Agenda and minutes

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor - Dydd Iau, 10fed Hydref, 2019 10.00 am

Lleoliad: Council Chamber, Civic Centre, Ebbw Vale

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd  6139

Eitemau
Rhif eitem

1.

Cyfieithu ar y Pryd

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, mae angen o leiaf 3 diwrnod gwaith o rybudd os dymunwch wneud hynny. Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd os gwneir cais am hynny.

 

 

Cofnodion:

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer y gwasanaeth cyfieithu ar y pryd.

 

2.

Ymddiheuriadau

Derbyn ymddiheuriadau.

 

 

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan:-

 

Cynghorwyr P. Baldwin, G. A. Davies, G. L. Davies, L. Elias, D. Hancock, W. Hodgins, M. Holland, J. Holt. G. Thomas.

 

3.

Datganiadau Buddiant a Goddefebau

Ystyried unrhyw ddatganiadau buddiant a goddefebau a dderbyniwyd.

 

 

Cofnodion:

Adroddwyd y datganiad buddiant dilynol:-

 

Cynghorydd J. C. Morgan

Eitem Rhif 27: Rhaglen Cyfalaf 2019/2020 – 2025/2026

 

4.

Cyhoeddiadau’r Cadeirydd

Derbyn cyhoeddiadau'r Cadeirydd.

 

Cofnodion:

Llongyfarchiadau

 

Estynnwyd llongyfarchiadau i:-

 

ØJack Minchin-Hayesn, disgybl yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri (Campws Uwchradd) a gynrychiolodd Gymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Walsall. Enillodd Jack fedal efydd yn y Categori Jiwdo dan 42kg.

 

          PENDERFYNWYD anfon llythyr yn ei longyfarch.

 

ØEmily Hoskins, menyw ifanc o Abertyleri, oedd wedi siarad yn ddewr ar newyddion BBC Cymru a BBC Wales Live ar 2 Hydref 2019 am ei brwydr unigol gydag anhwylder bwyta, ac esbonio sut roedd yn ymgyrchu i wella cyfleusterau ar draws Cymru ar gyfer eraill sy'n brwydro gydag anhwylderau bwyta.

 

PENDERFYNWYD anfon llythyr at Emily yn ei chanmol am ei dewrder a datgan cefnogaeth i'w hymgyrch.

 

 

5.

Llyfr Cofnodion - Mai-Medi 2019

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Llyfr Cofnodion am y cyfnod Mai - Medi 2019 i'w ystyried, yn cynnwys:-

 

Eitem Rhif 17 - Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu - 26 Mehefin 2019

 

Dywedwyd y bu'r Cynghorydd Jonathan Millard yn bresennol yn y cyfarfod uchod.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

6.

Cyfarfod Cyffredinol y Cyngor pdf icon PDF 367 KB

 

Ystyried, ac os credir yn addas, gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Gorffennaf 2019.

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

7.

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu pdf icon PDF 392 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

8.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 307 KB

Cadarnhau y cofnodion o gyfarfod arbennig y Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

9.

Pwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 199 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

10.

Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu pdf icon PDF 275 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar 5 Medi 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

11.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol pdf icon PDF 160 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019.

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

12.

Pwyllgor Trwyddedu Statudol pdf icon PDF 130 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trwyddedu Statudol a gynhaliwyd ar 17 Medi 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

13.

Pwyllgor Gwaith pdf icon PDF 300 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

14.

Pwyllgor Gwaith pdf icon PDF 507 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Gweithredol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

15.

Cyfarfod Arbennig o Bwyllgor pdf icon PDF 156 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o Bwyllgor Craffu yr Amgylchedd, Adfywio a Datblygu Economaidd a gynhaliwyd ar 15 Mai 2019.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

16.

Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 141 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

17.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 360 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 25 Mehefin 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

18.

Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu pdf icon PDF 184 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2019.

 

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

 

19.

Pwllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol pdf icon PDF 231 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymunedol a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

20.

Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol pdf icon PDF 245 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cymdeithasol a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

 

21.

Cyfarfod Arbennig o’r Cydbwyllgor Craffu (Monitro'r Gyllideb) pdf icon PDF 311 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o'r Cydbwyllgor Craffu (Monitro'r Gyllideb) a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2019.

 

Cofnodion:

 

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

22.

Pwyllgor Archwilio pdf icon PDF 352 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

23.

Cyfarfod Arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol pdf icon PDF 130 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trosolwg Corfforaethol a gynhaliwyd ar 10 Gorffennaf 2019.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i gadarnhau'r cofnodion.

 

24.

Cwestoumau Aelodau

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

 

 

Cofnodion:

Ni chafodd unrhyw gwestiynau eu cyflwyno gan Aelodau.

