6 Blaenraglen Gwaith 2022-23 PDF 373 KB
Derbyn Blaenraglen Gwaith 2022-23.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Swyddog Craffu a Democrataidd.
Hysbysodd y Prif Swyddog Adnoddau yr Aelodau na fyddai Datganiad Cyfrifon 2021/22 ar gael ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Mawrth 2023. Byddid yn anfon nodyn gwybodaeth at Aelodau yn amlinellu’r sefyllfa bresennol.
Caiff cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio ei gynnull os daw Datganiad Cyfrifon 2021/22 ar gael cyn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 26 Ebrill 2023.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, i dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Flaenraglen Gwaith ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio.