Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad ar y cyd y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Plant a’r Rheolwr Strategol Gwella Addysg.
Dywedwyd fod yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth a dadansoddiad ar berfformiad diogelu gan Gwasanaethau Cymdeithasol Plant ac Addysg o 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Mae’r wybodaeth yn galluogi aelodau i ddynodi tueddiadau a meysydd diogelu o fewn yr Awdurdod sydd angen eu datblygu ymhellach i wella arferion diogelu er mwyn diwallu anghenion diogelu plant a phobl ifanc o fewn Blaenau Gwent.
Amlinellodd y Rheolwr Gwasanaeth yr atgyfeiriadau i Gwasanaethau Cymdeithasol a nododd fod cynnydd, fodd bynnag mae’r rhain yn cael eu monitro yn fisol a dywedodd y gwelwyd materion tebyg mewn awdurdodau cyfagos. Amlinellodd y Swyddog y pwyntiau allweddol yng nghyswllt amddiffyn plant.
Ar y pwynt hwn gwahoddodd y Cadeirydd gwestiynau gan Aelodau.
Gofynnodd Aelod os y cafodd nifer fawr o atgyfeiriadau eu derbyn gan yr Heddlu yr oedd yn rhaid eu hailatgyfeirio yn ôl i’r Heddlu ac nad oeddent yn fater i Gwasanaethau Cymdeithasol.
Dywedwyd na chaiff unrhyw atgyfeiriadau eu dychwelyd yn ôl i’r Heddlu. Os nad yw atgyfeiriad yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cymorth statudol gan y gwasanaethau cymdeithasol, mae nifer o gynlluniau ym Mlaenau Gwent yn ymwneud â gwasanaethau ataliol, yn bennaf Teuluoedd yn Gyntaf, a chynigir pecyn cymorth haen isel gyda chaniatâd rhieni. Dywedodd y Swyddog bod gwaith yn mynd rhagddo gyda gweithwyr cymorth Addysg a Teuluoedd yn Gyntaf, yn edrych ar fodel a gafodd ei roi yn ei le gyda gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion, i werthuso os yw’r model yn gweithio, sy’n atal atgyfeiriadau diangen rhag cyrraedd y Gwasanaeth IAA.
Gadawodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Gadawodd y Cynghorydd J. Holt y cyfarfod ar y pwynt hwn.
Dilynodd trafodaeth am weithwyr cymdeithasol a dywedodd nad yw trosiant staff Gwasanaethau Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent yn ddim gwahanol i’r hyn yw yn genedlaethol neu mewn awdurdodau cyfagos. Mae trosiant mawr o staff ac yn yr achosion hyn gallai fod yn anodd i’r teulu feithrin perthynas hirsefydlog. Ychwanegodd fod yr Awdurdod yn ceisio sicrhau mai ychydig o darfu oedd pan oedd gweithwyr cymdeithasol yn gadael yr Awdurdod ac angen ailddyrannu achosion.
Rhoddodd y Rheolwr Diogelu mewn Addysg drosolwg o’r wybodaeth addysg yn cyfeirio at Ebrill 2021 i Orffennaf 2021. Dywedwyd y cafodd y canfyddiadau eu hadrodd yn ystod y pandemig, felly nid yw’n bosibl gwneud cymariaethau gan y bu tarfu mewn ysgolion. Amlinellodd y Swyddog ymhellach y nifer o ymyriadau corfforol cyfyngol, niferoedd digwyddiadau bwlio a arweiniodd at waharddiadau. cyfarfodydd Sicrwydd Ansawdd, dyfarniadau Estyn, Operation Encompass, adrodd ar gydymffurfiaeth ac addysg ddewisol yn y cartref. Yng nghyswllt addysg ddewisol yn y cartref, dywedodd y Swyddog fod prosesau priodol yn eu lle i fonitro gydag ymweliadau ffurfiol i wirio os yw’r addysg yn addas. Fodd bynnag, er bod y nifer y disgyblion a addysgir yn y cartref wedi cynyddu, mae hyn yn debyg i weddill Cymru a theimlid fod hyn oherwydd y pandemig. I gloi, rhoddwyd trosolwg pellach yng nghyswllt esgyniadau DBS a VAWDASV. ... view the full Cofnodion text for item 7