 

 

25.

Cwestiynau Gan y Cyheodd

Derbyn cwestiynau, os oes rhai, gan Aelodau.

 

 

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau gan aelodau'r cyhoedd.

 

 

26.

Cynnig - Aberfan

Ystyried y Cynnig dilynol:-

 

Bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gwahodd ein hysgolion i arsylwi munud o dawelwch fore 21 Hydref bob blwyddyn i goffau'r 144 o blant, athrawon ac eraill a laddwyd ar y diwrnod hwnnw yn Aberfan yn 1996, yn ogystal â'r miloedd lawer a fu farw yn y diwydiant glo yn y sir hon a llawer rhan arall o Gymru.   

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r Cynnig dilynol:-

 

Bod Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent yn gwahodd ei ysgolion i arsylwi munud o dawelwch fore 21 Hydref bob blwyddyn i gofio'r 144 o blant, athrawon ac eraill a gollwyd ar y dyddiad hwnnw yn Aberfan yn 1966, yn ogystal â miloedd di-rif o filoedd a fu farw yn y diwydiant glo yn y wlad a llawer o rannau eraill o'r byd.

 

Mewn pleidlais cafodd y cynnig ei

 

BENDERFYNU yn unfrydol.

 

27.

Blaenraglen Gwaith Arfaethedig 2019/20 pdf icon PDF 378 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Democrataidd.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y gyflwynwyd y Flaenraglen Gwaith Arfaethedig flynyddol y Cyngor i'w chymeradwyo. Nodwyd, yn yr un modd ag unrhyw raglen waith, fod hon yn ddogfen a all newid gyda hyblygrwydd i ganiatáu adolygu rheolaidd. Daeth yr Arweinydd i ben drwy gynnig cymeradwyo'r ddogfen.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, h.y. cymeradwyo Blaenraglen Gwaith y Cyngor 2019/2020.

 

28.

Rhaglen Cyfalaf - 2019/2020-2025/2026 pdf icon PDF 844 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau i gael ei ystyried.

 

Ar wahoddiad y Cadeirydd, siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau yn fanwl am yr adroddiad a gyflwynwyd i Aelodau i ystyried opsiynau i ddyrannu £9.9m o gyllid cyfalaf i'r rhaglen gyfalaf am y cyfnod 2025/26 yn seiliedig ar adolygiad o'r adnoddau cyfredol sydd ar gael a thybiaeth o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25 a 2025/26.

 

Ymunodd y Cynghorydd J. P. Morgan â'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Gan y dynodwyd swm sylweddol o brosiectau cyfalaf (cyfanswm o 27) am y cyfnod hwn, defnyddiwyd dull blaenoriaethu (yn defnyddio'r dull gweithredu dau gam a amlinellwyd ym mharagraff 2.8 yr adroddiad) fel modd o sicrhau y gallai'r prosiectau gyda blaenoriaeth uchaf symud ymlaen. Mae Atodiad 3 sydd ynghlwm â'r adroddiad yn rhoi crynodeb o'r holl brosiectau posibl ynghyd â'u sgorau cysylltiedig a safle yn seiliedig ar y broses dau gam.

 

Aeth y Prif Swyddog Adnoddau yn ei flaen drwy ddweud bod risg sylweddol i ddyrannu'r holl gyllid a ddynodwyd i'r rhaglen cyfalaf a phe byddai prosiectau eraill gyda blaenoriaeth uwch yn cael eu dynodi yn y dyfodol neu gynlluniau a gytunwyd yn fwy na'r gyllideb a gytunwyd, byddai angen i'r Cyngor ddynodi ffynonellau cyllid ychwanegol e.e. defnyddio cronfeydd wrth gefn, cyllid refeniw, ailflaenoriaethu prosiectau. Felly, i liniaru'r risg hwn, cynigwyd cadw cyllid wrth gefn a pheidio dyrannu'r holl adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd.

 

Wedyn amlinellwyd y tri opsiwn a dywedodd y swyddog mai Opsiwn 3 oedd yr opsiwn a ffafrir sy'n cynnwys cyfuniad o gwtogi'r cynlluniau yng nghyfnod 1 (2019/20 i 2023/24 y mae mwyaf o alw arno) gan 20% i ganiatáu'r cyllid hwn i ateb gofynion y nifer fwyaf bosibl o gynlluniau a dyrannu i'r prosiectau gyda sgôr uchaf, yng nghyfnodau 2 a 3, gan adael cyllid ar ôl ym mhob cyfnod ar gyfer dyrannu ar ddyddiad yn y dyfodol.

