Mater - cyfarfodydd

Implementing the South East Wales Corporate Joint Committee

Cyfarfod: 19/01/2022 - Pwyllgor Gwaith (eitem 6)

6 Gweithredu Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru pdf icon PDF 475 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gyfarwyddwr.

 

Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr yr adroddiad sy’n nodi model interim at gyfer llywodraethiant a chyflenwi sy’n ddigonol i weithredu’r gofynion statudol ar gyfer sefydlu Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru.

 

Ychwanegwyd fod yr adroddiad yn rhoi manylion dull ‘dau drywydd’’ i weithredu Bargen Ddinesig Prifddinas Caerdydd wrth ochr cyfnod dechreuol ‘lleiafswm’ dechreuol y Cydbwyllgor Corfforedig cyn i Gydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru osod ei gyllideb statudol gyntaf ar 31 Ionawr 2022.

 

Siaradodd y Rheolwr Gyfarwyddwr am yr adroddiad a thynnodd sylw at y pwyntiau allweddol o’r gofynion cyfreithiol a fanylir yn yr adroddiad. Cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at faint o waith a wnaethpwyd eisoes a dywedodd, nes y bydd wedi sefydlu’n llawn, y bydd y cyd-bwyllgor yn rhedeg yn gyfochrog gyda threfniadau presennol y Fargen Ddinesig.

 

Nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr ymhellach y goblygiadau ariannol a dywedodd na fyddai unrhyw effeithiau ar y gyllideb yn 2022/2023 gan y caiff y gwaith ei wneud gyda’r cyllid sydd eisoes wedi ei ymrwymo ar gyfer y Fargen Ddinesig.

 

I gloi, cyfeiriodd y Rheolwr Gyfarwyddwr at yr argymhellion oedd bennaf ar gyfer eu nodi gan y Pwyllgor Gweithredol. Ceisiodd yr argymhelliad terfynol gefnogaeth i Arweinydd y Cyngor osod y gyllideb a byddai hynny’n digwydd ar 31 Ionawr 2022.

 

Dywedodd yr Arweinydd y bu llawer o drafodaeth ar y mater a gafodd ei dderbyn erbyn hyn. Dywedodd yr Arweinydd, er fod yr adroddiad yn fanwl iawn, ei fod yn rhoi eglurdeb o’r rhesymeg y byddai awdurdodau lleol yn gweithredu arno.

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at yr argymhellion a gofyn i’r Pwyllgor Gweithredol i gymeradwyo argymhelliad (g) ar wahân.

 

Cynigiodd Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol argymhelliad (g) ac eiliodd yr Aelod Gweithredol Addysg argymhelliad (g). Roedd pob aelod o’r Pwyllgor Gweithredol o blaid yr uchod ac felly

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor Gweithredol yn nodi’r argymhellion dilynol:-

 

(a)  y model interim ar gyfer llywodraethiant a chyflenwi ar gyfer gweithredu Cydbwyllgor Corfforedig De Ddwyrain Cymru a’r trefniadau ‘dau drywydd’ a gynigiwyd ar draws gweithrediad Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, wrth ochr gweithrediad dechreuol Cydbwyllgor Corfforedig ‘lleiafswm’ – a than yr amser y gallai’r dull ‘codi a symud’ arfaethedig ddigwydd;

 

(b)  y gofyniad i’r Cydbwyllgor Corfforedig osod a chymeradwyo cyllideb ar neu cyn 31 Ionawr 2022 a’r camau a nodir yn yr adroddiad i alluogi hyn;

 

(c)  y risgiau a’r materion a nodir yn yr adroddiad sydd angen monitro, lliniaru a rheoli parhaus;

 

(d)  cais Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddiwygio rheoliadau’r Cydbwyllgor Corfforedig i newid y dyddiad ar gyfer dechrau dyletswyddau uniongyrchol dan y Rheoliadau o 28 Chwefror 2022 i 30 Mehefin 2022;

 

(e)  y drafft Reolau Sefydlog yn Atodiad 1 sy’n nodi’r gofynion dechreuol a’r model gweithredu ar gyfer y Cydbwyllgor Corfforedig yn ogystal â’r busnes dechreuol ar gyfer y cyfarfod cyntaf ar 31 Ionawr 2022;

 

(f)   gwaith cyfredol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a’r Cynghorau sy’n rhan ohono i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru a cynghorwyr fel sy’n addas, i helpu seilio penderfyniad y materion sydd ar ôl lle bynnag sy’n bosibl; ac

 

(g)  ...  view the full Cofnodion text for item 6