Mater - cyfarfodydd

Communications Strategy Quarterly Performance Monitoring (July - September 2021)

Cyfarfod: 10/12/2021 - Pwyllgor Craffu Trosolwg Corfforaethol (eitem 6)

6 Monitro Perfformiad Chwarterol Strategaeth Cyfathrebu (Gorffennaf – Medi 2021) pdf icon PDF 416 KB

Ystyried adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid a gyflwynwyd i roi diweddariad chwarter 2 (Gorffennaf i Medi 2021) o gymharu â’r Strategaeth Cyfathrebu Corfforaethol.

 

Siaradodd y Prif Swyddog Masnachol a Chwsmeriaid am yr adroddiad a thynnodd sylw at y prif bwyntiau ynddo.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a chymeradwyo Opsiwn 1; sef bod y Pwyllgor yn ystyried diweddariad cynnydd chwarter 2 o gymharu â’r Strategaeth Cyfathrebu, cyn i’r adroddiad gael ei gyflwyno i’r  Pwyllgor Gweithredol.