 

Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddai nifer o grantiau cyfalaf uwch ar gyfer 2019 i 2021. Byddai'r Cyngor yn derbyn £410,000 yn 2019/2020 ar gyfer y Grant Adnewyddu Priffyrdd Cyhoeddus a grant cyfalaf yn gyfanswm o £444,465 i gefnogi ysgogiad economaidd o fewn awdurdodau lleol.

 

Daeth y Prif Swyddog Adnoddau i ben drwy ddweud, drwy gynyddu'r grantiau hyn a grantiau cyfalaf eraill, fod potensial i gynnal adolygiad pellach o ailddyrannu adnoddau cyfalaf yn yr amserlen hon.

 

Cafodd Aelodau wedyn gyfle i godi cwestiynau/rhoi sylwadau ar yr adroddiad.

 

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref - Stad Ddiwydiannol Roseheyworth - Cyfeiriodd Arweinydd y Gr?p Llafur at y prosiect cyfalaf neilltuol hwn a dywedodd i nifer o Aelodau yn 2016 ofyn am sefydlu gweithgor i wirio dilysrwydd y dull gweithredu ac wedi cynnal darn o waith ar y cynnig hwn.

 

Nodwyd y cyflwynwyd cynnig i Lywodraeth Cymru am swm o £2.5 miliwn ar gyfer 2019/2020 a holodd am statws y cynnig hwnnw h.y. a gafodd y Cyngor ei hysbysu p'un ai a fu'n llwyddiannus ai peidio.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y Cyngor y cyflwynwyd cynnig a'i fod ef, y Rheolwr  ...  view the full Cofnodion text for item 28.

29.

Asesiad Perfformiad 2018/2019 pdf icon PDF 572 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth - Perfformiad a Democrataidd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth - Perfformiad a Democrataidd.

 

Mae'r Asesiad Perfformiad yn cyflawni'r goblygiadau statudol a ddodwyd ar y Cyngor fel rhan o ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ac mae angen ei gyhoeddi erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Caiff yr adroddiad ei archwilio'n fewnol gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Millard y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Mae Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion ac yn amlygu'r gweithgareddau allweddol a chynnydd a wnaed ar bob un o Amcanion Llesiant y Cyngor.

 

Addysg - Roedd Arweinydd y Gr?p Llafur yn cydnabod pwysigrwydd y ddogfen hon a'i bod yn gydnaws gyda Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Fodd bynnag, mynegodd ei bryder y dylai'r wybodaeth ynddo fod wedi bod yn fwy manwl ac yn adlewyrchiad manwl gywir. Fel esboniad, dywedodd er y cofnodwyd fod canlyniadau TGAU mewn ysgolion uwchradd wedi gwella, ei fod wedi derbyn gwybodaeth i'r gwrthwyneb fod Estyn yn arolygu un o'r ysgolion ar hyn o bryd oherwydd ei pherfformiad a fod canlyniadau wedi gostwng mewn ysgolion eraill.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod addysg yn cael ei ad-drefnu'n genedlaethol ar hyn o bryd ac fel rhan o'r broses bod y mesurau adrodd hefyd yn newid. Adeg paratoi'r ddogfen, y mesur adrodd oedd 'Lefel 2+' ac roedd perfformiad ar lefel TGAU yn ystod haf 2019 wedi cynyddu o 41.1% i 44.5%. Yn y dyfodol, y mesur adrodd cenedlaethol fyddai 'CAT 9'.

 

Unwaith eto mynegodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei bryder fod yr wybodaeth a dderbynnir yn gwrthddweud ei hunan h.y. mae'r wybodaeth o fewn yr hunan-arfarnu yn dweud fod cynnydd da'n cael ei wneud ond mae Estyn yn arolygu ysgol oherwydd ei pherfformiad. Felly, dywedodd nad oedd yr hunan-asesiad yn rhoi darlun cywir.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod perfformiad wedi cynyddu o 41.1% i 44.5% ar gyfer mesur perfformiad cenedlaethol Lefel 2+ ar gyfer haf 2018. Mae'r perfformiad hwn yn cyfeirio at 5 TGAU yn cynnwys Saesneg a Mathemateg.

 

Mesurau Cenedlaethol Atebolrwydd Cyhoeddus - 21ain yng Nghymru ar gyfer clirio Tipio Anghyfreithlon - dywedodd Aelod fod Blaenau Gwent bellach yn 21ain yng Nghymru yn nghyswllt y mesur hwn a gofynnodd am esboniad pam fod yr amserlen gyfartalog ar gyfer clirio tipio anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent bron deirgwaith uwch na chyfartaledd Cymru. Dywedodd mai Blaenau Gwent oedd yr awdurdod oedd yn perfformio orau dan y weinyddiaeth flaenorol.

