 

Nadolig 2019: Cynllun Elusen Banciau Bwyd

 

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda Unsain i gefnogi Rhwydwaith Banciau Bwyd Blaenau Gwent y Nadolig hwn ac yn gofyn i staff ystyried cyfrannu bwyd a nwyddau ymolchi.

 

Bu Rhwydwaith Banc Bwyd Blaenau Gwent yn helpu pobl mewn argyfwng am dros 10 mlynedd. Mae'r Rhwydwaith yn darparu pecynnau bwyd argyfwng mewn canolfannau dosbarthu banciau bwyd yng Nglynebwy, Beaufort, Tredegar, Abertyleri, Brynmawr a Nantyglo.

 

Byddai'r cynllun yn rhedeg o ddydd Llun 2 Rhagfyr i ddydd Iau 19 Rhagfyr 2019 a chafodd mannau cyfrannu eu creu ar gyfer staff yn y Depot Canolog, y Ganolfan Ddinesig, Llys Einion, VITCC a'r Swyddfeydd Cyffredinol. Roedd gwybodaeth ar yr eitemau hynny mae mwyaf o angen amdanynt ar hyn y bryd hefyd ar gael i staff yng nghylchlythyr mis Rhagfyr.

 

Croesawyd Aelodau Etholedig i gyfrannu hefyd os dymunent. Sefydlwyd man casglu yn Lolfa Aelodau yn y Ganolfan Ddinesig ac mae mwy o wybodaeth ar gael yno.

 

5.

Llyfr Cofnodion - Gorffennaf-Tachwedd 2019

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion am y cyfnod Gorffennaf - Tachwedd 2019 i'w ystyried, yn cynnwys:

 

Pwyllgor Gweithredol - 13 Tachwedd 2019

Eitem Rhif 14 - Perfformiad Ysgolion 2019 ar gyfer : Diwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 (darpariaethol yn unig)

 

Nodwyd y dylid newid ail linell yr ail baragraff i ddarllen:

 

“Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gyda'r sylwadau a dywedodd fod ysgolion ym Mlaenau Gwent yn perfformio'n debyg i ysgolion cyffelyb yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru".

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 454 KB

Ystyried, ac os credir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2019. 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

7.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu pdf icon PDF 381 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

8.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu pdf icon PDF 259 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

9.

Pwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 197 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

10.

Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol (Materion Trwyddedu Cyffredinol) pdf icon PDF 215 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

11.

Pwyllgor Gweithredol pdf icon PDF 520 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Pwyllgor Gweithredol - 13 Tachwedd 2019

Eitem Rhif 14 - Perfformiad Ysgolion 2019 ar gyfer : Diwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 (darpariaethol yn unig)

 

Nodwyd y dylid newid ail linell yr ail baragraff i ddarllen:

 

“Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gyda'r sylwadau a dywedodd fod ysgolion ym Mlaenau Gwent yn perfformio'n debyg i ysgolion cyffelyb yn rhanbarth De Ddwyrain Cymru".

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gymeradwyo'r cofnodion.

 

12.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd pdf icon PDF 209 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Gorffennaf 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

13.

Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) pdf icon PDF 178 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Cydbwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 15 Gorffennaf 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

14.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 170 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

15.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 161 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

16.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 451 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 10 Medi 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

17.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 161 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 11 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

18.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 239 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 12 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

19.

Cyd-bwyllgor Craffu (Monitro Cyllideb) pdf icon PDF 270 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Cydbwyllgor Craffu (Monitro'r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 16 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

20.

Pwyllgor Craffu Adfywio pdf icon PDF 307 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Adfywio a gynhaliwyd ar 23 Medi 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

21.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 242 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

22.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 231 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019.

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

23.

Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 237 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2019.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

24.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 243 KB

Cadarnhaucofnodion y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Cymeradwywyd.

 

25.

CWESTIYNAU AELODAU

Derbyncwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd y cwestiwn dilynol gan y Cynghorydd S. Thomas, Arweinydd y Gr?p Llafur ac ymatebwyd iddo gan y Cynghorydd N. Daniels, Arweinydd y Cyngor:

 

Cwestiwn

 

O gofio am y sylw parhaus yn y cyfryngau am Gymuned Ddysgu Abertyleri, a wnaiff Arweinydd y Cyngor ddatganiad yng nghyswllt diben cyfarfod o'r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd yn Swyddfeydd y Cyngor yn Stryd Mitre ar 21 Hydref 2019?”

