Mater - cyfarfodydd

Levelling Up Funding (LUF) Bid Request

Cyfarfod: 02/03/2022 - Pwyllgor Gwaith (eitem 11)

11 Cais am Gynnig i Gronfa Codi’r Gwastad pdf icon PDF 654 KB

Ystyried adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth yr Awdurdod i gyflwyno cynnig i gronfa Codi’r Gwastad yn ystod yr ail alwad yn unol ag amserlen Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rhoddodd y Pennaeth Adfywio drosolwg o gyllid Codi’r Gwastad a’r broses gynnig. Tynnodd y Pennaeth Adfywio hefyd sylw at waith y Tîm Adfywio ynghyd â’r prosiectau a ddynodwyd sy’n cyflawni’r meini prawf a gobeithiai y gellid symud ymlaen ag un o’r prosiectau.

 

Dywedodd yr Aelod Gweithredol Datblygu Economaidd ac Adfywio mai un o’r heriau mwyaf am gronfa Codi’r Gwastad a’r cyllid Adnewyddu Cymunedol oedd amseriad ac er bod y pandemig wedi ymyrryd ar waith, roedd yr Adran wedi rhoi pwysau sylweddol i gyflwyno prosiectau gyda’r cyllid sydd ar gael. Ychwanegodd yr Aelod Gweithredol mai Cam 1 yw hyn a gobeithid y gallai’r Cyngor gynnig am fwy o brosiectau fel y byddai cyllid yn dod ar gael.

 

Daeth yr Aelod Gweithredol i ben drwy ddweud fod y prosiectau a ymchwilir yn broblemau hirsefydlog ar gyfer y Fwrdeistref yn cynnwys maes parcio Glynebwy a gorsaf bysus Brynmawr. Mae’r rhain yn brosiectau mawr sy’n diwallu’r meini prawf ar gyfer cyllid Codi’r Gwastad a theimlai’r Aelod Gweithredol eu bod yn brosiectau a fyddai o fudd i’r Fwrdeistref cyfan.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chytunwyd paratoi ceisiadau ar gyfer cylch nesaf cronfa Codi’r Gwastad o gynnig am y cynlluniau a ddynodir yn yr adroddiad (Opsiwn 1).