 

Cydnabu'r Aelod Gweithredol - Amgylchedd fod angen i'r ystadegau hyn wella ond fod mesurau yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r mater hwn sy'n cynnwys cynnig cyfalaf ar gyfer Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd ac y byddai yn cymryd camau gweithredu i erlyn unigolion am droseddau tipio anghyfreithlon.

 

Mewn ateb i gwestiwn pellach dywedodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd y byddai mesurau a chamau gweithredu yn cael eu rhoi mewn lle yn y dyfodol agos i wella perfformiad a sefyllfa Blaenau Gwent yn genedlaethol yn nhermau'r mesur hwn.

 

Dywedodd Aelod y cafodd y Pwyllgor Craffu yr oedd ei gylch gorchwyl yn cynnwys hwn  ...  view the full Cofnodion text for item 29.

30.

Paratoadau ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd pdf icon PDF 597 KB

Ystyried adroddiad y Swyddogion ar y cyd.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y cyd Swyddogion i gael eu hystyried.

 

Dechreuodd y Rheolwr Gyfarwyddwr drwy ddweud fod hwn yn bwnc cyfoes iawn ar hyn o bryd a bod yr adroddiad yn rhoi diweddariad i Aelodau ar y gwaith paratoi a wnaed yn y Cyngor i baratoi ar gyfer i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Nodwyd y cafodd yr adroddiad hefyd ei ystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol yn rhoi manylion y materion a chanlyniadau gadael yr Undeb Ewropeaidd ac yn ychwanegol cynhaliwyd sesiwn wybodaeth i Aelodau ar 16 Hydref a roddodd gyfle i Aelodau ymchwilio'r materion ymhellach. Nodwyd y cynhaliwyd sesiwn wybodaeth i Aelodau ym mis Ionawr 2019 pan mai'r diwrnod gadael a fwriadwyd bryd hynny oedd 31 Mawrth 2019.

 

Er bod y dyddiad a'r ffordd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ansicr iawn, cynhaliwyd asesiad effaith penodol ar Brexit ac mae'r gwaith yn parhau i sicrhau y gall y Cyngor a'r gymuned i ddelio gyda chanlyniad gadael.

 

Byddai gwaith paratoi yn awr yn parhau wedi'i alinio gyda dyddiad gadael o 31 Hydref 2019. Mae'r Cyngor hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ac fel rhan o Rwydwaith Cymru gyfan. Mae gwaith hefyd yn parhau mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau fod paratoadau yn gydlynus ar draws llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol.

 

Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun gweithredu ar gyfer Brexit heb gytundeb. Mae Blaenau Gwent wedi cynnal asesiad effaith lefel uchel sy'n dynodi sut y byddai'r risgiau hyn yn effeithio ar y gymuned a'r gwaith a wnaed i liniaru'r risgiau hynny. Roedd risgiau lefel uchel yn cynnwys colli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ac ymyrryd ar gadwyni cyflenwi. Byddai hefyd effaith ar weithlu busnesau a chyflenwyr lleol. Felly, byddai angen cadw golwg barhaus ar y materion hyn o fewn y gymuned.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. C. Morgan y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Roedd gadael yr Undeb Ewropeaidd hefyd wedi ei ddynodi fel risg yn y gofrestr risg corfforaethol. Byddai Aelodau yn cofio y cynhaliwyd trafodaeth mewn cyfarfod diweddar i fonitro'r gyllideb lle soniwyd y gallai hefyd fod risg bosibl i gyllideb y Cyngor ei hun. Mae swyddogion hefyd yn gweithio gyda'r Fforwm Cydnerthedd Lleol i i fynd i'r afael ag unrhyw faterion argyfyngau sifil posibl ac roedd swyddogion yn rhan o drefniadau Operation Yellow Hammer. I sicrhau y caiff pob cam rhesymol eu cymryd er mwyn i'r Cyngor fod mor barod ag y gallai'n bosibl fod, caiff y trefniadau hyn eu cynyddu yn barod ar gyfer 31 Hydref.

 

Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr ei bod yn gwerthfawrogi fod y sefyllfa'n parhau'n ansicr iawn - hyd yn oed pe byddai'r gadael yn digwydd ar 31 Hydref ni ddisgwylid unrhyw effaith dros nos - byddai hyn yn dod yn amlwg dros yr wythnosau a misoedd i ddod. Roedd hyn yn enghraifft dda o holl wasanaethau'r Cyngor yn cydweithio er mwyn ceisio lliniaru'r sefyllfa a allai ddigwydd yn y dyfodol. Daeth y Rheolwr Gyfarwyddwr i ben drwy ddweud, wrth i'r  ...  view the full Cofnodion text for item 30.

