Mater - cyfarfodydd

Application: C/2021/0179 Site: Glanyrafon Court and adj grounds, Allotment Road, Ebbw Vale. Proposal: Construction of 15 dwellings with a new road, car parking, gardens, hard and soft landscaped areas.

Cyfarfod: 06/01/2022 - Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu (eitem 5)

5 Cais: C/2021/0179 Safle: Cwrt Glanyrafon a thir cyfagos, Heol Rhandir, Glynebwy. Cynnig: Adeiladu 15 annedd gyda ffordd newydd, lleoedd parcio, gerddi, ardaloedd tirlun caled a meddal. pdf icon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau y cais a ystyriwyd gan y Pwyllgor ar 4 Tachwedd 2021 ac ymweliad safle ar 24 Tachwedd 2021. Cafodd y safle ei phegio allan yn glir i’r Pwyllgor weld yr ardal y cynigid ei datblygu, fodd bynnag penderfyniad y Pwyllgor o hyd oedd y dylid gwrthod y cais oherwydd colli gofod gwyrdd agored.

 

Dywedwyd y cafodd gohebiaeth hwyr a dderbyniwyd yng nghyswllt y cais ei chylchredeg i Aelodau’r Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth yr Aelodau at yr opsiwn a ffafrir sy’n dangos y rheswm dros wrthod yn unol â’r trafodaethau gan fod  cyfarfodydd Pwyllgor a nodir uchod a dywedodd mai mater i Aelodau oedd penderfynu os mai’r geiriad a fanylir yn yr adroddiad oedd rheswm yr Aelodau dros wrthod.

 

Dywedodd y Cadeirydd na fu’n bresennol yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor lle trafodwyd yr eitem hon. Teimlai’r Cadeirydd y byddai’n briodol i gyflwyno’r cyfarfod i ofal yr Is-gadeirydd a dywedodd y Cadeirydd na fyddai’n cymryd rhan yn y bleidlais.

 

Cymerodd yr Is-gadeirydd ofal y cyfarfod ar y pwynt hwn a gwahoddodd sylwadau/cwestiynau gan Aelodau.

 

Teimlai Aelod fod y sylwadau a amlinellir yn 3.2 yr adroddiad yn rhoi adlewyrchiad cywir o sylwadau Aelodau a dywedodd ei fod yn parhau yn erbyn y datblygiad.

 

Cytunodd Aelod gyda’r sylwadau a godwyd a theimlai fod gofodau agored/gwyrdd wedi dod yn lle pwysig ym mywydau llawer o breswylwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bu newidiadau mawr i bobl ar draws y wlad gyda chyfnodau o ynysu, gweithio gartref oedd i gyd wedi codi problemau iechyd meddwl ac unigrwydd i lawer o bobl. Roedd llawer o breswylwyr o’r ardal hon wedi dweud pa mor werthfawr fu’r gofod gwyrdd hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac y byddai’n parhau i fod felly gan eu bod wedi mwynhau mynd am dro yn yr ardal gydag anifeiliaid anwes neu gwrdd â phobl. Felly teimlai’r Aelod bod cadw’r tir yn bwysig i’r bobl sy’n defnyddio’r gofod agored hwn.

 

Ychwanegodd yr Aelod fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015. Mae’r Ddeddf yn diffinio’r egwyddor datblygu cynaliadwy fel bod yn gweithredu mewn dull sy’n anelu i sicrhau anghenion y presennol heb effeithio ar angen y dyfodol. Aeth yr Aelod ymlaen drwy ddweud fod Swyddfa Archwilio Cymru fod Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am well mynediad i a gofodau agored i gymunedau, busnesau ac ymwelwyr. Mae angen deall yn well iechyd corfforol a meddwl presennol pobl yn ein cymunedau ynghyd â lefelau ynysigrwydd  cymdeithasol. Dylid cynnal yr ardaloedd hyn i sicrhau’r cyflawni amcanion hyn ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol ar fywydau pobl.

 

Dywedodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fod yr amcanion llesiant yn cydnabod gwerthoedd gofodau agored ar gyfer lles meddwl a chorfforol pobl. Felly teimlai’r Aelod fod yn rhaid diogelu’r gofod gwyrdd hwn ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Teimlai’r Aelod ein bod yn awr yn sylweddoli ddwy flynedd yn ddiweddarach pa mor werthfawr yw’r tir hwn ac yn credu y byddai  ...  view the full Cofnodion text for item 5