Mater - cyfarfodydd

Hybrid Units and Hwb Bocs – Performance Monitoring

Cyfarfod: 03/11/2021 - Pwllgor Craffu Adfywio (eitem 6)

6 Unedau Hybrid a Hwb Bocs – Monitro Perfformiad pdf icon PDF 503 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio yr adroddiad sy’n rhoi diweddariad i Aelodau ar ddatblygiadau Unedau Hybrid a Hwb Bocs yn safle’r Gweithfeydd, Glynebwy. Aeth y Swyddog drwy’r adroddiad a thynnu sylw at bwyntiau ynddo.

 

Gofynnodd Aelod pryd y gellid disgwyl y cyfrifon terfynol ar gyfer y prosiect.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Busnes ac Adfywio fod y cyfrifon yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd ac er bod gorwariant bychan oherwydd pandemig Covid, nid oedd mor sylweddol ag a ragwelwyd.

 

Holodd Aelod am y meini prawf ar gyfer defnyddio unedau Hwb ac os y byddent ar gael i fusnesau presennol.

 

Mewn ymateb dywedodd y Swyddog y byddent ar gael i fusnesau presennol, fodd bynnag mae’r Cyngor yn awyddus i hyrwyddo busnesau newydd. Dywedodd eu bod yn rhoi gofod hyblyg ar gyfer unrhyw fusnesau ond y byddent yn apelio at fusnesau seiliedig ar dechnoleg. Mae swyddogion yn gweithio’n agos gyda chwmnïau sydd â diddordeb i weld os yw’r unedau yn addas neu os oes safle mwy addas yn y Fwrdeistref.

 

Gofynnodd Aelod am ddiweddariad ar nifer yr unedau a osodwyd, a chadarnhaodd y Swyddog y gosodwyd 2 o’r 3 adeilad uned hybrid a bod Swyddogion yn gweithio’n agos gyda chwmni arall sydd â diddordeb yn y trydydd adeilad. Yng nghyswllt unedau Hwb Bocs, mae’r ffit mewnol yn agosáu at ei orffen ac oherwydd lefel y diddordeb mae’n hyderus y cânt hwythau eu gosod.

 

Dywedodd Aelod fod hwn yn brosiect gwerth chweil iawn a gofynnodd am ddiweddariad ar osodiadau’r dyfodol.

 

Dilynodd trafodaeth fer pan holodd Aelod os y gellid gosod arwyddion ar hyd ffordd Blaenau’r Cymoedd yn hysbysebu’r unedau.

 

Atebodd y Swyddog fod marchnata’n cael ei ystyried a bod arwyddion ar hyd ffordd Blaenau’r Cymoedd yn gyfle y gellid ei ymchwilio. Dywedodd y gobeithir y byddai’r buddsoddiad ar ffordd Blaenau’r Cymoedd yn cael effaith gadarnhaol wrth ddenu buddsoddwyr i Flaenau Gwent.

 

Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod y Cyngor wedi derbyn nifer fawr o ymholiadau am unedau o wahanol feintiau, ac yn anffodus nid ydym wedi medru cytuno i rai o’r ceisiadau hynny. Mae angen mwy o ofod diwydiannol yn y Fwrdeistref a chadarnhaodd y Swyddog bod hyn yn cael ei ddilyn gyda Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Dilynodd trafodaeth pan awgrymodd y Cadeirydd y dylid gwneud trefniadau i Aelodau ymweld â’r unedau cyn iddynt gael eu defnyddio.

 

CYTUNODD y Pwyllgor i argymell derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (Opsiwn 1).