Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu.
Atgoffodd y Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Datblygu yr Aelodau am y cais a gyflwynwyd i’r cyfarfod diwethaf a dywedodd fod Aelodau wedi gofyn am drefnu cyfarfod safle er mwyn trin pryderon am golli gofod agored i’r cyhoedd. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth y cynhaliwyd ymweliad canfod ffeithiau a bod yr ardal ar gyfer ei datblygu wedi ei marcio’n glir er gwybodaeth Aelodau.
Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at yr adroddiad blaenorol a nodi i’r Swyddog Cynllunio ddweud fod gwrthdaro gyda pholisi DM13 y Cynllun Datblygu Lleol sy’n anelu i warchod gofod agored. Fodd bynnag, er fod gwrthdaro o fewn y polisi hwnnw teimlai fod manteision y datblygiad yn fwy na’r gwthdaro gyda’r polisi hwnnw gan fod angen tai cymdeithasol o fewn y Fwrdeistref.
Dangosodd y Rheolwr Gwasanaeth y safle gyda defnydd cymorth gweledol fel y gallai Aelodau weld maint gosodiad y cais a gynigir a sut y byddai’n gorgyffwrdd â’r gofod gwyrdd yn ychwanegol i safle’r datblygiad blaenorol.
Cyfeiriodd Aelod at y tir a ddefnyddid ar gyfer y datblygiad. Esboniodd fod yr ardal yn ofod agored hyfryd gyda dolydd a choed gydag afon yn gyfagos a mynydd tu cefn. Mae’r gofod gwyrdd yn lle mor dawel a heddychlon a theimlai fod hyn yn fwy na dim ond ardal hamdden a’i fod yn barc a fu o fudd i breswylwyr dros y blynyddoedd ac felly y dylid ei warchod ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol.
Teimlai’r Aelod fod gan Tai Calon ddarn sylweddol o dir ar gyfer ei ddatblygu y gellid ei ddefnyddio ar gyfer byngalos. Mae angen mawr am fyngalos yn y Fwrdeistref. Dywedodd yr Aelod nad oes prinder o safleoedd tir llwyd ym Mlaenau Gwent a theimlai nad oedd angen mynd â’r tir parc hwn oddi wrth breswylwyr sydd wedi ymweld â’r ardal hon am flynyddoedd lawer. Dywedodd yr Aelod y dylai gofodau agored o’r fath gael eu diogelu er lles preswylwyr.
Croesawodd Aelod arall y cyfarfod canfod ffeithiau gan fod y safle wedi ei osod allan yn glir i weld y dir y cynigir ei ddatblygu. Byddai’r Aelod wedi hoffi i breswylwyr fod wedi gweld yr union ardal ar gyfer ei datblygu gan y teimlai y byddai wedi ateb llawer o bryderon. Teimlai’r Aelod y byddai’r safle yn parhau yn ofod gwyrdd croesawgar ar gyfer preswylwyr hyd yn oed gyda’r datblygiad.
Cytunodd Aelodau gyda’r sylwadau a wnaed a chroesawu’r datblygiad gan fod angen mwy o dai fforddiadwy yn y Fwrdeistref.
Cyfeiriodd Aelod at y map a ddangoswyd a’r tir tu hwnt i linell derfyn y datblygiad a gynigir a gofynnodd os y gellid gwneud rhywbeth i ddiogelu’r tir hwn rhag cael ei ddatblygu ymhellach.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Datblygu a Stadau bod ffyrdd y gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol weithredu rheolaeth yn y dyfodol. Dywedwyd y gallai’r Awdurdod Cynllunio Lleol linellu ardal ar gynllun a gymeradwywyd i atal mwy o ddatblygiad adeiladu o fewn yr ardal drwy amod cynllunio cyfyngol. Cyfeiriodd y Rheolwr Gwasanaeth at ddialog gyda Tai Calon yng nghyswllt cytundeb ... view the full Cofnodion text for item 4