 

Ymateb

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod rhai o aelodau staff Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi cysylltu â'r Aelod Gweithredol Addysg yn gofyn am gyfarfod â hi ac yn benodol ei chyd-aelodau ar y Pwyllgor Gweithredol am gyfarfod preifat.

 

Cwestiwn Atodol

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Sefyllfa fod y sefyllfa gyfredol yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri yn hysbys iawn yn y cyfryngau a dywedodd fod llun yn y cyfryngau ddoe o Arweinydd y Cyngor yn y safle gyda phrotestwyr. Gofynnodd os oedd yn sefyll wrth y datganiad a gyhoeddwyd gan y corff llywodraethol i sefydlu panel dileu swyddi, gan weithio gyda staff ac undebau llafur ac i osgoi dileu swyddi yn orfodol lle'n bosibl h.y.

 

“A yw'r Arweinydd yn cytuno gyda'r polisi a ddatganwyd gan y Cyngor a'r Corff Llywodraethu?”

 

Ymateb

 

Dechreuodd Arweinydd y Cyngor drwy ddweud yng nghyswllt y ffotograff ohono a fu yn Wales On-line i hynny gael ei dynnu fel yr oedd yn cerdded drwy brotestwyr i fynychu cyfarfod o gorff llywodraethu yr ysgol - nid oedd wedi bod yn canfasio.

 

Dywedodd fod y detholiadau o'r hyn a ddywedodd uchod yn ddetholiadau o gyfarfod preifat o gorff llywodraethu'r ysgol, y mae'n aelod ohono. Daeth yr Arweinydd i ben drwy ddweud ei fod wedi cefnogi barn y corff llywodraethu y noson honno. 

 

 

26.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Derbyncwestiynau, os oes rhai, gan y cyhoedd.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau wedi'u cyflwyno gan aelodau o'r cyhoedd.

 

27.

Adroddiad Adolygu Canol Blwyddyn Rheolaeth Trysorlys - 1 Ebrill 2019 i 30 Medi 2019 pdf icon PDF 586 KB

Ystyriedadroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad sy'n rhoi manylion gweithgareddau Rheolaeth Trysorlys yr Awdurdod yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn ariannol a thynnodd sylw at y pwyntiau perthnasol dilynol a gynhwysir ynddo:

 

 

Mae'r Awdurdod:

                             

ØWedi rheoli risg credyd yn effeithlon drwy gydol y cyfnod, gan felly sicrhau nad oedd wedi dioddef unrhyw golled ariannol fel canlyniad i'r argyfwng credyd ac wedi cynyddu adenillion buddsoddi i'r eithaf cyn belled ag oedd yn bosibl tra'n dal i reoli'r risg cysylltiedig ac wedi gostwng costau benthyca drwy gydol y cyfnod.

 

ØSicrhawyd adenillion buddsoddiad o £35,000 gyda chyfradd log gyfartalog o 0.55%. Roedd hyn ychydig yn is na'r gyfradd feincnod o 0.57% ond yn adlewyrchu'r ffaith na fedrai'r Awdurdod mwyach fuddsoddi mewn gwrthbartïon blaenorol oedd yn talu cyfraddau uwch oherwydd gostyngiadau mewn graddiad credyd. Fodd bynnag, gan fod yr amcangyfrif o fuddsoddiad blynyddol yn £11,000 gellid gweld y rhagorwyd ar hyn ar y sefyllfa hanner blwyddyn.

 

ØTalwyd cyfradd log gyfartalog o 0.85% ar fenthyciadau dros dro o gymharu â meincnod o 1.00% gan roi cyfanswm o £259,000. Yr amcangyfrif am logau a dalwyd ar fenthyciadau tymor byr oedd £428,000 am flwyddyn lawn.

 

ØOherwydd cynnydd a ddisgwylir mewn lefelau benthyca, nodwyd fod yn rhaid i bob awdurdod lleol ailasesu'n sylfaenol sut i gyllido eu hanghenon benthyca allanol a hyfywedd ariannol prosiectau cyfalaf yn eu rhaglen gyfalaf.

 

ØYn ystod hanner cyntaf 2019/2020 oherwydd cyfraddau benthyca manteisiol roedd yr Awdurdod wedi ymrwymo i drefniadau dyled hirdymor o £13m gyda Bwrdd Benthyca Gweithiau Cyhoeddus (PWLB) gan awdurdodau eraill. Gwnaed y trefniadau hyn i naill ai ddisodli benthyciadau oedd yn aeddfedu neu i gyllido gwariant cyfalaf.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi'r gweithgaredd a wnaethpwyd yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2019/2020 a'r cofnod o berfformiad a chydymffurfiaeth a gyflawnwyd yn ystod yr un cyfnod.

 

28.

Adroddiad Adolygiad Blynyddol Rheolaeth Trysorlys 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019 pdf icon PDF 669 KB

Ystyriedadroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau

 

Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y sicrhawyd adenillion buddsoddiad o £43,004 gyda chyfradd log gyfartalog o 0.62%. Yn ystod y flwyddyn mae'r Cyngor wedi trosi £3m o ddyledion tymor byr yn ddyledion hirdymor i ddisodli benthyciadau sy'n aeddfedu ac i gyllido gweddill ei wariant cyfalaf.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef nodi'r gweithgaredd rheoli trysorlys a wnaethpwyd yn ystod blwyddyn ariannol 2018/2019.

 

 

29.

Treth Gyngor - Dileu Lwfans Disgownt Eiddo Gwag ar gyfer Anheddau Dosbarth C a Ragnodwyd pdf icon PDF 551 KB

Ystyriedadroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorwyr G. Collier, M. Cross, M. Holland a J.C. Morgan fuddiant yn yr eitem hon ac, yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro, fe wnaethant aros yn y cyfarfod tra bod yr eitem yn cael ei thrafod.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i'w ystyried.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod yr adroddiad yn argymell newid y polisi presennol i ddefnyddio pwerau disgresiwn yr awdurdod i ddileu lefel y disgownt yng nghyswllt anheddau a ddosbarthwyd fel eiddo gwag hirdymor (anheddau Dosbarth C). Mae'r trefniadau presennol yn penderfynu y dylid rhoi disgownt o 0% i anheddau Dosbarth A & B (cartrefi gwyliau ac ail gartrefi) a rhoi disgownt o 50% i anheddau Dosbarth C h.y. anheddau gwag hirdymor.

 

Nodwyd fod eiddo gwag h.y. anheddau heb neb yn byw ynddynt a neu lai heb gelfi yn cael eu heithrio rhag y Dreth Gyngor am gyfnod o 6 mis i ddechrau. Ystyriwyd bod eiddo yn 'wag hirdymor' os oedd wedi bod yn wag a heb gelfi am fwy na chwe mis ac nad oedd yn gymwys am ddosbarth arall o eithriad o'r Dreth Gyngor.

 

Fel ar 30 Medi 2017, roedd 1037 annedd ym Mlaenau Gwent yn derbyn disgownt eiddo gwag. Dim ond 4 awdurdod yng Nghymru sy'n dal i roi elfen disgresiwn 50% o setliad gan Lywodraeth Cymru sy'n rhoi ystyriaeth i Ddosbarth C. Fodd bynnag, disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn diwygio'r cyfrifiad cyllid ar gyfer 2020/21 ymlaen fel na fydd cyfrif y Sylfaen Treth Gyngor mwyach yn rhoi ystyriaeth i'r disgownt ar gyfer y math eiddo. Gallai hyn olygu gostyngiad o £480,000 yng nghyllid y Cyngor os gwneir y newid.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen drwy ddweud y byddai'r newid mewn polisi yn galluogi'r Cyngor i godi tua £650,000 o dreth gyngor ar anheddau Dosbarth C. Fodd bynnag, yn defnyddio'r fformiwla bresennol a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid heb ei neilltuo, byddai hyn yn cael wrthbwyso gan golled grant cymorth refeniw o tua £480,000. Fel canlyniad byddai effaith net y newid polisi yn incwm ychwanegol o £170,000 ar gyfer y cyngor, yn seiliedig ar gyfradd gasglu 100%.

 

Wrth eilio'r cynnig, dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur y gobeithiai y medrid sicrhau'r gyfradd gasglu.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo Opsiwn 1, sef gosod y disgownt cyfredol ar gyfer anheddau Dosbarth A, B a C ar 0% yn weithredol o 1 Ebrill 2020.

 

30.