31.

Diwygiadau i'r Cyfansoddiad pdf icon PDF 421 KB

Ystyried adroddiad Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ail-ymunodd y Cynghorydd J. P. Morgan â'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Cydymffurfiaeth Cyfreithiol a Chorfforaethol.

 

Nodwyd fod y diwygiadau arfaethedig yn ganlyniad newidiadau yn deillio o Gyfarfod Blynyddol y Cyngor a hefyd i adlewyrchu ymarfer gweithredol cyfredol a newidiadau mewn gofynion deddfwriaethol.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r diwygiadau a awgrymwyd a'u hymgorffori yn y Cyfansoddiad presennol. 

 

 

32.

Adnewyddu Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer Troseddau Rheoli Cŵn - Canlyniadau Ymgynghoriad Statudol pdf icon PDF 520 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu'r Cyhoedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth - Diogelu'r Cyhoedd.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd yn fanwl am yr adroddiad sy'n hysbysu'r Cyngor am ganfyddiadau'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynnig newydd ar gyfer Gorchymyn Diogelu Mannau Agored i'r Cyhoedd ar gyfer Troseddau Rheoli C?n a cheisio cymeradwyaeth ar gyfer y Gorchymyn newydd i ddechrau ar 1 Tachwedd 2019.

 

Dywedodd Aelod ei bod yn hollol gefnogol i'r Gorchmynion newydd ond dywedodd hefyd ei fod yn bwysig bod y Gorchmynion yn cael eu gorfodi. Esboniodd y cafodd nifer o gemau rygbi yn Blaenau eu canslo mewn wythnosau diweddar oherwydd faint o faw c?n oedd ar y caeau. Roedd baw c?n yn broblem iechyd ddifrifol a allai arwain at golli golwg.

 

Dychwelodd y Cynghorydd P. Edwards i'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Aeth yr Aelod ymlaen drwy gydnabod y gwyddai nad yw bob amser yn rhwydd dal tramgwyddwyr ond fod y broblem yn effeithio'n ddifrifol ar barciau a bod gweithredu gorfodaeth wedi gostwng mewn blynyddoedd diweddar. Gofynnodd am sicrwydd y byddai mwy o batrolau yn yr ardal.

 

Cadarnhaodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd fod y sefyllfa yn Blaenau yn ofnadwy ac nad oedd y sefyllfa gyffredinol yn dderbyniol a dywedodd y gorfodid y Gorchmynion pe baent eu cymeradwyo. Mae adolygiad o'r holl gwasanaeth gorfodaeth yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i roi mwy o gydnerthedd i drin y mathau yma o broblemau. Cyflwynir adroddiad i Aelodau ei ystyried unwaith y cwblhawyd yr adolygiad.

 

Dywedodd Aelod ei fod hefyd yn cefnogi'r Gorchmynion a dywedodd y dylai hon fod yn ddogfen hylif yn hytrach na'i hadolygu bob 3 blynedd. Dywedodd y bu nifer o drosglwyddo tiroedd CAT mewn misoedd diweddar ac y gall y sefydliadau hyn fod â syniadau ar sut i drin y problemau hyn.

 

Gadawodd y Cynghorydd S. Healy y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Dywedodd Aelod arall fod iechyd a diogelwch yn hollbwysig ar gyfer plant ifanc y dylent fedru chwarae yn ddiogel. Mae angen cynyddu gorfodaeth ac erlyniad yn unol â hynny. Mae hefyd angen codi nifer ddigon o hysbysiadau cyhoeddus yn hysbysu am y Gorchmynion Gwarchod Mannau Agored i'r Cyhoedd ar gyfer Troseddau Rheoli C?n.

 

Dychwelodd  Cynghorydd S. Healy i'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol, yn ychwanegol at weithredu gorfodaeth, fod perchnogion yn gyfrifol am ofalu am eu c?n. Er ei bod yn anodd dal y tramgwyddwyr, maent yn cael eu herlyn os cânt eu dal. Fodd bynnag, os gall Aelodau godi ymwybyddiaeth o'r problemau mewn ardaloedd neilltuol, y gellir clustnodi adnoddau swyddogion i'r ardaloedd hynny. Nodwyd fod gan y Cyngor bedwar Swyddog Gorfodaeth ar hyn o bryd a ddefnyddir ledled y Fwrdeistref Sirol ond ceisir cydnerthedd pellach fel rhan o'r broses adolygu.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef cymeradwyo'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored i'r Cyhoedd ar gyfer Troseddau Rheoli C?n yn newydd ar gyfer dechrau ar 1 Tachwedd 2019.

