9 Defnyddio Cronfeydd wrth Gefn Cyffredinol ac Wedi’u Clustnodi 2021/2022 PDF 550 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi rhagolwg sefyllfa cronfeydd wrth gefn ar gyfer 2021/2022 fel yn Chwarter 3 (31 Rhagfyr 2021). Mae Adran 6 yr adroddiad yn rhoi crynodeb cyffredinol o’r rhagolwg sefyllfa ariannol yng nghyswllt y balasau yn gyffredinol a chronfeydd wrth gefn wedi ru clustnodi ar 31 Mawrth 2022.
Mae balans agoriadol y gronfeydd wrth gefn gyffredinol o £7.553m yn 5.72% o wariant refeniw net, oedd yn uwch na lefel targed 4% o £5.284m. Mae Tabl 1 yn Adran 6.1.3 yn dangos y sefyllfa rhagolwg ar gyfer y gronfa gadw cyffredinol ar ddiwedd blwyddyn 2021/2022 i fod yn gynnydd o £4.849m i £12.402m. Mae’r balans hwn yn 9.39% o wariant refeniw net, £7.118m uwchben y lefel targed o 4% o £5.284m yn dangos cynnydd pellach tuag at gryfhau cydnerthedd ariannol y Cyngor a rhoi clustog i ddelio gyda problemau annisgwyl yn y dyfodol.
CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau yn:
· Ystyried yr effaith y byddai amrywiad ffafriol o £4.649m ar gyfer 2021/2022 ar y cyfraniad yn y gyllideb i’r Gronfa Gyffredinol wrth Gefn;
· Nodi’r cynnydd a ragwelir yn y Gronfa Gyffredinol wrth Gefn yn 2021/2022 i £12.402m, sef 9.39% o wariant refeniw net, yn uwch na’r lefel targed o 4%;
· Ystyried yr angen am reolaeth ariannol darbodus parhaus i gefnogi’r Strategaeth Ariannol Tymor Canol a chydnerthedd ariannol y Cyngor; a
· Pharhau i herio gorwariant cyllideb a gweithredu Cynlluniau Gweithredu gwasanaeth priodol, lle mae angen.
Mae’n hanfodol bod cronfeydd wrth gefn cyffredinol yn cael eu cynnal ar lefel digonol i’r Cyngor fedru ateb ymrwymiadau’r dyfodol sy’n deillio o risgiau na wnaed darpariaeth benodol ar eu cyfer.