Mater - cyfarfodydd

Transforming Towns Empty Property Management Fund

Cyfarfod: 02/03/2022 - Pwyllgor Gwaith (eitem 22)

Cronfa Rheoli Eiddo Gwag Trawsnewid Cartrefi

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan roi ystyriaeth i’r farn a fynegwyd gan y Swyddog Priodol am y prawf budd cyhoeddus, o bwyso a mesur popeth, fod y budd cyhoeddus mewn cynnal yr eithriad yn fwy na’r budd cyhoeddus mewn datgelu’r wybodaeth hon ac y dylai’r adroddiad gael ei eithrio.

 

PENDERFYNWYD eithrio’r cyhoedd tra bod yr eitem hon o fusnes yn cael ei thrin gan ei bod yn debygol y byddai datgeliad o wybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraffau 12 a 14, Atodlen 12 Deddf Llywodraeth Leol 1972 Deddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

 

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol a rhoddodd y Pennaeth Adfywio drosolwg i’r Pwyllgor Gweithredol.

 

Croesawodd yr Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio yr adroddiad a theimlai ei fod yn newid pwysig yn sut y mae’r awdurdod lleol yn trin adeiladau gwag. Teimlai ei fod yn cyflwyno cyfle gwirioneddol ar draws ein trefi i wneud adeiladau ar gael a gwella canol ein trefi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r wybodaeth sy’n cynnwys manylion yn ymwneud ag unigolyn a materion busnes/ariannol personau heblaw’r Awdurdod (Opsiwn 2).