Strategaeth Ariannol Tymor Canol a Phontio'r Bwlch pdf icon PDF 535 KB

Ystyriedadroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y cyd Swyddogion.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fanwl am yr adroddiad oedd yn rhoi asesiad o sefyllfa ariannol y Cyngor dros y 5 mlynedd nesaf ynghyd â'r dull gweithredu y cynigir y bydd y Cyngor yn ei gymryd i drin yr heriau ariannol. Amlygwyd y pwyntiau perthnasol dilynol a gynhwysir ynddo:

 

ØMae Atodiad A yr adroddiad yn cynnig y dull gweithredu i'w ddilyn i ymateb i'r heriau ariannol. Byddai hon yn broses ailadroddus ac un a fyddai'n cael ei datblygu a'i mireinio wrth i setliad cyllid Llywodraeth Cymru ddod yn gliriach ac adolygiadau busnes strategol yn cael eu datblygu a gweithredu ymhellach.

 

ØOherwydd yr Etholiad Cyffredinol, mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio'r cyhoeddiad am ddrafft setliad llywodraeth leol tan 16 Rhagfyr 2019 gyda'r setliad terfynol yn ddisgwyliedig ar 25 Chwefror 2020. Mae gan y gohiriad hwn oblygiadau ar gyfer proses gosod cyllideb 2020/21 a chynllunio ar gyfer yr union doriadau cyllideb sydd eu hangen i osod cyllideb gytbwys. Felly mae Strategaeth Ariannol Tymor Canol bresennol y Cyngor yn cynnwys nifer o dybiaethau sy'n effeithio ar lefel yr incwm a'r gwariant.

 

Ymunodd y Cynghorydd P. Baldwin â'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

ØYn seiliedig ar y tybiaethau hyn, rhagwelir bwlch cyllideb o £16.2m dros y 5 mlynedd nesaf.

 

ØBu'r Adolygiadau Busnes Strategol yn mynd rhagddynt (manylir yn Atodiad 1) ac asesir fod y cyflawniad ariannol cyffredinol tuag at y bwlch cyllideb ar hyn o bryd rhwng £5.4m a £7.9m dros gyfnod y Strategaeth. Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Ariannol wedi ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canol a'r Adolygiadau Busnes Strategol mewn cyfarfod diweddar.

 

ØYn seiliedig ar yr amcangyfrif cyfredol o gyflawniad o'r Adolygiadau Busnes Strategol o gymharu gyda'r bwlch cyllideb a ddynodwyd yn y Strategaeth Ariannol Tymor Canol, mae bwlch cyllid gweddilliol o rhwng £8.3m a £10.8m dros y 5 mlynedd nesaf. Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf 2020/2021 mae'r bwlch cyllid gweddilliol hwn rhwng £1.1m a £1.7m.

 

ØAr gyfer 2020/2021 mae cynigion ychwanegol yn cael eu datblygu ar draws portffolios i liniaru'r bwlch cyllid gweddilliol posibl os bydd eu hangen - bydd gwybodaeth bellach yn hysbys yn dilyn y cyhoeddiad am y drafft setliad llywodraeth leol.

 

Papurau'r Gyllideb - cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at y gohiriad cyn cyhoeddi'r setliad llywodraeth leol a gofynnodd pryd y gallai Aelodau ddisgwyl derbyn y papurau cyllideb manwl yn cynnwys yr Adolygiadau Busnes Strategol sydd i gael eu datblygu a phryd y cynhelir cyfarfod cyllideb ffurfiol y Cyngor gan fod angen rhoi digon o amser i Aelodau graffu ar yr wybodaeth.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Adnoddau, er y cyflwynwyd manylion y cynigion i'r Pwyllgor Craffu, y byddai angen gwneud gwaith pellach rhwng 16 Rhagfyr (dyddiad cyhoeddi'r drafft setliad llywodraeth leol) a'r Flwyddyn Newydd. Dywedodd y swyddog ei bod yn rhagweld y byddai adroddiad y gyllideb ar gael i'w ystyried gan y Cydbwyllgor Craffu ac yna'r Cyngor erbyn tua canol i ddiwedd Ionawr 2020 a rhagwelodd y byddai cyfarfod gosod y Dreth Gyngor  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Adolygiad Perfformiad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 2018/19 Ch4 pdf icon PDF 557 KB

Ystyriedcyd-adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a'r Pennaeth Adfywio.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr a'r Pennaeth Adfywio.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad oedd yr wybodaeth yn yr adroddiad yn amserol yn anffodus gan y paratowyd yr adroddiad ym Mehefin 2019. Esboniodd y gobeithiai y gellid bod wedi rhoi gwybodaeth bellach yng nghyswllt y Metro a Metro Plus fodd bynnag er y disgwylir yr adroddiad hwn yn y dyfodol agos iawn, ni fedrid ei gyhoeddi cyn yr Etholiad Cyffredinol. Felly cyflwynir adroddiad ar y mater i'r Cyngor ei ystyried yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.