 

33.

Blaengynllun Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem (2019-2022) pdf icon PDF 551 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd yn fanwl am yr adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

Dywedodd y Cadeirydd y dylai mater ynni, yn arbennig oleuadau stryd, gael ei drafod fel rhan o'r Cynllun.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod hwn yn adroddiad amserol iawn yn arbennig yng ngoleuni adroddiadau am newid hinsawdd. Mae'r Cynllun hwn yn rhan bwysig iawn o ddelio gyda newid hinsawdd o Flaenau Gwent ac er nad oedd mater ynni wedi'i gynnwys yn benodol o fewn y Cynllun, gellid cynnwys hyn mewn meysydd eraill o waith y Cyngor a chyfeirio ato yn y Cynllun yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd Aelod arall at wobr ddiweddar a dderbyniwyd ar gyfer stad tai a ddatblygwyd mewn modd ecolegol a chanmolodd y mathau hyn o brosiectau.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD, yn unol â'r uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef cymeradwyo Blaengynllun Gwaith Cydnerthedd Bioamrywiaeth ac Ecosystem 2019/2022.

 

Dychwelodd y Cynghorydd J. Millard i'r cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

34.

Cais i Gaffael Tir ym Mharc Bedwellte pdf icon PDF 550 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Gadawodd y Cynghorydd J. Millard y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol - Amgylchedd am yr adroddiad a gyflwynwyd i gael cymeradwyaeth y Cyngor (yn gweithredu fel Ymddiriedolwyr elusen T? a Pharc Bedwellte) i drosglwyddo parsel o dir i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i'w ddefnyddio fel rhan o'r cynnig am Ganolfan Iechyd a llesiant Tredegar.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol fod hon yn broses statudol ac, os cytunir, byddai angen cael caniatâd y Comisiwn Elusennau i waredu â'r tir. Nodwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth am y cynnig ac y defnyddid y tir ar gyfer plaza gwyrdd - ni fyddai unrhyw golled o ofod amwynder i'r gymuned os caiff y cynnig ei gymeradwyo.

 

Er y byddai wedi bod yn well ganddo opsiwn prydles, dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod o blaid Opsiwn 1.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1, sef bod y Cyngor fel Ymddiriedolwyr Elusennol yn cytuno i egwyddor gwaredu'r ardal o dir naill ai ar sail rhydd-ddaliad neu brydles hir i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i'w gynnwys o fewn datblygiad y cynnig am Ganolfan Iechyd a Llesiant ar delerau i gael eu cytuno yn amodol ar:-

 

(i)           Llwyddo i gael caniatâd y Comisiwn Elusennol i'r gwarediad, sy'n rhaid ei gael cyn gweithredu trosglwyddiad.

 

(ii)         Ystyried goblygiadau (os oes rhai) am y cyfamod cyfyngol a gynhwysir yn nhrosglwyddiad tir 1910 i Gyngor Ardal Trefol Tredegar.

 

(iii)        Hysbysebu'r trosglwyddiad arfaethedig dan a.123 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a rhoi ystyriaeth i unrhyw sylwadau a wnaed.

 

(iv)        Hysbysebu'r gwarediad yn unol â gofynion Deddf Elusennau 2011 fel y manylir ym mharagraff 5.3.3 yr adroddiad.

 

(v)         Cymryd cyngor priodol gan syrfëwr gyda chymwysterau RICS ar ddull y trosglwyddo a'r trosglwyddiad.

 

(vi)        Fel y manylir ym mharagraff 5.1.1 yr adroddiad, neilltuo unrhyw gyfalaf a dderbynnir i'w ddefnyddio gan yr elusen ac nid ei gronni i'w ddefnyddio gyda Chronfa Gyffredinol y Cyngor.

 

 

35.

Cynllun Datblygu Strategol - Ardal Prifddinas-Ranbarth Caerdydd pdf icon PDF 823 KB

Ystyried adroddiad y Swyddogion ar y cyd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y cyd Swyddogion ar gyfer ei ystyried.

 

Siaradodd yr Aelod Gweithredol - Adfywio a Datblygu Economaidd yn fyr am yr adroddiad ac esboniodd fod datblygu cynllun datblygu strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn brosiect allweddol. Er mwyn symud ymlaen gyda pharatoi'r cynllun yn rhanbarthol, cynigiwyd sefydlu Panel Cynllunio Strategol a fyddai'n cynnwys o leiaf un aelod o bob awdurdod. Dyrannwyd un Aelod ar y panel ac un bleidlais i Flaenau Gwent yn unol â'r dyraniad pleidleisio pwysedig.

