Mater - cyfarfodydd

Adroddiad Ceisiadau Cynllunio

Cyfarfod: 04/11/2021 - Pwllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu (eitem 4)

4 Adroddiad Ceisiadau Cynllunio pdf icon PDF 3 MB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Tîm Rheoli Datblygu.

 

Cofnodion:

C/2021/0209

53 Larch Lane, Gerddi Bedwellte, Tredegar

Cynnig am estyniad dau lawr yn y cefn

 

Dywedodd y Swyddog Cynllunio fod y cais yn gofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer estyniad dau lawr i gefn 53 Larch Lane, Tredegar. Mae’r annedd yn d? dau lawr diwedd rhes yn safle datblygiad Gerddi Bedwellte, ar gornel, sy’n wynebu ffordd y stad sy’n ymestyn o amgylch y terfyn ochr.

 

Ychwanegodd y Swyddog Cynllunio y cafodd y cynnig ei asesu ar bolisïau DM1 a DM2 y Cynllun Datblygu Lleol a fabwysiadwyd a’r Canllawiau Cynllunio Atodol a fabwysiadwyd ar gyfer Datblygiad Deiliad Tai Nodyn 1 (Estyniadau ac Ystafelloedd Haul). Mae’r estyniad arfaethedig yn diwallu gofynion y Canllawiau yng nghyswllt maint, gorffeniad a dyluniad y to ynghyd â gweddill y gofod amwynder. Mae lleoliad yr estyniad yn golygu y byddai’n anochel yn cael peth effaith ar yr annedd drws nesaf a fyddai’n arwain at beth colli golau. Fodd bynnag, teimlai’r Swyddog Cynllunio na fyddai unrhyw gysgodi yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwrthod y cais. Roedd y Swyddog Cynllunio hefyd yn fodlon na fyddai’r cynnig yn cael effaith gormodol ar amwynderau’r defnyddwyr. Byddai’r cynnig yn arwain at ddod â’r ffenestri ar y llawr cyntaf yn nes at ardd yr annedd i’r cefn. Fodd bynnag, mae anheddau eraill eisoes yn edrych dros yr ardal gardd a chredai’r Swyddog Cynllunio na fyddai’r effaith yn ddigon sylweddol i gyfiawnhau gwrthod y cais.

 

Ystyriwyd bod y cynnig yn cydymffurfio gyda pholisi DM1 2c.

 

I gloi, dywedodd y Swyddog Cynllunio er bod egwyddor estyniad dau lawr yn dderbyniol, ni ystyriwyd fod y bargodiad tu hwnt i linell yr adeilad ochr yn ffurf derbyniol o ddatblygu ac y byddai cymeradwyo’r datblygiad hwn yn gosod cynsail annerbyniol ar gyfer datblygiadau eraill o’r fath ar y stad. Felly, cyfeiriodd y Swyddog cynllunio yr Aelodau at argymhelliad y swyddog y dylid gwrthod caniatâd cynllunio.

 

Siaradodd y Cynghorydd J. Morgan, Aelod Ward y Pwyllgor ar wahoddiad y Cadeirydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Morgan ei fod yn cefnogi’r cais am yr estyniad 2 lawr. Cyflwynwyd y cais i ganiatáu i berchennog y t? drosi ei gartref o annedd 2 ystafell wely i un 3 ystafell wely. Roedd yr Ymgeisydd yn hoff iawn o’r ardal ac yn dymuno cynyddu maint ei annedd i gynnwys 3 ystafell wely. Ychwanegodd yr Aelod Ward na fedrai’r Ymgeisydd gynyddu maint ei gartref pe gwrthodid y cais hwn.

 

Nododd yr Aelod Ward fod y gwrthodiad oherwydd dyluniad gwael, fodd bynnag mae tai eraill yn yr ardal o ddyluniad, maint a gorffenion cymysg a theimlai’r Aelod Ward fod hyn yn rhoi cymeriad i’r ardal. Roedd yr Aelod Ward o’r farn y byddai’r datblygiad yn defnyddio deunyddiau tebyg ac yn gwneud y wal dalcen pîn yn fwy deniadol, gan felly wella’r annedd.

 

Dywedwyd ymhellach y byddai’r estyniad a gynigir yn sefyll lle mae wal gardd uchel ar hyn o bryd ac y byddai’r uchder ychwanegol ar yr annedd ar y llawr cyntaf. Yn nhermau’r agweddau gweledol, mae’r ffordd ochr yn fwy o ffordd gwasanaeth gan fod pob annedd  ...  view the full Cofnodion text for item 4