Mater - cyfarfodydd

Treasury Management Mid-Year Review Report - 1st April 2021 to 30th September 2021

Cyfarfod: 10/12/2021 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 8)

8 Adroddiad Adolygu Canol-blwyddyn Rheoli Trysorlys - 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 pdf icon PDF 590 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Adnoddau a gyflwynwyd i roi cyfle i Aelodau graffu ar y gweithgaredd Rheoli Trysorlys a gynhaliwyd gan yr Awdurdod yn ystod hanner cyntaf blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Adnoddau am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am y buddsoddiadau tymor byr a wnaed, esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau y byddai’r holl fenthyciadau unigol wedi bod yn gyfanswm o £692,000,000, fodd bynnag ni fyddai gan y Cyngor y swm hwnnw o fuddsoddiad ar unrhyw un amser ond gallai fod wedi bod â 20 benthyciad ar £5 miliwn yr un am gyfnodau byr. Esboniodd ei bod yn fwy manteisiol i fenthyca am dymor byr nag i fenthyca ar gyfer y tymor hir oherwydd lefel y cyfraddau llog yn y farchnad ar hyn o bryd.

 

Cyfeiriodd Aelod at y sefyllfa trysorlys fel ar 30 Medi 2021. Esboniodd y Prif Swyddog Adnoddau fod y tabl yn dangos gostyngiad gan fod lefelau benthyca wedi gostwng oherwydd fod y Cyngor wedi benthyca llai ar 30 Medi 2021 o gymharu â 31 March 2021.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 2; sef bod Aelodau’n craffu ar y gweithgaredd rheoli trysorlys yn ystod blwyddyn ariannol 2021/22 ac ni roddodd sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.