Mater - cyfarfodydd

Commercial Strategy Quarterly Performance Monitoring (July – September 2021)

Cyfarfod: 10/12/2021 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 7)

7 Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Fasnachol (Gorffennaf – Medi 2021) pdf icon PDF 609 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a gyflwynwyd i roi diweddariad cynnydd chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2021) o gymharu â’r Strategaeth Fasnachol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod am ystafelloedd trafod preifat o fewn hybiau, dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y cafodd hyn ei drin a bod ardal o fewn y llyfrgelloedd a gafodd ei neilltuo o ofod cyffredinol ar gyfer y cyhoedd i’w ddefnyddio ar drafodaeth breifat os dymunent.

 

Cyfeiriodd Aelod at y 924 preswylydd a oedd wedi methu hunan-weini yn yr hybiau. Esboniodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod cyfran sylweddol o breswylwyr oedd yn medru hunan-weini a chawsant eu cefnogi gan staff Hyb Cymunedol. Mae hefyd angen sicrhau fod cyflenwi gwasanaethau digidol yn glir ac yn rhwydd i breswylwyr eu defnyddio. Cytunodd y Swyddog i roi manylion i’r Pwyllgor am y cymorth a roddwyd ar gyfer y preswylwyr hynny na fedrai hunan-weini.

 

Cyfeiriodd Aelod at breswylwyr oedd yn byw tu allan i ganol trefi ac yn methu teithio i’r hybiau a holodd am bosibilrwydd cyflwyno system lle gallai staff Hyb Cymunedol gysylltu â’r preswylwyr hynny pan fo angen. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid eu bod yn edrych ar ffyrdd i ddatblygu’r dull hyb a chytunodd i ymchwilio’r opsiwn gyda’r tîm, tra hefyd yn rhoi ystyriaeth i faterion cyfrinachedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod parthed cyllid ac ehangu nifer y dyddiau yr oedd rhai hybiau yn gweithredu, eglurodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid fod y cyllid yn ymwneud â’r timau ymateb ardal oedd yn gweithredu yn ystod cyfnod cyntaf y pandemig a gall y cyllid hwn ddod i ben ym mis Mawrth 2022 ond na fyddai’n effeithio ar yr Hybiau Cymunedol. Yng nghyswllt ehangu dyddiau gweithredu ar gyfer hybiau yn y Blaenau, Cwm a Sefydliad Llanhiledd, roeddent yn monitro’r nifer oedd yn mynd i mewn i’r adeiladau ac yn adolygu’r galw yn yr ardaloedd i edrych ar sut i drin hyn o fewn adnoddau staff presennol. Dywedodd y Swyddog y byddai’n sicrhau y caiff dyddiau gweithredu Hybiau Cymunedol yn cael eu gweithredu’n glir i breswylwyr.

 

Teimlai Aelod y dylid rhannu arfer da ymysg Hybiau Cymunedol o fewn Blaenau Gwent. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid wrth yr Aelodau fod staff wedi bod yn rhagweithiol iawn ac wedi creu rhwydwaith cryf lle maent yn rhannu gwybodaeth i ddatblygu lefel o gysondeb yn yr holl hybiau.

 

Credai’r Aelod y byddai’n fuddiol i aelod o’r tîm i fynychu’r Pwyllgor Craffu i gael mwy o fanylion. Dywedodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid y gellid trefnu sesiwn wybodaeth rywbryd yn y dyfodol i Aelodau gael gwell dirnadaeth o rai o’r materion sy’n cael eu trin.

 

Ymatebodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid i gwestiynau Aelod. Yng nghyswllt y cynnydd yn nifer sy’n defnyddio’r hybiau, dywedodd fod y tîm yn medru yn rhwydd gefnogi’r nifer o breswylwyr sy’n ymweld â’r hybiau. Mae’r  ...  view the full Cofnodion text for item 7