9 Diogelu – Dysgwyr Bregus PDF 550 KB
Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Diogelu mewn Addysg a Rheolwr Strategol Gwella Addysg.
Siaradodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg am yr adroddiad sy’n rhoi manylion y strategaethau a ddefnyddir i ddiogelu dysgwyr bregus gyda chydweithwyr yn y sector Addysg a swyddogion perthnasol yn yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Cyfeiriodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg yr Aelodau at y data perfformiad perthnasol a thynnu sylw at y pwyntiau allweddol a fanylir yn yr adroddiad.
Dilynodd trafodaeth am daliadau uniongyrchol prydau ysgol am ddim a gofynnwyd os y gellid cyflwyno nodyn gwybodaeth ar y defnydd o brydau ysgol am ddim ym mhob ysgol i ganfod lle nad oedd rhieni oedd â hawl wedi derbyn y cymorth. Mae’n hanfodol fod pob rhiant yn cael eu hannog i ddefnyddio’r cymorth sydd ar gael.
Ychwanegodd y Rheolwr Strategol Gwella Addysg fod gwaith hyrwyddo yn mynd rhagddo am brydau ysgol am ddim a grantiau i helpu gyda gwisg ysgol.
CYTUNODD y Pwyllgor i baratoi papur gwybodaeth i’w ystyried ar y defnydd o brydau ysgol am ddim.
CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).