9 Cymorth Ardrethi Busnes – Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2022/23 PDF 552 KB
Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau..
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Datganodd y Cynghorydd J. Wilkins fuddiant yn yr eitem hon a ni chymerodd ran yn y trafodaethau na’r bleidlais.
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.
Dywedodd y Prif Swyddog Adnoddau y cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gweithredol ei ystyried a mabwysiadu cynllun Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch – 2022/23, fel cymorth ardrethi dewisol adran 47 ar gyfer 2022/23 ar ran y Cyngor.
Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnu sylw at y pwyntiau allweddol a gynhwysir yn yr adroddiad. Ychwanegodd y Prif Swyddog y byddai tua 300 o fusnesau ar draws Blaenau Gwent yn cael budd o’r cynllun, fodd bynnag er mwyn rhoi cymorth i drethdalwyr mae’n rhaid i’r Cyngor benderfynu mabwysiadu y cynllun a ragnodir gan Lywodraeth Cymru fel cynllun cymorth ardrethi dewisol yn unol ag adran 47 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a mabwysiadu cynllun Cymorth Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/23 ar ran y Cyngor i atodi cynllun cymorth ardrethi dewisol y Cyngor (Opsiwn 2).