 

Hyb Trafnidiaeth Metro/Abertyleri - dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod wedi mynegi pryder yn flaenorol am faterion am y Metro/Metro Plus.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at y trafodaethau yng nghyfarfod arbennig y Cyngor ar 21 Mawrth 2019 am y cynllun pan ddywedodd yr Arweinydd y cynhelir trafodaethau manylach pellach ar hyn ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Fodd bynnag, mynegodd ei bryder nad oedd y cynllun yn ddim pellach ymlaen a bod cysylltedd ar draws Blaenau Gwent gyfan yn hollbwysig - dyma'r rhwystr oedd yn atal pobl rhag sicrhau cyflogaeth gan eu bod yn methu teithio ar draws ac i bob rhan o'r fwrdeistref. Mae teithio i stadau diwydiannol yn neilltuol o anodd.

 

Dywedodd fod angen i unrhyw ddarpariaethau gael eu profi a bod angen cysylltedd ar draws Blaenau Gwent i gyd yn neilltuol mewn cymunedau sy'n anodd eu cyrraedd. Ni fyddai seilwaith rheilffordd ar ben ei hun yn datrys unrhyw un o'r problemau cysylltedd a geir.

 

Ymunodd y Cynghorydd C. Meredith â'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Aeth ymlaen drwy fynegi ei bryder am y cynllun i gysylltu Abertyleri gyda rheilffordd pan fod gorsaf eisoes mewn lleoliad cyfagos yn Llanhiledd a bod rhannau eraill o'r Fwrdeistref Sirol yn cael eu heithrio rhag darpariaeth o'r fath yn cynnwys Cwm Sirhywi lle nad oedd unrhyw ddarpariaeth o gwbl. Er ei fod yn gwerthfawrogi y disgwylir manylion pellach ar y cynllun a dywedodd fod hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth ar gyfer Blaenau Gwent a chredai yn sicr y gellid bod wedi cyflwyno cynnig mwy gwreiddiol gan y byddai'r cynnig hwn yn costio £5m oedd yn gyfwerth â £1m y filltir. Daeth Arweinydd y Gr?p Llafur i ben drwy ddweud na fedrai gefnogi'r cynnig.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol y cafodd Hyb Trafnidiaeth Abertyleri ei gynnwys yn y rhestr o gynlluniau yr edrychir arnynt fel y rhaglen Bargen Ddinesig a byddai'n cynnwys agor y cysylltiad rhwng Aber-big ac Abertyleri ynghyd â seilwaith cysylltiedig h.y. cledrau, cyfnewidfa a gorsaf.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y bu trafnidiaeth yn broblem i gymunedau'r cymoedd am flynyddoedd lawer, felly ni fedrai'r Metro fod am drenau yn unig. Gwnaethpwyd hyn yn glir yn yr Awdurdod Cludiant Rhanbarthol h.y. bod yn rhaid dilyn pob agwedd o drafnidiaeth.

 

Yn ogystal â dilyn y Metro, bydd Adolygiad WelTAG Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgymryd â darnau penodol eraill o waith yn gysylltiedig â phob agwedd o drafnidiaeth. Nodwyd mai un o'r pynciau  ...  view the full Cofnodion text for item 31.

32.

Adroddiad Trefniadau Democrataidd a Chynnydd Craffu pdf icon PDF 475 KB

Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd i'w ystyried.

 

Canmolodd Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ardderchog a dywedodd fod y Rheolwr Gwasanaeth Perfformiad a Democrataidd yn swyddog rhagorol.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef nodi'r Adroddiad Trefniadau Democrataidd a Chynnydd Craffu.

 

33.

Polisi Amser Bant ar gyfer Aelodau'r Lluoedd wrth Gefn pdf icon PDF 431 KB

Ystyriedadroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Pennaeth Datblygu Sefydliadol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor nad yw'r polisi yng nghyswllt Amser Bant ar gyfer Aelodau'r Lluoedd wrth Gefn wedi ei gytuno'n ffurfiol hyd yma er fod y Cyngor wedi derbyn Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.