 

Nodwyd na fyddai sefydlu'r Panel yn lleihau cylch gorchwyl y Pwyllgorau Cynllunio ym mhob bwrdeistref.

 

Byddai cost sefydlu a rhedeg y panel am y 5 mlynedd cyntaf yn £3m pro rata ar draws pob awdurdod ac i Flaenau Gwent byddai hyn yn £136,590 mewn camau dros 5 mlynedd fyddai'n gyfwerth â £25,318.

 

Mynegodd yr Aelod Gweithredol ei ddiolch i'r Rheolwr Tîm - Rheoli Adeiladu a Chynlluniau Datblygu a'i thîm am eu gwaith gwych ar y Cynllun Datblygu Lleol. Cynigwyd penodi'r Cynghorydd Mandy Moore yn rhinwedd ei swydd fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio i gynrychioli Blaenau Gwent ar y Panel Cynllunio Strategol.

 

Dywedodd Arweinydd y Gr?p Llafur ei fod yn frwd i hyrwyddo'r cysyniad hwn ac yn ei gefnogi. Cyfeiriodd at benodi'r Panel Cynllunio Strategol a dywedodd y byddid yn dirprwyo cyfrifoldeb i'r cynrychiolydd wneud penderfyniadau ar ran y Cyngor ac y teimlai y dylid bod wedi penodi Aelod Gweithredol i'r swydd. Daeth i ben drwy ofyn am y rhesymeg dros y penodiad ac eglurdeb yn nhermau lefel y gydnabyddiaeth ariannol.

 

Eglurodd yr Aelod Gweithredol - Adfywio a Datblygu Economaidd i'r penodiadau i'r Panel gael eu penderfynu gan yr Arweinydd ac i'r Aelod gael ei henwebu yn rhinwedd ei swydd fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio gan fod y Cynllun Datblygu Safonol o fewn cylch gorchwyl y portffolio hwn. Er na fedrai egluro penodiadau i'r Panel gan awdurdodau lleol eraill yn nhermau cydnabyddiaeth ariannol, ni fyddai unrhyw daliadau cyfrifoldeb uniongyrchol - dim ond treuliau teithio fyddai'n cael eu had-dalu.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei bod wedi cymryd peth amser ac wedi bod yn broses anodd i gyrraedd y sefyllfa hon ac y bu llawer o drafodaethau ar hyd y ffordd a chanmolodd y swyddogion am eu gwaith mawr.

 

Cadarnhaodd nad oedd y trefniadau apwyntiad yn wahanol i'r hyn y mae awdurdodau eraill yn ei awgrymu a'i bod yn hollol iawn bod symudiad cryf i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau ar y pwyllgor a'i fod yn bersonol falch y gellid cefnogi'r cais. Roedd hefyd ddadl gref i ledaenu profiad unigol a chynllunio olyniaeth. Cadarnhaodd fod yr adroddiad yn parhau'n dawel ar unrhyw beth heblaw costau teithio.

 

Mewn pleidlais unfrydol

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2, sef paratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a chytunwyd:-

 

-      Mai Bro Morgannwg fyddai'r Awdurdod Cyfrifol ar gyfer dibenion paratoi'r Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

-      Awdurdodi'r Awdurdod Cyfrifol i gyflwyno'r cynnig am Gynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i'r Gweinidog ar ran y 10  ...  view the full Cofnodion text for item 35.

36.

Adborth/Gwybodaeth gan Gyrff Allanol: Awdurdod Tân ac Achub De Cymru pdf icon PDF 281 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Cynghorydd Julie Holt, y cynrychiolydd a benodwyd gan y Cyngor ar Awdurdod Tân ac Achub De Cymru.

 

Dywedodd Aelod ei fod yn falch iawn y derbynnir adborth gan yr Aelodau hynny a benodwyd i gyrff allanol a'i fod wedi hybu hyn ers cryn amser.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD i dderbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

37.

Adborth/Gwybodaeth gan Gyrff Allanol: Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog pdf icon PDF 263 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Cynghorydd John Hill, y cynrychiolydd a benodwyd gan y Cyngor ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 

Cyfeiriodd Aelod at broblemau a geir gyda beiciau modur oddi ar yr hewl yn ardal Tredegar (ar y ffin gyda'r Parc Cenedlaethol) a gofynnodd os cafodd y mater hwn ei godi yng nghyfarfodydd Awdurdod y Parc. Dywedodd y Cynghorydd Hill y gall y mater fod wedi cael ei adrodd yn uniongyrchol i swyddogion y Parc Cenedlaethol a dywedodd y byddai'n ymchwilio'r mater.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

38.

