Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Amlinellodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi trosolwg o’r rhagolwg sefyllfa all-dro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 (fel ar 31 Rhagfyr 2021).
Dywedodd y Prif Swyddog bod y cyfanswm amrywiad ffafriol ym mis Rhagfyr 2021 yn £4.65m, ar ôl defnyddio Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru a dywedodd y bu cynnydd o £1.835m yn yr amrywiad ffafriol ers rhagolwg sefyllfa Medi 2021 (£2.814m). Rhoddodd y Prif Swyddog drosolwg pellach o’r amrywiad anffafriol ar draws y portffolios a fanylir yn yr adroddiad a dywedodd fod y rhain yn cael eu monitro a’u hadrodd yn unol â’r cynlluniau gweithredu sydd yn eu lle i drin pwysau cost.
Teimlai’r Arweinydd fod yr adroddiad hwn yn dod â’r weinyddiaeth bresennol i ben mewn sefyllfa ariannol gadarnhaol. Credai’r Arweinydd fod y Cyngor wedi rheoli’r gyllideb yn dda ac wedi gosod llwyfan cryf ar gyfer y dyfodol a gweinyddiaeth newydd ym mis Mai. Dywedodd y dylai’r Cyngor ymfalchïo yn y sefyllfa gadarnhaol a adroddwyd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn rhoi’r her briodol i’r deilliannau ariannol a amlinellir yn yr adroddiad. (Opsiwn 1).