Mater - cyfarfodydd

Education Services - Main Self–Evaluation Report (SER)

Cyfarfod: 14/09/2021 - Pwllgor Craffu Addysg a Dysgu (eitem 7)

7 Gwasanaethau Addysg – Prif Adroddiad Hunanarfarnu pdf icon PDF 581 KB

Ystyried adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd ystyriaeth i adroddiad y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg.

 

Amlinellodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg yr adroddiad, sy’n rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor Craffu graffu ar ganfyddiadau proses hunanarfarnu cyfredol a gynhelir o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg, ar draws y Cyngor a gyda phartneriaid allweddol.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol am yr adroddiad a rhoddodd fanylion y broses hunanarfarnu gynhwysfawr a helpodd i ddynodi’r meysydd hynny lle gwnaed cynnydd a lle mae angen gwelliant pellach. Nodwyd fod y canfyddiadau manwl yn y prif SER yn atodiad 2 a chyfeiriodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol at dri maes arolygu fframwaith arolygu LGES. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol drosolwg pellach o’r meysydd lle gwnaed cynnydd da a meysydd lle mae angen gwelliant pellach fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

I gloi, cydnabu’r Cyfarwyddwr Corfforaethol fod prif ddogfen SER yn ddogfen waith faith iawn sy’n rhoi sylw i holl fframwaith LGES. Mae’r ddogfen yn rhoi’r cyd-destun a data i ddangos cynnydd a llywio sylwadau hunanarfarnu. Fodd bynnag, bwriedir diweddaru’r ddogfen SER gryno ar gyfer adroddiadau hunanarfarnu y dyfodol a bydd hyn yn galluogi Aelodau i ganolbwyntio’n benodol ar flaenoriaethau allweddol. Felly awgrymodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Aelodau yn ystyried y meysydd dilynol fel llinellau ymholiad ar gyfer y broses graffu, yn unol gyda’r asesiad effaith corfforaethol a fanylir yn Atodiad 4.

 

           Adfer ac adnewyddu yn gysylltiedig gyda chynnydd academaidd;

           Cefnogaeth i ddysgwyr bregus;

           Diwygio ADY/Cwricwlwm;

           Llesiant Dysgwyr; a

           Chydweithio i gefnogi dysgwyr, yn neilltuol gydag ysgolion.

 

Gwahoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor Craffu ar y pwynt hwn.

 

Nododd Aelod, er fod sôn am y bwlch rhwng y rhywiau yn yr adroddiad, nad oedd maes ar gyfer gwella a gofynnodd os yw’r maes hwn i gael ei ystyried.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg nad yw’r pynciau y rhoddir sylw iddynt yn yr adran yn cynnwys popeth ac wedi’u crynhoi yn yr adroddiad, er fod gwybodaeth ar y rhywiau ar gael yn y prif adroddiad hunanarfarnu.

 

Cyfeiriodd Aelod at gywirdeb targedau a deilliannau a amlinellir yn yr adroddiad gan nad yw data manwl gywir yn cael ei roi. Teimlai’r Aelod ei bod yn bwysig monitro’r wybodaeth hon i sicrhau nad yw disgyblion wedi llithro oherwydd y pandemig a bod gosod targedau yn gywir.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg fod y targedau a osodwyd yn uchelgeisiol, realistig ac ymarferol yn unol â’r Cynlluniau Datblygu Ysgolion. Dywedodd y dynodwyd fod gwaith a wneir mewn cysylltiad gyda EAS ar gyfer ysgolion fel bod angen cymorth ychwanegol gam wrth gam. Mae’r gwaith hwn yn llinyn allweddol o weithgaredd yn y Cynllun Adfer ac Adnewyddu i sicrhau y caiff y data llinell sylfaen ei ailgalibreiddio fel bod data yn canolbwyntio ar sylw wrth symud ymlaen.

 

Gadawodd y Cynghorydd M. Day y cyfarfod ar y pwynt hwn.

 

Codwyd pryderon yng nghyswllt rhagweld graddau gan fod y pandemig wedi effeithio’n ddybryd ar ein hysgolion a gobeithir fod gan y gefnogaeth briodol gan ein dysgwyr bregus. Er nad yw’r data hwn ar gael ar hyn o bryd, mae’n bwysig ei bod  ...  view the full Cofnodion text for item 7