6 Adroddiad Cynnydd Archwilio Mewnol PDF 416 KB
Ystyried adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol – Archwilydd Mewnol..
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio mewnol.
Cyflwynodd yr Arweinydd Proffesiynol Archwilio Mewnol yr adroddiad sy’n diweddaru’r Pwyllgor ar gynnydd ar y Cynllun Archwilio Mewnol ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2021 i 31 Rhagfyr 2021.
Caiff y gweithgareddau ar gyfer y cyfnod eu nodi yn Atodiad A ac maent yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau o’r adroddiadau archwilio a gynhyrchwyd yn y cyfnod, yn cynnwys barn archwilio ffurfiol lle’n briodol. Cyflwynir data perfformiad ar gyfer yr Adran yn Atodiad B, a dangosir y graddiad a roddwyd yn ystod y cyfnod a gorchudd canran pob Adran yn Atodiad C a D.
Mewn ymateb i gwestiynau am absenoldeb salwch cadarnhaodd y Swyddog mai dim ond at yr Adran Archwilio Mewnol y mae’r data yn cyfeirio. Dywedodd y bu’r Tîm yn ffodus drwy fod â fawr iawn o salwch cysylltiedig â Covid yn ystod y cyfnod a bod y Tîm wedi gweithio’n rhagorol drwy gydol y pandemig.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor yn nodi’r canfyddiadau o fewn yr Atodiadau a’r cynnydd ar weithgareddau ar gyfer y cyfnod 1 Hydref 2021 i 31 Rhagfyr 2021.