Mater - cyfarfodydd

Diweddariad Cynnydd Rhaglen Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy

Cyfarfod: 13/12/2021 - Pwllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (eitem 8)

8 Diweddariad Cynnydd Rhaglen Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy pdf icon PDF 428 KB

Ystyried adroddiad y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cymunedau a Thai (Cartrefi Cymunedol Tai Calon).

 

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiad ar y cyd gan y Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cymunedau a thai, Cartrefi Cymunedol Tai Calon. Rhoddodd Cydlynydd Bwyd Cynaliadwy Blaenau Gwent, Tai Calon ddiweddariad cynhwysfawr ar y Rhaglen Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy.

 

Gofynnodd Aelod os yw banciau/grwpiau bwyd yn hyrwyddo bwyta’n iach ac a gafodd safleoedd bwyd cyflym eu herio i newid eu cynnig.

 

Dywedodd y Cydlynydd fod bwyta’n iach yn ‘bwnc poeth’ ar hyn o bryd a chyfeiriodd at y newidiadau a wnaed mewn diodydd llawn siwgr. Gobeithir y byddai’r newidiadau hyn yn cael eu gweithredu yn y diwydiant bwyd. Mae’r drafodaeth ar fwyd ar yr agenda i’w ystyried gan Senedd Cymru a theimlai’r Cydlynydd y byddai’n ddiddorol gweld canlyniad y trafodaethau hyn.

 

Deallai’r Aelod fod mynd i’r afael â safleoedd bwyd cyflym yn newid mawr yn genedlaethol, fodd bynnag teimlai’r Aelod ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio trin y materion yn fwy lleol. Dywedwyd fod rhai grwpiau yn rhoi addysg am fwyta’n iach ac y gwneir llawer o waith  i gael mwy o ffrwythau a llysiau ffres mewn banciau bwyd. Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig sicrhau fod gan unigolion fynediad i ffwrn ac y dysgir rysetiau iddynt i gynnwys ffrwythau a llysiau yn eu diet bob dydd. Mae’r rhain yn feysydd allweddol mewn newid ffyrdd o fyw a fyddai hefyd yn dibynnu ar incwm teulu, felly mae angen economïau lleol da.

 

Ychwanegodd y Cydlynydd fod ysgolion yn un o’r lleoedd addawol i drin y materion hyn a bod llawer o brosiectau cyffrous yn mynd rhagddynt mewn ysgolion, fodd bynnag dywedwyd na fedrem orfodi teuluoedd nac unigolion i fwyta’r bwydydd cywir.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i dderbyn yr adroddiad a nododd yr adroddiad a’r atodiadau fel y’u darparwyd (Opsiwn 1).