Mater - cyfarfodydd

Activities Report for 2020/21 and 2021/22 (Q1 and Q2)

Cyfarfod: 18/10/2021 - Pwyllgor Trwyddedu Statudol (eitem 5)

5 Adroddiadau Gweithgareddau ar gyfer 2020/21 a 2021/22 (Ch1 a Ch2) pdf icon PDF 437 KB

Ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad yr Uwch Swyddog Trwyddedu.

 

Dywedodd y Rheolwr Tîm Safonau Masnach a Thrwyddedu fod yr adroddiad yn diweddaru cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, Rheoleiddio a Thrwyddedu Cyffredinol ar waith y Tîm Trwyddedu o 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021 ac 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021. Siaradodd y Rheolwr Tîm am yr adroddiad ac amlinellu’r pwyntiau allweddol a fanylir ynddo yn ymwneud ag effaith Covid-19, staffio a dyletswyddau, arferion gweithio ynghyd â’r adroddiad gweithredol, alcohol ac adloniant, gamblo, hap-chwarae a loterïau, gweithgareddau arolygu a gorfodaeth ac adroddiad rheoli.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Tîm yr Aelodau ymhellach at y manylion a amlinellir yn atodiad yr adroddiad.

 

Cododd Aelod bryderon am yfed dan oed a dywedwyd fod yr awdurdod lleol yn casglu tystiolaeth yn unol â pholisi RIPA y Cyngor. Rhoddodd y Rheolwr Tîm ymhellach esboniad o’r broses a gynhelid os honnwyd fod gwerthu alcohol i bobl dan oed ac esboniodd y byddai’r deilliannau a’r camau gweithredu yn dibynnu ar yr holl amgylchiadau, yn cynnwys pwy oedd wedi gwerthu i unigolyn dan oed.

 

Yng nghyswllt cwestiwn am natur y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a wnaed, dywedwyd fod y ceisiadau a wnaed yn cynnwys gwybodaeth ar nifer y tafarndai, clybiau sydd wedi cau neu ildio/dod i ben oherwydd Covid-19. Dywedodd y Swyddog y gwneir gwiriadau bob amser gyda’r tîm Rhyddid Gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth er mwyn sicrhau ei bod yn addas datgelu gwybodaeth.

 

Cyfeiriodd Aelod at y newidiadau a wnaed i nifer o safleoedd trwyddedig yn ystod y pandemig er mwyn cynnig gofodau awyr agored. Gofynnodd yr Aelod os oes gan yr Awdurdod ddigon o gapasiti i reoli’r gofodau awyr agored hyn a dywedodd ei bod yn hollbwysig y caiff y busnesau hyn eu hyrwyddo a’i bod hefyd yn bwysig eu bod yn cael eu rheoli’n gywir gan fod rhai tafarndai mewn ardaloedd preswyl.

 

Teimlai’r Rheolwr Tîm – Safonau Masnachu a Thrwyddedu fod y capasiti yn ddigonol ar hyn o bryd a nododd mai am nifer cymharol fach o safleoedd y bu cwynion yn gysylltiedig â defnydd ardaloedd awyr agored hyd yma. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa’n cael ei monitro’n barhaus yn unol â chyfyngiadau Covid-19. Ychwanegodd y Rheolwr Tîm fod trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Heddlu Gwent i weithio mewn partneriaeth gyda’r awdurdod lleol a rhoi gwybodaeth yn ôl i’r Tîm Trwyddedu/Safonau Masnach i ymchwilio/monitro ymhellach drwy ymweliadau gorfodaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth a gynhwysir ynddo (opsiwn 2).