Mater - cyfarfodydd

Revenue Budget Monitoring -2021/2022, Forecast Outturn To 31 March 2022 (As at 31st December 2021)

Cyfarfod: 07/03/2022 - Cydbwyllgor Craffu (Monitro’r Gyllideb) (eitem 7)

7 Monitro’r Gyllideb Refeniw - 2021/2022, Rhagolwg All-dro hyd 31 Mawrth 2022 (fel ar 31 Rhagfyr 2021). pdf icon PDF 646 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog Adnoddau yr adroddiad sy’n rhoi’r rhagolwg o’r sefyllfa alldro ariannol ar draws pob portffolio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/2022 (rhagolwg 31 Rhagfyr 2022); y rhagolwg o’r sefyllfa ariannol hyd ddiwedd mis Mawrth 2022 ar draws pob portffolio, a’r rhagolwg o’r all-dro ar gyfer ffioedd a thaliadau.

 

Yr all-dro cyffredinol a ragwelwyd fel ym mis Rhagfyr 2021 oedd amrywiad ffafriol o £4.65m, ar ôl gweithredu Cyllid Caledi Llywodraeth Cymru. Bu cynnydd o £1.835m yn yr amrywiad ffafriol ers sefyllfa rhagolwg Medi 2021 (£2.814m).

 

Mae’r rhagolwg yn cynnwys cyllid gwirioneddol ac amcangyfrif o’r Gronfa Caledi ar gyfer mis Ebrill i fis Rhagfyr 2021 o £5.036m. Cadarnhaodd y Swyddog y cafodd yr hawliadau eu cyflwyno, yn unol gyda set o faterion egwyddor gan Lywodraeth Cymru, ar gyfer colli incwm Chwarteri 1 i 3 a chafodd £130,000 ei gynnwys yn y rhagolwg ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol. Cadarnhawyd y byddai Cronfa Caledi Llywodraeth Cymru yn parhau i fis Mawrth 2022.

 

CYTUNODD y Pwyllgor argymell derbyn yr adroddiad a bod Aelodau’n nodi’r deilliannau ariannol yn yr adroddiad (Opsiwn 1).