4 Cyllideb Refeniw 2023/2024 PDF 910 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
(DS: Atodiad 4 – Deilliant o Ddigwyddiadau Ymgysylltu â’r Cyhoedd ac Arolwg – i ddilyn)
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cynigiodd Aelod dderbyn adrannau 3.1.1 i 3.1.3 Opsiwn 1 a’u bod yn cael eu hargymell i’r Cyngor a gohirio adrannau 3.1.4 i 3.1.8 Opsiwn 1 nes y cânt eu hystyried ymhellach yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor a drefnir ar gyfer dydd Iau 23 Chwefror 2023. Cafodd y cynnig hwnnw ei eilio.
CYTUNODD y Pwyllgor, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a bod
· Aelodau yn argymell cyllideb refeniw 2023/24 i’r Cyngor fel y’i manylir yn y tabl ym mharagraff 5.1.15 yr adroddiad;
· rhoi sylwadau ar y deilliannau o fewn Setliad darpariaethol y Grant Cefnogi Refeniw a nodi’r potensial ar gyfer newid pellach yn setliad terfynol y Grant Cefnogi Refeniw (paragraffau 2.6 – 2.17);
· rhoi sylwadau ar y deilliannau o fewn setliad Grant Cefnogi Refeniw darpariaethol Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac effaith hynny ar y Strategaeth Ariannol Tymor Canol (paragraffau 2.18 – 2.26);
· gohirio penderfyniadau yn gysylltiedig a’r eitemau pwysau cost a thwf wedi eu diweddaru (cyfanswm o £3.22m) a ddynodwyd yn Atodiad 2 (paragraffau 5.1.10 – 5.1.16) i’w hystyried yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor ar 23 Chwefror 2023;
· gohirio penderfyniadau yn gysylltiedig gyda chynnydd o £1.5m sy’n gyfwerth â chynnydd o 3% yn yr ISB (paragraffau 5.1.2 i 5.1.24) i’w hystyried yng Nghyfarfod Arbennig o’r Cyngor ar 23 Chwefror 2023;
· gohirio penderfyniadau yn gysylltiedig gyda chynigion Pontio’r Bwlch yn rhoi arbedion ariannol a thoriadau i’r gyllideb o £4.18m tuag at fwlch y gyllideb (paragraffau 5.1.25 i 5.1.32) i’w hystyried yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor ar 23 Chwefror 2023;
· gohirio penderfyniadau yn gysylltiedig a defnyddio cronfeydd wrth gefn o £2.5m i gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2023/2024 (paragraff 5.1.33 i 5.1.35) i’w hystyried yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor ar 23 Chwefror 2023; a
· gohirio penderfyniadau yn gysylltiedig a chynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2023/24 (paragraff 5.1.7) fel yn nhybiaethau’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol i’w hystyried yng Nghyfarfod Arbennig y Cyngor ar 23 Chwefror 2023.