 

Roedd y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog, wedi rhoi cryn dipyn o waith i hyn ac wedi cynrychioli'r Cyngor yn y digwyddiadau a chyfarfodydd hyn yn rhagorol. Felly dymunai'r Arweinydd gofnodi ei werthfawrogiad i'r Cynghorydd Thomas am ei holl waith yn ei rôl fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chadarnhau'r polisi Amser Bant i Aelodau'r Lluoedd wrth Gefn.

 

 

34.

Strategaeth a Ffafrir Cynllun Datblygu Lleol Amnewid pdf icon PDF 750 KB

Ystyriedadroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd am yr adroddiad sy'n ceisio cymeradwyaeth i Strategaeth a Ffafrir y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid y byddir yn mynd ag ef ymlaen ar gyfer ymgynghori. Roedd hon yn ddogfen allweddol yn y broses ac mae'n nodi'r fframwaith strategol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol amnewid newydd.

 

I feithrin consensws ar y strategaeth a ffafrir, cynhaliwyd ymgysylltu helaeth gyda rhanddeiliaid yn cynnwys Aelodau a byddid yn ystyried yr holl sylwadau fel rhan o'r broses yma.

 

Y bwriad yw cynnal ymgynghoriad cyhoeddus 6 wythnos ar y Strategaeth a Ffafrir. Bydd canlyniadau hynny ar gael i'r Pwyllgor Craffu a'r Cyngor maes o law.

 

Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy fynegi ei werthfawrogiad i swyddogion am y gwaith a wnaed hyd yma yng nghyswllt y cynllun.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur fod hwn yn ddarn rhagorol o waith a thalodd deyrnged i swyddogion am yr holl waith a wnaed ar y strategaeth. Daeth i ben drwy gymeradwyo'r argymhelliad.

 

Dosbarthiadau Anheddiad - Cynradd ac Uwchradd - cyfeiriodd Aelod at ddatblygiad diweddar yn Nhredegar lle cafodd 500 o dai eu hadeiladu oherwydd y bu nifer o safleoedd addas ar gael. Fodd bynnag, ar gyfer y dyfodol, dywedodd yr Aelod bod angen dynodi safleoedd ac ardaloedd lle mae pobl eisiau byw gan fod hyn yn agwedd llawer pwysicach na nifer o anheddau.

 

Her 3: Gwella Addysg a Sgiliau - aeth yr Aelod ymlaen drwy gyfeirio at yr Heriau a'r Ysgogwyr Allweddol o fewn y ddogfen yn neilltuol Her 3 - Gwella Sgiliau Cyrhaeddiad Addysg sy'n dweud "nid oes gan gyfran uchel o oedolion unrhyw gymwysterau a chyrhaeddiad addysg yn gyffredinol isel". Mynegodd ei bryder fod hyn yn ddatganiad llawer rhy gyffredinol a dywedodd fod addysg yn ysgolion cynradd ac uwchradd Blaenau Gwent yn sicrhau cynnydd da a bod angen cydnabod hyn.

 

Dywedodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd, er bod angen i system Llywodraeth Cymru fod yn holistig, dim ond canllawiau i'r rhai a gyhoeddwyd ar Lywodraeth Cymru ar dai ac y byddid yn edrych ar bob safle ar draws y Fwrdeistref Sirol.

 

Yng nghyswllt cyrhaeddiad addysgol, dywedodd yr Aelod Gweithredol fod Blaenau Gwent wedi ennill gwobr genedlaethol yn ddiweddar am ei Raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu'n Uchel a chadarnhaodd y byddai cydnabyddiaeth o'r cyflawniadau/

cyraeddiadau addysgol a gynhwysir o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Her 5 - Creu Rhwydwaith o Gymunedau gyda Chysylltiadau Da - dywedodd Aelod fod angen rhoi cyhoeddusrwydd i newyddion da h.y. bod y seilwaith a'r cysylltiadau ffordd o fewn y Fwrdeistref Sirol wedi gwella ac yn parhau i wella.

 

Her 4 - Twf Poblogaeth a Gwella Cynnig Tai - cyfeiriodd Aelod at y boblogaeth heneiddiol o fewn y Fwrdeistref Sirol a dywedodd fod prinder o fyngalos yn neilltuol i ateb gofynion tai. Dywedodd hefyd fod angen sicrhau fod datblygiadau'n cynnwys cymysgedd o fathau tai yn cynnwys tai cymdeithasol.

 

Cadarnhaodd Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y cafodd yr angen ei gydnabod ac  ...  view the full Cofnodion text for item 34.

