8 Gwybodaeth Perfformiad Chwarterol Chwarter 4: Ionawr i Mawrth 2021 PDF 551 KB
Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth – Datblygu a Stadau yr Aelodau at yr adroddiad a dywedodd ei fod yn adroddiad rheolaidd sy’n rhaid ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn chwarterol. Mae’r wybodaeth perfformiad yn cyfeirio at chwarter olaf y flwyddyn ariannol ddiwethaf rhwng Ionawr a Mawrth 2021 ac a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru ar 5 Hydref 2021.
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth drosolwg o’r perfformiad cyfredol fel y’i nodir yn yr adroddiad. Nododd y Rheolwr Gwasanaeth y 81 diwrnod ar gyfartaledd a gymerir rhag cofrestru i wneud penderfyniad ar gyfer pob cais cynllunio a dywedodd fod y Tîm yn awr yn ôl i gapasiti llawn ac y byddid yn edrych ar y deilliant hwn a’i drafod.
Teimlai’r Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio fod y Rheolwr Gwasanaeth a’i Dîm wedi gwneud gwaith rhagorol i gynnal y perfformiad da yn ystod y cyfnod heriol hwn a gyda phrinder staff.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad hwn a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo.