Mater - cyfarfodydd

Contextual Safeguarding

Cyfarfod: 21/01/2022 - Cyd-bwyllgor Craffu Addysg a Dysgu a Gwasanaethau Cymdeithasol (Diogelu) (eitem 6)

6 Diogelu Cyd-destunol pdf icon PDF 914 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol..

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn amlinellu cysyniad diogelu mewn cyd-destun a’r dull gweithredu ar draws Gwent a Chymru. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod cyfarfod blaenorol wedi gofyn am yr adroddiad ac wedyn rhoddodd drosolwg manwl o’r pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriodd Aelod at bwynt 2.6 yn yr adroddiad – “fel enghraifft, mae gorlenwi yn y cartref yn golygu fod y person ifanc yn treulio llawer o amser mewn mannau cyhoeddus. Mae’r person ifanc yn profi lladrad a thrais pan mae yn y lleoedd hynny. Mae’r digwyddiadau treisgar hyn yn effeithio ar ymddygiad y person ifanc a llawer o rai eraill yn yr ysgol. Mae anallu’r ysgol i ymateb yn effeithlon yn normaleiddio ymhellach drais ymysg grwpiau cyfoedion yn yr ysgol. Mae gan y grwpiau cyfoedion hyn fwy o ddylanwad ar ymddygiad y person ifanc na’u rhieni – ac yn effeithio ar allu’r rhieni i ddiogelu eu plentyn rhag y niwed a brofant (ac apêl) mannau cyhoeddus a chyfoedion. Rhaid i ni beidio anghofio ystyried yr amgylcheddau ar-lein. Gallai’r rhain fod yn gysylltiedig, er enghraifft, â gangiau yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i ganfod neu feithrin perthynas amhriodol, ond byddant yn cael dylanwad ar blant a phobl ifanc. Mae pob sefyllfa a chyd-destun yn wahanol ond beth bynnag yw’r materion a’r problemau, mae diogelu mewn cyd-destun yn anelu i helpu darparu dull i helpu cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel”. Teimlai’r Aelod i’r paragraff gael ei eirio’n wael gan fod ysgolion yn hafan ddiogel i rai plant a phobl ifanc gan fod athrawon wedi eu hyfforddi i sylwi ar broblemau ac felly teimlai nad yw’r paragraff yn adlewyrchu gwaith da ysgolion yn yr achosion hyn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol nad oedd y geiriad yn feirniadaeth o ysgolion. Cafodd yr adroddiad ei ysgrifennu yn seiliedig ar y prosesau a ddefnyddiwyd ym mwrdeistrefi Llundain a dinasoedd mawr. Nid oes unrhyw enghreifftiau yng Nghymru a chytunodd fod athrawon yn cael eu hyfforddi i gadw llygad am ddysgwyr bregus. Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai Cymru yn gweithredu’n wahanol i ysgolion yn Llundain oedd wedi profi’r cysyniad hwn.

 

Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol i edrych ar eiriad y paragraff.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd yn ymwneud â llwyddiant diogelu mewn cyd-destun, dywedwyd fod Prifysgol Bedfordshire wedi profi’r dulliau ym mwrdeistrefi Llundain a brofodd yn gadarnhaol iawn. Fodd bynnag, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol y byddai’r problemau yn Llundain a’r cylch yn fwy heriol na’r rhai ym Mlaenau Gwent, fodd bynnag mae’r cysyniad wedi bod yn gadarnhaol wrth gefnogi plant yn yr amgylcheddau heriol hyn a’u gwneud yn ddiogel.

 

Rhoddodd Swyddog enghraifft o sut mae diogelu mewn cyd-destun wedi ei sefydlu mewn prosesau ym Mlaenau Gwent a’r gwaith cadarnhaol a wnaed gyda Diogelwch y Gymuned.

 

Dilynodd trafodaethau pellach am gysyniad diogelu mewn cyd-destun a hyfforddiant a gaiff ei wneud. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg, pe byddai’r dulliau hyn yn cael eu defnyddio’n llawn mewn ysgolion, y  ...  view the full Cofnodion text for item 6