35.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 354 KB

Ystyriedyr adroddiad a atodir.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:

 

Cyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan

Penodi cynrychiolwyr i gymryd lle'r Cynghorwyr Julie Holt a Mandy Moore.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD i benodi'r Cynghorydd Philip Edwards i un o'r lleoedd gwag uchod ar Gyngor Iechyd Cymunedol Aneurin Bevan.

 

36.

Eitem(au) Eithredig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem(au) eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm am y penderfyniad dros yr eithriad ar gael ar y rhestr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

Cofnodion:

Derbyn ac ystyried yr adroddiad dilynol sydd ym marn y swyddog priodol yn eitem eithriedig gan roi ystyriaeth i'r prawf budd cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (roedd y rheswm am y penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y swyddog priodol).

 

37.

Rheolaeth yr Orsaf Drosglwyddo Gwastraff a'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi

Ystyriedadroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd M. Cook a J. Hill fuddiant yn yr eitem hon a gadawodd y cyfarfod tra'i fod yn cael ei drafod.

 

Gadawodd y Cynghorydd H. McCarthy y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 12, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drosolwg o'r adroddiad sy'n cyflwyno canfyddiadau'r gweithgaredd diwydrwydd dyladwy a gomisiynwyd i ystyried trosglwyddo asedau ac ymrwymiadau'r cwmni yn ôl i reolaeth y Cyngor ac i geisio cymeradwyaeth ar y broses i sicrhau trefniant addas ar gyfer y gwasanaethau sydd eu hangen gan y Cyngor.

 

Nodwyd briffiad ar yr adroddiad i'r ddau gr?p gwleidyddol a chafodd yr adroddiad hwn ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol ar 5 Rhagfyr 2019.

 

Dychwelodd y Cynghorydd H. McCarthy i'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Rhoddwyd manylion pellach am y problemau ariannol a thechnegol yn cynnwys colledion gweithredu, y ddarpariaeth ar gyfer ôl-ofal a'r pwysau cost posibl os dilynir yr opsiwn a ffafrir. Nodwyd y byddai'r ymrwymiadau ôl-ofal yn parhau gyda'r cwmni tan 2044 ac yn dilyn y dyddiad hwn byddai wedyn yn cael ei drosglwyddo i'r Cyngor a pharhau tan 2076.

 

Roedd gweithgor yn cynnwys croestoriad o swyddogion o bob rhan o'r awdurdod wedi cynnal darn cadarn o waith a rhoddir crynodeb o'r broses hon ym mharagraffau 2.24 - 2.27 yr adroddiad a chynhwysir disgrifiad mwy manwl o'r broses o fewn Atodiad 1.

 

Cywiriad - Atodiad 2 - gwnaed cyfeiriad yn Atodiad 2 ac er eglurhad dywedwyd fod y cwmni yn talu'r Cyflog Byw Cenedlaethol a bod y Cyngor yn talu'r Cyflog Byw Sylfaen (ar y lefel uwch). Fodd bynnag, ni fyddai'r cywiriad hwn yn effeithio'r gwahaniaethiad a adroddwyd i'r Cyngor.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y caiff manylion yr opsiwn a ffafrir eu hamlinellu ym mharagraff 3.6.2. Nodwyd y dylid newid y gair 'Craffu' yn yr ail bwynt bwled i 'Cyngor'. Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu  wedi cefnogi'r opsiwn a ffafrir ar 5 Rhagfyr 2019.

 

Cynllun wrth Gefn - mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd y Rheolwr Gyfarwyddwr os nad oes diddordeb digonol gan bartneriaid sector cyhoeddus i symud ymlaen â'r opsiwn a ffafrir, y cyflwynir y cynllun wrth gefn ar gyfer darparu gwasanaethau i'r Cyngor gytuno arno.

 

Ôl-troed Carbon - mewn ymateb i gwestiwn pellach, dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr y byddai ôl-troed carbon y Cyngor a'r effaith y byddai hyn yn ei gael ar flaen pob penderfyniad a wnaed yn y dyfodol. Er nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gosod unrhyw dargedau penodol ac na fedrai'r Cyngor gael ei ddirwyo ar y cam  ...  view the full Cofnodion text for item 37.

38.

Proses Drosglwyddo Asedau Cymunol, Dethol Defnyddiwr Cymeradwy

Ystyriedadroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd Aelod Gweithredol yr Amgylchedd yn fyr am yr adroddiad sy'n nodi canlyniad yr ail-asesiad o wybodaeth gan y Panel Dethol a gafwyd i gefnogi apêl gan sefydliad yn gysylltiedig â'r Trosglwyddo Asedau Cymunedol arfaethedig.