Pwyllgor Safonau pdf icon PDF 209 KB

Derbyn adroddiad y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Gorffennaf 2019.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi'r wybodaeth a gynhwysir ynddo.

 

39.

Adroddiad Aelodaeth pdf icon PDF 354 KB

Ystyried yr adroddiad a atodir.

 

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i:-

 

GAVO – Pwyllgor Lleol

 

PENDERFYNWYD y byddai'r Cynghorydd John Mason yn cymryd lle'r Cynghorydd Keri Rowson ar Bwyllgor Lleol GAVO.

 

Pwyllgor Ymgynghorol ar gyfer Llywodraethwyr Ysgolion yr Awdurdod Lleol

 

Gwnaed yr argymhellion dilynol gan y Panel ar 1 Hydref 2019 i benodi:-

 

Natasha Tepielow – Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm

Stephanie Hopkins – Ysgol Sylfaen Brynmawr

Natalie Marshall – Ysgol Gynradd Cwm

Cynghorydd Jonathan Millard – Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr

Cynghorydd David Davies – Ysgol Gynradd Trehelyg

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r apwyntiadau uchod.

40.

Eitem(au) Eithriedig

Derbyn ac ystyried yr adroddiad(au) dilynol sydd ym marn y Swyddog Priodol yn eitem(au) a gafodd eu heithrio gan roi ystyriaeth i'r prawf diddordeb cyhoeddus ac y dylai'r wasg a'r cyhoedd gael eu heithrio o'r cyfarfod (mae'r rheswm a penderfyniad am yr eithriad ar gael ar restr a gedwir gan y Swyddog Priodol.

 

 

Cofnodion:

Ar ôl ystyried y sylwadau a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur phopeth, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylid eithrio'r adroddiadau dilynol.

 

 

41.

Proses Drosglwyddo Asedau Cymunedol, Dethol Defnyddwyr Cymeradwy

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd J. C. Morgan fuddiant yn yr eitem, ond arhosodd yn y cyfarfod pan oedd yn cael ei thrafod.

 

Ar ôl ystyried y sylwadau a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur phopeth, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylid eithrio'r adroddiadau dilynol.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra bod yr eitem o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Soniodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau am y broses adolygu gadarn a gynhaliwyd ar sail achos wrth achos a rhoddodd fanylion y tri achos unigol a'r opsiynau a ffafrir a gynhwysir ynddynt.

 

Cyfeiriodd Aelod at Apêl Rhif 2 a dywedodd fod gwahaniaethau hanesyddol rhwng y ddau glwb a theimlai na fyddai peidio caniatáu'r apêl yn cymodi'r gwahaniaethau hyn a chynigiodd gymeradwyo Opsiwn 2 a chaniatáu'r apêl a chyfeiriwyd yr achos yn ôl at y Panel Dethol i ailasesu'r achos.

 

Mewn pleidlais

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion ariannol neu fusnes unrhyw berson neilltuol (yn cynnwys yr awdurdod ac

 

-      Apêl 1: – mewn pleidlais unfrydol penderfynwyd cymeradwyo Opsiwn 1 sef gwrthod yr apêl a chadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol i ddyfarnu'r Trosglwyddiad Ased Cymunedol i'r sefydliad a enwir yn yr adroddiad.

 

-      Apêl 2 - mewn pleidlais, penderfynwyd cymeradwyo Opsiwn 1 sef gwrthod yr apêl a chadarnhau'r penderfyniad gwreiddiol i ddyfarnu'r Trosglwyddiad Ased Cymunedol i'r sefydliad a enwir yn yr adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd H. McCarthy i'w enwi gael ei gofnodi yn erbyn y penderfyniad hwn.

 

-      Apêl 3: – mewn pleidlais unfrydol penderfynwyd cymeradwyo Opsiwn 2, sef caniatáu'r apêl ac atgyfeirio'r achos yn ôl i'r Panel Dethol i ailasesu'r achos yng ngoleuni tystiolaeth a gwybodaeth bellach yn deillio o'r broses apêl.

 

 

42.

Llunio Rhestr Fer Swyddogion (JNC)

Ystyried adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019.

 

Cofnodion:

Ar ôl ystyried y sylwadau a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur phopeth, bod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na'r budd cyhoeddus mewn datgelu'r wybodaeth ac y dylid eithrio'r adroddiadau dilynol.

 

PENDERFYNWYD eithrio'r cyhoedd tra bod yr eitem o fusnes yn cael ei thrafod gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 13, Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019.

 

Mewn pleidlais unfrydol,

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad sy'n cyfeirio at faterion staffio a'r penderfyniad a gynhwysir ynddo.