Mater - cyfarfodydd

Gwent Regional Well-being Assessment

Cyfarfod: 28/01/2022 - Pwllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (eitem 5)

5 Asesiad Llesiant Rhanbarthol Gwent pdf icon PDF 509 KB

Ystyried yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Polisi a Phartneriaethau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau fod yr adroddiad yn amlinellu drafft ymgynghori Asesiad Llesiant Rhanbarthol Gwent yn unol ag amserlenni statudol a hysbysodd Aelodau am y broses ymgynghori a’r camau nesaf ar gyfer y drafft Asesiad Llesiant Lleol Gwent. Esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth y darperir trosolwg o’r adroddiad ynghyd â’r asesiad a fanylir yn yr atodiad i’r adroddiad.

 

Ar y pwynt hwn, rhoddodd y Swyddog Polisi drosolwg i’r Pwyllgor o’r cwmpas a’r cefndir a fanylir yn yr adroddiad.

 

Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod y ddogfen a gyflwynwyd yn fersiwn drafft, felly bod bylchau i’w llenwi cyn cwblhau’r asesiad.

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth, Polisi a Phartneriaethau drosolwg fanwl o ddrafft Asesiad Llesiant Gwent ac amlinellu’r gwaith a wnaed ar draws partneriaethau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a thynnodd sylw at y meysydd allweddol o effaith, fel sy’n dilyn:-

 

Llesiant Cymdeithasol – Amddifadedd

Llesiant Cymdeithasol – Tai

Llesiant Cymdeithasol – Iechyd

Llesiant Cymdeithasol – Diogelwch y Gymuned

Llesiant Cymdeithasol – Addysg

Llesiant Cymdeithasol – Trafnidiaeth

 

Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.

 

Cododd Aelod bryder ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus a theimlai y dylai mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn flaenllaw yn yr asesiad hwn. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth fod yr wybodaeth a gyflwynwyd yn ddetholiad o faterion o bob rhan o’r rhanbarth ac os y teimlai’r Pwyllgor fod angen ystyried hyn fel ymateb i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol fel rhan o’r asesiadau terfynol.

 

Dywedodd yr Aelod fod trafnidiaeth yn bwysig tu hwnt yn ein cymunedau a chytunodd fod yr ardal a’r problemau’n gysylltiedig â thrafnidiaeth yn her fawr i bobl. Mae angen i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol sicrhau fod gwaith yn mynd rhagddo gyda byrddau trafnidiaeth eraill i gydweithio er mwyn datrys y problemau lleol hyn ac ymchwilio cyfleoedd. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaeth fod meddwl cydlynus yng nghyswllt trafnidiaeth yn hollbwysig a chytunodd i nodi’r sylwadau fel rhan o’r sgwrs gan y Pwyllgor.

 

Ychwanegodd y Swyddog Polisi fod y sleidiau yn rhoi trosolwg lefel uchel a dywedodd fod trafnidiaeth yn rhan o benodau llesiant cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr asesiad, felly cytunodd fod angen dull gweithredu cydlynus i daclo’r materion.

 

Aeth y Rheolwr Gwasanaeth ymlaen gyda throsolwg o’r drafft asesiad, fel sy’n dilyn:-

 

Llesiant Economaidd – Incwm

Llesiant Economaidd – Cyflogaeth

 

Ni chodwyd unrhyw gwestiynau ar y pwynt hwn, felly symudodd y Rheolwr Gwasanaeth i’r adran nesaf fel sy’n dilyn:

 

Llesiant Economaidd – Cynefinoedd

Llesiant Economaidd – Newid Hinsawdd a Risg

Llesiant Economaidd – Sero-net a Byw Un Blaned

 

Ni chodwyd unrhyw gwestiynau ar y pwynt hwn, felly aeth y Rheolwr Gwasanaeth ymlaen i’r adran nesaf fel sy’n dilyn:

 

Llesiant Diwylliannol

 

Daeth y Rheolwr Gwasanaeth â’r trosolwg o’r drafft asesiad i ben a nododd yr heriau. Cafodd yr amserlenni eu hamlinellu ymhellach yn nhermau’r broses ymgynghori a dywedwyd y byddai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad ym mis Chwefror cyn eu cytuno a’u cyhoeddi erbyn 5 Mai 2022.

 

Croesawodd Aelod y drafft Asesiad a chytunodd gyda’r pryderon yng  ...  view the full Cofnodion text for item 5