 

Nodwyd y cafodd yr wybodaeth a gyflwynwyd i gefnogi'r broses apêl ei hailasesu ar y meini prawf gwerthuso a gyhoeddwyd gan yr un cynrychiolwyr o Gr?p Llywio Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor oedd wedi asesu'r achos busnes gwreiddiol. Yn ychwanegol, cafodd asesiad o'r sgorio gwreiddiol a diwygiedig ei adolygu a'i ail-sgorio'n annibynnol. Daeth Aelod Gweithredol yr Amgylchedd i ben drwy gynnig cymeradwyo Opsiwn 1.

 

Matrics Gwerthuso - cyfeiriodd Aelod at y matrics gwerthuso a ddefnyddiwyd a mynegodd ei bryder nad oedd sefydliadau yn medru cyflenwi unrhyw wybodaeth hanesyddol. Felly cwestiynodd sut y gellid wedyn ddosbarthu hyn fel hanes o lwyddiant os mai dim ond yr wybodaeth yn edrych i'r dyfodol a gafodd ei gyflenwi. Mynegodd ei bryder hefyd fod y ddau sefydliad wedi cael yr un sgôr yn nhermau'r materion ariannol nad oedd yn gywir. Daeth i'r Aelod i ben drwy ddweud fod y matrics yn wallus yn ei farn ef.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod y pwysoliad o ran yr hanes o lwyddiant yn eithaf isel. Yng nghyswllt hanes o lwyddiant - nid os oedd clybiau wedi cyflawni digwyddiadau neilltuol oedd y pwynt ond yn hytrach edrych ymlaen yn hytrach nag yn ôl ar wybodaeth hanesyddol. Ategodd eto y cynhaliwyd asesiad annibynnol o'r sgorau. Daeth y Cyfarwyddwr Corfforaethol i ben drwy ddweud fod y ddau sefydliad wedi cael cyfle cyfartal i gyflenwi gwybodaeth bellach i gefnogi eu ceisiadau.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn un o'r dyddiau tristaf ac yn ei farn ef fod y Cyngor wedi methu mewn nifer o feysydd. Roedd y Siarter a lofnodwyd gan y Cyngor a Chyngor y Dref yn gytundeb cyfreithiol. Cafodd y tir hamdden neilltuol hwn ei adael i bobl Tredegar ac mae'n rhaid i unrhyw newid i'r cyfleusterau hamdden gael eu trafod gyda'r cyhoedd a Chyngor y Dref yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, dywedodd na chynhaliwyd y trafodaethau hynny.

 

Aeth ymlaen drwy ddweud y dylai hanes y clybiau fod wedi ei ystyried gan y rhoddwyd blaenoriaeth i glwb nad oedd wedi chwarae unwaith ar y safle. Soniodd hefyd fod yr arddangosiad tân gwyllt a sioe geffylau hefyd yn cael eu cynnal yn flynyddol ar y safle a holodd os y caniateid y digwyddiadau hynny fel rhan o'r brydles  ...  view the full Cofnodion text for item 38.

39.

Pwyllgor Apwyntiadau - 15 Hydref 2019

Derbynadroddiad y Pwyllgor Apwyntiadau a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2019.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion staffio a nodi'r penderfyniad a gynhwysir ynddo a nodi penodi Leanne Roberts i swydd Rheolwr Gwasanaeth Profiad Cwsmeriaid a Buddion.

 

40.

Llunio Rhestr Fer - Swyddogion JNC

Derbynadroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2019.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2019

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion staffio a nodi'r penderfyniad a gynhwysir ynddo.

 

41.

Pwyllgor Apwyntiadau - 8 Tachwedd 2019

Derbynadroddiad y cyfarfod o'r Pwyllgor Apwyntiadau a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2019.

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2019

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion staffio a nodi'r penderfyniad i beidio penodi i swydd Rheolwr Gwasanaeth Trawsnewid a Digidol ar hyn o bryd.

 

42.

Pwyllgor Apêl - 12 Tachwedd 2019

Derbynadroddiad y Pwyllgor Apêl a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019.

 

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i'r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylai'r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD y dylai'r cyhoedd gael ei eithrio pan gynhelir yr eitem hon o fusnes gan ei bod yn debyg y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel a diffinnir ym Mharagraffau 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion staffio a gwrthod yr Apêl.